top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Rhagolwg: Tour de France 2023


Mae bron yn ddechrau mis Gorffennaf, sy'n golygu'n bod ni ar drothwy digwyddiad chwaraeon blynyddol mwya'r byd, y Tour de France.


Mi ddylwn i felly fod wedi disgwyl gorfod ysgrifennu cofnod ragolwg yr wythnos hon ond mae cymaint wedi bod ar fy mhlât yn ddiweddar na wnaeth hynny 'nharo fi'n iawn tan yn rhy hwyr. *Estynnwch am y feiolin, neu neidiwch o'r darn yma i fwrw 'mlaen efo'r rhagolwg. Dwi'n gobeithio y gwnewch chi faddau i mi felly nad ydy hwn yn rhagolwg mor swmpus ag y byddech chi efallai'n disgwyl ohonof bellach. Dwi'n cofio gwerthfawrogi'ch sylwadau chi yn dilyn y cofnod hwn y llynnedd - wedi'r cyfan dyma gofnod 'mwya' y blog drwy'r flwyddyn a'r un sy'n bownd o ddenu cynulleidfa - ac un sylw sy'n sefyll allan oedd un gan Elliw Gwawr - "gwell na prynu Cycling Weekly". Dwi'n un sydd bob amser ar drywydd safon - ond mae gen i hefyd olygwedd realistig ar bethau. Felly os rywbeth dwi'n meddwl fod manylder diangen yng nghofnod blwyddyn diwethaf, ac felly gobeithio y bydd 'na'n dal i fod safon yng nghofnod heddiw, hyd yn oed os ydy o'n fwy cryno.


Dwi'n ei chael hi'n anoddach bob blwyddyn i feddwl am ffordd dda o ddechrau'r cofnod sy'n wahanol i'r modd y gwnes i'r flwyddyn flaenorol. Felly yn lle ymdrechu a strachu i feddwl am rywbeth fyddai efallai'n anghydlynus neu'n wastraffus, dwi am gopïo a phastio'r hyn nes i 'sgwennu llynnedd, am ei fod o'n dal i fod yn gyfredol.


"Mae’n anodd crynhoi mawredd y Tour de France mewn geiriau. Pinacl y calendr seiclo, lle mae seiclwyr gorau’r byd yn dod ynghyd i gystadlu, lle mae’r gwobrau’n fwy nag unrhyw le arall. Mae llygaid y byd ar y Tour de France, y digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf yn y byd. Cenhedloedd y byd yn dod ynghyd, a phlethwaith lliwgar o feics, seiclwyr, cefnogwyr gwyllt a brwdfrydig, diwylliant, angerdd, iaith, mynyddoedd a dyffrynoedd, dringfeydd a gwastadeddau. Hynny oll wedi’i gywasgu i dair wythnos.


Does dim byd tebyg iddo’n bod. Mae’r holl beth yn sioe fawr, sy’n gallu teimlo dros ben llestri. Ond eto, rydym ni’n dal i’w garu. Yn methu â thynnu’n llygaid oddi wrtho. A thirwedd a diwylliant Ffrainc yn gefnlen i’r cyfan, yn gefnlen i’r ddrama sy’n deillio o gystadlu brwd ymysg seiclwyr gorau’r byd.


Mae’n apelio at bawb; boed ichi wylio rasio beics bob wythnos, neu unwaith y flwyddyn pan ddaw’r Tour. Mae’n nefoedd i bobl sy’n ymddiddori ym mhob tro o’r pedalau, neu i rai sy’n dymuno bod yn rhan o road trip rownd Ffrainc o’r lolfa.


Dyna’r gobaith o’r rhagolwg hwn hefyd, y prif ragolwg yr ydw i’n ei ysgrifennu cyn y Tour de France bob blwyddyn - apelio at bawb. Y gallwch chi siwper-ffans seiclo ei fwynhau, ac y gallwch chi sy’n ymddiddori’n fwy yn y tirwedd a’r diwylliant ei fwynhau."


Dydy fy nod wrth sgwennu'r blog ddim yn newid o flwyddyn i flwyddyn yn yr un modd nad ydy mawredd y Tour yn newid o flwyddyn i flwyddyn.


Felly amdani, on y va, a dyma ragolwg o Tour de France 2023.


Y Cwrs

Mae’n anodd o bryd i’w gilydd amgyffred gwir faint Ffrainc; o ran ei arwynebedd sydd tua 250,000 milltir sgwâr, mae dros dri deng gwaith maint Cymru. Dyna un ffordd o edrych arni. Ffordd arall o edrych arni fyddai edrych ar fap cwrs y Tour de France eleni. Mae sawl jôc yn cael ei gwneud yn aml am sut y caiff Llydaw ei hanghofio, neu sut y dylai’r cwrs ymdebygu’n fwyfwy at y cwrs a redwyd ym 1921, oedd yn llythrennol yn daith gylch o amgylch Ffrainc. Pe edrychem ar gwrs eleni, gwelem mai Tour de Canolbarth Ffrainc ydyw yn hytrach. Mae’n dilyn llwybr pwynt-i-bwynt i raddau eithaf helaeth, felly mae’n rhyfeddol rywsut cymaint o Ffrainc sydd heb ei chynnwys yn y ras er gwaetha’r 21 o gymalau hirion.


Dwi wedi mynd ar gyfeiliorn cyn cychwyn, ond ta waeth am hynny. 21 o gymalau dros 3,404km, gan gynnwys un ras yn erbyn y cloc, chwech ystod gwahanol o fynyddoedd, ac wyth cymal mynyddig.


Mae’r cyfan yn dechrau ddydd Sadwrn yma, y 1af o Orffennaf, a hynny yng Ngwlad y Basg. Mae’r trefnwyr wedi llwyddo i daro’r cydbwysedd rhwng gallu cychwyn mewn gwlad arall (diwedd y gân yw’r geiniog) heb orfodi cychwyn ddiwrnod ynghynt a diwrnod gorffwys ar ôl tri niwrnod i alluogi teithio. Dwi'n eich annog i ddarllen fy rhagolwg yng Nghylchgrawn Golwg fydd yn y siopau ddydd Iau, pan fyddaf yn mynd dan groen perthynas Gwlad y Basg â byd y beics, a'r berthynas o wrthdaro rhwng y genedl a rasys mwya'r byd seiclo.


Does dim dechrau hawdd i’r peloton mewn taith sy’n cychwyn a gorffen yn Bilbao – 3,300m o ddringo i’w goncro dros sawl dringfa fer ond digon serth hefyd, gan arwain at gyfle euraidd i’r puncheurs ddangos eu doniau a chipio’r maillot jaune cyntaf. Her fymryn yn wahanol sydd y diwrnod canlynol, gyda mwy eto o bwyntiau i’r dosbarthiad mynyddoedd i demtio dihangwyr, a dringfa 8km ddigon heriol o fewn cyrraedd i’r llinell derfyn all greu tân gwyllt tebyg i’r hyn welwn ni yn ras undydd Clasica San Sebastian (yn San Sebastian - Donostia yn Euskara - mae’r cymal hwn yn gorffen). Gan adael Gwlad y Basg ryw 130km mewn i gymal 3, dyma gyfle cyntaf y gwibwyr i serennu, a hynny yn Bayonne. Diwrnod arall o wibio ar gymal 4 i bontio i’r Pyrénées, yn gynnar iawn yn y ras eleni. Pur anaml y bydd y ras yn cynnwys cymal mynyddig mor gynnar â hyn, ond dyna reidrwydd dyluniad y cwrs a lleoliad y Grand Départ. Annhebygol y bydd gwahaniaethau mawr rhwng y prif ffefrynnau ond eto mae’n gyfle i sefydlu hierarchaeth gynnar wrth i’r reidwyr deithio o hoff dref y Tour, Pau, i Laruns dros dair dringfa gategoredig. Bydd y diwrnod canlynol, fodd bynnag, yn fwy o her byth. Ar gymal 6 daw diweddglo copa cynta’r ras, gan ddringo dros enwogion y Pyrénées – y Col d’Aspin a’r Col du Tourmalet - i galon y mynyddoedd cyn cloi yn Cauterets-Cambasque pan fyddo Sbaen draw dros y gorwel. Cymal i’r gwibwyr sydd i ddilyn gan ddilyn yr afon Garonne i Bordeaux, cyn bo digon o waith dringo tua’r diwedd i’w gwneud hi fymryn anos i’r gwibwyr ar gymal 8. I gloi’r wythnos gyntaf daw ei huchafbwynt, wrth i gymal 9 arwain y reidwyr i ail ddiweddglo copa’r ras i Puy de Dôme, dringfa hors catégorie. Digon i demtio’r ffefrynnau a’r dihangiad fel ei gilydd.


Ar y Col du Tourmalet yn 2022


Diwrnod i’r dihangiad fydd i ddechrau’r ail wythnos ar gymal 10 wrth i’r cymal orffen ar y goriwaered yn Issoire, yna bydd diwrnod i’r gwibwyr ar gymal 11 rhwng Clermont-Ferrand a Moulins. Eto, y dihangiad fydd yn awyddus i hawlio’r sylw ar gymal 12 gyda chyfres o ddringfeydd i gynhesu’r coesau cyn diweddglo copa arall y diwrnod canlynol i Grand Colombier. Dringfa hir o 17.4km ar 7% gan esgyn i dros 1,500m; yn uchafbwynt i gymal sy’n gymharol fyr. Tybed a fydd yna stori tylwyth teg i’r Ffrancwyr eleni ar ddiwrnod Bastille. Wrth gyrraedd y penwythnos, bydd y reidwyr yn cyrraedd yr Alpau go iawn. Mae cymal 14 yn gymal mawr gan gynnwys tair dringfa categori un cyn y prif ddigwyddiad, sef y Col de Joux Plane (11.6km ar 8.5%, hors catégorie ac eiliadau bonws) lle bu i Lance Armstrong wegian slawer dydd. O’r copa, bydd y peloton yn mynd i lawr yr ochr arall i Morzine i gloi diwrnod lle gall newidiadau sylweddol ddigwydd. Alpau Savoie ac Haute-Savoie sy’n rhan o’r arlwy unwaith eto ar gymal 15 i gloi’r ail wythnos; ar hyd bryniau ardal heb fod ymhell o Annecy cyn dringo dros gyfres o ddringfeydd categori 1 a chategori 3 – y Forclaz, Croix Fry a’r Aravis, cyn cloi i ddiweddglo copa arall i Saint-Gervais Mont-Blanc a dringfa gategori 1. Romain Bardet oedd yn fuddugol ar gymal tebyg yn 2016, gyda llaw, ac mi gollodd Chris Froome ychydig o amser. Cyfle olaf i wagu’r tanc ar drothwy’r diwrnod gorffwys.

Col de la Forclaz, fy llun i o 2022


Does dim cyfle i gymryd ysbaid wrth ddechrau’r drydedd wythnos a’r reidwyr yn wynebu diwrnod arall o fynyddoedd mawrion yr Alpau, y Col de Saisies a’r Cormet de Roselend yn eu plith, a’r olaf ohonynt fydd y drwgenwog Col de la Loze, sef copa ucha’r Tour eleni. Nid yn aml ydym ni wedi gweld Tadej Pogaçar yn dioddef, ond yn 2020 dyna ddigwyddodd wrth i Primož Roglič ennill pymtheg eiliad arno. Yn hytrach na diweddglo copa fel welwyd bryd hynny, bydd y reidwyr yn mynd i lawr i gyrchfan sgïo pencampwriaethau’r byd eleni, Courchevel, i orffen. Bourg-en-Bresse fydd lleoliad diwedd cymal 18 a chyfle yn fanno i’r gwibwyr, a chyfle cyffelyb iddynt yn Poligny ar gymal 19. Un hwrâ olaf i’r dringwyr a ffefrynnau’r dosbarthiad cyffredinol ddaw ar gymal 20, y cymal olaf ond un, dros fynyddoedd y Vosges gan gynnwys y Ballon d’Alsace, a chyfres o chwe dringfa gategoredig a’r ddwy olaf yn rhai categori un. Hynny oll wedi’i gywasgu i 133.5km a diweddglo yn Le Markstein, lle gwnaeth Annemiek van Vleuten gam mawr tuag at fuddugoliaeth yn y Tour de France Femmes y llynedd. Mae’n gymal all newid popeth. Mae’r potensial yma am ddiwrnod lle mae’r dosbarthiad cyffredinol yn cael ei throi ben i waered, yn debyg i’r hyn wnaeth Chris Froome yn y Giro yn 2018. Pe bai’r fuddugoliaeth yn dal i fod yn y fantol ar y cymal yma, byddai’n syniad da iawn glynu’ch hun i’r sgrîn. Prosesiwn arferol yn y brifddinas geir i gloi’r ras, a phencampwriaethau’r byd answyddogol i’r gwibwyr.

Ar y Cormet de Roselend, 2019


Y gwibwyr


Mae hi werth bwrw golwg dros y gwibwyr am eu bod nhw'n haeddu sylw dyledus.


Bras syniad sydd gen i ar hyn o bryd wrth gyhoeddi'r cofnod yma o'r rhestr ddechrau felly mi allai'r wybodaeth dwi'n ei rannu rŵan fod fymryn yn (neu'n gwbl) anghywir erbyn cadarnhau'r rhestr ddechrau ganol wythnos.


Mae'r cwrs lletraws eleni'n golygu fod cyfle i bob math o reidiwr yn y ras eleni; tra bo digon o gyfleoedd i'r dihangiad lwyddo mae cyfleoedd teilwng hefyd i wibwyr ym mhob rhan o'r ras. Ddylai bod dim anogaeth i'r un ohonyn nhw adael yn gynnar.


Mae Jasper Philipsen yn enw mawr ac yntau wedi cael (mae'n debyg - dydw i heb ei wylio fo eto) cryn dipyn o sylw ar un o benodau Tour de France: Unchained ar Netflix, a felly hefyd ei gyd-reidiwr o Alpecin Deceuninck, Mathieu van der Poel. Dechrau digon cymhedrol y mae Philipsen wedi'i gael i'r tymor, heb greu argraff sylweddol ond wedi cipio buddugoliaeth fan hyn fan draw. van der Poel ydi van der Poel, beth bynnag fo'i restr o ganlyniadau am y flwyddyn, ond mi fydd o'n fodlon â chwe mis cynta'r flwyddyn hyd yn oed o'i safonau fo - buddugoliaethau nodedig yn Milano Sanremo a Paris-Roubaix i enwi ond dau.


Mae Fabio Jakobsen yn sicr yn un o wŷr cyflyma'r byd a llond llaw o fuddugoliaethau i'w enw eisoes eleni; mwy na all rai fel Caleb Ewan, Alexander Kristoff a Dylan Groenewegen ei hawlio. Mae Christophe Laporte yn un i'w wylio heb os nac oni bai ac yntau'n cyrraedd y ras ar dân yn dilyn dwy buddugoliaeth yn y Dauphiné, ac mae'n bosib y bydd ei gyd-reidiwr o Jumbo-Visma, Wout van Aert, yn awyddus i wibio hefyd. I mi beth bynnag mae Sam Welsford yn enw cymharol newydd ar y sîn broffesiynol ac yntau wedi hawlio ambell fuddugoliaeth eleni ac ail nodedig yn Paris-Roubaix.


Bydd hi'n braf iawn gweld Biniam Girmay ar linell ddechrau'r Tour eleni a hynny am y tro cyntaf; mi wnaeth o serennu yn y Giro llynnedd felly hei lwc y caiff o gystal llwyddiant yn Ffrainc eleni hefyd.


Un enw mawr sydd ar ôl i'w grybwyll, enw Mark Cavendish. Mae'n cyrraedd y ras â'i obeithion ar guro record cymalau Eddy Merckx, ac er mwyn ceisio cyflawni hynny mae ei dîm, Astana, wedi galw ar arbenigedd Mark Renshaw fel ymgynghorydd iddo ar y Tour eleni. Ac yntau'n ymddeol eleni, bydd o'n sicr yn awyddus i adael popeth ar lonydd Ffrainc yn y gwibiau clwstwr.


Y Ffefrynnau


Byddwn i'n dadlau, fel sawl un arall, mai ras dau geffyl ydy'r Tour de France eto eleni.


Ras rhwng Jonas Vingegaard a Tadej Pogačar, y ddau sydd wedi dod i'r brig dros y dair ras ddiwethaf.


Bu peth ansicrwydd am gyflwr Pogačar wedi iddo dorri ei arddwn yn Liège-Bastogne-Liège yn gynharach eleni olygodd hoe o chwe wythnos, ond chwalwyd unrhyw amheuaeth gan ei berfformiad yn ras yn erbyn y cloc pencampwriaethau Slofenia. Ar yr un cwrs â 2020, hawliodd y fuddugoliaeth gan guro'i amser blaenorol o funud a 27 eiliad. Doedd hynny ddim yn ddigon iddo - roedd rhaid iddo fynd ati ddydd Sul i ennill y ras ffordd hefyd. Felly oni bai ei fod o yn y crys melyn neu'r crys gwyn (sy'n hynod debygol), bydd o yng nghrys pencampwr Slofenia bob dydd.


Mae ganddo fo dîm cryfach nag a fu ganddo mewn blynyddoedd blaenorol i raddau - neu gasgliad o unigolion cryf beth bynnag - un sy'n cynnwys Adam Yates, Felix Großschartner a Marc Soler fyddai mewn timau eraill mewn blynyddoedd blaenorol wedi mynd amdani eu hunain. Mae ei gadfridogion selog Rafał Majka a Vergard Stake Langen hefyd yno i'w gefnogi.


Dim ond yr wythnos hon y gwnaeth o ddychwelyd i rasio ar y sîn broffesiynol yn dilyn ei anaf, ond mae wedi ailgydio yn llif y buddugoliaethau gafodd yn flaenorol i'r ddamwain yn Liège - llif oedd yn cynnwys tair buddugoliaeth mewn cwta dair wythnos yn Fflandrys, Amstel Gold a Flèche. Ac yn flaenorol i hynny, roedd o eisoes wedi ennill ras wythnos Paris-Nice a'r Vuelta a Andalucía. Mae'r paralel a dynnir â llysenw Eddy Merckx - y canibal - yn arbennig o berthnasol iddo; mae'n ennill drwy'r flwyddyn beth bynnag fo'r ras.


Yn debyg iawn i ddatblygiad i'w yrfa, mae datblygiad Jonas Vingegaard ar hyd y tymor wedi bod yn un graddol, diffwdan. 3ydd gafodd o yn Paris-Nice y tu ôl i Pogačar a Gaudu, ac wedi hynny aeth i gipio buddugoliaethau yn rasys wythnos Itzulia a'r Dauphiné mewn modd a oedd yn sicr yn argyhoeddi.


Bydd ganddo fyth yr un rhyddid ag a gafodd yn ystod y ddau Tour diwethaf ac yntau bellach wrth gwrs yn enillydd y ras, felly bydd pwysigrwydd y tîm hyd yn oed yn fwy iddo eleni. Gwelem ddylanwad Wout van Aert yn y ras y llynnedd wrth arwain y Daniad at y fuddugoliaeth, a bydd presenoldeb Wilco Kelderman, Tiesj Benoot a Nathan van Hooydonck yn hollol hanfodol. Ond yr arf bwysicaf sydd ganddo yw Sepp Kuss, domestique gorau'r byd, fyddai'n cystadlu yn eu herbyn am y fuddugoliaeth pe bai o ar dîm arall. Mae ei synnwyr dactegol a'i gryfder yn cyfuno i gynnig arweiniad sy'n rhan mor bwysig o'r frwydr yn erbyn Pogačar.


Rŵan, pe na bai unrhyw ffactorau allanol yn effeithio ar y byd seiclo, pe bai seiclo'n cael ei rasio 'ar bapur', yna byddai'r ddau uchaf wedi'i gadarnhau eisoes. Hyd yn oed os nad ydy'r ddau ohonyn nhw'n cael unrhyw anffawd o gwbl a'u bod nhw'n llwyddo i aros ar eu beics hyd y diwedd, yna mae'r ras am y trydydd safle yn un diddorol. Os oes un neu'r ddau ohonyn nhw yn cael anffawd - fel sy'n aml yn digwydd ar ôl i'r wasg adeiladu sioe o gwmpas naratif dau geffyl blaen - yna bydd y ras am y melyn yn un hynod agored.


Mi gychwynnwn ni mewn lle eithaf amlwg ag enillydd y Tour yn 2019, sef y Colombiad Egan Bernal. Mae reidiwr Ineos wedi gorfod gwella'n araf ac yn bwyllog o anaf enbyd gafodd o tra'n hyfforddi, ac mae wedi bod yn braf ei weld o'n dechrau dod yn ôl at ei goed yn ystod eleni - mi orffennodd o'n 12fed yn y Dauphiné. Mae'n annhebygol iawn y gwelem ni Bernal unrhyw le'n agos at ei orau yn y ras eleni, ond byddai'n braf ei weld o'n chwarae rhyw ran.


Mae'n bosib, felly, o ganlyniad i hynny, y byddwn ni'n cael gweld mwy ar Carlos Rodríguez yn rôl arweinydd Ineos. Mae'r Sbaenwr ifanc yn reidiwr hynod addawol, yn enwedig pan ddelo'r dringfeydd. Mi orffennodd o'n 9fed yn y Dauphiné sy'n awgrymu i mi nad ydy o ar y lefel angenrheidiol i gystadlu â'r gweddill. Serch hynny, yn yr unig dro yr ydym wedi ei weld o yn rasio Grand Tour oedd y Vuelta y llynnedd, a bryd hynny mi gafodd o 7fed. Felly pwy a ŵyr. Mae'n un i'w wylio heb os. Felly hefyd Tom Pidcock o'r un tîm; yn absenoldeb arweinydd clir bydd rhyddid iddo gwrso cymalau fel y gwnaeth â llwyddiant llynedd pan gipiodd o gymal Alpe d'Huez.


Mi symudwn ni 'mlaen at y Ffrancwr David Gaudu gafodd ail yn Paris-Nice. Mi'r oedd hi'n dipyn o nyth cacwn yn rhengoedd Groupama-FDJ pan gyhoeddwyd y byddai o, ynghyd â Thibaut Pinot fydd yn cwrso buddugoliaethau cymalau yn ei flwyddyn olaf ar y sîn broffesiynol, yn arwain y tîm, heb adael lle i Arnaud Démare y gwibiwr. Canlyniad timau 8 person yw hwn mae'n siwr, a gofyn bod yn fwy penodol o ran amcanion wrth lunio carfannau.


O'r herwydd, bydd cryn dipyn o bwysau ar ysgwyddau Gaudu, hynny a phwysau gobeithion cenedl gyfan. Mi gafodd o siocar yn y Dauphiné, â dweud y gwir yn onest, a dydy hi ddim yn ymddangos fel pe bai o wedi gallu cynnal y safon addawol osododd yn flaenorol yn y tymor gan gyrraedd yr uchelfannau yn Itzulia a Paris-Nice.


At Ffrancwr arall awn ni nesaf sef Guillaume Martin. Does wybod byth beth ddaw o'r athronydd rhan amser, ac mae'n bosib y gwelwn ni ei strategaeth io-io - ymuno â'r dihangiadau i ennill amser cyn colli llwythi'r diwrnod canlynol - yn dychwelyd eleni. Mi orffennodd yn seithfed yn y Dauphiné, felly mae o mewn cyflwr go lew.


Mi wnawn ni weithio'n ffordd i fyny canlyniad y Dauphiné gyda thri o Awstraliaid. Yn 6ed daeth Jack Haig o Bahrain-Victorious; dylid cofio ar y pwynt yma fod cysgod trasiedi Gino Mäder yn drwm ar y garfan honno ar hyn o bryd - ond mae'n bosib fod yna ysgogiad yn eu hysbryd 'Ride for Gino'. Yn 5ed daeth Jai Hindley, un sydd wedi profi ei allu ar hyd y rasys tair wythnos yn fwy na'r rasys wythnos drwy ennill y Giro yn 2022, felly mae pethau'n edrych yn addawol iddo f'yntau. Wedyn Ben O'Connor yn 4ydd, un sydd a'i fryd ar orffen ar bodiwm y Tour de France byth ers gorffen yn 4ydd yn 2021. Chafodd o ddim lwc da iawn y llynnedd gan adael y ras yn gynnar, felly mi fydd o'n awyddus i ddychwelyd i'r trywydd cywir eleni.


Pwy sydd ar ôl? Wel, tîm EF yn un. Richard Carapaz neu Rigoberto Urán fydd yn hawlio'r arweinyddiaeth? Dau ben profiadol, ond dau hefyd sydd heb gyrraedd yr uchelfannau disgwyliedig ers peth amser. Rhaid mae'n debyg crybwyll Enric Mas er nad ydy o wedi argyhoeddi ryw lawer ychwaith eleni. Dydy Simon Yates heb rasio ers mis Ebrill ac mae o yno i arwain Jayco AlUla (colli trac ar enw'r tîm), 4ydd yn Paris-Nice ddim rhy ffôl. Romain Bardet yn fythol bresennol; cafodd o 5ed yn y Tour de Suisse.


Un enw sydd yn sefyll allan yn dilyn y rasys paratoi yw Mattias Skjelmose. Mi wna i faddau i chi pe na baech wedi clywed amdano o'r blaen, ond dyma i chi enillydd y Tour de Suisse eleni. Dwi'n ansicr faint o sicrwydd neu ansicrwydd y dylem ni'i deimlo ynghylch canlyniad y ras honno oherwydd effaith trasiedi Gino Mäder, ond p'run bynnag, mae o wedi profi ei fod o'n rasiwr hynod addawol a chyflawn. Enillodd o bencampwriaeth Denmarc dros y penwythnos a daeth yn ail yn Flèche Wallonne yn gynharach eleni, a choeliwch chi fi, dydi curo Juan Ayuso - y next big thing - yn y Tour de Suisse ddim yn digwydd ar chwarae bach. Mae'n gryf yn erbyn y cloc ac ar y dringfeydd - beth arall sydd ei angen ar reidiwr os ydy o am gystadlu yn y Tour? Wel, tîm, i raddau helaeth. Dydy Lidl-Trek ddim yn llawn reidwyr allai gamu i'w gefnogi pe bai pethau'n mynd o'i le. Naill ffordd neu'r llall, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweld beth ddaw ohono yn y ras eleni.


Dwi hefyd yn edrych ymlaen i weld beth ddaw o Julian Alaphilippe sydd heb fod ar ei orau ers peth amser, ond sydd â chymeriad mor apelgar ac arddull ddi-droi'n-ôl rywsud o rasio. Gobeithio y cawn ni ei weld o'n ein diddanu ni unwaith eto eleni.


Dyma sut y byddwn i'n gosod y ffefrynnau, felly, i wneud pethau'n fwy eglur yn eich meddyliau fel yn fy meddwl innau:


⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ Tadej Pogačar, Jonas Vingegaard

⭐️⭐️⭐️⭐️ -

⭐️⭐️⭐️ Ben O'Connor, Jai Hindley, Mattias Skjelmose

⭐️⭐️ Jack Haig, Carlos Rodríguez, David Gaudu, Simon Yates

⭐️ Enric Mas, Rigoberto Uran, Richard Carapaz, Guillaume Martin


Darogan


Rŵan, dwi am rannu rhywbeth efo chi.


Y dair gwaith diwethaf ydw i wedi darogan enillydd ras ar Y Ddwy Olwyn - dwi wedi bod yn gywir.


Tour de France 2022: Jonas Vingegaard. Cywir.


Tour de France Femmes 2022: Annemiek van Vleuten. Cywir.


Giro d'Italia 2023: Primož Roglič. Cywir.


Felly dwi'n teimlo cryn dipyn o bwysau wrth roi 'mhen ar y bloc y tro yma. Ond â dweud y gwir wrthoch chi, mae hi bron mor hawdd â thaflu ceiniog. Ond mae angen rhyw fath o resymeg hefyd, on'd oes.


Dwi am ddarogan mai Jonas Vingegaard fydd yn ennill y Tour, a hynny am yr eilwaith. Yr unig wahaniaeth sydd gen i rhyngddo fo a Pog yw fod Pog wedi torri'i arddwn a hynny heb os wedi newid cynlluniau ei baratoadau. Dyna'r unig sail sydd gen i i'r penderfyniad dibwys hwn.


Diolch am ymuno â mi eto ar gyfer rhagolwg o ras sy'n bownd o fod yn werth ei gweld, fel bob blwyddyn arall.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page