Mae fel pe bai'r Vuelta eleni yn symbol o'r flwyddyn rydyn ni wedi'i gael - yn un sy'n dra gwahanol i'r arfer.
Ystyrir La Vuelta (taith Sbaen) fel y 'brawd bach' o'r tri Grand Tour, ddim mor glodfawr a'r Tour a'r Giro. Eleni, mae'n frawd bach yn llythrennol ac yntau wedi'i gytogi o'r 21 cymal arferol i 18 cymal.
Fodd bynnag, La Vuelta yw ffefryn nifer diolch i'r tirwedd, diwylliant a than gwyllt - a, chan groesi bysedd y bydd yn mynd mor esmwyth a sydd bosib, gobeithio y cawn ni chwip o ras i gloi tymor 2020.
Y cwrs
Mae'r Vuelta'n enwog am y mynyddoedd mawrion serth sy'n nodweddiadol o'r ras ac hefyd am y prinder o ran cymalau gwibio. Does dim llawer o gilometrau gwastad eleni, a dim ond 34km fydd yn erbyn y cloc.
Dyma fraslun o'r hyn sydd i ddod.
Y gwibwyr
Yn flynyddol mae'r nifer o wibwyr sydd ar restr gychwyn y Vuelta yn fach iawn, a dydy 2020 ddim gwahanol i'r arfer. Fodd bynnag, anaml yden ni'n gweld gwibwyr o safon a chalibr fel Sam Bennett a Pascal Ackermann yn mentro cylchdaith Sbaen. Tybed fydden nhw'n mynd am y maillot verde (crys gwyrdd pwyntiau), neu'n ceisio am rai cymalau cyn ei heglu hi am adref. Prin yw'r nifer o gymalau sy'n amlwg yn eu siwtio - cymal 4, 9, 10 ac 18 yw'r unig bedwar sy'n sefyll allan. Ymysg prif gystadleuwyr y ddau uchod mae Jasper Philipsen, Jakub Mareczko a Magnus Cort.
Reidwyr i'w gwylio
Pleser yw cael dweud bod dau Gymro Cymraeg yn rasio Grand Tour am y tro cyntaf erioed yn La Vuelta eleni, a'r ddau'n digwydd bod ar yr un tim sef Bahrain McLaren. Dyma fydd ail Grand Tour Scott Davies o Gaerfyrddin wedi iddo gwblhau'r Giro llynnedd, ond dyma debut y llanc o ardal Aberystwyth, Stevie Williams. Pob lwc iddynt.
Dyma rai reidwyr i'w gwylio. Gallech ddisgwyl y byddent yn cael peth pwyntiau i chi ar gynghrair ffantasi Y Dihangiad ar velogames.com/spain/2020 - ymunwch gyda'r cod 745740412 (bydd y rhai ohonoch sy'n rhan o gynghrair y Giro yn rhan o gynghrair y Vuelta yn awtomatig).
brodyr Izagirre
Alex Aranburu
Wout Poels
Matej Mohoric
Angel Madrazo
Jan Hirt
Andrea Bagioli
Niclas Dlamini
Mike Woods
Tejay van Garderen
Dan Martin
Tim Wellens
Mikel Nieve
Marc Soler
Kenny Elissonde
Niklas Eg
Davide Formolo
Sergio Henao
David de la Cruz
Y ffefrynnau
A dyma ni, wedi cyrraedd prif ran y gofnod - edrych ar bwy yw'r ffefrynnau ar gyfer y maillot rojo (crys coch) yn La Vuelta 2020.
Fel y byddech yn disgwyl o gofio'r tymor maent wedi'i gael, Jumbo-Visma sydd a'r tim cryfaf eleni. Bydd Primoz Roglic yn ceisio gwneud iawn am siomedigaeth ddramatig y Tour a chipio'i ail Vuelta o'r bron, tra bo Tom Dumoulin yn cynnig opsiwn profiadol arall i'r tim. Byddai'n braf iawn gweld Sep Kuss, yr Americanwr ifanc, yn cael peth rhyddid i fynd am gymalau a'r/neu'r dosbarthiad cyffredinol.
Tim arall cryf fel sy'n ddisgwyliedig wedi'r ddegawd ddiwethaf yw Ineos Grenadiers. Chris Froome fydd yn cael y flaenoriaeth fwy na thebyg gan gofio mai dyma'i ras olaf yn lifrai'r tim wedi deng mlynedd o wasanaeth. Fodd bynnag, dydy o heb ddangos ei fod o'n agos at allu ennill Grand Tour eleni - a byddwn i'n tybio bod Richard Carapaz neu hyd yn oed Ivan Sosa yn opsiynau llawer mwy realistig a gwell ar gyfer y crys coch.
Movistar sydd unwaith yn rhagor wedi taflu pob reidiwr DC sydd ganddynt i'w carfan Vuelta, y tro hwn gydag Enric Mas yn arwain y gad. Opsiynau eraill yw Alejandro Valverde a Marc Soler. Dydy Marc Soler ddim yn llwyddo mewn tywydd poeth, ond gyda lleoliad hwyrach yn y calendr, ai dyma'r cyfle iddo serennu?
O bosib un o'r ffefrynnau mwyaf yw Dani Martinez wedi'i fuddugoliaeth yn y Dauphine, ond ni lwyddodd i efelychu hynny yn y Tour - serch hynny mae'n debygol bod y ras yma'n ei siwtio'n well na'r Tour. Gydag o fel rhan o garfan EF yw'r Sais Hugh Carthy fydd yn awyddus i gael profiad o reidio gyda'r goreuon yn y mynyddoedd.
Wedi siomedigaeth fawr yn y Tour, bydd hi'n ddiddorol gweld pa lwybr fydd Groupama-FDJ yn ei gymryd yn y ras a hwythau'n cefnogi Thibaut Pinot a David Gaudu. A fydden nhw'n mynd am y dosbarthiad cyffredinol neu ydyw hi'n anochel y bydd hynny'n dymchwel? Fyddai'n fwy synhwyrol felly mynd am gymalau?
Rhaid hefyd ystyried Guillaume Martin o Cofidis ac Esteban Chaves o Mitchelton-Scott - unigolion sy'n sicr yn fwy nag abl i gystadlu am y podiwm o leiaf.
Mae'r Vuelta hefyd fel arfer yn cyflwyno reidwyr DC a dringwyr newydd i ni, gyda Tadej Pogacar yn dangos ei allu llynnedd i orffen yn ail a Carl Frederik Hagen yn gorffen yn y deg uchaf, er enghraifft. Pwy fydd yr enwau newydd eleni, tybed?
***** Roglic
**** Martinez, Dumoulin
*** Martin, Sosa, Chaves, Carapaz
** Mas, Pinot, Gaudu, Kuss
* Valverde, Soler, Carthy, Nieve
Sut i wylio
Yn fyw ar sianeli teledu Eurosport, gyda darllediad byw di-dor ac ar alw yn ogystal a rhaglen ddadansoddi 'The Breakaway' ar gael gyda thanysgrifiad i GCN Race Pass neu Eurosport Player. Uchafbwyntiau gyda'r hwyr ar ITV4.
RHAGFYNEGIAD
Dwi am ragfynegi y bydd Dani Martinez yn ennill La Vuelta a Espana 2020. Gadewch i mi wybod eich dewisiadau chi ar Twitter neu yn y sylwadau isod.
-
Diolch am ddarllen a mwynhewch y ras!
Comments