top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Rhagolwg: Giro d'Italia 2021


Wel gyfeillion, mae Grand Tour cynta'r flwyddyn bron ar gyrraedd.


Y Giro d'Italia.


Gan mai hon yw'r Grand Tour gyntaf, mae 'na gyffro ychwanegol. Elfen o'r anhysbys. Pwy sydd wirioneddol yn barod amdani?


Ydyn, mae'r rasys wythnos wedi rhoi blas ar yr hyn rydym ni'n edrych ymlaen ato.


Ond dyma'r cyfle i weld brwydrau yn y mynyddoedd mawrion am y tro cyntaf eleni.


Dyma'r cyfle i wylio drama dair wythnos am y tro cyntaf eleni.


Dyma'r cyfle i gael sylwebaeth Gymraeg ar ras am y tro cyntaf eleni.


Ydy, mae hynny'n ychwanegu llawer at fawredd y Giro d'Italia, ond mae cymaint mwy iddo. Yr iaith, y diwylliant, y treftadaeth, y tirwedd, y tirlun, yr angerdd.


Ac er na fydd pethau cweit fel oedden nhw arfer bod eto eleni yn yr ystyr yma, mae'n dal yn addo i fod yn wledd. Mae'n dal yn addo i fod yn un o'r rasys mwyaf agored ar y calendr. Mae'n dal yn addo i fod yn ffyrnig ac yn danllyd.


Dyma i chi fy rhagolwg o'r ras fawreddog hon. Mae wedi bod yn broject rydw i wedi bod yn gweithio arno ers sbel, ac rwy'n gobeithio fod y canlyniad yn un cynhwysfawr y gwnewch chi fwynhau ei ddarllen.


Os nad ydych chi am ei ddarllen i gyd ar unwaith, mae modd clicio ar y dolenni isod i gyrraedd mannau penodol o fewn y gofnod.


Cynnwys:


Ffeithluniau defnyddiol


Y Cwrs

Nodiadau cwrs ar gyfer y Giro 2021. Mae manylion pellter, her a dringo yma. Cymalau mynyddig mewn melyn a chymalau gwibio mewn gwyrdd.


Mae cwrs y Giro d'Italia eleni yn wledd i ffans seiclo gydag amrywiaeth wych o gymalau gwahanol at ddant reidwyr gwahanol. Dros gyfnod o dair wythnos, byddent yn teithio bron i 3,500km gyda 47,000m o ddringo rhwng Torino a Milano. Mae adegau gwirioneddol lle y gallai'r ffefrynnau am y dosbarthiad cyffredinol golli amser o'r cychwyn cyntaf, felly bydd angen i'r un sydd am ennill y maglia rosa fod ar y droed flaen.

Fel y gwnes i grybwyll, cynhelir Grande Partenza eleni yn Torino, gan agor y cyfan gyda ras yn erbyn y cloc o 8.6km lle bydd arbenigwyr yn y maes, megis Filippo Ganna, yn serennu. Rhwng cymalau crempog i'r gwibwyr ar cymal 2 a cymal 5, mae dau o gymalau bryniog fydd yn tynnu dŵr i ddannedd reidwyr dewr ac ymosodol. Mae'n bosib y bydd rhai o'r ffefrynnau yn colli amser ar y ddau cymal yma, ac hefyd ar ddiweddglo copa cyntaf y ras sy'n cyrraedd ar cymal 6 i Ascoli Piceno. Cymal ddylai ffafrio gwibwyr pwerus ar cymal 7, cyn deuddydd yn y mynyddoedd. Bydd cymal 8 yn paratoi'r reidwyr ar gyfer cymal 9 heriol sy'n cynnwys chwech o gopaon a diweddglo copa i Campo Felice lle mae'r ddau gilomedr olaf ar y graean. Bydd seibiant i'r dringwyr ar cymal 10 lle tro'r gwibwyr fydd hi i serennu cyn y diwrnod gorffwys cyntaf ar Fai'r 18fed.


Bydd y rasio ffyrnig yn sicr o barhau i mewn i'r ail wythnos gan ddechrau ar cymal 11, sy'n cynnwys 4 sector o strade bianche (heolydd gwyn, graean) yn gorchuddio 35 o'r 70km olaf a diweddglo ar 12% i Montalcino. Croesi'r Apennines ar cymal 12 fydd fwy na thebyg yn ffafrio dihangiad, cyn cymal crempog i'r gwibwyr ar cymal 13. Bydd angen i'r dringwyr a'r ffefrynnau gymryd anadl ddofn bryd hynny cyn wynebu un o'r dringfeydd sy'n cael eu hofni fwyaf yn Ewrop - Monte Zoncolan. Daw ar ddiwedd cymal 14 sy'n 205km o hyd. Mae'r 11km cyntaf yn ffordd lydan llawn o fachdroeon, fydd yn baratoad meddyliol a chorfforol at y 3km olaf o uffern anfarwol; y graddiant yn hofran o gwmpas ac uwchben 20% drwyddi draw. Symud ymlaen at cymal 15 ac er y bryniau ar y ffin gyda Slofenia, disgwyliwn y bydd y gwibwyr eisiau'r gair olaf yma. Hynny'n rhannol oherwydd fod cymal y frenhines i ddod y diwrnod canlynol yn y Dolomiti; 212km gyda chymaint â 5,700m o ddringo. Triawd o fynyddoedd mawrion fydd uchafbwynt y cymal; y Passo Fedaia a'r Passio Giau bob ochr i Cima Coppi (y pwynt uchaf yn y Giro) y Passo Pordoi, sydd â'i chopa dros 2200 o fetrau uwchlaw'r môr. Bydd y cymal yn gorffen gyda disgyniad o gopa'r Giau i Cortina d'Ampezzo. Wedi cymalau 14 ac 16, gall y bylchau fod yn sylweddol ar y DC ar ail ddiwrnod gorffwys Mai'r 25ain.


Wedi dweud hynny, yn y drydedd wythnos bydd y ras yn cael ei hennill. Ar cymal 17, bydd y brwydro'n digwydd ar y ddwy ddringfa olaf; y cyntaf ohonynt i Passo San Valentino a'r diwethaf yn codi tua 10% am 11km i'r llinell derfyn yn Sega di Ala gyda'r graddiant yn cyrraedd hyd at 18%. Cyfle olaf i'r gwibwyr ar cymal 18 trefol, ond mae cyfres o fryniau yn reit agos at y diwedd lle gall ymosodwyr dewr sbwylio'u parti. Cymal yn gorffen ar ddringfa gategori un, sy'n codi i hyd at 14% o fewn y 3km olaf, ar cymal 19 i Alpe di Mera, cyn y dénouement dramatig ar cymal 20. Tair dringfa yn olynol i orffen; y Passo San Bernadino yn y Swistir, cyn croesi'r ffin yn ôl i'r Eidal dros y Splügenpass, a daw dringfa ola'r Giro ar Alpe Motta wedi can milltir yn y mynyddoedd gyda 4200m o ddringo. Ras yn erbyn y cloc yn Milano fydd yn dod â'r ras i ben ar Fai'r 30ain, gyda chwta 30km i ennill neu golli amser ar y dosbarthiad cyffredinol.


Mae'r llwyfan wedi'i osod; gadewch i ni gymryd golwg ar bwy fydd yn brwydro am y maglia rosa.


Y Ffefrynnau

Fel sy'n arferol, rydw i wedi grwpio'r ffefrynnau yn ôl system sêr - y tro hwn o dair seren i un seren.


***

Oedran: 24


2021: Mae Egan Bernal wedi cael dechrau digon tawel i'r tymor, ond eto wedi cael cyfle i rasio ar y lefel uchaf. Ymddengys ei fod, fel nifer o reidwyr eraill, yn cymryd llwybr yn gwyro'n fwy tuag at hyfforddi yn hytrach na rasio cyn y Giro eleni. Gweithiodd ochr yn ochr gydag Ivan Sosa yn y Tour de la Provence i ddarparu buddugoliaeth i'w gyd-Golombiad nôl ym mis Chwefror, cyn bod yn rhan o'r detholiad allweddol a gorffen yn 3ydd yn Strade Bianche. Y tro diwethaf y gwelson ni o'n rasio oedd yn Tirreno-Adriatico, lle daeth i'r amlwg nad oedd o ar ei orau gan orffen yn 4ydd ar y DC, dros bedwar munud y tu ôl i'r buddugwr Tadej Pogacar.


Grand Tours: Dyma fydd y tro cyntaf i Bernal gystadlu'n y Giro d'Italia. Daw ei unig brofiad mewn Grand Tours yn y Tour de France, lle mae wedi cael canlyniadau amrywiol. Gorffennodd yn 15fed fel domestique i Geraint Thomas yn 2018, cyn ennill y ras yn 2019, a methu â gorffen yn sgil anaf i'w gefn yn 2020.


Gallu yn y REC: 3/5


Dod i gasgliad: Bydd hi'n sicr yn ddiddorol gweld pa effaith fydd dros i 50 diwrnod heb rasio cyn y Giro yn ei gael ar ei ymgyrch, a chawn weld os y bydd problemau gyda'i gefn yn dod i'w ddychryn eto. Mae ganddo dim cryf o'i gwmpas, sydd hefyd yn cynnwys Ivan Sosa, Dani Martinez a Pavel Sivakov, felly bydd opsiynau tactegol eang gan Ineos yn y mynyddoedd.

Oedran: 28


2021: Yn wahanol iawn i Bernal, gwelson ni Yates ar ei orau wythnos diwethaf a hynny yn y Tour of the Alps. Buddugoliaeth oruchafol gafodd yno wedi i ymosodiad lwyddiannus ar cymal 2 roi digon o fwlch iddo i gynnal hyd y diwedd. Daeth hynny wedi datblygiad cyson ond graddol ar draws misoedd agoriadol y tymor; cadwodd allan o'r pennawdau a'r pump uchaf yn Tirreno cyn gwylio'i efaill yn ennill yng Nghatalwnia.


Grand Tours: Bydd nifer yn cofio disgyniad dramatig Yates o frig y dosbarthiad cyffredinol yn y Giro yn 2018 wedi iddo ennill nifer o gymalau cyn chwythu yn y dyddiau olaf. Dangosodd wir botensial Grand Tours bryd hynny, rhywbeth y llwyddodd i'w wireddu yn hwyrach yn y flwyddyn honno gan ennill y Vuelta. Dychwelodd i'r Giro yn 2019, ond 8fed gafodd bryd hynny.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: Mae'n ymddangos fod Yates a'i dim wedi dysgu o'u camgymeriadau yn 2018 wrth edrych ar ei ymgyrch yn La Vuelta yn 2018, ond eto os ydy Yates wedi cyrraedd brig ei allu'n barod yn yr Alpau, does bosib ei fod o'n gallu cynnal y safon hwnnw tan ddiwedd mis Mai? O gofio fod y cymalau pwysicaf ac anoddaf yn yr wythnos olaf, bydd yn rhaid iddo gadw tipyn go lew o egni yn y tanc ar gyfer rheiny. Bydd Mikel Nieve, Esteban Chaves a Nick Schultz ymysg ei domestiques profiadol a galluog.


**

Oedran: 31


2021: Mae Mikel Landa wedi cael dechrau cynhyrchiol i'r tymor gan rasio ar y lefel uchaf yn gyson. Llwyddodd i orffen yn drydydd ar y dosbarthiad cyffredinol yn Tirreno-Adriatico cyn gorffen yn 7fed yn Volta Catalunya, yn ogystal â bod yn rhan o'r detholiad allweddol yn y rasys undydd GP Industria (3ydd) a Trofeo Laigueglia (6ed).


Grand Tours: Dyma un sy'n hynod brofiadol mewn Grand Tours; un sydd wedi gweithio dros eraill yn Sky a chael ei ymgyrchoedd ei hun hefyd. Gorffennodd yn 4ydd yn y Tour de France llynnedd, ei ganlyniad gorau mewn Grand Tour ers 2015 lle gorffennodd ar bodiwm y Giro.


Gallu yn y REC: 3/5


Dod i gasgliad: Â bod yn hollol onest, mae Landa wedi fy argyhoeddi'n ddiweddar, ar ddechrau 2021 ac yn y Tour llynnedd. Heb os, bydd yn teimlo fod hwn yn un o'r cyfleon gorau a'r cyfleon olaf i gael ei ganlyniad gorau erioed mewn Grand Tour, ond a fydd ei ddiffyg gallu (mewn cymhariaeth ag eraill) yn y REC yn ei ddal nôl rhag cipio'r maglia rosa yn Milan? Bydd hi hefyd yn ddiddorol i weld sut bydd yn cydweithio â ffefryn arall o fewn y tim, sef Pello Bilbao (mwy amdano fo yn y man).

Oedran: 21


2021: Nid yw Remco wedi rasio ers ei anaf gwael yn Giro di Lombardia ym mis Awst llynnedd, felly bydd yn cyrraedd y Giro heb fod yn y peloton am 266 o ddiwrnodau. Cyn hynny, fodd bynnag, cawsom weld cymaint o dalent sydd gan y Belgiad ifanc. Roedd yn rhan o 4 ras gymalau yn 2020 (Pologne, Burgos, Algarve, San Juan) ac fe'u hennillodd i gyd, gan gynnwys 5 o fuddugoliaethau cymal ar y daith.


Grand Tours: Bydd hwn y tro cyntaf i Remco gychwyn Grand Tour.


Gallu yn y REC: 5/5


Dod i gasgliad: Does dim dwywaith fod Remco Evenepoel yn dalent anferthol; unwaith mewn cenhedlaeth yn ôl rhai. Mae wedi profi ei allu yn y mynyddoedd (gan fwyaf yn Burgos) a gall gyfnerthu hynny gyda'i gryfder yn y REC ac yntau ymysg y goreuon yn y byd yn y maes hwnnw. Wedi dweud hynny, mae'n siwr y bydd yr anaf o Lombardia'n dal i'w ddal nôl rywfaint - o leiaf am yr wythnos neu ddwy gyntaf. Efallai na wnawn ni ddim disgwyl gwyrthiau ganddo, ond gallwn fod yn siwr y bydd yn arddangos ei dalent ar y lefel uchaf.

Oedran: 23


2021: Datblygiad graddol ond cadarnhaol mae Sivakov wedi'i gael yn ystod 2021 yn arwain tuag at y Giro. Wedi iddo fod yn ddigon tawel yn y Tour du Var, Tirreno a Strade Bianche, dangosodd ei fod yn barod am Grand Tour cynta'r flwyddyn wythnos diwethaf yn nhaith yr Alpau. Ar y cymal 2 allweddol, gorffennodd yn 2il a hynny 41 eiliad tu ôl i Simon Yates oedd ar dân. Cafodd ddamwain ar cymal 4 wnaeth ei wthio'n ôl rhywfaint, ond er gwaethaf hynny casglodd ganlyniad cadarn yn y 6ed safle.


Grand Tours: Un waith ydyn ni wedi gweld Sivakov mewn Grand Tour o ddifrif a hynny yn y Giro yn 2019, lle gorffennodd yn 9fed. Profiad bryd hynny bydd yn ddefnyddiol iddo, ond yn sicr bydd o'n credu bod lle i fynd ymhellach na hynny eleni.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: O ran Sivakov, dwi'n credu'i bod hi'n llwyr ddibynnol ar dactegau Ineos. Gall fod yn arf dactegol iddynt gan alluogi i Bernal ymosod, ond fwy na thebyg, dwi'n meddwl y bydd y tîm yn ceisio'i warchod fel rhyw plan B os caiff Bernal anffawd. Bydd cryfder Bernal a'r tîm yn sicr yn galluogi iddo gyrraedd yr uchelfannau yn y ras eleni.

Oedran: 25


2021: Mae wedi bod yn ddechrau da iawn i'r tymor i'r dringwr ifanc, Aleksandr Vlasov. Gorffennodd yn drydydd ar y DC yn yr Alpau'r wythnos diwethaf, a hynny ar ôl gorffen yn ail ar cymal 4. Daeth hynny wedi iddo orffen yn ail yn Paris-Nice tu ôl i Max Schachmann. Mae'n sicr wedi atgyfnerthu'r gallu dringo ddangosodd yn 2020.


Grand Tours: Yn 2020, cychwynnodd Vlasov Grand Tour am y tro cyntaf yn y Giro, ond roedd yn rhaid iddo dynnu allan gydag anaf. Wedi hynny, aeth i'r Vuelta a España, ac mae'n bur debygol y byddai wedi gorffen yn uwch na'r 11eg gafodd o pe bai o ddim yn dal i brofi rhai sgil effeithiau o'r anaf yn y Giro. Bydd yn bendant eisiau dangos ei allu gwirioneddol eleni.


Gallu yn y REC: 3/5


Dod i gasgliad: Bydd hi'n ddiddorol iawn i mi weld lle gall y Rwsiad gyrraedd yn y Giro eleni, lle bydd ei gymhelliant yn uchel wedi 2020 a'i ganlyniadau cadarnhaol y tymor hwn. Bydd yn sicr yn anelu'n uchel yn y mynyddoedd - byddwn i ddim yn synnu'i weld yn ennill cymal - ond faint o rwystr fydd ei allu yn erbyn y cloc?

Oedran: 31


2021: Un arall sydd wedi argyhoeddi yn 2021, i ddechrau yn Itzulia lle gorffennodd yn 6ed ar y DC wedi bod yn rhan o'r prif grwp ar y cymalau allweddol ac wedyn wythnos diwethaf yn yr Alpau lle casglodd fuddugoliaeth cymal ac 2il ar y DC. Mae ar rediad da, tra'n cadw i ffwrdd o'r pennawdau rywfaint hefyd.


Grand Tours: Byddai unrhyw un yn wirion i ddiystyrru Pello Bilbao o ran y DC o gofio'i fod wedi gorffen yn 5ed ar y DC yma llynnedd a'n 6ed y flwyddyn flaenorol, felly mae'i brofiad yn y ras hon yn siwr o chwarae o'i blaid dros y dair wythnos.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: Reidiwr cyflawn sydd wedi profi'i allu yn y bryniau a'r mynyddoedd eleni ac yn flaenorol. Bydd yn awyddus i anelu'n uwch na'r 5ed gafodd llynnedd, ond bydd yn rhaid i'r tîm gydbwyso'i amcanion o a rhai Mikel Landa os ydynt am lwyddo.


*

Oedran: 26


2021: Mae Carthy wedi cael dechrau cadarnhaol i'r tymor, gan berfformio'n gymharol gryf yn Itzulia ac yn Catalunya cyn cyrraedd safon addawol yn nhaith yr Alpau (5ed ar y DC) gyda'r Giro ar y gorwel.


Grand Tours: Daeth ei allu mewn Grand Tour i'r amlwg ddiwedd y llynnedd yn La Vuelta, lle gorffennodd ar y podiwm tu ôl i Primož Roglič a Richard Carapaz. Perfformiodd ar ei orau ar ddringfa hunllefus yr Alto de l'Angliru, sy'n debyg i'r Zoncolan o ran ei graddfa her, felly bydd llygaid y gŵr o sir Gaerhirfryn ar cymal 14.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: Un fydd yn sicr yn anelu am y podiwm o ystyried ei allu'n y mynyddoedd ac yn erbyn y cloc.

Oedran: 34


2021: Siomedig hyd yn hyn, ond mae anafiadau wedi bod yn rwystr iddo yn y Volta Catalunya lle disgynodd i'r 25ain safle ac yn yr Alpau'r wythnos diwethaf lle disgynodd i'r 15ed safle. Wedi dweud hynny, mae'n dweud ei fod yn teimlo cyn gryfed ag erioed er ei fod yn 34 erbyn hyn.


Grand Tours: Profiadol tu hwnt, ond heb wneud y Giro ers 2014. Profodd ei fod o'n dal i allu cystadlu ar y lefel uchaf er gwaethaf cryfder y tô ifanc yn La Vuelta llynnedd lle dringodd i'r 4ydd safle ar y DC.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: Un fydd yn sicr yn weladwy yn y mynyddoedd, ond fwy na thebyg bydd buddugoliaeth y DC tu hwnt i'w afael.

Oedran: 34


2021: Un sydd wedi fy argyhoeddi eleni, yn enwedig mewn rasys undydd fel y Trofeo Laigueglia lle mae wedi dangos ei allu i ymosod ac amseru a chynnal bwlch. O ran rasys cymalau, mae wedi gorffen yn 3ydd ar y DC yn y Var ac yn 6ed yn Provence.


Grand Tours: Un arall sydd â hen ddigon o brofiad. Dros y blynyddoedd, mae'i berfformiadau yn y Giro wedi gwella - 12fed wedyn 7fed wedyn 5ed - ond mae lle i gredu fod amser yn prinhau iddo allu gwella ar hynny.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: Bydd yn sicr yn weladwy a gweithgar yn y mynyddoedd, ac yn un fydd yn cystadlu am y safleoedd uchel ar y dosbarthiad cyffredinol. Wedi dweud hynny, ymddengys fod peth penbleth am fod i'r tim o ran cydbwyso amcanion reidwyr eraill o fewn eu rhengoedd.

Oedran: 22


2021: Wedi'i berfformiad argyhoeddiadol yn y Giro llynnedd, mae'i ganolbwyntio eleni wedi bod ar wella'i ddringo a gwelwyd tystiolaeth o'i ymdrechion yn Catalunya, EAU a Tirreno-Adriatico lle gorffennodd yn y deg uchaf ar y DC ym mhob un ohonynt.


Grand Tours: Fel gwnes i grybwyll, roedd Almeida mewn sefyllfa yn y Giro 2020 lle roedd yn amddiffyn y maglia rosa a gwnaeth hynny ddadgloi rhinweddau mae wedi bod yn gweithio arnynt.


Gallu yn y REC: 4/5


Dod i gasgliad: Rhwng datblygu ar ei ddringo yn ogystal a gallu cryf iawn yn erbyn y cloc, gallwn ddisgwyl y byddwn yn gweld tipyn o Almeida. Mae cyfuno gyda Remco Evenepoel wedi bod yn rhywbeth mae wedi bod yn edrych ymlaen ato, felly dylai hynny olygu y gallwn ni edrych ymlaen at eu perthynas hefyd.

Oedran: 24


2021: Dim canlyniadau enfawr yn gweiddi allan gan Hindley hyd yma eleni, gyda 18fed yn Paris-Nice y mwyaf nodedig.


Grand Tours: Saethodd Jai Hindley yr Awstraliad i'r amlwg yn y Giro llynnedd lle'i frwydr yn erbyn Tao Geoghegan Hart oedd prif naratif yr wythnos olaf yn arwain at y canlyniad, lle gorffennodd yn 2il. Mae wedi bod yn droad yn ei yrfa wrth iddo gymryd cyfle i ganolbwyntio ar ddatblygu ei sgiliau mewn Grand Tours i'r dyfodol.


Gallu yn y REC: 3/5


Dod i gasgliad: Gall partneriaeth gyda'i gyd-reidiwr DSM Romain Bardet fod yn fuddiol i'r garfan ond bydd angen sicrhau nad ydy'w gallu nhw fel unigolion yn cael eu cyfyngu. Os ydy o wir am gyrraedd yr uchelfannau, bydd angen iddo wneud ei farc yn y mynyddoedd gan nad yw'r REC yn gryfder iddo.



Reidwyr i'w gwylio

Cofier fod y gofnod hon wedi'i hysgrifennu cyn i'r rhestr ddechrau derfynol gael ei chadarnhau.


Pan y gwnes i eistedd i lawr ac ysgrifennu enwau'r reidwyr oeddwn i'n eu hystyried fel 'ffefrynnau' ar gyfer y ras eleni, roedd 'na 28 o enwau.


Mae hynny'n dyst i'r ras agored sydd o'n blaenau, ond doedd dim lle nac amser i ysgrifennu amdanyn nhw'i gyd yn y segment uchod, felly maen nhw wedi cael eu symud i'r rhan yma, sef y reidwyr i'w gwylio.


Mi ydw i am ddechrau gydag enw fydd efallai'n anghyfarwydd i chi, sef Jefferson Alexander Cepeda. Mae'n rasio i dîm Androni Giocattoli Sidermec sydd yn yr ail haen o dimau (a dydyn nhw ddim ond yn y ras oherwydd fod Vini Zabu wedi tynnu allan). Daeth i'm sylw yr wythnos diwethaf yn nhaith yr Alpau, gan orffen ymysg y ffefrynnau yn y 5ed safle ar ddau cymal ac yn 4ydd ar y dosbarthiad cyffredinol. Mae wedi cael blas ar rasio'r Giro llynnedd, a bydd yn gobeithio bod yn fwy amlwg eleni.


O ran yr Ineos Grenadiers, mi ydw i eisoes wedi crybwyll Bernal a Sivakov ymysg y prif ffefrynnau, ond mae dau arall all hefyd fygwth y dosbarthiad cyffredinol gyda'u gallu yn y mynyddoedd - Ivan Sosa a Dani Martinez. Gallwn ddisgwyl y byddent yn rhan fawr o gynlluniau Ineos. Cofier hefyd am Filippo Ganna ddangosodd yma llynnedd fod ei alluoedd yn mynd tu hwnt i'r REC, felly gobeithio y gwelwn ni o'n aml ar y dringfeydd.


Mae tîm Bora-Hansgrohe yn un diddorol. Byddwn i'n hawdd wedi gallu cynnwys Emanuel Buchmann ymysg y ffefrynnau, ond dydy o heb ddangos ei allu hyd yn hyn eleni. Dau sydd wedi gwneud hynny, fodd bynnag, yw Felix Grossschartner a Matteo Fabbro fydd yn pysgota am fuddugoliaethau ar gymalau bryniog, heb os.


Sôn am fuddugoliaethau ar gymalau bryniog, mae bron â bod yn anochel y bydd Astana Premier Tech yn awyddus i gael blas ar hynny er mai Vlasov fydd eu blaenoriaeth. Gallent ddibynnu ar bencampwr Sbaen Luis Leon Sanchez a Gorka Izagirre i ddarparu hynny, tra byddwn i'n cadw llygad barcud ar y dringwr o Golombiad ifanc Harold Tejada, sydd wedi dangos ambell fflach o dalent ond heb lwyddo ar y llwyfan mawr... eto.


Er mai Hugh Carthy fydd yn eu harwain, mae opsiynau eraill gan EF Nippo eleni. Deiliad crys brenin y mynyddoedd, Ruben Guerreiro, ac un ennillodd gymal yma yn 2020, Jonathan Caicedo, fydd yn gobeithio efelychu llwyddiannau'r llynnedd. Enw arall i chi gadw llygad arno yw Simon Carr; wedi'i eni yn Lloegr, ei fagu'n y Pyrenees, a'n cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol, sydd wedi dangos gallu yn y rasys undydd eleni.


Mae'n debygol na fydd Jumbo Visma'n targedu'r dosbarthiad cyffredinol o ddifrif yn y Giro eleni, ond rhaid cofio fod George Bennett a Tobias Foss yn eu rhengoedd ar gyfer y ras. Bennett sydd wedi bod yn gadfridog i Roglic a Kruijswijk yn y gorffennol, ond efallai'n arallgyfeirio rywfaint wedi'i 2il yn ras undydd fryniog Giro di Lombardia llynnedd; a Foss, y reidiwr ifanc o Norwy, fydd yn gobeithio am gyfle i serennu.


Os yw Thomas de Gendt ar restr ddechrau Lotto Soudal, gallwn ddisgwyl y bydd yn ymuno gyda dihangiad i chwilio am fuddugoliaeth fel mae wedi gwneud lawer tro dros y blynyddoedd. Cadwch lygad ar Harm Vanhoucke yn y mynyddoedd yn ogystal o'r tîm.


Dangosodd Marc Soler o Movistar fod coesau da ganddo'n arwain at y ras gan ennill cymal o'r Tour de Romandie, tra gallwn hefyd obeithio gweld mwy gan Matteo Jorgenson sydd wedi reidio'n addawol eleni.


Mae'n bosib y bydd Jai Hindley'n brif arweinydd DSM, ond cofier fod Romain Bardet yn ddigon abl o gystadlu hefyd. Efallai nad yw wedi serennu cymaint yn ddiweddar ag y gwnaeth o gwmpas 2016/2017, ond mae'r coesau dringo'n dal i fod ganddo.


Un fydd yn gobeithio cael peth rhyddid gan UAE Emirates yn y ras eleni fydd Davide Formolo, sydd wedi dangos yn fwy nag erioed yn y misoedd diwethaf ei allu yn y bryniau a'r mynyddoedd.


Mollema fydd arweinydd tîm Trek-Segafredo, fwy na thebyg, gan fod cwestiwn ynghylch os oedd Vincenzo Nibali am rasio o gwbl wedi anaf heb sôn am gystadlu am y DC. Bydd reidwyr fel Giulio Ciccone a Gianluca Brambilla hefyd yn obeithiol am allu cael cymalau.


Rhestr hirfaith! Ond un arall; Clément Champoussin o dîm AG2R Citroën sydd wedi bod yn cystadlu ymysg yr enwau mawr ar rai rasys eleni er ei oedran ifanc.



Gwibwyr


Gweddol brin yw'r cymalau gwibwyr yn y Giro eleni ond bydd y reidwyr canlynol yn sicr o obeithio am gymalau a/neu'r maglia ciclamino (crys piws).


Caleb Ewan (Lotto Soudal)

Un sydd wedi hen arfer ar ennill cymalau mewn Grand Tours dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn awyddus iawn i ychwanegu at yr un fuddugoliaeth sydd ganddo eleni (cymal olaf EAU).


Tim Merlier (Alpecin-Fenix)

Mae Merlier wedi saethu (neu wibio) i amlygrwydd eleni fel un o'r seiclwyr cyflymaf ar y Ddaear. Tair buddugoliaeth yn y rasys undydd; Le Samyn, GP Monsere a Bredene Koksijde - ond tybed sut bydd yn cystadlu gyda'r enwau mwyaf?


Peter Sagan (Bora-Hansgrohe)

Dwy fuddugoliaeth hyd yn hyn i Peter Sagan eleni, ac un ohonynt yn y Romandie wythnos yma, i ychwanegu at fuddugoliaeth yn y Giro llynnedd. Ydy, mae Sagan yn dal i fod yn wibiwr i'w wylio.


Elia Viviani (Cofidis)

Heb danio ers sbel go lew - ers ymuno gyda Cofidis a dweud y gwir - ond wedi dod yn agos ar ambell achlysur eleni. Digon o brofiad yn y Giro, mae hynny'n siwr.


Dylan Groenewegen (Jumbo Visma)

Bydd Groenewegen yn dychwelyd i rasio am y tro cyntaf ers mis Awst, pan gafodd ei wahardd am ei ran yn namwain erchyll Fabio Jakobsen yng Ngwlad Pwyl. Mi gymerith amser iddo ymgyfarwyddo unwaith eto gyda'r sgil o wibio mewn clwstwr a lleoli'i hun.


David Dekker (Jumbo Visma)

Tra bydd Groenewegen yn ail-ymgyfarwyddo, gall Jumbo ddibynnu ar ysgwyddau ifanc ond coesau cyflym David Dekker, sydd wedi profi'i allu yn yr agwedd yma yn yr EAU.


Fernando Gaviria (UAE Emirates)

Cafodd Gaviria ddau ddos o Covid-19 yn 2020, ac araf mae'i ddatblygiad wedi bod ers hynny gydag un 3ydd ac un 5ed y canlyniadau mwyaf nodedig hyd yn hyn eleni.


...ambell enw arall: Matteo Moschetti (Trek Segafredo), Max Walscheid, Giacomo Nizzolo (y ddau Qhubeka Assos), Max Kanter (DSM), Andrea Pasqualon (Intermarche Wanty Gobert), Patrick Bevin (Israel StartUp Nation), Andrea Vendrame (AG2R Citroen).



Y Rhagdybio

Dwi wedi pwyso a mesur... ac wedi hir a hwyr wedi dod i'r casgliad fy mod i'n creud fod..

...ie, Remco Evenepoel, yn mynd i ennill Giro d'Italia 2021. Iawn, dydy o heb rasio ers mis Awst. Iawn, dydy o erioed wedi rasio mewn Grand Tour o'r blaen. OND mae'r talent sydd gan y boi yn anhygoel, ac o ystyried bod y cymalau pwysicaf un ddim tan yr ail a'r drydedd wythnos, mae digon o amser iddo gyrraedd y safon uchaf ar gyfer rheiny. Byddwn i'n dweud mai fo yw'r cryfaf yn y REC hefyd o ran y ffefrynnau, felly bydd yr un 30km o hyd i orffen y ras yn chwarae o'i blaid.


Diolch o galon i chi am ddarllen fy rhagolwg swmpus o'r Giro, mae wedi bod yn bleser ei ysgrifennu a dwi'n sicr y bydd hi'n bleser gwylio'r ras ar S4C o ddydd Sadwrn ymlaen.


Pwy ydych chi'n meddwl sydd am ennill y Giro eleni?


Pleidleisiwch isod:

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page