Daeth yr amser unwaith yn rhagor. Onid ydy o’n dod yn gynt bob blwyddyn?
Yn barod, mae’n bryd troi’r sylw at Grand Tour cynta’r flwyddyn, sef y Giro d’Italia.
Er efallai fod apêl y Giro yn gwanhau ymysg reidwyr y peloton, yr un yw’r apêl i ni fel gwylwyr bob blwyddyn. Mae gan y Giro, a’r Eidal, rywbeth hollol wahanol i’w gynnig.
Rydym ni ‘gyd yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan y Giro. Mae’n rhoi’r un cynnwrf bob blwyddyn. Drwy hynny, mae’n anoddach meddwl am baragraff agoriadol cystal â llynedd:
“Pam fod y Giro’n apelio gymaint? Faint o’r apêl sy’n ymwneud â’i leoliad ar y calendr fel Grand Tour cynta’r flwyddyn? Y cyfle cyntaf i weld rhai o reidwyr gorau’r byd yn herio’i gilydd ar y llwyfan mwyaf?
Dwi’n credu bod llawer mwy i fawredd y Giro na hynny. Fel mae hunaniaeth yr Eidal mor gref ac mor amlwg i ni gyd yn ystod y Giro, mae gan y Giro ei hunaniaeth unigryw ynddo’i hun. Y cyfuniad o angerdd, treftadaeth, diwylliant ac iaith heb sôn wrth gwrs am y cynhwysyn pwysicaf un o ran y ras ei hun - y tirwedd. Bron fod y Giro fel opera; crescendi a sforzandi lu i edrych ymlaen atynt dwi’n siwr.”
‘Bron fod y Giro fel opera’ meddwn i. Be wn i am opera? Dwi ’rioed wedi gweld un.
Ond dwi yn dychmygu’r Giro fel opera. Efallai mai golwg stereotypical sy’n fy ngyrru at hyn, ond mae rhywbeth am yr Eidal fel llwyfan i rasio sy’n dod â drama nas gwelir unman arall. Y crescendi a’r sforzandi. Mae’n ffitio’r ddelwedd ‘gerddorol’ yn well na dim un ras arall.
Fel cyfansoddwyr, mae’n rhaid i’r trefnwyr wneud yn siŵr fod y cwrs yn cynnal diddordeb.
Fel perfformwyr, mae’n rhaid i’r seiclwyr wneud yn siŵr fod digon ganddyn nhw i greu drama gydol y ras.
Reit, dyna ddigon o lol, ymlaen at y seiclo.
Rhestr jargon
*maglia rosa - crys pinc y mae’r sawl sydd ar frig y dosbarthiad cyffredinol yn ei wisgo.
*gwibiwr - seiclwr sy’n serennu mewn gwib; pŵer ffrwydrol dros gyfnod byr.
*puncheur - seiclwr sy’n serennu ar elltydd byrion, serth.
*Cima Coppi - dringfa uchaf y ras mewn blwyddyn benodol. Coppi yn cyfeirio at Fausto Coppi, arwr seiclo yn yr Eidal.
*Cymal y frenhines - cymal mynyddig ‘mwyaf’ y ras.
*domestique - reidiwr sy’n aberthu ei obeithion personol i gysgodi arweinydd rhag y gwynt, fel y gall yntau arbed egni a’i ddefnyddio i ennill y ras.
Y Cwrs
y map
Dau beth sydd werth ei nodi wrth edrych ar gwrs y Giro eleni. Yn gyntaf, mae’n cynnwys mwy o gilometrau yn erbyn y cloc nag unrhyw flwyddyn arall ers 2013; gwerth 70.6km dros dri niwrnod. Wrth reswm, mae hynny wedi denu math penodol o ffefrynnau dosbarthiad cyffredinol i’r ras am y maglia rosa* yn 2023, ond mi ddown ni at hynny maes o law. Yr ail beth; mae hwn yn gwrs anoddach na sawl blwyddyn arall diweddar yn ôl ambell un o’r ffefrynnau. Wnaeth hynny ddim mo ’nharo fi ar yr olwg gyntaf - mi ddylai bywydau’r gwibwyr* fod fymryn yn haws nag ambell flwyddyn flaenorol er enghraifft - ond mae’r drydedd wythnos yn sicr yn destun braw. Mae’n gyfuniad sy’n nodweddiadol o’r Giro, sef digonedd o gymalau mynyddig pendant a diweddgloeon copa cofiadwy, ond digonedd hefyd o’r cymalau ‘canolig’ yna - rhai mwy bryniog na mynyddig os rywbeth - sy’n baglu sawl un yn y ras am y pinc.
Dyna’r penawdau. Er y ras yn erbyn y cloc ar allt sy’n cloi rasio’r drydedd wythnos, does dim diweddgloeon copa dros raean, fel gawson ni mewn modd cofiadwy iawn ddwy flynedd yn ôl, nac unrhyw raean o gwbl o ran hynny. Dim dechrau mewn gwlad arall.
Dwi’n cael rhyw deimlad y bydd y cwrs yma’n siwtio ffans seiclo ‘traddodiadol’ neu ‘pur’; dim arbrofi, dim ceisio creu penawdau, a’r sylw i gyd ar y reidwyr a’r ffordd.
Mae’r cyfan yn dechrau yn rhanbarth Abruzzo ar arfordi Trabocchi gyda ras yn erbyn y cloc sy’n ddigon syml am y rhan helaeth ohoni; yn wastad ac heb fod yn rhy dechnegol wrth lynu at yr arfordir. Mae’r tri cilomedr olaf fymryn fwy cymhleth, dringo am ychydig gyda graddiannau o hyd at 8%, wedyn mymryn o ysbaid, a dringo mwy cymhedrol i’r diwedd, a hynny oll ar strydoedd troellog Ortona. Digon hir a digon o her i osod hierarchaeth gynnar ymysg y ffefrynnau. Mi ddylai’r ail gymal orffen mewn gwib glwstwr, ac mi allai cymal tri fod yn gyfle iddyn nhw os fydd gan rywun ddigon o dân yn ei fol, a thîm go lew i reoli ar flaen y peloton rhag i ryw puncheur* geisio dianc dros y ddringfa. Ceir blas cynnar o’r dringo ar gymal 4 wrth gyrraedd mynyddoedd yr Appennini, gyda thair dringfa gategoredig a diweddglo copa fwy neu lai wrth lannau Lago Laceno. Mi allai cymalau 5 a 6 fod i’r gwibwyr ond mi allai dihangiadau lwyddo’n sicr, yn enwedig ar gymal 5, wrth i’r ras gyrraedd Napoli. Cymal 7 yw’r her fawr gyntaf i’r ffefrynnau a’r dringwyr, gyda chlamp o ddringfa hir o 26.4km i ddiweddglo copa dros 2,000m i Gran Sasso d’Italia. Y 4.4km olaf fydd yn ddadlennol, gyda chyfartaledd o 8.2% gan ymestyn hyd 13%, pan fyddo’r coesau eisoes yn gwegian. Dydy cymal 8 ddim yn hawdd i’r ffefrynnau o bellffordd; mae’n un o’r cymalau peryglus hynny lle all neb fforddio gorffwys ar ei rwyfau. Cyfres o ddringfeydd byr a serth yn y 60km olaf fydd yn gofyn am wyliadwraeth. Bydd yr wythnos gyntaf yn cloi gyda ras yn erbyn y cloc yn yr ystyr fwyaf pur; tua 33km yn wastad drwyddi draw a fawr ddim byd rhy dechnegol.
Cymal sydd ar bapur yn un y bydd y gwibwyr wedi ei uwcholeuo fydd cymal 10 ar ddechrau’r ail wythnos, ond mae braidd yn gymhleth gyda tipyn o ddringo ar ddechrau’r dydd. Bydd cymal 11 yn llai o her iddyn nhw, cyn i bethau ddechrau newid gêr. Bydd un ddringfa gategori 2 o fewn 30km i’r diwedd yn ddigon i ddethol enillydd cymal 12, boed hwnnw’n ffefryn neu beidio, am fod y gwaith caled iddyn nhw’n dechrau go iawn y diwrnod canlynol. Trindod o ddringfeydd mawr heriol; y gyntaf ohonynt dros y Col du Grand Saint Bernard wrth groesi drosodd i’r Swistir, sef y Cima Coppi* am 2023, yr ail i Croix de Cœur, a’r diweddglo copa i Crans Montana. Y ddringfa i’r diwedd yw’r ‘hawsaf’ o’r dair, a bydd ei dylanwad ar drywydd y ras yn ddibynnol ar unrhyw ddifrod a wneid ar y ddwy flaenorol. Daw’r rendez-vous byrhoedlog â’r Swistir i ben yn gynnar ar gymal 14 â dringfa Simplonpass, a dim byd i drafferthu’r peloton yn ystod y 140km fydd yn weddill. Cymal all fod yn gymhleth i’r ffefrynnau yw cymal 15 ym mryniau Lombardia ar y daith i Bergamo i gloi’r ail wythnos.
cymal wrth gymal (oddi ar Twitter ammatipyorailly)
Newid gêr sylweddol ddaw ar ddechrau’r drydedd wythnos a bryd hynny, wrth reswm, y bydd y ras yn cael ei hennill. Mae rhan helaeth o ddringo caled, didostur y ras yn ei chyfanrwydd wedi’i wasgu i’r wythnos olaf yma, sy’n dechrau â chymal â 5,000 metr o ddringo. Monte Bondone yw lleoliad y diweddglo copa - dringfa dros 20km ar gyfartaledd o 6%, gyda ramps allweddol o hyd at 15% - sy’n bumed yn y gyfres o ddringfeydd categoredig y dydd. Ysbaid fer i roi cyfle i’r gwibwyr ddaw ar gymal 17, cyn dychwelyd i’r mynyddoedd mawrion. Dringfa newydd i’r Giro i Coi ac yna Val di Zoldo sy’n cloi’r dydd, â graddiannau lladdfaol i godi lefel yr her. Cymal 19, fodd bynnag, yw cymal y frenhines*, ac mae’n dychwelyd i dir cyfarwydd. Dringfeydd mawr y Dolomiti sy’n llenwi’r cymal hwn; Passo Campolongo, Passo Valparola a’r Passo Giau, cyn y diweddglo copa i Tre Cime di Lavaredo. 11.7% yw’r graddiant cyfartalog ar gyfer y 4km olaf, gan gynnwys ramps hyd at 18%, gan orffen uwchlaw 2,300m; hynny’n dilyn holl ddringo’r dydd a gweddill y ras. Pe byddai unrhyw beth yn dal yn y fantol, mae cymal 19 yn rhoi llwyfan sicr i ddrama. Cymal 20 wedyn. Be ddiawl? Ras yn erbyn y cloc, ond nid fel sy’n gyfarwydd ar Grand Tours y degawd diwethaf, er bod ambell enghraifft debyg (Vuelta llynedd a Tour 2020). 11km ar y gwastatir, ac yna i gloi, dringfa 7.3km ar gyfartaledd o 12%. Ond peidiwch â gadael i’r ystadegau yna’ch twyllo chi; mae’n anos byth. Mae’r 5km agoriadol ar dros 15%. Fel cyd-destun, mae dringfa Bwlch y Groes - ymysg y serthaf ar ynysoedd Prydain - yn 2.63km ar 13.5%. Mae rhai o’r ramps yn agosach at y copa yn mynd hyd at 22%. Hurt bost. Bydd neb, decin i, ar feic ras yn erbyn y cloc erbyn y ddringfa. Bydd angen y beic ysgafnaf a’r gêrs hawsaf posib. Yn seintwar Monte Lussari bryd hynny y daw’r cyfan i ben felly o ran y ras am y maglia rosa; taith hir o flaen y seiclwyr a’u entourage i orffen ar daith gylch ailadroddus yn Rhufain.
Dwi’n meddwl bellach mod i’n deall pam fod hwn yn gwrs anoddach na rhai blaenorol. Mae digon y gall faglu unrhyw un yn y bythefnos gyntaf, ond mae’r ras i’w hennill a’i cholli yn y drydedd wythnos.
Y gwibwyr
Gwerth taro’n sydyn dros enwau’r gwibwyr sydd ar restr ddechrau’r ras am fod cyfleon teg iddyn nhw. Mark Cavendish yw’r enw mwyaf er iddo gael tymor siomedig hyd yn hyn yn lifrai Astana; 23 niwrnod o rasio heb fuddugoliaeth. Ymhlith y rhai sydd yno i'w herio mae rhai sydd wedi profi cryn lwyddiant yn y Giro dros y blynyddoedd; Fernando Gaviria a Michael Matthews i enwi dau. Na anwybydder Mads Pedersen, Magnus Cort na Pascal Ackermann chwaith fel enwau mawr, ac yna mae ambell enw arall sy’n britho’r rhestr ddechrau, yn eu mysg Kaden Groves a Stefano Oldani, Giacomo Nizzolo, David Dekker a Max Kanter.
Y ffefrynnau
Co ni off ’de.
Y Giro yw’r Grand Tour sy’n dioddef fwyaf o ran ei gallu i ddenu reidwyr mwya’r gamp i herio am y crys pinc. Mae’r Tour de France wastad wedi bod yn fawr, ond os rywbeth mae wedi tyfu’n fwy ac yn fwy yn ei fawredd ar y calendr seiclo yn fwy diweddar. Dyna lle mae’r rhan fwyaf o’r prif reidwyr dosbarthiad cyffredinol yn mynd bob blwyddyn, a hynny wedyn wrth gwrs ar draul y Giro. Prin yw’r rhai sy’n gweld apêl ennill dwbl Giro-Tour bellach. Mae llawer mwy yn gweld y Vuelta fel ail gyfle pe na bai’r Tour yn mynd fel dymunent.
Dydy Tadej Pogačar heb ddangos unrhyw ddiddordeb yn y Giro, na chwaith ddeiliad y Tour Jonas Vingegaard.
Serch hynny, mae’r rhestr ddechrau eleni’n ddigon parchus.
Caiff sawl Grand Tour, yn fwyfwy os rywbeth dros y blynyddoedd mwyaf diweddar, eu ‘gwerthu’ fel petai fel deuopoli, ras rhwng dau geffyl blaen.
Daw’r Giro eleni ag enghraifft arall o hyn.
Remco Evenepoel a Primož Roglič yw’r ddau y mae sôn mawr amdanyn nhw, a’r sylw i gyd yn troi o’u cwmpas nhw.
Roglič (chwith) ac Evenepoel, Volta a Catalunya
Hynny wrth reswm, mae’n debyg. Nhw yw’r enwau mawr; Roglič yn enillydd tair Vuelta, ac Evenepoel yn enillydd y mwyaf diweddar ddiwedd 2022. Nhw sydd wedi cael y dechreuadau gorau i’r tymor, ac mi gawson ni ragflas o’r frwydr rhyngddyn nhw yn y Volta a Catalunya ddiwedd mis Chwefror. Roglič ddaeth i’r brig bryd hynny, ond nid heb i Remco’i wthio fo hyd y diwedd, a’r Belgiad yn gadael y ras wedi ennill dau o’r saith cymal, ac ond 6 eiliad tu ôl i’r Slofeniad ar y dosbarthiad cyffredinol.
Ers hynny, mae Evenepoel wedi cipio buddugoliaeth argyhoeddiadol yn Liège-Bastogne-Liège. Roedd pawb yn ei drin fel y ffefryn mawr, ond llwyddodd i ddelio â’r pwysau. Os rywbeth, mi fwydodd o ar y pwysau, gan adael i’w dîm wneud llawer o’r gwaith cyn ymosod mewn modd eithaf rhagweladwy. Gadawodd ei goesau a’i gryfder wneud y gwaith siarad.
Bydd y tîm yn allweddol iddo yn y Giro; mae Quickstep wedi ceisio adeiladu tîm DC o’i gwmpas o, ac Alaphilippe yn flaenorol, dros gyfnod o ambell flwyddyn; Fausto Masnada a Jan Hirt yn ddringwyr profiadol, ac Ilan van Wilder yn reidiwr cyflawn talentog.
Mae Evenepoel yn gymeriad diddorol. Y tro diwethaf iddo gyrraedd y Giro, roedd tipyn go lew o bwysau arno ac yntau’n reidio Grand Tour am y tro cyntaf, ac yntau wedi ennyn y label ‘Eddy Merckx newydd’ y gamp wedi’r addewid mawr ddangosodd pan yn iâu. Aeth pethau o chwith yn ddigon buan, dangosodd wendid yn ei allu dringo a’i hyfedredd ar raean yn yr wythnos gyntaf. Roedd o’n ddigon parod i fynegi’i anfodlonrwydd â threfnwyr y cwrs, wrth iddo adael y ras ar ôl cymal 17. ‘Y fi newydd’ ydy ei ateb o pan y gwneir cymariaethau rhyngddo ef a’r arwr arall o wlad Belg o’r 60au hwyr a’r 70au. Mae’n byrlymu â hunan-hyder ifanc, a phwy allai ei feio fo. Dydy o ddim yn bencampwr byd, yn enillydd Grand Tour, yn enillydd Vélo d’Or, yn enillydd rhai o’r meini yn 23 oed am ddim rheswm.
Dydy hyder, neu hunan-hyder beth bynnag, ddim yn rhywbeth fyswn i’n ei gysylltu â Roglič, fodd bynnag. Er ei fod o’n un o reidwyr Grand Tour gorau ei genhedlaeth, mae’n mynd o gwmpas ei orchwylion gan amlaf yn ddi-ffwdan. Mae wedi’i fendithio â thîm cryfa’r peloton gan amlaf, ond mae o hefyd yn sicr yn un o’r arwyr yna sy’n llwyddo i dorri calonnau ei gefnogwyr. Y Tour yn 2020 yn enghraifft pan gollodd o’r crys melyn ar y diwrnod olaf, Paris-Nice a’r Tour yn 2021. Tobias Foss a Sep Kuss yw’r ddau brif domestique* ganddo, a hwythau’n ddringwyr hynod eu hunain, fydd yn siŵr o hofran o gwmpas y deg uchaf.
Mae’n meddu ar brofiad nad oes gan Evenepoel; y Slofeniad yn ddoeth ac yn glyfar yn wyneb ieuenctid byrbwyll, byrlymus y Belgiad.
Mae’n hawdd iawn meddwl am y ddihareb yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia wrth gymharu’r ddau yma.
Ond, anaml iawn mae’r rasys yma, lle mae’r sylw o gwmpas dau reidwyr, yn dod yn frwydr rhwng dau geffyl blaen yn y pen draw. Does dim byd byth yn ddu a gwyn; mae’n ddarlun mwy cymhleth.
Er eu bod nhw ers rhai blynyddoedd wedi disgyn yn ôl yn yr olyniaeth o dimau mawr y Grand Tour, mae presenoldeb a bygythiad Ineos yn gyson. Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y ras hon yn 2020 ac yn ras baratoi ddadlennol y Tour of the Alps, Tao Geoghegan Hart fydd yn arwain o’r dechrau mae’n debyg. Mae bob amser yn anodd cymharu’r Saes ag enwau mawr eraill, am nad oedd y gystadleuaeth mor gryf ag y gallai fod wedi bod pan ddaeth i’r brig ar ôl y clo mawr. Ond, dylid rhoi dyledus barch iddo yn dilyn ei lwyddiant yn yr Alpau, ddaeth ar ben 3ydd yn Tirreno-Adriatico (tu ôl i Roglič a João Almeida). Mae ganddo swm helaeth o gilometrau rasio yn ei goesau eleni, a phrofiad ennill. A hyder o’r newydd, mae’n siŵr, o fod wedi profi’i allu’i hun o’r newydd.
Ond nid Geoghegan Hart fydd yr unig arweinydd yn Ineos. Annoeth fyddai anwybyddu Geraint Thomas; un sy’n gallu cystadlu ar y lefel uchaf un yn erbyn reidwyr gorau’r byd - hyd yn oed llynedd pan ddaeth yn 3ydd yn y Tour wrth gwrs. Un sydd hefyd wedi cael ei siâr o anlwc, yn enwedig yn y Giro, er fod y ras yn un agos at ei galon. Dydy o heb orffen y ras ers dros ddegawd, er iddo gystadlu ddwywaith ers hynny. Mi fydd o’n sicr yn dal i gael hunllefau am y digwyddiad efo’r beic modur yn 2017, a’r botel ddŵr yn 2020. Mae meddwl amdanyn nhw’n gwneud i mi wingo. Ond ’den ni gyd yn gwybod ei fod o’n gallu perfformio ar y lefel uchaf un, os y byddo ffawd a lwc o’i du. Neu ar lefel symlach, os y gall o aros ar ei feic.
Does ganddo ddim gymaint ag eraill o gilometrau rasio yn ei goesau eleni, a salwch wedi amharu rhywfaint arno. Bod o gymorth i Geoghegan Hart oedd ei rôl yn yr Alpau, felly allwn ni ddim bod yn siŵr o’i gyflwr ar hyn o bryd. Ond eto, pur anaml ydyn ni’n gwybod unrhywbeth o gylch Geraint. Do, mi enillodd o’r Critérium du Dauphiné yn 2018 cyn ennill y Tour, ond fel arall, anaml y bydd o’n rasio i ennill wrth baratoi i herio mewn Grand Tour.
Bydd o, fel pob un o’r ffefrynnau eraill yr ydw i wedi eu crybwyll hyd yn hyn, yn hoff o’r cwrs ar y cyfan, yn enwedig y cilometrau yn erbyn y cloc. Pan enillodd o’r Tour yn 2018, roedd 66.5km o gilometrau REC (35.5 o’r rheiny, rhaid dweud, yn rhan o’r REC i dimau yn Cholet), sydd ddim yn annhebyg i’r 72km sydd i’w gael yn y Giro eleni. 16 gwaith mae Geraint wedi mynd benben â Roglič mewn ras yn erbyn y cloc, a’r Slofeniad yn gynt na’r Cymro ar 11 achlysur. 8 gwaith mae wedi mynd benben â Remco yn ‘ras y gwir’, a’r Belgiad wedi ennill y 6 mwyaf diweddar.
Annoeth, mae’n debyg, ydy gwneud y fath gymariaethau, achos does wybod byth nag oes. Ond mae’n profi nad ydy’r REC yn gymaint o fantais gan Geraint y tro hwn o’i gymharu â phe bai’r prif ffefrynnau eraill yn ddringwyr pur. Mae’n profi hefyd beth mae Geraint ei hun wedi ei ddweud; bydd curo Remco neu Roglič neu’r ddau yn anodd iawn, ond efallai nid yn amhosib.
Mae tîm Ineos yn wirion o gryf - y cryfaf yn y ras dwi’n credu - gyda’r dringwyr Pavel Sivakov a Thymen Arensman yn gaffaeliad mawr i’r tîm, yn ogystal â’r pwerdai sy’n dod yn siap Filippo Ganna a Laurens de Plus. Trên mynydd pwerus dros ben.
Byddai’n well cymryd golwg dros rai o weddill y ffefrynnau hefyd, er mai dyna’r rhai sy’n haeddu’r mwyaf o sylw, dybiwn i.
Dwi wastad yn sôn am Bahrain-Victorious am eu bod eu rhestr ddechrau nhw bob amser yn gyforiog â dringwyr fyddai’n gallu herio am 10 ucha’r dosbarthiad cyffredinol, os nad y 5 uchaf. Damiano Caruso, 2il yma yn 2021, sydd â’r mwyaf o gilometrau rasio yn ei goesau eleni (swm sylweddol o 4500km), a daeth yn 3ydd yn y Tour de Romandie. Yn 3ydd yn y Tour of the Alps tu ôl i Geoghegan Hart oedd Jack Haig, a’r Awstraliad yn un i gadw golwg arno bob amser, ac yntau’n 3ydd yn y Vuelta yn 2021. Mae Santiago Buitrago yn ennyn tipyn o ddiddordeb; yn 12fed yma y llynedd ac wedi cael dechrau addawol i’r tymor (3ydd yn Liège, 3ydd Ruta del Sol, 8fed Tour of the Alps). Y cilometrau’n erbyn y cloc all brofi’n heriol i’r rhain i gyd.
podiwm Tour of the Alps; Hugh Carthy (chwith), Tao Geoghegan Hart, Jack Haig
Gwerth sôn am y gŵr o swydd Gaerhirfryn (o’n i’n gobeithio am gynghanedd ond ddaeth hi ddim), Hugh Carthy, ddaeth yn ail yn y Tour of the Alps. Dyma un sy’n ffafrio dringfeydd anodd, serth, ac mae digon ohonyn nhw i’w blesio ar gwrs y Giro. Daeth ei berfformiadau gorau mewn Grand Tours hyd yn hyn oddeutu 2020, a prin y mae o wedi serennu ers hynny. Dydy o ddim yn wych yn erbyn y cloc, ond, ar gymal tebyg yn y Vuelta llynedd lle’r oedd dringfa ar ddiwedd ras yn erbyn y cloc, daeth yn 4ydd. Felly mae gan Carthy obaith am bump uchaf, dwi’n credu. Gwerth sôn am Rigoberto Uran, pen profiadol yn nhîm EF gyda Carthy, fydd yn siŵr o fod o gwmpas y lle ar y dringfeydd ac ati.
Yn Giro rhyfedd 2020, daeth enw João Almeida o nunlle wrth iddo gario’r crys pinc ar ei ysgwyddau am ran helaeth o’r ras. Ers hynny, mae o wedi rhoi canolbwynt ar weithio ar ei gryfder dringo yn barod ar gyfer Grand Tours ac ati. Mae wedi cael dechrau addawol i’r tymor, gan sgorio’n uchel yng Nghatalwnia a Tirreno-Adriatico, ac mae’n gryf hefyd yn erbyn y cloc. Diddorol fydd gweld beth fydd hanes Brandon McNulty yn y ras eleni, ar yr un tîm ag Almeida, un sydd wedi’i labelu fel un i’w wylio yn y gorffennol, yn enwedig ar ôl ei orig yng nghrys arweinydd Itzulia (ar draul Pogačar pan aeth pethau ar chwâl yn dactegol, a Roglič enillodd).
Bob blwyddyn yn ddiau mae enw Aleksandr Vlasov yn dod i’r amlwg rywsut. Cyson iawn ydy’r gair i ddisgrifio’i berfformiadau â dweud y gwir, 4ydd yn y Giro yn 2021 a 5ed yn y Tour llynedd. Dydy o heb gael dechrau ardderchog i’r tymor, ond fel Geraint, dim ond o bryd i’w gilydd mae o’n ennill unrhywbeth. Cyson, cyson, cyson. Tybed fydd o’n torri’r cylch o bump neu ddeg uchaf eleni? Byddai buddugoliaeth cymal yn y ras yn newydd iddo. Mae tîm Bora-Hansgrohe hefyd yn bostio’r dringwyr Lennard Kämna a Patrick Konrad, dau fydd yn sicr ar drywydd buddugoliaethau cymal os nad lle yn uchel ar y dosbarthiad cyffredinol.
Dwi’n edrych ymlaen i weld sut all ambell un arall berfformio eleni. Byddai llwyddiant i Thibaut Pinot yn llonni’r galon; yn un arall o’r arwyr torcalonnus hynny, a fyntau yn ei flwyddyn olaf. Tybed pa argraff all Ben Healy’r Gwyddel wneud ar ôl tymor llwyddiannus yn y clasuron? Beth am y Ffrancwr ifanc Aurélien Paret-Peintre? Gobaith o’r newydd i genedl seiclo ar ei gliniau? Mae’r Cymro Stevie Williams o Aberystwyth ar y rhestr ddechrau arfaethedig; byddai’n braf iawn ei weld ar ffyrdd yr Eidal.
I fynd yn ôl at y ffefrynnau, dwi’n teimlo fel ’mod i wedi siarad amdanyn nhw ers blynyddoedd, ond hawdd iawn ydy anghofio eu bod nhw dal yn andros o ifanc, a bod y gorau mae’n debyg eto i ddod ganddyn nhw.
Ta waeth, mae’n debyg y byddai’n well i mi roi rhywfaint o drefn ar eich meddyliau o ran y rhai sydd am herio am y pinc. Yn fy nhyb i, *** i’r rhai sydd am herio am y fuddugoliaeth, ** i’r rhai am y podiwm, * i’r rhai am y pump uchaf.
*** Remco Evenepoel, Primož Roglič
** Tao Geoghegan Hart, Geraint Thomas
* Damiano Caruso, Jack Haig, Aleksandr Vlasov, Hugh Carthy, João Almeida, Sep Kuss
Mae’n debyg y byddai’n well i mi roi pen ar y bloc hefyd.
Dyma ni felly, dwi’n meddwl mai Primož Roglič fydd yn ennill y Giro eleni. Mae’n gymeriad mwy hoffus na Evenepoel, a dwi yn meddwl mai rhyngddyn nhw fydd y ras am y maglia rosa os fydd popeth yn iawn. Felly efallai mai cyfuniad o benderfyniad calon a phenderfyniad pen ydy o. Mae profiad a thîm cryf o’i blaid; dydy Evenepoel ddim yn meddu ar y ddau beth yna. Ond dydy Roglič ddim yn meddu ar ysbryd ifanc, anturus chwaith. Does wybod mewn gwirionedd nag oes!
Mwynhau’r ras sydd bwysicaf, a dwi’n meddwl y byddai’n well i ninnau fel gwylwyr, fel seiclwyr y peloton, gadw digon yn y tanc ar gyfer yr wythnos olaf!
Comments