Mae’r Giro d’Italia ar fin dychwelyd i’n diddanu unwaith eto eleni, gyda digonedd o elfennau i edrych ymlaen atynt.
Dyma fy rhagolwg o’r ras.
I’w cofio
DC – dosbarthiad cyffredinol; general classification (GC) REC – ras yn erbyn y cloc; time trial (TT)
Maglia Rosa – crys arweinydd y DC, pinc Maglia Ciclamino – crys arweinydd y dosbarthiad pwyntiau, piws Maglia Bianco – crys arweinydd y dosbarthiad ieuenctid, gwyn Maglia Azzurra – crys arweinydd y dosbarthiad mynyddoedd, glas
Trosolwg bras
Cymalau Allweddol
Cymal 1: Efallai nid lle y bydd y ras yn cael ei hennill, ond yn hytrach lle gall y ras gael ei cholli. Mae’n REC o wyth cilomedr – chwech o’r rheiny’n wastad, ond mae’r ddwy olaf yn ddringfa ar radiant cyfartalog o 9.7%. Gallem ddisgwyl brwydr ymysg ffefrynnau’r DC megis Primoz Roglic a Tom Dumoulin, fydd yn awyddus i brofi eu ffitrwydd a defnyddio’u sgiliau REC i’w mantais. Gallem ddisgwyl sefyllfa debyg ar cymal 9 yn ogystal, gyda REC hirach o 35km a hwnnw’n un bryniog. Mae’r proffil yn dringo’n raddol drwy gydol y 35km, gyda’r 10 olaf yn cael ei chategoreiddio fel dringfa i’r diwedd yn San Marino.
Cymal 13: Yma mae’r cymalau heriol yn cychwyn wrth i’r reidwyr fyned y mynyddoedd. Mae cymal 13, o Pinerolo, yn gymal diweddglo cop ai Lago Serru, ac yn cynnwys dwy ddringfa arall.
Cymal 14: Cymal sy’n edrych, ar yr olwg gyntaf, yn frawychus o ddieflig, gyda phum dringfa gategoredig wedi’u gwasgu i gymal o 131km. Mae’n gymal sydd un ai’n dringo neu’n disgyn – i fyny ac i lawr, i fyny ac i lawr – gyda’r segment wastad hiraf ond yn 14km o hyd. Mae’r bedair ddringfa gyntaf yn cynnwys dwy o gategori un a dwy o gategori dau.
Cymal 16: Dyma gymal mwyaf allweddol y ras yma eleni. Bydd y reidwyr yn ffres o ddiwrnod gorffwys. Yma bydd y ras yn cael ei phenderfynu, yn fy marn i, gyda’r reidwyr yn concro dwy o ddringfeydd mwyaf dieflig yr Alpau Eidaleg. Byddent yn cyrraedd copa’r ‘Cima Coppi’ (sef pwynt uchaf y ras), sef y Passo Gavia, a bydd y reidiwr cyntaf I gyrraedd y copa yn derbyn gwobr arbennig. Mae’r ddringfa’n 16.5km ar raddfa cyfartalog o 8%. Ond y ddringfa anoddaf ar y cymal yma yw’r olaf o’r ddwy, sef y Passo del Mortirolo. Dyma ddringfa 12km ar 11%, ac mae’r copa’n dod 28 km o’r diwedd.
Hoffech chi gwblhau’r dringfeydd eiconig yma, yn ogystal â gwylio cymal o’r Giro Rosa; mewn awyrgylch hollol arbennig – a’r gwyliau i gyd wedi’i drefnu i chi? Archebwch le gyda’r Andalucian Cycling Experience, sy’n trefnu wythnos yn yr ardal yma rhwng y 6ed a’r 13eg o Orffennaf – i goncro’r Gavia, Mortirolo, Stelvio, Umbrail a Bermina. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.andaluciancyclingexperience.com/Italian-Dolomites.html .
Cymal 17: Â’r reidwyr yn parhau i goncro’r mynyddoedd mawrion, dyma un arall o’r cymalau diweddglo copa i Anterselva. Pwy fydd gan ddigon yn y coesau i gipio’r cymal ar ôl cymal 16?
Cymal 19: Wedi cymal wibio i orffwys ar cymal 18, cymal diweddglo copa arall sy’n disgwyl y reidwyr ar cymal 19, a hynny i San Martina di Castrozza.
Cymal 20: Cyfle olaf i ddringwr pur gipio buddugoliaeth, ac os yn berthnasol, ymestyn eu mantais ar gopa’r DC cyn cymal i’r reidwyr REC ar cymal 21.
Cymal 21: Yma, gall y ras gael ei hennill ar y cymal olaf, gyda REC 17km i orffen. Bydd modd i reidwyr fel Tom Dumoulin a Primoz Roglic gipio buddugoliaeth oddi wrth ddringwr pur, a chyfle i rywun fel Ilnur Zakarin fachu lle ar y podiwm. Ond, 17km yn unig ydyw, felly gall ddringwr pur derfynu ei golledion.
Maglia Rosa (DC)
Primoz Roglic: Primoz Roglic yw’r reidiwr ‘on-form’ yn myned y Giro eleni, gyda buddugoliaethau DC wedi eu casglu’n y Tour de Romandie, Taith EAU, a Tirreno-Adriatico. I ychwanegu at hynny, mae wedi cipio cymalau mynyddig yn EAU a Romandie a buddugoliaeth REC yn Romandie hefyd. Mae Roglic ar dân, ac felly mae’n eithaf tebygol y bydd o’n camu i ris ucha’r podiwm yn Verona wedi cymal 21.
Vincenzo Nibali: Nibali yw’r unig reidiwr yn y ras sydd wedi ennill y Giro fwy nag unwaith yn y gorffennol. Dim buddugoliaethau eto iddo yn 2019, ond mae ei ganlyniadau DC wedi gwella’n raddol; o 35ain yn EAU, 15fed yn Tirreno-Adriatico ac i 3ydd yn Nhaith yr Alpau.
Tom Dumoulin: Reidiwr arall sydd wedi cipio’r ras hon yn y gorffennol, ac mae’r cwrs eleni’n gweddu iddo i’r dim – ac felly mae’n canolbwyntio ar y Giro yn hytrach na’r Tour eleni. Dringo ar dempo cyson a REC yw ei gryfderau, ac mae digon o gyfleoedd i hynny eleni.
Simon Yates: Pwy all anghofio llwyddiant, a methiant, Simon Yates yn y Giro llynnedd. Ennillodd dri chymal yma llynnedd, a llosgi’i fatshys i gyd gan golli’r maglia rosa a’r fuddugoliaeth i Chris Froome – a gorffen tu allan i’r 20 uchaf. Fodd bynnag, ef yw deiliad y Grand Tour diweddaraf sef La Vuelta a España 2018 – ac mae wedi casglu buddugoliaeth ddringfa yn y Ruta del Sol, a’i fuddugoliaeth REC gyntaf hefyd yn Paris-Nice, yn 2019.
Miguel Angel Lopez: Gobaith mwya’r Colombiaid yn y ras eleni, yn enwedig o gofio’i drydydd safle llynnedd. Mae’i allu dringo’n ddi-guro; a hynny’n arwain at fuddugoliaethau DC yn Tour Colombia a Volta Ciclista a Catalunya.
Dylid hefyd cofio am reidwyr fel Ilnur Zakarin sydd yn reidiwr anghyson a dweud y gwir; Richard Carapaz, berfformiodd yn gadarnhaol tu hwnt yn y Giro y llynnedd; Rafal Majka; Domenico Pozzovivo; Sam Oomen a Bob Jungels.
Maglia Ciclamino
Er mai cyfyngedig ydy’r cyfleon i’r gwibwyr, gallem ddisgwyl brwydr dda am y maglia ciclamino, sef y crys piws i’r reidiwr â’r mwyaf o bwyntiau. Byddai nifer yn dadlau mai Elia Viviani yw gwibiwr gorau’r byd ar hyn o bryd, ond bydd yn wynebu cystadleuaeth gan Fernando Gaviria, Caleb Ewan a Pascal Ackermann yn bennaf. Ond, ni allem ddiystyrru gwibwyr eraill megis Arnaud Demare, Giacomo Nizzolo, Jakub Mareczko a Sacha Modolo.
Maglia Bianco
Efallai mai Miguel Angel Lopez yw’r ffefryn pennaf am y maglia bianco eleni, ond fel arall, mi fydd hi’n frwydr dynn. Mae’r ddau reidiwr ieuengaf yn y ras yn sicr o herio – sef y pâr o dîm INEOS, Ivan Sosa a Pavel Sivakov (ennillydd Taith yr Alpau). Yn ymuno â’r ddau yna bydd Tao Geoghegan Hart, sydd hefyd yn debygol o fod yn uchelfannau’r dosbarthiad yma. Mae’n bosib hefyd y bydd James Knox o Deceuninck QuickStep yn llwyddo wedi iddo berfformio’n wych dros eraill hyd yma eleni.
Cymry
Un Cymro sy’n bresennol yn y ras yma, a hwnnw’n gwneud ei debut mewn Grand Tour. Bydd y Cymro Cymraeg, Scott Davies yn reidio i dim Dimension Data yn y Giro. Llongyfarchiadau mawr ar gael dy ddewis, a phob lwc ar gyfer y ras!
Rhagfynegiadau
Dyma ran bwysicaf fy rhagolygon – y rhagfynegiadau.
Maglia Rosa – Primoz Roglic. Mae’r reidiwr yma ar rediad di-guro eleni, ac mae ganddo gyfuniad perffaith o allu dringo ac yn erbyn y cloc.
Maglia Ciclamino – Fernando Gaviria. Gwibiwr pennaf tîm UAE erbyn hyn, ac mae’n gwybod yn iawn sut i ennill y crys yma wedi iddo’i gipio ‘nôl yn 2017.
Sut i gadw ‘fyny gyda’r Giro eleni?
Bydd cynnwys di-guro S4C; yn serennu ffrindiau’r blog, Wyn Gruffydd, Dewi a Gareth Rhys Owen, Peredur a Rheinallt ap Gwynedd yn ogystal â Gruff Lewis – yn dod â darllediadau byw o bob cymal eleni, yn ogystal ag uchafbwyntiau nosweithiol.
O ran y blog, cofiwch ddilyn diweddariadau ar Trydar a gwyliwch allan am gofnodion ar y dyddiau gorffwys.
Mwynhewch y ras!
Comments