Mae seiclwr ifanc o Wlad Belg wedi cipio’r pennawdau i gyd yr wythnos hon gan serennu ym Mhencampwriaethau Ieuenctid y Byd yn Innsbruck-Tirol, Awstria.
Daeth yn gyntaf yn y ras yn erbyn y cloc yn unigol ac ennill y ras ffordd i ychwanegu at hynny.
Yn anhygoel, dim ond ddeunaw mis yn ôl y cychwynnodd o seiclo - a phêl droed oedd yn mynd a’i bryd cyn hynny.
Mae’n barod wedi cael ei arwyddo gan Quickstep Floors, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn iddo.
Mae wedi ennill 35 ras mewn 45, sy'n cyfateb i 77%. Wow.
Buddugoliaethau 2018
5x dosbarthiad cyffredinol
4x dosbarthiad mynyddoedd
5x dosbarthiad pwyntiau
9x cymal
2x ras undydd
- REC Pencampwriaeth Ieuenctid Y Byd - REC Pencampwriaeth Ieuenctid Ewrop - REC Pencampwriaeth Ieuenctid Gwlad Belg
- Ras ffordd Pencampwriaeth Ieuenctid Y Byd - Ras ffordd Pencampwriaeth Ieuenctid Ewrop
- Ras ffordd Pencampwriaeth Ieuenctid Gwlad Belg
Comments