Wedi ambell i gymal ddigon diflas, a bod yn onest, ffrwydrodd y ras ddoe gyda chymysgedd o fryniau, croeswyntoedd ac esielonau.
Gyda Vent d'Autan yn chwythu'i groes-sgilwynt (cross-tailwind) a Bora-Hansgrohe yn gwthio tempo cryf iawn dros Peter Sagan ar y blaen, daeth rhwygiadau mawr yn y peloton gan adael nifer wedi'i dal allan ar y bryniau rhwng Millau a Lavaur. Diystyriwyd rhai o'r gwibwyr megis Nizzolo, Bennett ac Ewan yn fuan, a chollodd rhai o'r ffefrynnau megis Tadej Pogacar a Mikel Landa amser.
Mae'r drafodaeth dros gyffro mewn rasys wedi'i chodi eto. Does dim ots faint mae'r trefnwyr yn geisio'i wneud - rhoi cymalau mynyddig yn yr wythnos gyntaf neu gynnig eiliadau bonws ar ddringfeydd - cawn ein hatgoffa unwaith eto nad ydyn ni'n ddim byd o'i gymharu a byd natur. Byddai nifer fawr yn dadlau fod cymal yn y croeswyntoedd yn fwy cyffrous na chymal mynyddig.
Wedi symud i'r gorllewin o'r Alpes-Maritimes i Hautes-Alpes ac yna 'mlaen i'r Massif Central ac Occitanie, bydd y ras yn treulio penwythnos yn y Pyrénées, lle gallwn ddisgwyl mwy o dan gwyllt - yn enwedig ymysg ffefrynnau'r dosbarthiad cyffredinol.
Dyma ragolwg o'r hyn sy'n addo i fod yn ardderchog i'w wylio.
Cymal 8: Dydd Sadwrn, 5ed o Fedi
Bydd y reidwyr yn dechrau yn ardal Haute-Garonne a phlwyf Cazeres, gyda'r 50km agoriadol yn weddol wastad a chyflym - a chyda'r wib ganolog yn dod wedi 42.5km bydd y peloton yn gyndyn o adael i ddihangiad fynd.
Yna, daw'r gyntaf o'r drindod fynyddig sy'n ein haros. Dydy'r Col de Menté ddim yn hir (7km) ond mae'n weddol serth ar 8% - hynny'n nodweddiadol o ddringfeydd y rhanbarth. Annhebygol o gael unrhyw effaith ar ganlyniad y ras, ond gallwn ddisgwyl bydd brwydr am bwyntiau i ddosbarthiad y crys polca.
Wedi chyfnod o oriwaered a reidio ar y gwastad bydd y reidwyr yn wynebu ail ddringfa'r dydd - dyma'r anoddaf ohonynt sef y Port de Balès, gan ddringo ar bron i 8% am bron i 12km.
Gyda'r copa'n dod 35km o'r diwedd, gallwn obeithio am rywfath o gyffro ar y ddringfa hon gyda reidiwr anturus yn ceisio torri'n rhydd o afael y peloton. Mae'r mannau sydd wedi'i marcio'n ddu ar y proffil uchod fel rheol yn gyfleon gwych am ymosodiadau o'r math yma, a'r cynydd sydyn yn y graddiant yn siwtio nifer o ddringwyr pur. Mae proffil y Port de Bales yn debyg i risiau, gyda chyfnodau yn y du rhwng cyfnodau coch a glas.
Wedi disgyniad 7km i Saint Aventin, bydd dringfa'r Col de Peyresourde yn sicr o fod yn leoliad lle rydym yn disgwyl i'r ras ffrwydro. Mae'r rhan helaeth o'r ddringfa yn y coch sy'n dynodi tua 8% ac mae'r math yma o raddiant yn berffaith ar gyfer brwydr ymysg ffefrynnau'r DC.
Ond yn fwy na hynny, mae'r trefnwyr wedi ceisio rhoi cymhelliant ychwanegol iddynt gan roi eiliadau bonws ar y copa ar gyfer y dosbarthiad cyffredinol. Mae'n bosib iawn y gwelwn ni reidiwr yn ymosod i gasglu'r eiliadau bonws cyn rasio 'lawr y disgyniad i'r diwedd yn Loudenville.
Mae angen i ennillydd cymal heddiw allu trin y goriwaered yn grefftus. Reidiwr sy'n dod i'r meddwl yn syth yw Primoz Roglic ac yntau wedi ennill cymal o'r math yma yn 2018. Fwy na thebyg, bydd y disgyniad cyn bwysiced a'r ddringfa - gyda bylchau'n ymddangos rhyngddynt ar y ddau.
Cymal 9: Dydd Sul, 6ed o Fedi
Efallai nad yw'r mynyddoedd yma mor fawr a'r diwrnod blaenorol ar cymal 9 o Pau i Laruns, ond mae'n sicr o gael cystal pwysigrwydd.
Wedi agoriad ddigon gwastad o ryw 55km sy'n cynnwys un ddringfa 2.3km gat 4 o fewn y deng cilomedr cyntaf. Ar ol hynny, mae par o ddringfeydd sef Col de la Hourcere (11km ar 9%) cyn Col de Soudet (4km ar 8.5%) gyda'r ail ohonynt yn dod 75km o'r llinell derfyn.
Yna, cawn ddisgyniad reit hir i'r wib ganolog yn Arette, fydd fwy na thebyg yn mynd i'r dihangiad, cyn Col d'Ichere (cat 3) sy'n ddechreufwyd ar gyfer y prif ddigwyddiad, sef Col de Marie Blanque.
Mae'r hanner cyntaf yn weddol syml, gyda'r graddiant yn cadw dan 6% am y 3km cyntaf cyn codi i 7.4% ar cilomedr 4. Fodd bynnag, mae'r ail hanner yn serth gydag un o'r cilomedrau gyda graddiant cyfartalog o 13.6%. Gwedda hyn yn berffaith i ddringwyr pur megis Quintana, Pinot ayyb.
Unwaith eto, mae'r trefnwyr wedi ceisio temptio'r reidwyr i ymosod gydag eiliadau bonws ar copa'r Marie-Blanque cyn disgyniad o ryw 20km i'r diwedd yn Laruns.
Deuddydd sy'n argoeli i fod yn wych yn Le Tour de France ac mae'r cwrs yn berffaith ar gyfer y cyffro sydd ei angen ar y ras - ond cofier mae'r reidwyr sy'n gwneud ras ac nid y cwrs!
Son am y reidwyr, dyma sefyllfa'r dosbarthiad cyffredinol cyn penwythnos o frwydro.
Adam Yates (Mitchelton-Scott)
Primoz Roglic (Jumbo Visma) +3"
Guillaume Martin (Cofidis) +9"
Egan Bernal (Ineoa Grenadiers) +13"
Tom Dumoulin (Jumbo Visma) "
Nairo Quintana (Arkea Samsic) "
Romain Bardet (AG2R La Mondiale) "
Miguel Angel Lopez (Astana) "
Thibaut Pinot (Groupama FDJ) "
Rigoberto Uran (EF Pro Cycling) "
Julian Alaphilippe (Deceuninck Quickstep) +15"
Emanuel Buchmann (Bora-Hansgrohe) +22"
Enric Mas (Movistar) "
Alejandro Valverde (Movistar) +34"
Sergio Higuita (EF Pro Cycling) +41"
Tadej Pogacar (UAE Team Emirates) +1'28
Esteban Chaves (Mitchelton Scott) +1'34
Bauke Mollema (Trek Segafredo) "
Mikel Landa (Bahrain McLaren) "
Richie Porte (Trek Segafredo) "
I wylio pob cilomedr, bydd y darllediad yn dechrau ar GCN Race Pass am 12:25 ddydd Sadwrn ac am 11:10 ddydd Sul. Bydd darllediad S4C yn cychwyn am 2 ddydd Sadwrn, ond oherwydd gem bel droed rhwng Cymru a Bwlgaria ni fydd darllediad ddydd Sul. Fodd bynnag, bydd uchafbwyntiau'r rhaglen am 9.
Edrych mlaen yn fawr!
Kommentare