top of page

REIDWYR I'W GWYLIO | WorldTour Menywod 2020

Writer's picture: Gruffudd ab OwainGruffudd ab Owain

Mae'r cyffro'n adeiladu go iawn erbyn hyn wrth i ni ddechrau sylweddoli fod tymor ffres o seiclo ar y gorwel. Y penwythnos yma, dwi'n edrych ar restr o reidwyr i'w gwylio yn ystod y misoedd sydd i ddod gan ddechrau gyda WorldTour y menywod.

Sut ydw i wedi diffinio 'reidiwr/wraig i'w (g)wylio'?

  • heb ormodedd o fuddugoliaethau nodweddiadol mawr

  • wedi gwneud eu marc yn y gorffennol

  • digon o botensial i wneud mwy o gamau cadarnhaol yn y gamp

Ar ol ysgrifennu'r gofnod, mi wnes i sylweddoli fod y rhan fwyaf o'r reidwyr ar y rhestr yma'n ryw 23 neu 24 oed, felly mae'r rhan fwyaf ohonynt eto i gyrraedd brig eu gallu ac yn sicr a lle i ddatblygu yn y dyfodol. Ymddiheuriadau os ydi rhai o'r sylwadau'n ailadroddus felly!


Mae'r rhestr yn nhrefn y wyddor.


Mwynhewch.


Chloe Dygert-Owen

Yn arbenigwraig yn erbyn y cloc, mae Chloe Dygert-Owen o’r Unol Daleithiau eisoes wedi gwneud enw iddi hi’i hun yn y gamp, yn enwedig yn ei mamwlad. Ennillodd bob un o’r pedwar dosbarthiad (cyffredinol, pwyntiau, ieuenctid a mynyddoedd) yn ras gymalau Joe Martin yn Ebrill 2019 ac hefyd yn y Colorado Classic ym mis Awst. Yn y ras honno, ennillodd hi bob un o’r pedwar cymal yn ogystal. Ac wedyn yn goron ar y cyfan, ennillodd hi bencampwriaeth REC (ras yn erbyn y cloc) y byd yn swydd Efrog, yn ogystal a dod yn bedwerydd yn y ras ffordd.


Beth fydd yn ddiddorol i weld eleni o safbwynt Dygert-Owen yw os ydi hi’n gallu atgyfnerthu ei chryfder yn yr UDA a’i drosglwyddo i fwy o ganlyniadau a llwyddiannau dros for yr Iwerydd. Fodd bynnag, gall cyfyngiadau teithio i’r UE fod yn rhwystr iddi.


Lotte Kopecky

Un o’r gwibwyr ar y rhestr yw’r reidwraig o wlad Belg, Lotte Kopecky. Mae hi wedi bod yn rasio yn lifrai tim Lotto Soudal ers 2016, ac mae’i chytundeb yn dod i ben ddiwedd y tymor. Digon o reswm iddi fynd amdani a cheisio cael llwyddiant yn y misoedd i ddod.


Ddechrau mis Mawrth, dangosodd rywfaint o’i gallu yn Le Samyn des Dames lle gorffennodd yn 3ydd ar y dydd, yn ail yn y grwp dethol orffennodd bron i ddau funud y tu ol i’r ennillydd Chantal van den Broek-Blaak.


Roedd hynny’n atgyfnerthu’r cryfder ddangosodd hi drwy gydol 2019 gan berfformio’n gadarnhaol yn gyson, er mai dwy fuddugoliaeth gymrodd hi. Daeth y cyntaf o’r rheiny yn ei ras gyntaf o’r tymor sef y Vuelta a la Comunitat Valenciana, a’r ail ym mhencampwriaeth REC Gwlad Belg sy’n dangos nad ydyw hi’n rhy ffol yn y maes hwnnw chwaith.


Y gamp iddi eleni bydd cymryd yr addysg gasglwyd o orffen yn y pump uchaf yn gyson yn 2019, a’i drosglwyddo’n fuddugoliaethau yn 2020.


Clara Koppenburg

Reidwraig 24 oed o'r Almaen sy'n rasio yn lifrai Equipe Paule Ka (Bigla-Katusha gynt) yw Clara Koppenburg. Mae'n ymddangos fel ei bod yn dda mewn rasys cymalau, gan serennu ddechrau eleni yn Setmana Ciclista Valenciana lle gorffennodd yn ail ar y dosbarthiad cyffredinol, ras ennillodd hi yn 2019. Cafodd lwyddiant pellach yn ystod tymor y llynnedd, gan orffen yn ail tu ol i neb llai na Marianne Vos yn y Tour de l'Ardeche, 5ed yn Giro Toscana, 7fed yn Tour de Bretagne a 4ydd yn nhaith Califfornia.


Cawn weld os y gallith hi gymryd y cam nesaf i atgyfnerthu'r canlyniadau hyn, a cheisio anelu am ganlyniadau da mewn rasys tebyg, ond uwch eu statws.


Floortje Mackaij

Gwibwraig o’r Iseldiroedd ydy Floortje Mackaij sydd a chasgliad gadarn o ganlyniadau eisoes. Ddechrau eleni, llwyddodd i orffen yn 3ydd yn Omloop Het Nieuwsblad ymysg rhai o oreuon y gamp, y tu ol i Annemiek van Vleuten a Marta Bastianelli. Daeth hynny wedi 2019 cymharol siomedig, 2il yn Liege Bastogne Liege yr uchafbwynt, mewn cymhariaeth a blynyddoedd blaenorol. Daeth ei buddugoliaeth mwyaf nodweddiadol reit yn ol yn 2015 yn Gent Wevelgem, a hithau bryd hynny ond 19 oed.


Mae’i chanlyniad hi yn Omloop yn sicr yn uwcholeuo’i gallu yn enwedig yn y rasys undydd a/neu yn y wib ac felly cawn weld os bydd hynny’n arwain at fuddugoliaethau yn y clasuron eleni.


Erica Magnaldi

I unrhyw un sydd wedi bod yn gwylio’r Tour de France rhithwir gynhelir ar Zwift, bydd enw’r Eidalwraig Erica Magnaldi yn gyfarwydd. Mae hi wedi bod yn brwydro ar flaen y ras mewn modd ymosodol gan weithio’n galed am bwyntiau i ddosbarthiad y mynyddoedd. Yn y mynyddoedd ac ar ddringfeydd mae Magnaldi yn tueddu i fod ar ei chryfaf ond mae hi eto i gymryd buddugoliaeth nodweddiadol.


A hithau bron a bod yn 28 oed, bydd hi’n sicr o dargedu canlyniadau cadarnhaol a nodedig yn ystod y tymor newydd. Bydd hi’n ddiddorol gweld os mai’r dosbarthiad cyffredinol fydd ei tharged mewn rasys fel Tour de l’Ardeche (4ydd yn 2019), Giro Toscana (8fed yn 2019), Giro Rosa (10fed yn 2019) yntau cymalau a/neu’r dosbarthiad mynyddoedd.


Os yw’i pherfformiad hi yn y Tour virtuel yn unrhyw fesur, mae’i lle hi’n sicr ar y rhestr hon fel un o’r reidwyr i’w gwylio.


Kasia Niewiadoma

O bosib yr enw mwyaf ar y rhestr, dyma reidwraig arall fydd yn awyddus iawn i wneud y cam nesaf allweddol yn ei gyrfa o orffen yn y 10 a’r 5 uchaf i gymryd buddugoliaethau.


Yn rhan o restr canlyniadau 2019 reidwraig Canyon-SRAM, mae 5ed yn y Giro Rosa, 2il yn y Women’s Tour, 5ed yn Nhaith Califfornia, buddugoliaeth yn Amstel Gold a 10 uchaf yn Liege, Fleche, Fflandrys, Dwars Door, Trofeo Binda a Strade Bianche. Yn nesau at 27 oed, mae hi ar fin cyrraedd brig ei gallu byddwn i’n tybio, felly cyfle euraidd i ychwanegu at y palmares yn y misoedd i ddod.


Letizia Paternoster

Reidwraig ifanc o’r Eidal sydd a dyfodol disglair iawn yw Letizia Paternoster, ond mae’i chytundeb hi gyda Trek-Segafredo’n dod i ben ddiwedd y flwyddyn. Os y gall hi gadw’r cysondeb o orffen yn y pump uchaf yn y wib o’r llynnedd, bydd hi’n sicr o haeddu’r gallu i arwyddo ‘mlaen ymhellach gyda’r tim.


Cafodd hi ganlyniadau cadarnhaol mewn cymalau o’r Tour Down Under (gan gynnwys ennill y cymal cyntaf), Gent Wevelgem, Taith BeNe, RideLondon, Taith Norwy a Taith Boels yn ystod 2019, felly gallem ddisgwyl glywed ei henw hi’n gyson yn ystod y misoedd sydd i ddod.


Cecile Uttrup Ludwig

Rhybudd: iaith gref yn y fideo

Eisoes yn reidwraig poblogaidd yn y byd seiclo diolch i'w chymeriad hoffus, mae'r ffaith mai dim ond 24 oed ydyw hi'n mynd yn angof weithiau. Mae'i gyrfa o fewn y gamp yn ymestyn yn ol i 2011. Er yn llwyddo ym mhob math o rasys a chanddi broffil cyflawn iawn, mae hi wedi profi i fod yn hynod gryf ar ddringfeydd ac mewn rasys yn erbyn y cloc (a hithau'n bencampwraig Denmarc yn y disgyblaeth hwnnw deirgwaith o'r bron rhwng 2015 a 2017).


Dangosodd hi'i gallu (a'i chymeriad yn y cyfweliad wedi'r ras) yn y ras sy'n cael y mwyaf o gyhoeddusrwydd, sef La Course gan Le Tour de France, yn 2018 lle gorffennodd yn 4ydd ar gymal hynod gyffrous i Le Grand Bornand yn dod i lawr o'r Col de la Colombiere.


Atgyfnerthodd hi'r canlyniadau hynny yn 2019, lle roedd hi'n ymddangos i allu gwneud yn dda iawn yn y clasuron ac hefyd yn nosbarthiad y mynyddoedd mewn rasys cymalau. Bydd hi'n ddiddorol iawn gweld os bydd hi'n dal i serennu mewn ystod o arddulliau rasys gwahanol, neu'n serennu mewn un arddull yn benodol. Gallaf ragweld bod y cam nesaf yn ei gyrfa a buddugoliaeth fawr ar y gorwel.


Jip van den Bos

Un sy’n dueddol o wneud yn dda yn y wib yw’r Iseldirwraig Jip van den Bos, sy’n reidio i dim Boels Dolmans. Eisoes, mae’r tim wedi dweud eu bod nhw’n awyddus iawn i roi’r diolch mae’u noddwyr yn ei haeddu wrth iddynt ddod a’r cytundeb i ben ddiwedd y flwyddyn.


Ysgwydd yn ysgwydd a’u ser mwy profiadol, mae van den Bos yn sicr o fod a’r gallu i gynnig hynny. Ddechrau’r tymor gorffennodd yn y 10 uchaf mewn 3 o’r 6 diwrnod y gwnaeth hi rasio i atgyfnerthu canlyniadau cadarnhaol o 2019, gan gynnwys buddugoliaeth yn Le Samyn.


Mae hi’n un arall o’r reidwyr hynny sydd am wneud marc iddyn nhw’u hunain mewn rasys uwch eu proffil yn y misoedd nesaf er mwyn datblygu ymhellach yn ei gyrfa.


Demi Vollering

Dyma reidwraig ifanc 23 oed ddaeth i'r amlwg y llynnedd yn ei blwyddyn gyntaf fel reidiwr proffesiynol. Gorffennodd yr Iseldirwraig yn y pump uchaf yn DC Ovo Women's Tour a Liege Bastogne Liege, yn ogystal a chipio'r fuddugoliaeth yn y dosbarthiad cyffredinol yn y Giro dell'Emilia.


Bydd hi'n ddiddorol gweld eleni i ba steil o reidiwr y bydd hi'n datblygu. Mae hi'n amlwg yn gallu gwneud yn dda ar ddringfeydd byrion mewn arddull puncheur, ond mae'i buddugoliaeth yn y Giro dell'Emilia a 13eg yn y DC yn y Giro Rosa yn awgrymu nad yw hi'n rhy ffol ar ddringfeydd hirach chwaith.

 

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page