Unrhyw un arall yn teimlo fel bod gwacter wedi bod yr haf yma? Gwacter amryliw dair wythnos sy’n llawn drama, mynyddoedd, gorfoledd a siomedigaeth. Mi ydw i wrth gwrs yn son am La Grande Boucle, ras fwya’r flwyddyn a digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf y byd.
Le Tour de France.
Dros i ddeufis yn hwyrach na’r disgwyl, bydd y ras yn cychwyn ddydd Sadwrn (!!!!) y 29ain o Awst ac yn rhedeg, croesi popeth, tan yr 20fed o fis Medi. Gwell hwyr na’n hwyrach, sbo.
Dwi wedi creu safle penodol ar gyfer dilyn y Tour drwy gyfrwng y Gymraeg a hynny ar bit.ly/TDFyddwyolwyn lle gallwch ddarllen rhagolygon, canlyniadau a'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch. Bydd rhagolygon dyddiol gen i, a'r hyd a manylder yn ddibynnol ar arwyddocad y cymal. Bydd pob peth ar bit.ly/TDFyddwyolwyn ac ar y cyfrif Twitter (twitter.com/cycling_dragon) ac ambell beth yn cael ei gyhoeddi yma ar y wefan sef yddwyolwyn.cymru.
Mae ‘na lot fawr iawn i’w drafod felly dyma ragolwg mawr Y Ddwy Olwyn ar gyfer Le Tour de France 2020, sy'n addo i fod y mwyaf agored ers blynyddoedd maith. Brawddeg oeddwn i’n amau y byddwn i’n gallu yngan ambell waith dros y misoedd diwethaf yma. Byw mewn gobaith y bydd popeth yn rhedeg yn llyfn.
Ffeithluniau defnyddiol
Rheoliadau COVID-19
Yn anffodus, mae’n rhaid i ni ddechrau gyda’r difrif a thrafod y mesurau Covid-19 sydd wedi’w cyflwyno er mwyn ceisio sicrhau y gall y ras gael ei chynnal a chael ei gorffen.
Dyma rai ohonyn nhw:
Os oes dau reidiwr o un tim un ai‘n profi’n bositif am Covid neu’n honni’n gryf bod ganddynt symtomau o’r haint, bydd y tim cyfan yn cael ei dynnu allan o’r Tour.
Bydd unrhyw reidiwr sydd a symtomau neu’n profi’n bositif yn gorfod gadael y ras
Gall unrhyw un sy’n dod yn agos at reidiwr neu aelod staff sy’n profi’n bositif gael eu tynnu allan o’r Tour a wynebu pythefnos mewn cwarantin
Y cysyniad swigod yn hollbwysig, hyd at 30 mewn tim - gan gynnwys reidwyr a staff, Cadw o fewn y swigen yn y gwestai ac ar ol rasio
Profi pawb ar y ddau ddiwrnod gorffwys (Medi 7fed a Medi 14eg)
Bydd gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ym mhobman gan aelodau staff a chefnogwyr
Fodd bynnag, rhaid cofio fod y Tour eleni yn cael ei chynnal yn Ffrainc sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion - ac mai’r llywodraeth sydd gan y gair olaf.
Y cwrs
Byddech chi'n taeru wrth edrych ar y cwrs fod hwn wedi'i ddylunio ar gyfer buddugoliaeth i Ffrancwr. Mae'n rhywbeth sydd heb ddigwydd ers 1985 ac mae'n amlwg fod y trefnwyr yn teimlo dyletswydd i chwarae rhan yn darparu hynny.
Gyda chymaint o gymalau mynyddig a bryniog a'r diffyg cilomedrau yn erbyn y cloc, mae'n gweddu at y dringwyr heb os nac oni bai. Mae'r ras yn erbyn y cloc yn ddringfa i gopa La Planche des Belles Filles, felly mae unrhyw fantais sydd gan reidiwr dros reidiwr arall yn erbyn y cloc yn cael ei leihau neu'n ddibwys. Mae hyn wedi cael ei adlewyrchu eisoes yn y reidwyr sy'n cymryd rhan - ac yn ffactor bwysig i benderfyniad Ineos i beidio a chynnwys Geraint Thomas a Chris Froome yn eu carfan.
Mae'r Grand Depart yn cael ei gynnal yn Nice eleni a'r tri chymal cyntaf yn yr ardal. Dylai'r cymal cyntaf weddu i'r gwibwyr, ac mae'r cymal dringo cyntaf yn dod mor gynnar a chymal 2. Dyma gyfle i ymosodiadau a dihangiadau llwyddiannus ac mae'n debygol y gwelwn ni'r ffefrynnau yn ennill a cholli eiliadau gwerthfawr. Mae cyfleon eraill i'r gwibwyr ar cymal 3, 5 a 7 ond fel arall, mae'r naw diwrnod cyntaf yn sicr o chwarae rhan hollbwysig yng nghanlyniad y ras. Daw'r cymal diweddglo copa cyntaf ar cymal 4 a'r ail ar cymal 6, cyn taro'r Pyrenees mor fuan a chymal 8 a 9 lle bydd disgwyl dylanwad mawr ar y ras yn ei chyfanrwydd. Dyma'r ail flynedd yn olynol lle mae'r Pyrenees wedi dod cyn yr Alpau, ac os oedd hynny'n gatalydd allweddol i gyffro llynnedd, 'den i'n paratoi am gracar o Tour.
Wedi'r diwrnod gorffwys cyntaf ar ddydd Llun y 7fed o Fedi, bydd y ras yn symud o'r gorllewin i'r dwyrain dros yr wythnos. Cawn ddeuddydd i'r gwibwyr cyn cymal sy'n gweiddi allan am ddihangiad llwyddiannus - yr hiraf yn y ras (218km) - ar cymal 12. Mae'r diweddglo'n berffaith ar gyfer puncheurs felly gwyliwch allan am reidwyr fel Julian Alaphilippe. O bopty i gymal i'r gwibwyr ar cymal 14, mae dau cymal mynyddig. Ar cymal 13 fe all ddihangiad lwyddo, ond mae'n sicr y bydd brwydr fawr rhwng y ffefrynnau ar y Grand Colombier ar cymal 15 - lle ennillodd Primož Roglič yn y Tour de l'Ain yn ddiweddar.
Ar ôl yr ail ddiwrnod gorffwys, byddwn yn paratoi'n hunain ar gyfer y drydedd wythnos lle dylen ni weld tân gwyllt a phenderfynu neu gadarnhau'r DC terfynol. Mae cymal 16 yn fynyddig ond mae'n bosib y bydd y ffefrynnau'n fodlon gadael i ddihangiad fynd (er gwaethaf ei hyd cymharol fyr o 164km) yn sicr wrth ystyried pwysigrwydd y diwrnod canlynol. Cymal y frenhines, dros y Col de la Madeleine ac yna diweddglo copa i bwynt uchaf y ras (2,304m; gwobr Henri Desgrange i'r cyntaf dros y llinell) ar y Col de la Loze. Ar cymal 18, bydd hi'n frwydr ymysg grwp dethol o ffefrynnau ar y disgyniad i'r llinell derfyn wedi diwrnod mawr yn yr Alpau (Cormet de Roselend, Col des Saisies, Col des Aravis, Col des Glieres), cyn cymal i'r gwibwyr ar cymal 19. Ar y cymal olaf ond un bydd y frwydr olaf am y fuddugoliaeth yn y REC i La Planche des Belles Filles, a byddwn ni'n gwybod bryd hynny pwy fydd yn camu i ris ucha'r podiwm ar ddiwedd cymal orymdeithiol i'r Champs Elysees yn Paris.
Bydd manylion pellach gymal wrth gymal, yn cael eu hychwanegu'n raddol yn yr wythnos nesaf ar bit.ly/TDFyddwyolwyn.
Y gwibwyr
Er gwaetha'r cwrs sy'n llawn o gymalau bryniog a mynyddig lle nad oes gan y gwibwyr gobaith, mae 'na wyth neu naw cymal sy'n berffaith ar gyfer brwydr rhwng y dynion cyflym.
Y ddau brif ffefryn ar gyfer y cymalau hyn yw pencampwr yr Iwerddon Sam Bennett (Deceuninck-Quickstep) a'r Awstraliad Caleb Ewan (Lotto Soudal). Y naill gyda thren cryf sy'n cynnwys Shane Archbold ac eisoes wedi cipio dwy fuddugoliaeth ers i'r tymor ail-ddechrau, un yn Burgos ac un yn Wallonie; a'r llall hefyd wedi ennill cymal yn Wallonie yn yr wythnos ddiwethaf. Wedi canlyniadau ardderchog yn ddiweddar yn Strade Bianche, Milano Sanremo a'r Critérium du Dauphiné, dylid ystyried Wout van Aert (Jumbo Visma) ar yr haen yma heb os nac oni bai.
Yn eu herbyn mae'r Eidalwyr Elia Viviani (Cofidis), sydd eto i ennill yn y flwyddyn galendr; Giacomo Nizzolo (NTT), sydd wedi cael tymor cadarnhaol hyd yma gan gynnwys buddugoliaeth ym mhencampwriaethau'r wlad heddiw; a Matteo Trentin (CCC) sydd heb ddangos ei wir allu eto eleni. Ni allwn feiddio ag anghofio brenin y crys gwyrdd dros y blynyddoedd diwethaf, Peter Sagan (Bora-Hansgrohe), ond mae o'n un arall sy'n cyrraedd y Tour yn waglaw o ran buddugoliaethau.
Yn ogystal, bydd pencampwr y byd presennol Mads Pedersen (Trek-Segafredo) yn hynod awyddus i gipio cymal o'r Tour tra'n gwisgo crys yr enfys. Bydd ganddo gefnogaeth gan Jasper Stuyven ac Edward Theuns, sydd hefyd a'r cyflymdra i gipio buddugoliaeth mewn gwib. Ymysg y gwibwyr mwy profiadol fydd yn ceisio ychwanegu buddugoliaethau pellach at eu palmares mae Alexander Kristoff (UAE Team Emirates), John Degenkolb (Lotto Soudal) a Sonny Colbrelli (Bahrain McLaren).
Reidwyr i'w gwylio
Cyn i ni sôn am y ffefrynnau ar gyfer ennill Le Tour de France 2020 (h.y. y dosbarthiad cyffredinol), dwi am fwrw golwg dros rai enwau dylech chi wylio allan amdanyn nhw - rhai sydd ddim yn ffitio dan y categori gwibwyr na'r categori ffefrynnau.
I ddechrau, mae Julian Alaphilippe. Bydd rhai ohonoch efallai'n synnu nad ydw i wedi'i gynnwys ymysg y ffefrynnau yn enwedig o gofio iddo dreulio pythefnos gyfan yn y crys melyn y llynnedd a gorffen yn 5ed yn y dosbarthiad cyffredinol. Mae wedi dweud mai'r Tour yw'r targed mawr ar gyfer 2020, ond fwy na thebyg yn yr ystyr i chwilio am fwy o gymalau.
Cadwch lygad allan am Richard Carapaz fydd yn gobeithio cael ei esgusodi o rôl domestique i Egan Bernal gan dîm Ineos a chael y cyfle i fynd am fuddugoliaethau cymalau. Ennillodd ar ddiweddglo allt cymal 3 Tour de Pologne, a bydd yn sicr o uwcholeuo cymal 12 fel cyfle i serennu.
Un sydd wedi dangos ei awch i ymosod eleni yn barod yw Pierre Latour ddihangodd yn sialens Ventoux. Bydd Pello Bilbao yn awyddus i gamu 'mlaen o'i 2il gafodd ar cymal y llynnedd, a pheidiwch a synnu gweld Jesus Herrada yn rhan o ymosodiadau a dihangiadau. Tîm llawn gobeithion am gymalau yw Mitchelton-Scott, sy'n ymrwymo Mikel Nieve, Adam Yates ac Esteban Chaves yn yr ymgyrch am fuddugoliaethau. Bydd reidwyr megis Kenny Elissonde, Toms Skujins, Hugh Carthy, Warren Barguil a Nicolas Roche yn awyddus i gipio buddugoliaeth, ac rydyn ni 'gyd yn edrych ymlaen i wylio campau'r bytholwyrdd Thomas de Gendt gyda'r label 'tête de la course' nesaf i'w enw.
O ran reidwyr ifanc fydd yn awyddus i fod yn y dihangiad er mwyn chwilio am gymalau, yn eu mysg mae Lennard Kamna ennillodd gymal 4 yn y Dauphine, Sergio Higuita ennillodd gymal yn y Vuelta llynnedd a David Gaudu fydd yn gobeithio am ryddid ac yntau'n gadfridog pwysig i Thibaut Pinot.
Y ffefrynnau
Rhagolwg o'r prif reidwyr fydd yn herio am y crys melyn eleni, wedi'w graddio o bum seren lawr i un seren yn ôl eu gobeithion/y tebygolrwydd o ennill.
Yr hyn rydym ni wedi'i weld hyd yma ers ail-ddechreuad y tymor yw brwydr rhwng dau drên mynydd Jumbo Visma ac Ineos a gweddill y ffefrynnau'n methu ymosod gan fod y tempo mor uchel. Jumbo sydd ar y droed flaen ar hyn o bryd, a hwythau wedi darparu buddugoliaethau i Roglič. Cawn weld os mai dyma fydd prif naratif y Tour eleni.
⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️
Primož Roglič
Primoz Roglic yw'r reidiwr diwethaf i ennill Grand Tour yn sgîl Covid-19, a hynny yn La Vuelta a Espana ddiwedd y llynnedd. Mae o wedi edrych yn oruchafol o gryf yn y Tour de l'Ain gan orffen yn 2il, 1af a 1af yn y cymalau ac ennill y dosbarthiad cyffredinol, ac yng nghymalau cynnar y Critérium du Dauphiné cyn iddo orfod gadael y ras wedi damwain. Bydd ganddo gefnogaeth heb ei ail gan ei dîm, er gwaethaf colli Steven Kruijswijk i anaf, yn enwedig y reidiwr ifanc Sep Kuss fydd yn allweddol iddo. Fodd bynnag, ydi Roglič wedi cyrraedd ei 'peak' yn rhy fuan? A fydd o'n gallu cynnal y coesau sydd ganddo tan y drydedd wythnos?
Egan Bernal
Wedi i Geraint Thomas a Chris Froome gael eu halltudio o garfan Ineos, bydd y garfan yn rhoi popeth y tu ôl i Egan Bernal. Mae cwestiynau wedi eu codi o dactegau Ineos yn Ain a'r Dauphiné a'u bod wedi llosgi'i matsys yn rhy fuan a gadael Bernal wedi'i ynysu i gryfder Roglič a Jumbo. Dydi Bernal heb guro Jumbo a Roglič hyd yn hyn a bu gorfod iddo adael y Dauphiné gydag anaf oedd ddim rhy ddifrifol, ond hyd yn oed cyn hynny doedd o ddim yn ymddangos ar ei orau - mi gollodd o'r olwyn ambell waith. Fodd bynnag, Bernal yw'r unig reidiwr ar y llinell ddechrau sydd wedi ennill y Tour yn y gorffennol, ac mae o'n rhan o dîm sydd wedi ennill y 7 o'r 8 Tour diwethaf.
⭐️⭐️⭐️⭐️
Thibaut Pinot
Gobaith gorau Ffrainc ers blynyddoedd lawer yw Thibaut Pinot, ond ydy'r pwysau mawr hwnnw ar ei ysgwyddau'n gyfrifol am iddo foddi wrth ymyl y lan sawl tro a thorri calon cenedl a chefnogwyr? Roedd o reit 'fyny gyda'r gorau yn y Tour llynnedd cyn gorfod gadael y ras gydag anaf ar cymal 20 wedi iddo ddod, ynghyd â Julian Alaphilippe, â chynnwrf i'r genedl a thanio gobaith o'r newydd am eu llwyddiant cyntaf yn y ras ers 1985. Yn y Dauphiné, roedd o'n ymddangos fel y gorau o'r gweddill tu ol i Roglič yn y cymalau cynnar, ond colli'r cyfle i ennill ar y diwrnod olaf wrth i Dani Martinez fod yn y dihangiad a chipio'r crys melyn o'i afael. Mae gobaith gwirioneddol ynghylch Pinot eleni, ond ai torcalon a boddi wrth ymyl y lan fydd ei hanes unwaith eto?
Nairo Quintana
Wedi ambell i flwyddyn rwystredig ac aflwyddiannus gyda Movistar, mae hi wedi bod yn bleser gweld adfywiad Nairo Quintana eleni yn lifrai Arkea Samsic. Wedi buddugoilaethau a pherfformiadau gwych ddechrau'r flwyddyn yn Tour des Alpes Maritimes et du Var, Tour de la Provence a Paris-Nice, roedd ambell un yn rhagweld bod Quintana 'nôl i'w orau ac yn barod i herio go iawn am y Tour eleni. Fodd bynnag, cafodd anaf i'w benglin mewn damwain tra'n hyfforddi adref yng Ngholombia sydd wedi effeithio arno rywfaint er gwaethaf perfformiadau cadarnhaol yn y Tour de l'Ain a'r Dauphiné, ond croesi bysedd y bydd yn holliach ar gyfer taclo'r Tour.
Emanuel Buchmann
Flwyddyn diwethaf, gorffennodd Emanuel Buchmann yn 4ydd yn Le Tour heb fawr ddim sylw a llwyddodd i guddio'i hun rhag y pennawdau. Fodd bynnag, fydd hynny ddim yn cael digwydd eleni a bydd hi'n ddiddorol iawn gweld sut y bydd Buchmann yn reidio - a fydd o'n fwy ceidwadol fel llynnedd neu'n awyddus i ymosod er mwyn datblygu ar y 4ydd llynnedd a gwthio am y podiwm? Yn y Dauphiné, fo a Pinot oedd y gorau o'r gweddill tu ôl i Roglič ond bu rhaid iddo adael y ras wedi codwm ar y disgyniad drwgenwog o'r Col de Plan Bois. Ond mae'n ymddangos nad oedd yr anaf yn rhy ddrwg, ac yntau'n hyfforddi yn y dyddiau canlynol.
⭐️⭐️⭐️
Tom Dumoulin
Wedi dros i 400 o ddiwrnodau heb rasio, mae Tom Dumoulin yn reidiwr sy'n amlwg yn gwella'n raddol yn barod i daclo'r Tour ar ei orau. Mae'n hyderus ei fod yn gallu ennill y Tour, ond eleni mae'n bosib fod y diffyg cilomedrau yn erbyn y cloc yn mynd i chwarae yn ei erbyn. Fodd bynnag, mae'r tîm ganddo ac os y cai arweinyddiaeth ddwbl gyda Roglič mae'n sicr yn gallu ennill eleni.
Guillaume Martin
Reidiwr sydd wedi gwneud yn wych yn ddiweddar yw'r Ffrancwr Guillaume Martin, sydd â gradd meistr mewn athroniaeth. Gorffennodd yn drydydd yn y DC yn y Dauphine ac mi roedd o'n ymddangos yn hyderus a chyfforddus iawn ymysg y ffefrynnau ar y mynyddoedd. Un fydd yn sicr yn gobeithio am berfformiad cadarnhaol a gwthio am y podiwm.
Mikel Landa
Un arall fu'n rhwystredig iawn yn nhrefn tîm Movistar yw Mikel Landa. Roedd gorfod iddo weithio dros eraill yn Sky, a'r gystadleuaeth o fewn y tîm yn Movistar yn rwystr i'w ryddid i ddangos ei allu a mynd amdani yn y Tour. Ond eleni dan arweiniad Bahrain-McLaren a Rod Ellingworth mae'n un arall sydd wedi adfywio. Roedd yn ail ond i Remco Evenepoel yn Burgos ac atgyfnerthodd y perfformiad cryf hwnnw yn y Dauphiné.
Dani Martinez
Y reidiwr ifanc sydd wedi reidio dan gysgod ei gyd-Golombiad ifanc Sergio Higuita mewn gwirionedd yn EF Pro Cycling gymrodd ei gyfle yn y Critérium du Dauphiné a chipio buddugoliaeth ddramatig. Llwyddodd i aros gyda'r grŵp blaen o ffefrynnau am y rhan helaeth ar y mynyddoedd mawrion, cyn dianc ar y cymal olaf a dwyn y crys melyn o grafangau Thibaut Pinot. Efallai nad eleni yw'i flwyddyn i ennill y Tour, ond bydd yn gobeithio gwneud cam pwysig tuag at hynny yn ei ymddangosiad cyntaf yn y ras.
⭐️⭐️
Bauke Mollema
Reidiwr profiadol sy'n reidio'n geidwadol ac yn aml yn gyndyn i ymosod a reidio mewn modd mwy ffrwydrol fel rhai o'i gystadleuwyr eraill. Ac yntau'n 33 oed bellach, mae amser yn rhedeg allan iddo gyrraedd y pump uchaf a hithau'n saith mlynedd ers ei ganlyniad gorau yn y ras (6ed).
Miguel Angel Lopez
Mae'n hawdd anghofio bod Miguel Angel Lopez yn dal ond yn 26 oed a'r gorau o'i yrfa'n dal o'i flaen o ystyried y buddugoliaethau cymal gafodd yn y Vuelta yn 2017, a'r podiwm yn y Giro a'r Vuelta yn 2018. Dydy o heb gyrraedd yn agos at y coesau hynny hyd yn hyn y tymor yma ond rhaid cofio bod dal digon o amser tan y drydedd wythnos allweddol.
Tadej Pogacar
Reidiwr ifanc greodd gryn argraff yn y Vuelta llynnedd, gan orffen yn drydydd yn ei Grand Tour cyntaf. Mae wedi atgyfnerthu hynny eleni gyda buddugoliaeth yn Volta Valenciana, ail yn nhaith EAU, pymtheg uchaf yn Sanremo a Strade Bianche, a phedwerydd ar y dosbarthiad cyffredinol yn y Critérium du Dauphiné. Rydym yn disgwyl campau mawr gan y seren ifanc yma o Slofenia yn y mynyddoedd mawrion.
Richie Porte
Reidiwr sy'n sicr yn hydref ei yrfa erbyn hyn ac yntau'n 35 oed ac wedi aberthu'i yrfa gyfan bron yn gweithio dros eraill. Dangosodd bod y coesau'n dal i fod ganddo yn sialens Ventoux ond methu ag ailadrodd hynny yn y Dauphiné. Pleser fyddai gweld Porte yn brwydro gyda'r goreuon eleni am y safleoedd uchaf.
⭐️
Pavel Sivakov
Reidio dan gysgod yr arweinydd Bernal fydd Pavel Sivakov mae'n debyg, ond os y caiff o ryddid mae wedi dangos yr hyn mae'n gallu ei wneud eisoes yn y Route d'Occitanie ac yn y Dauphine. Wedi siomedigaeth yn y Giro llynnedd, dyma gyfle gwirioneddol i ddringo ysgol y Grand Tours.
Romain Bardet
Wedi iddo orffen ar y podiwm yn 2016, dydy Romain Bardet heb lwyddo i gyrraedd yr uchelfannau hynny ac mae wedi gorfod addasu yn sgil hynny. Ennillodd y crys polca llynnedd, a dyma'i flwyddyn olaf gydag AG2R La Mondiale cyn symud i Sunweb flwyddyn nesaf, felly a fydd hi'n ffarwel gyfiawn?
Enric Mas
Ar ôl rhyfeddu pawb drwy orffen yn ail yn La Vuelta a Espana yn 2018, roedd disgwyliadau mawr am y Sbaenwr. Fodd bynnag, dydy o heb lwyddo hyd yn hyn i wireddu'r gobeithion hynny ond ac yntau'n 25 oed bellach, mae'n agosau at y rhan hynny o'i yrfa lle mae'n gallu datblygu i orau'i allu.
Fabio Aru
Ni lwyddodd Fabio Aru i gyrraedd yr uchelfannau gyrrhaeddod yn 2017, ond wedi diagnosis oedd yn esbonio hynny, mae'n gobeithio y gall ddod 'nôl i frwydro'n erbyn y reidwyr cryfaf eleni.
Darogan
Mae 'marn i'n newid bron yn ddyddiol ynghylch pwy sydd am ennill y Tour eleni. Mae'n ras lle mae'r ffefrynnau un ai'n ifanc gyda dyfodol disglair o'u blaenau - fel Bernal, Sivakov, Pogacar a Martinez - neu o gwmpas y 30 oed, yr oed mae nifer o'r ennillwyr diwethaf wedi llwyddo - fel Dumoulin, Pinot, Quintana, Roglic a Landa. Mae 'na ambell un rhwng y ddau begwn fel Buchmann a Lopez tra bo eraill y tu hwnt i'r 30 fel Mollema a Porte. Mae'r ystod eang yma'n gynhwysyn pwysig yn y Tour yma sy'n mynd i fod mor agored ag erioed.
Rhaid i mi ddweud, byddwn i wrth fy modd yn gweld un ai Thibaut Pinot neu Nairo Quintana yn ennill eleni. Pinot i ddod a dathlu hir ddisgwyliedig i'r Ffrancwyr a Nairo i newid anlwc yn orfoledd.
Fodd bynnag, dwi'n darogan mai Tom Dumoulin fydd yn ennill Le Tour de France 2020.
Gadewch i mi wybod pwy 'dech chi'n meddwl sy'n mynd i ennill y Tour eleni drwy adael sylwad isod.
Diolch am ddarllen y rhagolwg hir yma, a gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r arlwy sydd o'n blaenau gan groesi'n bysedd wrth gwrs y bydd popeth yn ddi-ffwdan.
Comments