top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Rhagolwg La Vuelta a España 2019



Anodd iawn yw credu fod Grand Tour olaf 2019 ar y gorwel, gyda ras dair wythnos yn Sbaen yn hoelio sylw'r byd seiclo.


Mae'r Vuelta yn ras sy'n ennyn diddordeb yn flynyddol ac mae'r ras eleni'n argoeli i fod yn un eithaf diddorol yn ogystal.


Dyma ragolwg o'r ras eleni. Mwynhewch!


Y Cwrs

Ar y wefan swyddogol, dyma sut mae'r trefnwyr wedi rhannu'r ras.

  • 6 cymal gwastad

  • 4 cymal bryniog

  • 9 cymal mynyddig

  • 1 REC

  • 1 RTEC

  • 2 ddiwrnod gorffwys

Yr wythnos gyntaf


Cynhelir La Gran Salida eleni yn Las Salinas de Torrevieja ger Alicante, gyda'r cymal cyntaf yn ras yn erbyn y cloc i dimau. Wedi hynny, er fod y proffiliau'n bell o fod yn gwbl wastad, mae cymalau 2, 3 a 4 yn debygol o orffen mewn gwib glwstwr i'r gwibwyr prin sy'n bresennol.


Mae'r wythnos gyntaf yn cynnwys cymalau sy'n mynd i benderfynu pwy sydd ddim yn debygol o ennill y dosbarthiad cyffredinol ar ddiwedd y ras - y cyntaf ohonynt ar cymal 5. Cymal diweddglo copa cyntaf y ras i'r Alto de Javalambre sydd yma, ac wedi cymal bryniog arall ar cymal 6, mae'r ail ddiweddglo copa i ddod ar cymal 7 a hwnnw i Alto Mas de la Costa.


Cymal bryniog sydd eto ar cymal 8, cyn y cymal allweddol cyntaf o bosib ar cymal 9 yn Andorra. Cymal byr - 95km - ond yn cynnwys dringfa categori 1, especial (HC), dwy ddringfa categori 2 ar ben y diweddglo copa i Alto Els Cortal d'Encamp.


Diwrnod gorffwys sy'n dilyn hynny.


I'r dyddiadur:

Cymal 5 - 28ain o Awst

Cymal 7 - 30ain o Awst

Cymal 9 - 1af o Fedi


Yr ail wythnos


Wedi ymddangosiad yn y Tour de France eleni, bydd y Vuelta yn dychwelyd i Pau ar gyfer diweddglo REC unigol 36km sy'n cychwyn yn Jurancon. Dau cymal bryniog sy'n dilyn cyn cymal heriol ar cymal 13 gyda saith dringfa gategoredig - yr olaf ohonynt yn y categori especial. Cymal gwastad i ymadfer ychydig sydd cyn cymal mynyddig eto ar cymal 15 gyda diweddglo copa i Puerto del Acebo.


Rhywbeth tebyg sydd ar cymal 16 cyn y diwrnod gorffwys - 144km o rasio'n y mynyddoedd gyda'r 18km olaf yn ddringfa especial i Alto de la Cubilla.


I'r dyddiadur:

Cymal 10 - 3ydd o Fedi

Cymal 13 - 6ed o Fedi

Cymal 15 - 8fed o Fedi

Cymal 16 - 9fed o Fedi


Yr wythnos olaf


Cymalau gwastad (17 a 19) sydd o bopty cymal 18 mynyddig cyn y cymal allweddol olaf ar cymal ugain sy'n cynnwys dim llai na chwe dringfa gategoredig, yr olaf ohonynt i'r diweddglo copa yn Plataforma de Gredos.


Diweddglo gorymdeithiol sydd i Madrid i orffen y ras ar y pymthegfed o Fedi.


I'r dyddiadur:

Cymal 18 - 12fed o Fedi

Cymal 20 - 14eg o Fedi


Maillot verde - y gwibwyr


Sam Bennett: Bydd pencampwr Iwerddon, Sam Bennett, yn cyrraedd La Vuelta'n llawn hyder wedi perfformiad cryf tu hwnt yn nhaith Binck-Bank, lle cipiodd dri chymal. Hynny ar ben buddugoliaethau yn y Criterium du Dauphine, Taith Twrci, Paris-Nice, Taith UAE a Vuelta a San Juan.


Fernando Gaviria: Wedi tymor ddim mor lwyddiannus a thymhorau blynyddol eleni yn lifrai UAE Emirates, bydd Gaviria yn sicr yn gobeithio ychwanegu at ei bedair buddugoliaeth yn La Vuelta.

 

Dyna'r ddau brif wibiwr fydd yn cystadlu am y maillot verde yn La Vuelta eleni, ond gallem hefyd ddisgwyl perfformiadau cadarnhaol gan Phil Bauhaus (Bahrain-Merida), Fabio Jakobsen a Max Richeze (Deceuninck Quickstep), Max Walscheid (Sunweb) a John Degenkolb (Trek-Segafredo).


Maillot rojo - ffefrynnau'r DC


Y ffefrynnau profiadol


*** Primoz Roglic: Wedi perfformiad heb fod gystal a'r disgwyl efallai yn y Giro d'Italia, dyma gyfle euraidd i Roglic gipio'i fuddugoliaeth Grand Tour cyntaf, a hynny gyda chefnogaeth tim cryf iawn Jumbo-Visma, gyda Steven Kruijswijk, Sep Kuss a George Bennett super-domestiques gwerth chweil.


*** Richard Carapaz: Ar ol buddugoliaeth yn y Giro eleni, dim ond un ras y mae Carapaz wedi ei rasio, ac yn ol pob son mae wedi bod yn mwynhau dathlu yn Ecuador yn fwy nag y mae wedi bod yn hyfforddi. Fydd hynny'n cael effaith arno? Cawn weld.


*** Jakob Fuglsang: Reidiwr arall sydd eto i ennill Grand Tour, ond wedi cael tymor llewyrchus tu hwnt gan ennill y Criterium du Dauphine, Ruta del Sol a Fleche Wallonne ymysg nifer fawr o ganlyniadau deg-uchaf hefyd.


*** Miguel Angel Lopez: Yn arwain Astana ynghyd a Jakob Fuglsang, bydd Lopez hefyd yn ceisio ennill ei Grand Tour cyntaf wedi Giro siomedig o anlwcus. Gobaith gorau Astana o ennill y ras eleni? Byddwn i'n tybio hynny.


** Nairo Quintana, Steven Kruijswijk, Rigoberto Uran, Wout Poels


* Luis Leon Sanchez, Wilco Kelderman, David de la Cruz, Rafal Majka, Fabio Aru, Esteban Chaves, Marc Soler


Reidwyr ifanc i'w gwylio


Tao Geoghegan Hart: O bosib yn arwain tim Ineos am y tro cyntaf. Perfformiadau cryfion yn y gorffennol yn profi ei fod yn barod am yr her nesaf yn ei yrfa, a thybed os y gwelwn ni'r Prydeiniwr yn ymosod ac efallai herio am gymal.


Hugh Carthy: Prydeiniwr ifanc arall sydd wedi bod yn dangos ei ddoniau'n ystod y flwyddyn, yn enwedig yn y Giro. Cawn weld os y caiff rwydd hynt gan ei dim, EF Education First, i ymosod am gymalau yn hytrach na gwarchod Uran.


Tadej Pogacar: Reidiwr talentog iawn sy'n dechrau dangos ei allu yn y World Tour, ond efallai ei bod hi'n rhy gynnar iddo herio o ddifri' eleni.


Sergio Higuita: Fel Carthy, bydd hi'n ddiddorol gweld os caiff y Colombiad gyfle i ymosod gan EF. Reidiwr dawnus.


James Knox: Gan fod gobeithion Deceuninck-Quickstep yn gwyro tuag at wibiau, byddwn i ddim yn synnu gweld y Prydeiniwr James Knox yn herio gyda'r mawrion ar ambell i gymal bryniog.


Cymru


Owain Doull fydd yn chwifio baner Cymru yn La Vuelta eleni ac yntau'n reidio'i Grand Tour cyntaf.


Bydd Geraint Thomas yn reidio taith yr Almaen yn hwyrach yn y mis.


Rhagfynegiad

  1. Ennillydd: Miguel Angel Lopez

  2. Podiwm: Primoz Roglic, Richard Carapaz

  3. Crys Gwyrdd: Sam Bennett

  4. Crys Polca Glas: Miguel Angel Lopez

  5. Crys Gwyn: Tao Geoghegan Hart

  6. Cymalau: Sam Bennett

  7. Ffefryn fydd wedi colli gafael yn yr wythnos gyntaf: Nairo Quintana

  8. 2 ffefryn fydd wedi colli gafael yn yr ail wythnos: Jakob Fuglsang, Rigo Uran

  9. Syrpreis i'r deg uchaf: Felix Grosschartner

Recent Posts

See All

Комментарии


bottom of page