top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Rhagolwg: Giro d'Italia 2020

Yn nhymor diwygiedig 2020, mae'n teimlo fel nad ydyn ni wedi cael cyfle i gymryd anadl i ddod dros y Tour de France, oedd mor gyffrous hyd y diwedd, cyn symud ymlaen i edrych tuag at y Giro.


Fel rheol, y Giro d'Italia (taith yr Eidal) yw'r cyntaf o'r tri Grand Tour yn y flwyddyn a hynny o gwmpas mis Mai. Fodd bynnag, mae rhialtwch 2020, o'r pandemig i Ryan Reynolds am brynu clwb pel-droed Wrecsam, wedi achosi newid yn y drefn a bydd y Giro eleni yn eistedd rhwng y Tour a'r Vuelta a Espana.


Mae ‘na lot fawr iawn i’w drafod felly dyma ragolwg mawr Y Ddwy Olwyn ar gyfer y Giro d'Italia 2020, sy'n dechrau ddydd Sadwrn y 3ydd o Hydref.


Y crysau

Os nad ydych chi'n gyfarwydd a'r Giro d'Italia, mae'r crysau sy'n cael eu rhoi i arweinwyr y dosbarthiadau yn wahanol i'r Tour de France. Yn hytrach na'r melyn, y frwydr am y maglia rosa (crys pinc) yw prif naratif y ras.

Rheoliadau COVID-19


Ddechrau'r flwyddyn, sy'n teimlo fel canrifoedd yn ol, yr Eidal oedd yn hawlio'r pennawdau am y niferoedd pryderus o achosion a marwolaethau yn sgil Covid-19 a'n cael ei drin fel rhybudd i weddill Ewrop. Erbyn hyn, mae'r wlad yn cael ei chanmol am eu dulliau o ymateb i'r feirws yn ddiweddar yn enwedig o'i gymharu a'u cymdogion.


Serch hynny, mae'r trefnwyr, RCS Sport, yn gorfod rhoi mesurau mewn grym i sicrhau y bydd y ras yn gallu cyrraedd Milano ar y 25ain o Hydref. Os cofiwch chi, yn y Tour, pe bai dau reidiwr o un tim yn profi'n bositif byddai'n rhaid i'r tim cyfan ei heglu hi am adref. Fodd bynnag, mae cyfarwyddwr y ras Mauro Vegni am gymryd trywydd gwahanol.


Dywedodd wrth Gazzetta della Sport yn ras ddiweddar y Tirreno-Adriatico: "Os oes prawf positif, byddant yn hunan-ynysu yn ol y protocol. Yna, byddaf yn profi aelodau o'r tim bob dydd am ryw dri neu bedwar diwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod y prawf positif.


"Byddaf yn eu profi, ond ni fyddaf yn anfon y tim adref. Dwi'n credu mai dyma'r ffordd gywir a pharchus ymlaen tuag at bobl sydd a dim i'w guddio mewn sefyllfa fel 'na. Byddaf yn amlwg yn gwarchod pawb o safbwynt iechyd, ond dydw i ddim am ddiystyrru gwaith y timau sydd wedi bod yn paratoi ers misoedd ar gyfer y ras yma."


"Byddwn yn ceisio cynnal 'swigod' ar gyfer timau o'r dechrau i'r diwedd. Gyda nifer o heriau, dwi'n teimlo'n bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn," meddai, ac yntau wedi goruchwylio nifer fawr o rasys sy'n cael eu trefnu gan RCS Sport ers Gorffennaf megis Strade Bianche a Milano-Sanremo. "Oddi yma tan ddechrau'r ras, y prif bryder yw esblygiad mesuriau iechyd."


Y cwrs

Yn debyg i gwrs y Tour de France eleni, does dim oedi cyn taro cymalau sy'n sicr o chwarae rhan yn y ras eleni. Ar y cymal cyntaf mae cyfle i arbenigwyr REC gipio'r maglia rosa tra bydd nifer o ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol yn awyddus i ennill tir yn erbyn eu cystadleuwyr. Yn dilyn hynny mae cymal bryniog ar cymal 2 ac yna diweddglo copa cynta'r ras a hynny i Etna. Wedyn, ceir cymal i'r gwibwyr sydd ymhell o fod yn hawdd cyn mentro i'r mynyddoedd eto ar cymal 5. Wedi trindod o gymalau i'r gwibwyr a chymal yn y mynyddoedd ar cymal 9, daw'r diwrnod gorffwys cyntaf.


Mae dechrau digon tawel i'r ail wythnos gyda dau o gymalau bryniog a dau o gymalau gwastad ac ambell un o'r rheiny'n sicr o apelio at y dihangiad. Yna, mae REC sy'n siwr o fod yn allweddol ar cymal 14 cyn diweddglo copa i Piancavallo ar cymal 15 lle bydd y reidwyr yn defnyddio pob egni sydd ganddyn nhw gan wybod bod diwrnod gorffwys y diwrnod dilynol.

Yr wythnos olaf, heb os, yw pryd y bydd y Giro d'Italia yn cael ei hennill eleni. Wedi cymal i'r gwibwyr ar cymal 16 daw par o gymalau hynod heriol ac allweddol i Madonna di Campiglio ar cymal 17 ac i Passo dello Stelvio ar cymal 18. Cyfle i gymryd anadl ar cymal i'r gwibwyr ar cymal 19 cyn diweddglo copa i Sestreire ar cymal 20 a REC i orffen ar cymal 21.


Y gwibwyr

Mae'r cwrs yma ychydig yn fwy dymunol o safbwynt y gwibwyr na'r Tour, fodd bynnag mae 'na'n dal i fod dipyn go lew o rwystrau ar y ffordd gan gynnwys ar y cymalau gwastad. Yn ogystal, dydy'r cymal olaf ddim yn un i'r gwibwyr, felly'r frwydr am y crys piws (ac urddas, wrth gwrs) fydd yr unig reswm dros aros yn y ras hyd y diwedd.


Serch hynny, mae'r rhestr ddechrau (heb ei gadarnhau) yn cynnwys digon o ymladdwyr fydd yn creu brwydrau diddorol am gymalau ac hefyd y maglia ciclamino. Mae Arnaud Demare (Groupama FDJ) wedi cael tymor gwych hyd yma gan gynnwys cipio'r fuddugoliaeth ym mhencampwriaeth Ffrainc felly fo ydi'r prif wibiwr yn y ras eleni. Gyda'r Tour yn ffres yn eu meddyliau a'u coesau mae Peter Sagan (Bora-Hansgrohe), oedd yn siomedig o beidio cymryd y crys gwyrdd (ac wedi cael ffortiwn am gychwyn a hysbysebu'r Giro eleni), ac Elia Viviani (Cofidis) adawodd Ffrainc yn waglaw. Yn ogystal, mae Alvaro Hodeg (Deceuninck-Quickstep) a Fernando Gaviria (UAE Emirates) ymysg y bois cyflym fydd yn y frwydr am gymalau a'r piws.


Reidwyr i'w gwylio


Dyma rai o'r reidwyr y gallwn ni ddisgwyl yn mynd amdani am gymalau ac mewn dihangiadau, ac yn werth eu cael yn eich tim ffantasi fel rhan o'r gynghrair sy'n cael ei drefnu eto gan Y Dihangiad.

  • Alex Aranburu (Astana)

  • Aleksandr Vlasov (Astana)

  • Patrick Konrad (Bora-Hansgrohe)

  • Joao Almeida (Deceuninck Quickstep)

  • James Knox (Deceuninck Quickstep)

  • Fausto Masnada (Deceuninck Quickstep)

  • Davide Ballerini (Deceuninck Quickstep)

  • Carl Frederik Hagen (Lotto Soudal)

  • Dario Cataldo (Movistar)

  • Louis Meintjes (NTT)

  • Eddie Dunbar (Ineos Grenadiers)

  • Tao Geoghegan Hart (Ineos Grenadiers)

  • Tobias Foss (Jumbo Visma)

  • Chad Haga (Sunweb)

  • Giulio Ciccone (Trek Segafredo)

Y ffefrynnau

Rhagolwg o'r prif reidwyr fydd yn herio am y crys pinc eleni, wedi'w graddio o bum seren lawr i un seren yn ôl eu gobeithion/y tebygolrwydd o ennill.


⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️


Simon Yates

Mae 'epic fall from grace' y gwr o Bury yn y Giro yn 2018 yn sicr o aros yn y cof am beth amser, ond yn ogystal y gwydnwch a ddangosodd o i ennill y Vuelta yn ddigon cyfforddus rai misoedd yn ddiweddarach. Ac yntau newydd ennill prif ras gynhesu'r Giro, sef Tirreno-Adriatico, mae'n edrych yn hynod gryf a bod y gallu ganddo i gipio'r maglia rosa eleni, heb os. Ennillodd gymal yn y mynyddoedd yno'n gyfforddus, llwyddo i amddiffyn ac atgyfnerthu'r crys wedi hynny a chyfyngu ei golledion yn y REC. Bydd y cilomedrau REC lu sydd eleni yn peri peth gofid iddo, fodd bynnag. Yn ei gefnogi yno fel rhan o dim Mitchelton-Scott mae'r super-domestique Jack Haig.


⭐️⭐️⭐️⭐️


Jakob Fuglsang

Yn ennillydd y Dauphine a'r Ruta del Sol ar ddau achlysur yn ogystal ag ennill dau o'r rasys cofeb, mae Jakob Fuglsang yn un o'r reidwyr mwyaf cyflawn ac abl yn y peloton. Dangosodd ei gyflwr cryf presennol ym mhencampwriaethau'r byd Imola dros y penwythnos i atgyfnerthu 2il yn y Tour de Pologne a buddugoliaeth yn Giro di Lombardia ers ailddechrau'r tymor. Mae'n rhan o dim hynod, hynod gryf Astana sydd hefyd yn cynnwys Miguel Angel Lopez ac Aleksandr Vlasov i'w gynorthwyo a'i atgyfnerthu. Yr unig farc cwestiwn yw'i berfformiad yn y Tirreno-Adriatico, lle bu'n gweithio dros Vlasov, ac felly heb ddangos ei lawn botensial yn y rasys DC.


Geraint Thomas

Wedi'r siomedigaeth o gael ei alltudio o garfan y Grenadiers ar gyfer y Tour de France, mae Geraint Gymro wedi adeiladu a gosod sylfaeni cadarn iawn ar gyfer y Giro d'Italia. Gorffennodd yn ail yn Tirreno-Adriatico gan naddu peth amser yn ol ar Yates yn y REC - gyda'r cilomedrau REC eleni am fod yn fantais mawr iddo. Ar y pwynt hwnnw, daeth yn 4ydd ym mhencampwriaeth REC y byd ddydd Iau a hynny ymysg y goreuon yn y disgyblaeth. Nid ydy o wedi cael y lwc gorau yn y Giro yn y gorffennol, ond cofier nad oedd o wedi cael lwc yn y Tour cyn ei fuddugoliaeth yn 2018. Wirioneddol yn edrych ymlaen i gael y wefr o wylio Geraint mewn Grand Tour eto yn y mis nesaf.


Steven Kruijswijk

Mae 'na farc cwestiwn mawr nesaf at enw Steven Kruijswijk wrth gyrraedd y Giro ac yntau wedi gorfod gadael y Criterium du Dauphine ar cymal 4 wedi damwain ar y disgyniad o'r Col de Plan Bois. Roedd o wedi edrych yn gryf iawn cyn hynny gan orffen yn bedwerydd ar y DC yn Tour de l'Ain - ond hynny oll gan gefnogi arweinydd Jumbo-Visma sef Primoz Roglic. Yn y Giro, fodd bynnag, mi fydd ganddo fo gefnogaeth y tim cyfan sy'n cynnwys Tony Martin. Bydd o, fel Yates, yn awyddus i gael ras galonogol wedi iddo golli'r crys pinc yn y drydedd wythnos yn 2016 mewn damwain i mewn i waliau eira.


⭐️⭐️⭐️


Miguel Angel Lopez

Cyn diwrnod trychinebus arall yn y REC, roedd hi'n Tour de France gwych i Miguel Angel Lopez - gan ddringo'r deg uchaf DC yn raddol cyn cyrraedd y podiwm wedi'i fuddugoliaeth ar cymal y frenhines i Col de la Loze. Bydd y cilomedrau REC yn peri gofid mawr iddo, ond dwi'n hyderus y byddai'n gallu adennill tipyn o amser yng nghymalau mynyddig y ras. Y cwestiwn yw faint o ryddid y bydd o'n ei gael gan y tim gan gofio bod Jakob Fuglsang ac Aleksandr Vlasov hefyd yn rhan o'r garfan.


Vincenzo Nibali

Y siarc o Messina yw'r nesaf ar y rhestr - un sy'n gwybod yn iawn sut i ennill y Giro ac yntau wedi gwneud hynny yn 2013 a 2016. Fodd bynnag, nid ydy o wedi dangos ei gryfder eto eleni - gan fethu a herio yn Tirreno-Adriatico a Phencampwriaethau'r Byd. Cafwyd canlyniadau cadarnhaol, serch hynny, yn y rasys undydd Eidaleg Gran Trittico Lombardo, Giro di Lombardia a Giro dell'Emilia. Nid ydy o wedi rasio tu allan i'r Eidal ers ail-ddechrau'r tymor ym mis Awst, felly bydd yn awyddus i goroni'r cyfan yn y ras yma.


⭐️⭐️


Rafal Majka

Perfformiad oedd y gorau i mi weld gan Majka ers sbel gafwyd yn Tirreno-Adriatico yn ddiweddar, lle llwyddodd i orffen yn y trydydd safle wedi i Geraint ei oddiweddyd i ail ris y podiwm. Cafwyd perfformiadau cadarnhaol ganddo yn Tour de Pologne ac ar cymal diweddglo copa Lagunas de Neila yn Vuelta a Burgos hefyd.


Aleksandr Vlasov

Reidiwr sydd wedi saethu i'r amlwg eleni yw'r Rwsiad Aleksandr Vlasov. Ymysg ei ganlyniadau gorau eleni mae 2il yn Tour de la Provence, 3ydd La Route d'Occitanie, ennill Mont Ventoux Denivele Challenge, 3ydd Giro di Lombardia, ennill Giro dell'Emilia a 5ed Tirreno Adriatico. Faint o ryddid fydd ganddo o fewn Astana yw'r cwestiwn mawr - ai gweithio ar ran Fuglsang a/neu Lopez fydd ei rol ac yntau heb rasio mewn Grand Tour o'r blaen?


Wilco Kelderman

Ras ffarwel i Wilco Kelderman yn nhim Sunweb wrth iddo symud i Bora-Hansgrohe flwyddyn nesaf. Ei ganlyniad gorau mewn Grand Tour oedd 4ydd yn y Vuelta yn 2017, felly bydd yn awyddus i gymryd y cam nesaf i'r podiwm eleni. Mae wedi cael tymor da hyd yn hyn, y mwyaf nodedig yn Tirreno Adriatico lle gorffennodd yn y pedwerydd safle.


⭐️


Carl Frederik Hagen

Perfformiad mwyaf syfrdanol y Vuelta llynnedd oedd Carl Frederik Hagen, reidiwr anadnabyddus lwyddodd i orffen yn 8fed yn ei dymor cyntaf yn y WorldTour. Pa mor bell all o fynd eleni cyn symud i dim Israel Start-Up Nation flwyddyn nesaf?


Jack Haig

Un o domestiques Simon Yates fwy na thebyg, ond un sydd a'r gallu i herio uchelfannau'r dosbarthiad cyffredinol - wedi profi hynny yn Paris Nice (4ydd DC, 2019) a Ruta del Sol (2il DC a chymal 2020). Un arall sy'n gadael ei dim ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Cyn darogan yr ennillydd, dyma sut y gallwch chi wylio'r ras eleni.

 

Darogan

Fel ydw i wedi'i grybwyll eisoes drwy drafod y ffefrynnau, mae 'na farciau cwestiwn ynghylch y rhan fwyaf ohonyn nhw - boed hynny'n anafiadau, anlwc y gorffennol, cystadleuaeth o fewn timau ac yn y blaen. Simon Yates yw'r prif ffefryn wedi iddo ennill Tirreno Adriatico, ond mae nifer fawr o'r gweddill wedi perfformio'n gryf iawn yn ddiweddar hefyd. Mae'n addo i fod yn ras agored a chyffrous, fel yn flynyddol - dyna pam mai'r Giro yw fy hoff Grand Tour.


Felly, dwi'n darogan mai Geraint Thomas fydd yn ennill Giro d'Italia 2020. Fel Cymro yn ysgrifennu blog seiclo Cymraeg i Gymry, mae'n siwr ei fod o'n ddewis amlwg - ond dwi wir yr yn meddwl y gall Geraint ennill eleni, gyda chymaint o rasio'n erbyn y cloc a chefnogaeth gref Ineos Grenadiers.


Gadewch i mi wybod pwy 'dech chi'n meddwl sy'n mynd i ennill y Tour eleni drwy adael sylwad isod neu ar Twitter.

 

Diolch am ddarllen y rhagolwg, cofiwch rannu a mwynhewch yr arlwy.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page