Mae nawdd yn y byd seiclo’n bwnc sy’n destun trafod cyffredin iawn.
Nid oes sicrwydd hir-dymor i’r un o’r timau proffesiynol sy’n rhan o’r WorldTour, ac yn flynyddol rydym yn gweld timau’n ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i noddwyr.
Er enghraifft, roedd Patrick Lefevere yn chwilio’n daer am noddwr i’w dim llwyddiannus, QuickStep, y llynnedd. Diolch byth y llwyddon nhw i dderbyn buddsoddiad Deceuninck.
Mae eu rhediad nhw fel tim o ran noddwyr yn un ansefydlog iawn o edrych ar dros ddegawd o seiclo proffesiynol, ac yn enghraifft berffaith o’r sefyllfa mae seiclo yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Faint ohonoch chi fyddai’n ystyried defnyddio un o’r cwmniau sy’n buddsoddi cymaint i mewn i’r gamp rydym ni’n ei addoli?
Dyma restr gyflawn o brif noddwyr y prif dimau.
WorldTour
AG2R La Mondiale: Cwmni yswiriant Ffrengig.
Astana: Uned o gwmniau rhanbarthol o Kazakhstan dan enw eu prifddinas.
Bahrain-Merida: Llywodraeth Bahrain a gwneuthurwyr beiciau Merida.
Bora-Hansgrohe: Offer cegin gan Bora, a ffitiadau ystafell molchi gan Hansgrohe.
CCC: Cwmni esgidiau a bagiau.
Deceuninck Quick-Step: Ffenestri Deceuninck a lloriau QuickStep.
EF Education First: Cwmni addysg ryngwladol.
Groupama FDJ: Yswiriant Groupama, a FDJ yw gweithredwr loteri genedlaethol Ffrainc.
Lotto Soudal: Cwmni loteri yw Lotto, ac mae Soudal yn arbenigwyr mewn selio, gludyddion a
sbwng PU.
Mitchelton-Scott: Cwmni gwinoedd yw Mitchelton, a gwneuthurwyr beiciau yw Scott.
Movistar: Cwmni telathrebu (telecommunications).
Dimension Data: Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth.
Jumbo-Visma: Cadwyn archfarchnadoedd Iseldireg yw Jumbo, ac mae Visma’n cynnig
gwasanaethau Tech. Gwyb. a meddalwedd busnes.
Katusha Alpecin: Cwmni seiclo yw Katusha, ac mae Alpecin yn wneuthurwyr shampw
caffeine.
Sky: Telathrebu Prydeinig.
Sunweb: Pecynnau gwyliau, yn arbennig mewn sgio.
Trek-Segafredo: Gwneuthurwyr beiciau yw Trek, a gwneuthurwyr coffi yw Segafredo.
UAE Team Emirates: Llywodraeth UAE a chwmni awyrennau yw Emirates.
ProContinental
Androni Giocattoli — Sidermec: Cwmni teganau Androni Giocattoli a phroseswyr tunplatiau
Sidermec.
Bardiani CSF: Falfiau Bardiani a phwmpiau CSF.
Burgos BH: Rhanbarth Burgos, ac offer gym/ffitrwydd BH.
Caja Rural-Seguros RGA: Banc Sbaeneg yw Caja Rural, a chwmni yswiriant Sbaeneg yw
Seguros RGA.
Cofidis: Credyd defnyddwyr (consumer credits).
Corendon-Circus: Cwmni awyrennau Corendon, a chwmni betio chwaraeon Circus.
Delko Marseille Provence: Offer cartref Delko, a dinas Marseille yn rhanbarth Provence.
Direct Energie: Cwmni offer trydanol ryngwladol o Ffrainc.
Euskadi-Murias: Gwlad y Basg, a rhwydwaith o gwmniau Murias.
Gazprom-RusVelo: Cwmni nwy Rwsieg Gazprom, a sefydliad swyddogol seiclo Rwsia.
Hagens Berman Axeon: Cwmni cyfreithiol yw Hagens Berman, a chwmni dwr yw Axeon.
Israel Cycling Academy: Academi seiclo leolwyd yn Israel.
Manzana Postobon: Diod ysgafn blas afal.
Neri Sottoli-Selle Italia-KTM: Cwmni bwyd Neri Sottoli, cwmni cyfrwyon seiclo Selle Italia, a
chwmni moduron KTM.
Nippo Vini Fantini Faizane: Batris Nippo, cwmni gwinoedd Vini Fantini, cwmni tai Faizane.
Rally UHC: Cwmni seiclo Rally, a’r gofal iechyd unedig.
Riwal Readynez: Cwmni telathrebu Riwal, a datblygwyr busnesau Readynez.
Roompot Charles: Cwmni gwyliau Roompot a chwmni bwyd Charles.
Sport Vlaanderen Baloise: Chwaraeon Fflandrys, a chwmni yswiriant Baloise.
Arkea Samsic: Credyd Arkea, a gwasanaethau menter Samsic.
Novo Nordisk: Sefydliad fferyllol.
Vital Concept — B&B Hotels:Dylunio gwefannau Vital Concept a chwmni gwyliau B&B.
W52 — FC Porto: Dillad W52 a chlwb pel droed Porto (gollodd i Wrecsam yn Nghwpan
ennillwyr cwpanau Ewrop ym 1984–85).
Wallonie Bruxelles: Y rhanbarth Ffrancoffon yng Ngwlad Belg.
Wanty-Groupe Gobert: Adeiladwaith Wanty, a menterau Gobert.
Gobeithio ichi ddysgu tipyn am nawdd o fewn y byd seiclo drwy’r gofnod yma. Dwi’n rhagweld y bydd sicrhau noddwyr yn parhau i fod yn sialens i dimau, ac yn y pen draw y bydd newid mawr yn y system ariannu.
コメント