Byddai nifer helaeth o bobl yn dadlau mae’r ras yma yw’r anoddaf ar y calendr seiclo proffesiynol, a dim syndod y cyfeirir ato fel 'Uffern y Gogledd' (The Hell of the North).
Ddydd Sul, bydd clasur undydd Ffrainc yn cael ei gynnal ar y coblau eiconig.
Ond yn gyntaf, dyma olwg sydyn yn ôl ar De Ronde van Vlaanderen wythnos diwethaf.
Adolwg sydyn: De Ronde van Vlaanderen
Alberto Bettiol (EF Education First) oedd ben ac ysgwyddau yn gryfach na gweddill y pac yn nhaith Fflandrys wythnos diwethaf, gyda’i ymosodiad hwyr ar y par o ddringfeydd olaf - y Kwaremont a’r Paterberg - yn ddigon iddo sicrhau ei fuddugoliaeth broffesiynol gyntaf.
Roedd clôd enfawr i Mathieu van der Poel wedi iddo ddod ‘nôl o ddamwain i orffen yn bedwerydd - tra roedd ffefrynnau, megis Luke Rowe a Zdenek Stybar, wedi chwythu’n gynnar.
Roedd diffyg cydweithio yn y prif bac - Sagan, Kristoff, GVA, WVA ayyb - yn gostus i’r ffefrynnau hyn wrth i Bettiol gael rhediad ddigon rhwydd i’r llinell.
-
Ond dan sylw heddiw, mae Paris-Roubaix. Dyma ragolwg o ras sy’n un agored tu hwnt unwaith eto.
Y Cwrs
Yn wahanol i De Ronde van Vlaanderen wythnos diwethaf, maent yn graddio sectorau o grynfeini (coblau) yn hytrach na’r dringfeydd.
Caent eu graddio â sêr - o 1, hawsaf, a 5 ,anoddaf. Mae tri sector o grynfeini (pavé) sydd wedi’u graddio â phum seren yn y ras, ac felly gallem ddisgwyl iddynt siapio’r canlyniad.
Trouée d’Arenberg (2.3km): Dyma’r sector goblog mwyaf eiconig yn hanes y ras yma — mae’n debygol o rwygo’r ras er iddo fod bron i gan cilomedr o’r llinell derfyn.
Mons-en-Pevele (3km): Yma, bydd y ras yn poethi gyda llai na 50km i fynd.
Carrefour de l’Arbre (2.1km): Mae’n bosib mai yma y bydd yr ymosodiad tyngedfennol, gyda’r sector fileinig yma’n dod oddeutu pymtheg cilomedr o’r velodrome yn Roubaix.
Y ffefrynnau
Gallem ddisgwyl dihangiad cynnar unwaith eto - ac mae un o'r grwp hwnnw'n dueddol o lwyddo; gweler Silvain Dillier (2il y llynnedd) a Mat Hayman (ennillydd 2016).
Ond mae 50% o'r deg pennod ddiwethaf o Paris-Roubaix wedi eu hennill o ymosodiadau unigol, gyda'r gweddill yn dod o grwpiau o rhwng 2 a 6 reidiwr.
Nid ras i wibwyr yw hi felly, ond mae cyflymder ar ddiwedd y ras yn gallu bod yn hollol allweddol.
Mae'n ras agored iawn eleni, a does dim ffefryn clir.
EF Education First: Er i nifer beidio ag ystyried y tim yma'n rhy ddwys cyn De Ronde ddydd Sul diwethaf, roeddent yn oruchafol o gryf gan ddod a buddugoliaeth i Bettiol a pherfformiadau cadarnhaol iawn gan Sep Vanmarcke a Sebastian Langeveld. Yn absenoldeb Bettiol, bydd gobaith y tim ar ysgwyddau'r ddau yma ynghyd a Taylor Phinney, sydd wedi targedu'r ras hon ers peth amser.
Peter Sagan: Serch rhediad go siomedig hyd yma eleni, ni allem ddiystyrru pencampwr y llynnedd sef Peter Sagan. Mi fydd yn awyddus i amddiffyn ei deitl, ond bydd angen iddo roi o'i orau a dod a pherfformiad llawer iawn gwell na rasys canlynol os yw am gael unrhyw obaith o gipio'r teitl.
Greg van Avermaet: Mae'r reidiwr o dim CCC yn darganfod bod diffyg tim cryf yn achosi trafferth iddo yn y clasuron. Mae'n bell i ffwrdd o'r rhediad gafodd cyn ennill yma yn 2017.
Wout van Aert: Beiciwr ifanc fyddai, ar ei ddydd, yn gallu cipio'r fuddugoliaeth yma heb amheuaeth. I ychwanegu at hynny, nid yw ei elyn pennaf, Mathieu van der Poel, yn y ras, felly cyfle perffaith iddo serennu ar y lefel uchaf.
Deceuninck QuickStep: Bydd y tim o wlad Belg yn ceisio rhoi De Ronde van Vlaanderen i'w anghofio y tu ol iddynt, er gwaethaf 2il gan Kasper Asgreen. Fodd bynnag, mae'r ras yn un sy'n addas i Zdenek Stybar yn bennaf, ond mae o, yn ogystal a Philippe Gilbert, wedi gorfod delio a salwch. Efallai mai gobaith gorau'r tim, felly, yw Yves Lampaert - sydd wedi gorffen yn y deg uchaf yn y gorffennol.
Oliver Naesen: Naesen yw reidiwr cryfaf AG2R La Mondiale yn y ras yma ac mae'n hyderus wrth fynd i fewn i'r ras. Mae'r tim hefyd yn gallu gobeithio am berfformiad cryf gan Silvan Dillier, oedd y ail llynnedd, a Stijn Vandenburgh yn ogystal.
Trek Segafredo: Unwaith yn rhagor, mae Trek-Segafredo'n hawlio un o dimau cryfaf y ras - ond mae eu tactegau'n siomedig. Mae John Degenkolb yn gyn-ennillydd, tra bo Jasper Stuyven, Mads Pedersen ac Edward Theuns hefyd yn abl o herio'r fuddugoliaeth.
Nils Pollitt: 'Outside bet' yn unig yw Nils Politt, ac hefyd Jens Debusschere, o dim Katusha-Alpecin. Fodd bynnag, gorffennodd Politt yn bumed yn Fflandrys wythnos diwethaf ac ni allem ei ddiystyrru.
Luke Rowe: Mae'r Cymro wedi bod yn targedu'r ras hon ers blynyddoedd, a dyma'i obaith orau hyd yma. Bydd angen iddo reidio'n fwy tactegol nag y gwnaeth yn Fflandrys a Gent-Wevelgem, ond mae'r rasys cynhesu hynny wedi bod yn hollbwysig iddo. Bydd Sky hefyd yn gobeithio am berfformiadau cryf gan Dylan van Baarle a Gianni Moscon.
Tiesj Benoot: Byddwn i wrth fy modd yn gweld y Belgiad ifanc yn cipio'r fuddugoliaeth yma wedi iddo berfformio mor gryf yn y rasys blaenorol.
Alexander Kristoff: Mae wedi edrych yn hynod o gryf cyn y ras yma, a chredaf ei bod yn bosib iawn mai o fydd yn croesi'r llinell derfyn yn y velodrome yn gyntaf.
***
Zdenek Stybar, Peter Sagan, Greg van Avermaet, Wout van Aert, Sebastian Langeveld
**
Tiesj Benoot, John Degenkolb, Alexander Kristoff, Luke Rowe, Nils Pollitt, Oliver Naesen, Taylor Phinney, Yves Lampaert
**
Matteo Trentin, Danny van Poppel, Philippe Gilbert, Dylan van Baarle, Jasper Stuyven, Sep Vanmarck, Jens Keukeleire, Matej Mohoric, Edvald Boasson Hagen, Arnaud Demare, Jens Debusschere, Kasper Asgreen
Rhagfynegiad
Fel y gweloch, mae'n ras wirion o agored eleni, ond dwi'n rhagfynegi/gobeithio mai Tiesj Benoot fydd yn fuddugol.
Comments