La Fleche Wallonne yw'r ail o glasuron bryniog yr Ardennes ar ol Amstel Gold Race a chyn pedwaredd moniwment y flwyddyn, Liege-Bastogne-Liege.
Daeth Amstel Gold Race a dwy o ddiweddgloau gorau'r tymor hyd yma, gyda Kasia Niewiadoma a Mathieu van der Poel yn cipio buddugoliaethau dramatig.
Cyn rhagolygu ras y dynion, dyma ragolwg ras y merched.
La Fleche Wallonne Feminine
Y Cwrs
Mae'r cwrs, sy'n 118.5km o hyd, yn cynnwys chwe dringfa cyn y diweddglo i fyny'r enwog Mur de Huy.
Bydd angen i'r ennillydd allu dygymod a'r dringfeydd hyn a generadu digon o bwer ar y ddringfa olaf i oruchafu reidwyr gorau'r byd.
Y ffefrynnau
Anna van der Breggen: Mae van der Breggen wedi ennill y pedwar rhifyn diwethaf o La Fleche Wallonne, ac mae'n bur debyg y bydd hi'n awchu am ddod yn gyfartal a phum buddugoliaeth Marianne Vos. Mae'r tirlun yn un sy'n gweddu iddi'n berffaith, felly gallem ddisgwyl iddi herio'r fuddugoliaeth eto eleni.
Marianne Vos: Vos sy'n hawlio'r mwyaf o fuddugoliaethau yn y ras yma wedi pum buddugoliaeth - rheiny yn 2007, 2008, 2009, 2011 a 2013. Roedd hi'n rasio'n hynod o gryf yn Amstel ddydd Sul i orffen yn drydydd - felly digon i'w thanio i ymestyn ei record.
Ashleigh Moolman: Gorffennodd Moolman yn ail y llynnedd, a bydd hi'n sicr yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni. Mae wedi dioddef tipyn o anlwc y tymor hwn a 6ed yw'i chanlyniad gorau hyd yma, ond bydd yn gobeithio newid hynny am y gorau yma.
Annemiek van Vleuten: Mae van Vleuten wedi cael tymor a chanlyniadau cyson hyd yma, gan orffen yn y deg uchaf ym mhob clasur mae hi wedi rasio ynddo yn 2018 - gan gynnwys 2il yn Amstel ddydd Sul. Mae wedi gorffen ar y podiwm yn y ras yma eisoes, a bydd yn gobeithio mynd gam ymhellach ddydd Mercher.
Kasia Niewiadoma: Cipiodd Niewiadoma fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig yn Amstel Gold dydd Sul, gan edrych yn hynod o gryf wrth wrthsefyll brwydr van Vleuten. A'r fuddugoliaeth honno dan ei gwregys, bydd yn hyderus o allu herio unwaith eto.
Cecile Uttrup Ludwig: Mae canlyniadau cyson Ludwig wedi ei hesgyn i'r band uchaf o ffefrynnau yn ystod tymor y clasuron 2019 - gan gynnwys 3ydd yn De Ronde a Trofeo Binda, ac yn fwy diweddar 6ed yn Amstel Gold. Bydd hi a'i thim, felly, yn gobeithio am ganlyniad cadarnhaol arall.
Trek-Segafredo: Mae Trek yn hawlio dwy reidwraig sydd wedi gorffen ar y podiwm yn y gorffennol yn Lizzie Deignan ac Elisa Longo-Borghini. Roedd y ddwy ohonynt yn edrych yn gryf yn Amstel Gold, a bydd y tim yn awchu am ganlyniad yma.
Amanda Spratt: Yn bumed llynnedd, mae Spratt wedi cael trafferth dod o hyd i ganlyniadau cadarnhaol eleni.
Rhagfynegiad
Yn fy marn i, mae'n amhosibl gweld heibio Boels-Dolmans o edrych ar eu roster cryf - ond un enw sy'n sefyll allan, sef Anna van der Breggen. Mae digon i'w thanio i gipio buddugoliaeth fydd yn dod a hi'n gyfartal a Marianne Vos o ran nifer o fuddugoliaethau yn y ras yma.
La Fleche Wallonne y Dynion
Y Cwrs
Mae ras y dynion yn 194 o gilometrau o hyd, ac yn gofyn am allu dringo parhaol i fedru concro'r dringfeydd olaf cyn gwibio i gopa'r Mur de Huy.
Y ffefrynnau
Julian Alaphilippe: Mae pencampwr 2018 wedi dangos cryfder goruchafol hyd yma eleni - gyda nifer helaeth yn dadlau mai'r Ffrancwr yw reidiwr gorau'r byd. Mae wedi sicrhau naw buddugoliaeth hyd yma eleni, gan gynnwys Milan-San Remo a Strade Bianche - a bydd yn gobeithio dysgu o'i gamgymeriadau yn Amstel Gold yn ogystal.
Alejandro Valverde: Roedd Valverde ar fin cipio pumed buddugoliaeth o'r bron yn La Fleche Wallonne y llynnedd pan ddaeth Alaphilippe i sbwylio'i barti. Dydy ei fform ddim yn edrych yn gadarnhaol iawn yn myned y ras o'i gymharu a blynyddoedd blaenorol.
Adam Yates: Reidiwr sydd eto i brofi'i hun yn y clasuron, ond mae'r tirwedd yn berffaith iddo. Mae ar rediad gwych, gyda thair buddugoliaeth ar ddiweddglo dringfa - gan guro Valverde, Fuglsang, Dan Martin, Egan Bernal and co. i gipio'r buddugoliaethau hynny. Does dim Prydeiniwr erioed wedi ennill y ras yma, a Tom Simpson oedd yr unig un i orffen ar y podiwm.
Michal Kwiatkowski: Mae'r reidiwr o dim Sky wedi dangos ei gryfder yn Amstel ddydd Sul, gan gau 'lawr Fuglsang ac Alaphilippe - ac oni bai am Mathieu van der Poel a'i gampau arwrol, byddai'n sicr wedi gorffen ar y podiwm. Gorffennodd yn drydydd yn 2014, ond mae eto i brofi'i hun hyd yma eleni.
Jakob Fuglsang: Llwyddodd Fuglsang i grafu podiwm o'i gamgymeriadau costus yn Amstel Gold i ychwanegu at ei 2il yn Strade Bianche. Tirwedd sy'n ei ffafrio, ond dywedodd mewn cofnod ar y cyfryngau cymdeithasol mai Liege-Bastogne-Liege ddydd Sul mae'n ei dargedu.
Michael Matthews: Yn bumed y llynnedd, mae'r diweddglo yma'n sicr yn un lle y gall o herio, ond efallai ei fod yn rhy serth iddo allu cipio'r fuddugoliaeth.
Maximilian Schachmann: Mae'r reidiwr o Bora-Hansgrohe wedi dangos ei allu ar ddiweddgloau fel hyn eleni yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia, tra'n gorffen yn wythfed yma llynnedd.
Tim Wellens: Gorffennodd Wellens yn seithfed y llynnedd, ac felly'n gobeithio mynd gam ymhellach eleni. Mae eisoes wedi gorffen ar y podiwm yn De Brabantse Pijl ac Omloop Het Nieuwsblad yn 2019.
Romain Bardet: Tipyn o 'outside bet' ond mae ei allu ar ddringfeydd yn amlwg i wylwyr y Tour de France. Gorffennodd yn nawfed yma llynnedd, ond nid yw ei gryfder wedi bod yn rhy nodedig eleni hyd yma.
Rhagfynegiad
Yn fy marn i, mae'n mynd i fod yn ras wych i gopa'r Mur de Huy eleni - ond credaf mai Julian Alaphilippe fydd yn dychwelyd i'w orau i gipio'r fuddugoliaeth.
Comments