top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Rhagolwg: La Vuelta 2021


HYSBYS! Bydda i, Eluned King (cyn-bencampwraig iâu Prydain) a Rhys James (dadansoddwr perfformiad Team Sprint Prydain) yn arwain trafodaeth ar yr hyn sydd i ddod yn La Vuelta a España eleni nos Fercher, 11eg o Awst am 7 o'r gloch. Fe'i gynhelir ar Twitter Spaces sy'n galluogi i'r gynulleidfa gyfrannu eu sylwadau, ond does dim angen cyfrif Twitter. Dim cofrestru a dim cost. Dewch yn llu! Dolen: https://twitter.com/i/spaces/1kvJpomAMjaGE?s=20

Be' sy'n dod i'ch meddwl chi pan ydych chi'n meddwl am Sbaen?


Dyma fy rhestr i: paella, flamenco, cerddoriaeth gitar acwstig, ymryson teirw, tywydd braf, tirwedd sych ac eang. O, a hefyd, Saeson meddw wedi llosgi yn Benidorm ar Bargain Lovin' Brits in the Sun.


Mae chwiliad sydyn ar Google yn dangos fod fy narlun o Sbaen yn cyd-fynd gyda syniadau eraill. Heblaw, falle, am Bargain Lovin' Brits in the Sun.


Pethau eraill ddaeth i'r amlwg oedd Catholigiaeth, yr iaith, ei dylanwad ar Lladin America, celf gan Velazquez a Dalí a Picasso, cestyll, pensaerniaeth hanesyddol (Alhambra yn Granada, er enghraifft) a phêl-droed tiqui taca.


Does dim dwywaith ei bod hi'n wlad sy'n ddiwylliannol a hanesyddol gyfoethog.


Rhan annatod o hynny yw'r ffaith mai gwladwriaeth o genhedloedd (neu ranbarthau ymlywodraethol i roi'r enw swyddogol) ydy Sbaen; rhai ohonynt yn llai bodlon am eu rhan yn y wladwriaeth nag eraill - Gwlad y Basg a Chatalonia yn enwedig ymysg y llefydd lu sydd â symudiadau annibyniaeth yn Ewrop.


Dyma fap o genhedloedd Sbaen; oll mor amrywiol, mor wahanol, o lyfr difyr Tim Marshall; The Power of Geography:

Yn fy marn i, does dim ffordd well i arddangos cyfoeth gwlad na thrwy ras feics broffesiynol, yn enwedig un sy'n para tair wythnos.


Dyna sydd ar y gorwel. Ymhen yr wythnos, bydd La Vuelta a España wedi dechrau yn Burgos (yn Castilla y Leon). Grand Tour Sbaen, Grand Tour ola'r flwyddyn, y Grand Tour gorau ym marn nifer.


Dyma'r cyfle olaf mewn tymor i greu argraff ar y llwyfan mawr.


Felly, mae'ch gwers am wleidyddiaeth ddaearyddol Sbaen drosodd; ymlaen â ni at roi rhagolwg o'r hyn sydd am ein diddanu dros y dair wythnos nesaf.


Ambell ffeithlun defnyddiol

Y Cwrs

Mae dechrau'r Vuelta eleni'n cael ei gynnal yn rhanbarth y Burgos, a'r cymal cyntaf yn y ddinas ei hun. Ras yn erbyn y cloc o 7.1km - prologue, yn ei hanfod - lle nad oes disgwyl gweld bylchau fwy na ryw bymtheg eiliad rhwng ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol. Cymal gwib cynnar ar yr eilddydd, a diweddglo copa cynta'r ras yn cyrraedd mor fuan â'r trydydd cymal. Bryd hynny, bydd y peloton yn dringo ar raddiant o 9.3% i'r Picón Blanco a'r cyfle cyntaf i weld sut siâp fydd ar y ffefrynnau. Deuddydd o wibio, ar bapur, sy'n dilyn - ond bydd angen i'r timau mawr reoli'r ras ar dirwedd mwy amrywiol cymal 4 ac yng ngwyntoedd posib cymal 5. Cymal sydd un ai ar y goriwaered neu'r gwastatir tan y 2km olaf ar cymal 6, pan fydd y ffordd yn gwyro ar 10% i'r llinell derfyn ger castell Cullera. Cymal arall i'r gwibwyr - prin yw cael cymaint â hyn i'w ffafrio yn y Vuelta - ar cymal 8 rhwng deuddydd pwysig i'r gynau mawrion. Cymal 7 yn dringo'n ddi-ddiwedd o'r cychwyn cyntaf; eiliadau bonws ar y ddringfa olaf ond un i Puerto de Tibi fydd yn codi chwant ar ambell un o bosib. Hynny'n dod cyn y grand finale i'r diweddglo copa yn Balcón de Alicante sydd ar ei serthaf yn y 4km olaf, hyd at 14%. Cymal 9 wedyn yn cynnwys llai o ddringfeydd, ond y dringfeydd yn fwy. Y cyntaf o gategori especial (gyfystyr ag HC y Tour) yn y ras eleni, a hynny i'r Alto de Velefique sy'n cloi'r wythnos gyntaf.


Difyr yw'r ail wythnos, yn enwedig yn y tridiau cyntaf. Mae 'na ddringfeydd byrion nid nepell o'r llinell derfyn, a'r rheiny'n cynnig eiliadau bonws ar y dosbarthiad cyffredinol. Os ydy timau'r gwibwyr am lwyddo yn yr ail wythnos, bydd hi'n waith caled i reoli ymosodwyr a dihangwyr fydd yn bachu ar unrhyw gyfle. Bydd gwres a bryniau Andalucía'n cynnig adloniant perffaith i ni'r gwylwyr, a sefyllfa anrhagweladwy o ran y ras ei hun. Cymal sy'n berffaith i'r gwibwyr ar gymal 13 er gwaethaf gwres yr Extremadura, cyn deuddydd yn y mynyddoedd i gloi'r ail wythnos. Y pedwerydd dydd ar ddeg yn cynnwys dwy ddringfa fawr; un hanner ffordd drwy'r cymal yn esgyn ar 14% am 3km i'r copa, a'r olaf i Pico Villueras ar y llinell derfyn. Y cilometr serthaf ar y ddringfa yn dod ryw hanner ffordd drwyodd, a bydd y dringwyr pur yn ei uwcholeuo fel man perffaith i ymosod. Dim diweddglo copa ar y pymthegfed cymal wrth i'r reidwyr daclo dwy ddringfa gategori un ac un categori dau yn nhraean canol y cymal, ond y ddringfa fer gategori 3 sy'n dod 5km o'r llinell derfyn fydd fwyaf allweddol.

Bydd y drydedd wythnos yn cael ei hagor gyda chymal gwib olaf y Vuelta eleni rhwng Lavedo a Santa Cruz, ac mae'n debygol y bydd nifer o wibwyr yn edrych ar y deuddydd canlynol ac yn penderfynu ffarwelio a'r ras am 2021. Deuddydd y frenhines sydd i ddod ar cymal 17 ac 18. I Lagos de Covadonga - un o hoff ddringfeydd y Vuelta, sydd â graddiant cyfartalog camarweiniol o 7% gan fod tair rhan fer o oriwaered. Mae 'na gyfres o gilometrau dros 10% yn barhaol a rhannau hyd at 16% sy'n sicr o frathu. Hynny oll gydag effaith dringo Collada Llomena (7.6km ar 9.3%, rhannau helaeth dros 10%) ddwywaith yng nghanol y cymal yn y coesau. Diwrnod heriol iawn i'r peloton, a does dim atal ar y mynyddoedd mawrion ar cymal 18 chwaith. Yn dringo o'r cychwyn cyntaf, mae 'na ddwy ddringfa gategori 1 yn yr hanner cyntaf, cyn par o ddringfeydd allweddol i orffen y dydd. Y gyntaf yn gategori 2, a'r diweddglo i Altu d'El Gamoniteiru yng nghategori especial gyda graddiant cyfartalog hurt o 10% am bron i bymtheg cilometr cyfan. Yn sgil hynny, bydd y peloton yn fwy na bodlon i adael i ddihangiad fynd yn rhydd gymal 19, cyn finale difyr dros ben ar gymal 20. Proffil sy'n debyg i glasuron megis Liège-Bastogne-Liège; yn fryniog yn yr hanner cyntaf a'n fynyddig yn yr ail hanner. Diweddglo ar ddringfa gategori 2 gyda rhannau serthion fydd yn cynnig adloniant perffaith i ni'r gwylwyr. Gall unrhywbeth ddigwydd yng nghyd-destun y dosbarthiad cyffredinol ar gymal 20. Cyfle olaf i selio llefydd yn y deg uchaf sy'n dilyn ar ddiwrnod olaf y ras - cwrs REC technegol o 34km i Santiago de Compostela.


Mi ydw i wedi crybwyll yr eiliadau bonws sawl gwaith, am reswm. Llynedd, y bwlch rhwng y buddugwr Primož Roglič a Richard Carapaz yn yr ail safle oedd 24 eiliad; roedd y Slofeniad wedi ennill 32 o eiliadau bonws ar draws y ras. Felly, pe na bai eiliadau bonws, byddai'r Ecwadoriad wedi ennill y ras o wyth eiliad. Hyd yn hyn, dyma'r dystiolaeth fwyaf arwyddocaol dros bwysigrwydd y bonificaciones yn y rasys mwyaf.


Y Gwibwyr

Ysgrifennwyd y cofnod hwn cyn i'r rhestr ddechrau gael ei chadarnhau.

Dau gafodd Tour de France siomedig sydd ar frig y rhestr gwibwyr yn y Vuelta eleni. Caleb Ewan (Lotto-Soudal), adawodd ar gymal 3 helbulus, ac Arnaud Démare (Groupama-FDJ), un o wibwyr gorau'r byd wnaeth ddim tanio o gwbl cyn ymadael ddechrau'r ail wythnos. Mae'n eithaf anarferol i weld gwibwyr o'u safon nhw'n mynd i'r Vuelta oherwydd prinder nodweddiadol o gymalau iddynt. Yn dynn ar eu sodlau, ac un sy'n siwr o serennu'n y ras eleni, yw Jasper Philipsen (Alpecin-Fenix), gafodd Tour llwyddiannus iawn er yn methu mynd heibio Cavendish i ennill cymal. Cadwch olwg ar y gwibwyr mwy pwerus, Michael Matthews (Bike-Exchange) a Matteo Trentin (UAE Emirates) yn ogystal ag Andrea Pasqualon (Intermarche-WantyGobert), Gonzalo Serrano (Movistar), Jon Aberasturi (Caja Rural) a Sacha Modolo (Alpecin-Fenix).


Y Ffefrynnau

Ysgrifennwyd y cofnod hwn cyn i'r rhestr ddechrau gael ei chadarnhau.


Absenoldeb nodedig o'r ras eleni yw pencampwr y Tour de France, Tadej Pogačar, sydd newydd ennill medal efydd yn y Gemau Olympaidd. Yn hytrach na mynd i'r Vuelta, bydd yn canolbwyntio ar rasys undydd sydd i ddod yng ngweddill y tymor, gan gynnwys Pencampwriaeth y Byd yn Llydaw.

Beth mae hyn yn ei olygu i'r ras? Wel, mae'n sicr yn ei gwneud hi'n fwy agored. Yn bersonol, byddai wedi bod yn braf ei weld yn mynd benben â Primož Roglic ac Egan Bernal am y tro cyntaf, ond bydd yn rhaid i ni aros tan Tour y flwyddyn nesaf i weld y frwydr deirffordd honno, gwaetha'r modd.


Felly, pwy sydd am ennill y maillot rojo eleni?


Primož Roglič yn erbyn Egan Bernal, Jumbo-Visma yn erbyn Ineos Grenadiers

Os cofiwch chi'n ôl i'r rasys cyntaf ar ôl y clo mawr llynedd, y naratif drwy rasys megis y Tour de l'Ain, Route d'Occitanie a'r Critérium du Dauphiné (rasys paratoi at y TdF) oedd y ddau dîm hynod gryf yma â'u harweinwyr dawnus yn wynebu'i gilydd. Dyna oedd y disgwyl ar gyfer y Tour hefyd; y byddai'r frwydr am y melyn rhwng Roglič a Bernal. Fodd bynnag, gadawodd Bernal y ras yn gynnar gydag anaf i'w gefn, tra cafodd Roglič ei ddisodli ar yr unfed awr ar ddeg.


Ers hynny, mae'r ddau ohonynt wedi cwblhau un Grand Tour yr un, ac wedi ennill un Grand Tour yr un. Roglič yn La Vuelta llynedd, a Bernal yn y Giro eleni.


Felly'r gobaith mawr yw y cawn ni frwydr deg, rhwng dechrau'r ras a'i diwedd, rhwng y ddau seren yma ar lwyfan y Grand Tours.


Roglič yw'r cryfaf yn erbyn y cloc; mae'n bencampwr Olympaidd o'r newydd yn y maes. Enillodd bryd hynny gyda mantais o funudau dros y cystadleuwyr agosaf Tom Dumoulin, Rohan Dennis, Filippo Ganna a Stefan Küng; y goreuon ymysg arbeingwyr y REC. Dydy Bernal ddim yn wachul yn erbyn y cloc, ond os ydy o am guro Roglič, bydd angen mantais go lew arno fo cyn REC y diwrnod olaf.


Fel pob pencampwr yn y byd chwaraeon (neu yn wir yn y byd ditectifs ffuglen), mae ganddyn nhw eu gwallau. Flawed brilliance. Mae gan Bernal scoliosis, allai fod wedi dirywio'i ymgyrch tua'r maglia rosa yn y Giro. Dim ond ar un diwrnod y gwnaeth effeithio arno - ar y diweddglo copa i Sega di Ala. Roglič, ar y llaw arall, yn dueddol o gael un diwrnod gwael mewn Grand Tour. Yn Tour 2020, daeth hynny ar y diwrnod olaf un yn y REC. Yn Vuelta 2020, dim ond 18 cymal oedd - ac mi'r oedd 'na wendid ar y cymal olaf mynyddig, ond llwyddodd i ddal gafael ar ei goron.


Un peth sy'n gaffaeliad i'r ddau yw cryfder eu timau tu ôl i'r llen, a'u carfanau ar y ras.


Yn rhan o garfan Jumbo, mae tri reidiwr arall fyddai'n ddigon hawdd yn arwain unrhyw dîm arall. Sepp Kuss, yr Americanwr, enillodd gymal o'r Tour er, yn ôl rhai, heb gynnal yr addewid ddangosodd yn 2020. Wedyn Steven Kruijswijk, oedd ar fin ennill y Giro yn 2016 pan darodd mewn i wal eira ar ochr y ffordd ar oriwaered ar cymal 19. A Sam Oomen, domestique ffyddlon ac allweddol i Tom Dumoulin yn ei fuddugoliaeth yn Giro 2017, sydd dal ond yn 25 oed.


I ychwanegu at hynny, mae 'na domestiques cryf eraill ar gael i Roglič. Y dringwyr Koen Bouwman a Lennard Hofstede, a'r reidwyr 'injan' Robert Gesink a Nathan van Hooydonck.


O ran Ineos Grenadiers, dwi'n meddwl mai dyma'r tim cryfaf iddyn nhw'i roi mewn unrhyw Grand Tour hyd yma, ac mae hynny'n adrodd cyfrolau. 1af yn y Giro yn 2019, 2il yn y Vuelta yn 2020, 3ydd yn y Tour yn 2021 - Richard Carapaz. Heb anghofio'i fod o'n bencampwr Olympaidd o'r newydd hefyd. Adam Yates, Dani Martínez a Pavel Sivakov - tri fyddai'n hawdd yn arwain carfanau eraill. Os y bydden nhw'n ufuddhau i gyfarwyddiadau'r tîm, mi fydd gan Bernal arfwisg â hanner. Heb anghofio Tom Pidcock, un arall sydd newydd ennill medal aur Olympaidd yn y beicio mynydd, sy'n ymddangos yn ei Grand Tour cyntaf. Tybed beth fydd o'n ei wneud; mynd am y gwibiau clwstwr, cymalau bryniog neu fod yn domestique?


Problem dybiwn i fydd yn wynebu Ineos yn fwy na Jumbo yw'r arweinyddiaeth. Mae'n eithaf sicr y bydd Roglič yn arwain Jumbo, a'r gweddill yn bodloni ar hynny a'i helpu tua'r fuddugoliaeth er gwaetha'u gallu nhw'u hunain. Ras i dimau sy'n cael ei ennill gan unigolion. O ran Ineos, fydd Carapaz ddim eisiau chwarae ail feiolin i Bernal ar ôl ei berfformiadau ar draws y tymor, a phwy all ei feio? Fydd Dani Martínez eisiau cael ei ad-dalu am ei wasanaeth i Bernal yn y Giro? Fydd Yates a Pidcock eisiau mynd am gymalau? Fydd Sivakov eisiau cael y cyfle mae wedi aros mor amyneddgar amdano?


Eto, mi all cael y tîm cryfaf beri penbleth a chur pen difrifol i Ineos.


Aleksandr Vlasov (Astana)

Reidiwr ffrwydrodd ar y sîn wedi'r clo mawr - un o'r reidwyr ifanc dawnus wnaeth ddawnsio i'n diddanu gan ennill Her y Ventoux a chymal o'r Tour de la Provence. Eleni, mae wedi gwireddu'r addewid ddangosodd gydag 2il yn Paris-Nice a 4ydd yn y Giro d'Italia, ond mae eto i ennill ras fawr. Ai dyma'r cyfle?


Hugh Carthy a Rigoberto Urán (EF Nippo)

Mae EF Nippo wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn. Er iddyn nhw beidio ag ennill cymal o'r Tour, a gweld Rigoberto Uran yn syrthio o'r ail safle i'r degfed safle yn y drydedd wythnos, fydd hynny ddim yn ormod o ofid o gofio'u perfformiad yn y Giro. Enillon nhw ddau gymal drwy Joe Dombrowski ac Alberto Bettiol, tra serennodd Hugh Carthy ar y DC. Wedi dweud hynny, mi gytogwyd y cymal mynyddig iawn yr oedd Carthy wedi'i dargedu, felly mae'n deg dweud fod mwy i ddod ganddo yn y Vuelta. Mae'n ras sy'n ei siwtio - ac yntau wedi cael siwrne wahanol i Brydeinwyr eraill i'r brig drwy ymuno gyda Caja Rural - a gorffennodd yn 3ydd yma llynedd. Ar ben hynny, mae newydd ennill cymal o'r Vuelta a Burgos, sy'n awgrym clir fod y coesau'n barod. Ffefryn mawr. Bydd Urán yn awyddus i roi siomedigaeth y Tour y tu ôl iddo hefyd, ond dybiwn i mai Carthy fydd blaenoriaeth y garfan.


Bahrain-Victorious

Tîm sydd wedi disgleirio eleni, gan ennill cymalau o'r Giro, y Tour a rasys mawr eraill fel y Critérium du Dauphiné; gymaint felly y gwnaeth heddlu chwilio'u heiddo am gyffuriau gwella perfformiad. Mikel Landa, ar bapur, fydd eu harweinydd oherwydd ei brofiad ac oherwydd iddo orfod gadael y Giro gydag anaf. Ymddengys fod coesau cryf ganddo wedi iddo ennill y DC yn y Vuelta a Burgos. Wedi dweud hynny, mae Mark Padun o'r Wcrain yn ymddangos mewn Grand Tour am y tro cyntaf. Enillodd ddau gymal olaf y Dauphine, ac mae nifer yn ei weld fel dringwr cryf all ddatblygu'n ffefryn i'r dosbarthiad cyffredinol. Yn ogystal, mae Wout Poels, Dylan Teuns, Gino Mäder a Hermann Pernsteiner yn ddringwyr heb eu hail fydd un ai o fudd i'w hymdrechion ar y DC, neu'n anelu am gymalau eu hunain. Cadwch lygad hefyd ar y Colombiad ifanc, Santiago Butrago, sydd wedi perfformio'n addawol yn Burgos.


Movistar

Pedwar arweinydd? Dwi'n meddwl y bydden nhw'n dynodi dau. Miguel Ángel López, gafodd Tour i'w anghofio a'i obeithion DC drosodd cyn iddyn nhw ddechrau, ac Enric Mas, gafodd Tour llwyddiannus drwy orffen yn y 6ed safle. Bydd Alejandro Valverde a Marc Soler un ai o fudd neu yn broblem - ac mae dau gyfres Netflix 'El Día Menos Pensado' wedi profi nad ydy'r tim rheoli'n gallu rheoli egos ac amcanion pawb.


Romain Bardet

Mae'n braf gweld fod Romain Bardet wedi cael adfywiad eleni gyda DSM. Mi gyrrhaeddodd o 2il yn y Tour yn 2016, ond prin wedi cystadlu ers hynny. Gorffennodd yn 7fed yn y Giro eleni, ac mae newydd ennill cymal yn y Vuelta a Burgos. Mae'n ymddangos fod tîm cryf o'i gwmpas, ac wedi i Jai Hindley adael y garfan, bydd pawb yn gweithio er ei fudd. Bydd cyrraedd y brig yn anodd, fodd bynnag. Gwyliwch Thymen Arensman hefyd - dringwr addawol gafodd ganlyniadau da yma llynedd pan yn 20 oed o ddihangiadau.


Guillaume Martin

Ffrancwr arall sy'n destun gobaith i genedl sydd heb ennill y Tour ers canol yr wythdegau. Cafodd ei ganlyniad gorau erioed yn y Tour eleni, 8fed, yn rhannol diolch i ddiwrnod mewn dihangiad aeth ymhell, bell ar y blaen. Dybiwn i mai strategaeth debyg fydd ganddo yn y Vuelta; cadw mewn cysylltiad â'r deg uchaf, a gobeithio am gyfle i ymuno gyda dihangiad llwyddiannus. Bydd buddugoliaeth cymal ar Grand Tour yn darged iddo, heb os, ac yntau heb lwyddo gwneud hynny eto.


Bike-Exchange

Nid tim fydd yn targedu'r dosbarthiad cyffredinol, dwi ddim yn meddwl, ond bydd Lucas Hamilton yn awyddus i gael y cyfle i arwain wedi siomedigaeth colli amser yn gynnar yn y Tour. Bydd Esteban Chaves a Mikel Nieve yn siwr o'n diddanu pan fydd y ffordd yn gwyro tua'r entrychion.


Deceuninck-Quickstep

Mae'r Prydeiniwr James Knox wedi dod yn agos at gyrraedd y deg uchaf mewn Grand Tours yn y gorffennol, ond heb wir gystadlu gyda'r gynau mawrion. Ai dyma'r cyfle iddo wneud hynny? Yn ogystal, cadwch lygad ar Mauri Vansevenant; reidiwr ifanc o Wlad Belg sydd wedi cystadlu gyda'r enwau mawrion mewn rasys fel Itzulia.


Ambell enw arall

Yn absenoldeb Pogacar, bydd hi'n braf gweld ambell un o'i domestiques yn UAE Emirates yn cael tro ar gymalau neu hyd yn oed y dosbarthiad cyffredinol - Rafał Majka a Jan Polanc efallai. Mae'r Vuelta'n aml iawn yn rhoi cyfle i enwau annisgwyl gyrraedd y deg uchaf - posiblrwydd y gwnaiff reidwyr fel Felix Grossschartner (Bora-Hansgrohe, 9fed yn 2020), Carl Frederik Hagen (Israel Start-up Nation, 8fed yn 2019) neu Harm Vanhoucke (Lotto-Soudal) gamu 'mlaen o berfformiadau calonogol y gorffennol. Yr hen a wyr, yr ifanc a dybia medde nhw - felly bydd hi'n ddiddorol gweld sut bydd yr Eidalwyr profiadol, Domencio Pozzovivo a Fabio Aru o Qhubeka-NextHash yn perfformio wedi cyfnodau o anafiadau ac yn y blaen. Hefyd, dwi'n tybio y bydd Maximilian Schachmann (Bora-Hansgrohe) yn un i'w wylio. Mae eisoes wedi serennu mewn rasys wythnos fel Paris-Nice - wedi ennill y ras yn 2020 ac yn 2021 - felly gallwn ddisgwyl y bydd o'n awyddus i gymryd y cam nesaf i herio mewn Grand Tour.

Darogan

Dwi ddim am fynd am un o'r ddau enw mawr, ond yn hytrach...

Richard Carapaz. Mae'i berfformiadau yn y Tour ac yn Tokyo wedi bod yn argyhoeddiadol iawn, ac wedi iddo ennill y Giro yn 2019 mae'n hen bryd iddo ychwanegu Grand Tour arall i'w gasgliad. Bydd cryfder y tîm yn gaffaeliad. Tîm blaenorol - Movistar - all beri gofid iddo; maen nhw eisoes wedi bod yn ei gwrso fel ryw fath o ddial plentynaidd am eu gadael.


Mwy o drafod

Gobeithio bod y rhagolwg yma wedi rhoi rhagflas go lew o'r hyn sydd i ddod. Ond, bydd cyfle i drafod ymhellach ac yn ddyfnach gyda dau lais a safbwynt arall, gwybodus nos Fercher am 7. Ymunwch gyda mi ynghyd ag Eluned King a Rhys James i drafod y Vuelta. https://twitter.com/i/spaces/1kvJpomAMjaGE?s=20


Recent Posts

See All

Yorumlar


bottom of page