Y digwyddiadau seiclo, dydd wrth ddydd, yng Ngemau Olympaidd Tokyo; gan gynnwys rhagolygon, darogan, golwg ar y Cymry yn ogystal a'r canlyniadau wedi i'r rasys gael eu cwblhau. Cadwch lygad ar y ddalen hon drwy gydol y Gemau i gael eich diweddaru.
Y newyddion da yw bod 'na seiclo i'w wylio bron bob dydd rhwng y seremoni agoriadol ar y 23ain o Orffennaf hyd y sermoni cloi ar yr 8fed o Awst.
Mae'n argoeli i fod yn ddifyr iawn i'w wylio.
Gol.: Diolch i Rhys James am sylwi ar wall yr ydw i wedi'i gywiro bellach. 4 ras sydd yn yr omnium y tro hwn ac nid y 6 traddodiadol.
Sut i wylio:
AR-LEIN: GCN+ (tanysgrifiad), Eurosport Player (tanysgrifiad), Discovery+ (tanysgrifiad), BBC Sport ar-lein
TELEDU: Eurosport, BBC One (tebygol y bydden nhw'n fflicio rhwng campau)
Neidio i:
Dydd Sadwrn, 24ain o Orffennaf
Ras Ffordd/Heol y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Y math o ras feics 'rydym ni 'gyd yn gyfarwydd ag o, yn enwedig y rhai ohonom sydd wedi bod yn gwylio'r Tour de France yn ddiweddar. Y cyntaf, ail a thrydydd dros y llinell yn ennill y medalau. Cwrs 234km o gilometrau sy'n wynebu'r reidwyr, a hynny'n cynnwys nifer o ddringfeydd caled fydd yn tynnu dwr i ddannedd y dringwyr. Y ddringfa nodedig olaf i Kagosaka yn dod llai na 20km o'r diwedd, ond wedi'r goriwaered o'r copa mae 'na ddringo graddol i'r diwedd. Yn sicr o ffafrio dringwyr pur a puncheurs.
Amser: Cychwyn am 3 y bore, y diwedd o gwmpas 10 o'r gloch (amser Prydain)
Ffefrynnau: Fel byddai un yn disgwyl, mae'r rhestr ddechrau'n llawn i'r ymylon gyda reidwyr all herio. Yn syth o'r Tour de France, mae reidwyr megis Alejandro Valverde (Sbaen), Rigoberto Uran (Colombia), David Gaudu (Ffrainc), Jakob Fuglsang (Denmarc), Bauke Mollema (yr Iseldiroedd), Geraint Thomas, Tao Geoghegan Hart a Simon Yates (y tri o Brydain). Tu hwnt i hynny, cadwch olwg ar Remco Evenepoel (Gwlad Belg), seren ifanc all ryfeddu unwaith eto. Bydd Evenepoel yn gorfod rhannu'r arweinyddiaeth gyda Wout van Aert, fodd bynnag, sy'n ffefryn enfawr wedi'i berfformiad yn y Tour. Fel arall, Tadej Pogacar a Primoz Roglic - y ddau yn nhim Slofenia - yw'r ffefrynnau mawrion; brwydr na welson ni yn y Tour wedi anaf i Roglic yn gynnar.
Cymro: Geraint Thomas. Un o'i brif amcanion ar gyfer y tymor, ond a fydd o'n holliach wedi'r anaf i'w ysgwydd neu ai bod o gymorth i Yates a Geoghegan Hart fydd ei flaenoriaeth?
CANLYNIAD Aur: RICHARD CARAPAZ (Ecwador)
Arian: WOUT van AERT (Gwlad Belg)
Efydd: TADEJ POGACAR (Slofenia)
Dydd Sul, 25ain o Orffennaf
Ras Ffordd/Heol y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Yn debyg iawn i bob ras arall, mae ras y menywod yn fyrrach na ras y dynion. Quelle surprise. Ond dydy hynny ddim yn ddrwg i gyd, mae'n aml yn golygu fod y ras
Amser: Dechrau tua 4 y bore; y diwedd tua 9-9.30.
Ffefrynnau: Yr un enwau sy'n dod i'r amlwg eto, fel sy'n aml yn digwydd yn rasys y menywod. Y gwahaniaeth y tro hwn yw eu bod nhw'n rasio ar yr un tim, sef tim yr Iseldiroedd. Y deiliad, Anna van der Breggen; cyn-bencampwraig byd Annemiek van Vleuten; ennillydd La Course, Demi Vollering; a'r seiclwr gorau erioed, Marianne Vos. Tu hwnt i hynny, cadwch olwg barcud ar dimau megis Denmarc gydag Emma Norsgaard a Cecilie Uttrup Ludwig; yr Eidal gydag Elisa Longo Borghini a Marta Bastianelli; yr Almaen gyda Lisa Brennauer a Liane Lippert; ac Awstralia gydag Amanda Spratt, Grace Brown a Sarah Gigante. Mae Lizzie Deignan hefyd yn un i'w gwylio o dim Prydain.
CANLYNIAD Aur: ANNA KIESENHOFER (Awstria)
Arian: ANNEMIEK van VLEUTEN (Iseldiroedd)
Efydd: ELISA LONGO BORGHINI (Yr Eidal)
Triathlon Dynion
Gwybodaeth allweddol: Swim. Bike. Run. Swnio'n syml, 'tydi. Ac yn ol y disgwyl, mae'r pellteroedd yn 'Olympic Distance'. Dechrau gydag 1.5km o nofio, wedyn route 40km ar y beic sy'n mynd islaw lefel y mor, cyn gorffen gan redeg pedair gwaith o amgylch cylch 2.5km.
Amser: Rhwng 22:20 a 01:00. Debyg mai ar alw bydda i'n gwylio!
Ffefrynnau: Jonny Brownlee (Prydain), Vincent Luis (Ffrainc), Alex Yee (Prydain), Javier Gomez (Sbaen), Mario Mola (Sbaen)
CANLYNIAD Aur: KRISTIAN BLUMMENFELT (Norwy)
Arian: ALEX YEE (Prydain)
Efydd: HAYDEN WILDE (Awstralia)
Dydd Llun, 26ain o Orffennaf
Beicio Mynydd Traws Gwlad y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Yn ol rhai sy'n gwybod llawer mwy nag ydw i am feicio mynydd, dyma'r cwrs caletaf erioed yn y Gemau Olympaidd. Eto i'w gadarnhau, ond bydd y reidwyr yn cyflawni'r cylch uchod rhwng 7 a 9 o weithiau. Y tri chyflymaf yn ennill y medalau.
Amser: Rhwng 7 a 9 y bore
Ffefrynnau: Y ffefryn mawr yw Mathieu van der Poel, adawodd y Tour de France yn gynnar wedi cyfnod yn y melyn yn sgil buddugoliaeth ar gymal 2, er mwyn paratoi ar gyfer y ras hon. Ei brif gystadleuwyr bydd y Pyrediniwr, Tom Pidcock, ond peidiwch chwaith a diystyrru deiliad y tlws, Nino Schuter. Mae'n swnio fel ein bod ni'n gweld yr un 'newid yn yr olyniaeth' yn y byd MTB ag ydyn ni'n ei weld ar y ffordd, sef y reidwyr ifanc yn disodli'r rhai mwy profiadol. Rydym ni eisoes wedi rhestru'r ffefrynnau heb son am bencampwr y byd, Jordan Sarrou, ac arweinydd Cwpan y Byd, Mathias Fluckiger. Argoeli i fod yn ras gystadleuol dros ben.
CANLYNIAD Aur: TOM PIDCOCK (Prydain)
Arian: MATHIAS FLUECKIGER (Swistir)
Efydd: DAVID VALERO (Sbaen)
Triathlon Menywod
Gwybodaeth allweddol: Pan oedd Nia Davies o Nawr yw'r Awr yn sylwebu ar Seiclo S4C wythnos diwethaf a bu'r tim yn trafod anhafaledd rhwng pellteroedd dynion a menywod mewn seiclo, ei sylwad hi oedd bod hynny'n syndod a rhyfeddod i rywun sy'n dod o gefndir triathlon, gan fod popeth yr un pellter. Dyna sydd yma; 'Olympic Distance' eto; 1.5km nofio, 40km ar y beic a 10km o redeg.
Amser: Rhwng 22:20 a 01:00.
Sut i wylio:
AR-LEIN: GCN+ (tanysgrifiad), Eurosport Player (tanysgrifiad), Discovery+ (tanysgrifiad), BBC Sport ar-lein
TELEDU: Eurosport, BBC One (tebygol y bydden nhw'n fflicio rhwng campau)
Ffefrynnau: I ddod
CANLYNIAD Aur: FLORA DUFFY (Bermuda)
Arian: GEORGIA TAYLOR-BROWN (Prydain)
Efydd: KATIE ZAFARES (Seland Newydd)
Dydd Mawrth, 27ain o Orffennaf
Beicio Mynydd Traws Gwlad y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Yr un cwrs a'r dynion, ac eto nid oes cadarnhad o ran pasawl cylchdaith y byddent yn cwblhau.
Amser: 07:00-09:00
Ffefrynnau: Un sy'n serennu ym mhob agwedd o seiclo, yw Pauline Ferrand-Prevot o Ffrainc a hithau wedi ennill pencampwriaethau'r byd mewn nifer o ddisgyblaethau. Fodd bynnag, ei chyd-wladwraig fydd ar yr un tim, Loana Lecomte, yw'r ffefryn mawr ar gyfer y ras wedi iddi ennill y bedair ras diwethaf yng Nghwpan y Byd. Un arall o'r reidwyr ifanc sydd wedi hedfan i mewn i'r sin, a hithau ond 21 oed. Deiliad y tlws yw Jenny Rissveds, sydd yn amlwg yn gwybod sut i ennill medal aur, ond heb gael canlyniadau lu eleni. Wedi dweud hynny, gorffennodd ar y podiwm yn rownd ddiwethaf Cwpan y Byd, felly mae'n argoeli'n dda iddi. Evie Richards (Prydain) a Kate Courtney (UDA) yn ddwy i'w gwylio yn ogystal.
CANLYNIAD Aur: JOLANDA NEFF (Swistir)
Arian: SINA FREID (Swistir)
Efydd: LINDA INDERGRAND (Swistir)
Dydd Mercher, 28ain o Orffennaf
REC y Menywod
Gwybodaeth allweddol: I rai sy'n anghyfarwydd gyda'r ras yn erbyn y cloc, nid y tri chyntaf dros y llinell fydd yn ennill y medalau. Hynny oherwydd fod pawb yn cael amser cychwyn penodol, unigol, a'n cwblhau cwrs ar wahan i bawb arall. Y sawl sy'n recordio'r amser cyflymaf sy'n fuddugol. Mae'n braf gweld bod y cwrs Olympaidd yn rhoi lle i'r arbenigwyr yn y maes gael cyfle i serennu.
Amser: 03:25-05:00
Ffefrynnau: Fel sy'n arferol yn seiclo menywod, yr Isalmaenwyr sy'n debygol o serennu, a'r tro hwn yn wahanol i'r ras ffordd, bydd dim tactegau na brwydrau o fewn y tim am y fuddugoliaeth. Dyna sy'n apelio am y REC; every man for himself/woman for herself. Anna van der Breggen ac Annemiek van Vleuten fwy na thebyg yn anelu am ennill medal aur ar y ffordd ac yn y REC. Ditto Grace Brown a Sarah Gigante o dim Awstralia, Chloe Dygert o'r UDA, Elisa Longo Borghini o'r Eidal a Juliette Labous o Ffrainc.
CANLYNIAD Aur: ANNEMIEK van VLEUTEN (Iseldiroedd)
Arian: MARLEN REUSSER (Swistir)
Efydd: ANNA van der BREGGEN (Iseldiroedd)
REC y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Ddim cweit yn ffafrio'r arbenigwyr REC pur oherwydd y bryniau, felly bydd angen i'r buddugwr allu goresgyn rheiny'n rhwydd er mwyn cyrraedd y brig. 42km yw'r cwrs i'r dynion.
Amser: 06:00-09:45
Ffefrynnau: Un sydd wedi hysbysebu'i allu'n erbyn y cloc wythnos diwethaf yn y Tour de France yw Wout van Aert. Fyddai unrhyw un yn betio'n erbyn y Belgiad yn ennill ras y ffordd a'r REC? Cyd-wladwr iddo, Remco Evenepoel, yn un arall fydd eisiau creu argraff ac yntau wedi dangos ei allu'n y Giro, ac mae'n bosib bod y cwrs yn gweddu'n well iddo fo na WvA. O ran yr arbenigwyr, Filippo Ganna'n enw amlwg yn ogystal a Rohan Dennis, a byddai'n braf gweld Tom Dumoulin nol yn cystadlu tua'r brig wedi saib o'r gamp. Cadwch lygad ar Stefan Kung (Swistir), Remi Cavagna (Ffrainc) a Kasper Asgreen (Denmarc) sydd wedi profi'u gallu yn y Tour, yn ogystal a Primzo Roglic (Slofenia) a Joao Almeida (Portiwgal).
Cymro: Geraint Thomas. Ei obaith gorau o ennill medal yn y Gemau Olympaidd eleni, ond eto mae'n bosib fod yr anaf i'w ysgwydd wedi pylu unrhyw ddisgwyliad o lwyddiant.
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Gwener, 30ain o Orffennaf
Rasio BMX
Gwybodaeth allweddol: Nes i 'rioed feddwl y byddwn i'n ysgrifennu am BMX ar Y Ddwy Olwyn! Ond os dwy olwyn, rhaid ei grybwyll! Dwy ras, un i'r menywod ac un i'r dynion, sy'n fyr ond yn danllyd (ac yn eithaf difyr i'w wylio) a'r tri cyntaf dros y lein fydd yn hawlio'r medalau.
Amser: 02:00-04:3
Ffefrynnau ras y dynion: Connor Fields (UDA), Sylvain Andre (Ffrainc), Arthur Pilard (Ffrainc), Twan van Gendt (Iseldiroedd), Niek Kimmann (Iseldiroedd), Carlos Ramirez (Colombia)
Ffefrynnau ras y menywod: Mariana Pajon (Colombia), Laura Smulders (Iseldiroedd), Alise Willoughby (UDA), Payton Ridenour (UDA), Maire Camille (Ffrainc), Natalia Afremova (Rwsia)
CANLYNIAD DYNION Aur:
Arian:
Efydd:
CANLYNIAD MENYWOD Aur:
Arian:
Efydd:
Triathlon: Ras Gyfnewid Cymysg
Gwybodaeth allweddol: Ras sy'n ymddangos am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd, ond wedi bod yng Ngemau'r Gymanwlad ers 2014. O'r hyn dwi'n ei ddarllen, mae'n sicr yn rhywbeth i edrych ymlaen ato; ras sy'n para llai na 90 munud ac yn dactegol a chyflym. Mae 'na ddeg tim sydd wedi cyrraedd y Gemau, a phob un yn cynnwys dau ddyn a dwy fenyw. Mae pob aelod yn nofio 300m, ar y beic am 8km a'n rhedeg am 2km yn eu tro cyn cyfnewid gyda'r aelod nesaf. Fel ras gyfnewid arferol, y pedwerydd aelod o'r tim sydd gyntaf dros y llinell sy'n ennill. Mae'n mynd i fod yn wych i'w wylio; triathlon unwaith eto'n arwain y gad o ran cyfartaledd rhwng dynion a menywod, ac mae'n rasio hollol wrth reddf gan nad ydy neb yn gwybod pwy, nac ym mha drefn, bydd yn rasio i'r timau eraill.
Amser: Rhwng 23:20 a 01:20.
Ffefrynnau: I ddod
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Sul, 1af o Awst
BMX Rhydd
Gwybodaeth allweddol: Un arall o'r campau sy'n ymddangos yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf; camp ddechreuodd yn y 1970au a sydd wedi esblygu wrth i reidwyr brofi eu sgiliau mewn pyllau nofio gweigion, dodrefn stryd a neidiadau wedi'i creu gan unigolion. Yn y Gemau, mae reidwyr yn cael munud i berfformio triciau a sgiliau gan ddefnyddio'r rhwystrau ar y cwrs a'n cael eu beirniadau gan ddefnyddio meini prawf. Mae'r rhain yn cynnwys lefel her, gwreiddioldeb, uchder a pherfformiad. Cymysgedd o seiclo a gymnasteg, os liciwch chi.
Amser: 02:00-05:00
Ffefrynnau menywod: Hannah Roberts (UDA), Charlotte Worthington (Prydain), Charlotte Lessmann (yr Almaen)
Ffefrynnau dynion: Logan Martin (Awstralia), Brandon Loupos (Awstralia), Daniel Dhers (Venezuela)
CANLYNIAD MENYWOD Aur:
Arian:
Efydd:
CANLYNIAD DYNION Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Llun, 2il o Awst
Velodrome Diwrnod 1
Amser: 07:25 tan tua 10-11
Team Sprint y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Beth yw'r team sprint? I'r menywod, mae tim o ddau yn cwblhau dau lap o'r velodrome. Mae'r reidiwr cyntaf ar y blaen am y lap cyntaf, cyn symud i'r naill ochr a gadael i'r ail reidiwr wibio ar yr ail lap. Yn y rowndiau rhagbrofol, bydd y timau'n rasio ar eu pennau eu hunain mewn fformat ras yn erbyn y cloc. Bydd nifer penodol o dimau gyda'r cyflymder uchaf yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau dilynol, tebyg i dwrnament pel-droed neu rygbi er enghraifft; gogynderfynol, cynderfynol, rownd derfynol a ras am y fedal efydd. Yn y rowndiau hyn, mae dau dim yn mynd benben, gan gychwyn hanner lap ar wahan.
Ffefrynnau: Yr Almaen, Awstralia, Tseina, Rwsia, Yr Iseldiroedd
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Mawrth, 3ydd o Awst
Velodrome Diwrnod 2
Amser: 07:25 tan tua 10-11
Team Sprint y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Beth yw'r team sprint? I'r dynion, mae tim o dri yn cwblhau tri lap o'r velodrome. Mae'r reidiwr cyntaf ar y blaen am y lap cyntaf, cyn symud i'r naill ochr a gadael i'r ail reidiwr arwain ar yr ail lap, a'r trydydd reidiwr yn mynd amdani yn y wib ar y trydydd lap. Yn y rowndiau rhagbrofol, bydd y timau'n rasio ar eu pennau eu hunain mewn fformat ras yn erbyn y cloc. Bydd nifer penodol o dimau gyda'r cyflymder uchaf yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau dilynol, tebyg i dwrnament pel-droed neu rygbi er enghraifft; gogynderfynol, cynderfynol, rownd derfynol a ras am y fedal efydd. Yn y rowndiau hyn, mae dau dim yn mynd benben, gan gychwyn hanner lap ar wahan.
Ffefrynnau: Yr Iseldiroedd, Prydain, Awstralia, Ffrainc, Seland Newydd, Yr Almaen
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Team Pursuit y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Beth yw'r team pursuit? 16 lap o'r trac 250m o hyd sy'n rhoi cyfanswm o 4km, a timau o 4 reidiwr. Fel yn y team sprint, maen nhw'n dechrau yn y rowndiau rhagbrofol drwy ddilyn fformat ras yn erbyn y cloc er mwyn cymhwyso ar gyfer y rowndiau nesaf. Yn y rowndiau hynny, mae dau dim yn mynd benben gan ddechrau ar ochrau cyferbyn o'r trac. Fwy na thebyg, dyma'r disgyblaeth sydd angen y mwyaf o sgil, yn bennaf oherwydd pa mor agos ydy olwyn blaen un reidiwr at olwyn gefn y reidiwr o'i f/blaen. I rai sy'n gyfarwydd gyda chaingang, mae'n ddigon tebyg. Mae'r reidiwr ar y blaen yn gwneud tro cyn tynnu i'r ochr (i fyny'r llethr), a hynny'n ailadrodd. Yn aml, mae'r tim o bedwar wedi'i leihau erbyn diwedd y ras - un heb ddigon o egni neu reswm tactegol er enghraifft. Amser y trydydd reidiwr dros y llinell sy'n cael ei recordio.
Ffefrynnau: UDA, Prydain, yr Almaen, Seland Newydd, Awstraila, Yr Eidal, Canada
Cymraes: Elinor Barker. Un o hoelion wyth llwyddiant team pursuit Prydain ac wedi bod yn rhan ohono ers Pencampwriaethau'r Byd 2013. Mae carfan Prydain wedi ennill dwy fedal aur, pedair medal arian ac un medal efydd ym mhencampwriaethau'r byd tra bo Barker yn rhan ohono. Roedd hi hefyd yn rhan o'r tim enillodd y fedal aur yn y team pursuit yn Rio 2016.
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Mercher, 4ydd o Awst
Velodrome Diwrnod 3
Amser: 07:25 tan tua 10-11
Dechrau Omnium y dynion. Gweler yfory am fanylion pellach.
Team Pursuit y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Beth yw'r team pursuit? 16 lap o'r trac 250m o hyd sy'n rhoi cyfanswm o 4km, a timau o 4 reidiwr. Fel yn y team sprint, maen nhw'n dechrau yn y rowndiau rhagbrofol drwy ddilyn fformat ras yn erbyn y cloc er mwyn cymhwyso ar gyfer y rowndiau nesaf. Yn y rowndiau hynny, mae dau dim yn mynd benben gan ddechrau ar ochrau cyferbyn o'r trac. Fwy na thebyg, dyma'r disgyblaeth sydd angen y mwyaf o sgil, yn bennaf oherwydd pa mor agos ydy olwyn blaen un reidiwr at olwyn gefn y reidiwr o'i f/blaen. I rai sy'n gyfarwydd gyda chaingang, mae'n ddigon tebyg. Mae'r reidiwr ar y blaen yn gwneud tro cyn tynnu i'r ochr (i fyny'r llethr), a hynny'n ailadrodd. Yn aml, mae'r tim o bedwar wedi'i leihau erbyn diwedd y ras - un heb ddigon o egni neu reswm tactegol er enghraifft. Amser y trydydd reidiwr dros y llinell sy'n cael ei recordio.
Ffefrynnau: Denmarc, Seland Newydd, Awstralia, Yr Eidal, Prydain
(noder: mae'r aerodynamicist extraordinaire, Dan Bigham, wedi bod yn gweithio'n agos gyda thim Denmarc. Nhw yw'r ffefrynnau mawrion, meddai Ed Clancy wrth yr i)
Cymro: Ethan Vernon. Er iddo hannu o Bedford, mae ganddo fam o Gymru, felly rydym ni am ei hawlio fo fel Cymro! Mae'n cyfaddef na fydde fo yn y Gemau heblaw am y pandemig, ac yntau ond wedi ymuno gyda system British Cycling yng Ngwanwyn 2020. Mae wedi ennill medal yn y REC 1km (rhan o'r omnium) a hynny'n siwr o brofi'i fod o'n gaffaeliad i dim team pursuit Prydain.
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Iau, 5ed o Awst
Velodrome Diwrnod 4
Amser: 07:25 tan tua 10-11
Omnium y Dynion (peth o'r rasio ddoe)
Gwybodaeth allweddol: Y mwyaf cymhleth o'r disgyblaethau trac. Mae'n debyg i decathlon ar ddwy olwyn; 4 digwyddiad gwahanol dros ddeuddydd. Mae 18 o reidwyr yn cystadlu; un o bob gwlad. Dyma olwg fanylach ar y digwyddiadau:
Scratch Race: Ras 15km, fel arfer yn wib glwstwr, y cyflymaf dros y llinell yn ennill
Individual Pursuit: 4km. Dau reidiwr yn mynd benben; ceisio dal y llall neu osod yr amser cyflymaf
Elimination Race: Bob 2 lap, mae'r reidiwr olaf dros y llinell yn cael ei ddiarddel. Y reidiwr sy'n para hiraf yw'r ennillydd.
Ras Bwyntiau: 40km o hyd. 160 lap; bob 10 lap mae gwib bwyntiau (debyg i'r rhai yn y Tour). Pedwar cyntaf yn cael 5, 3, 2 ac 1 pwynt yn ol eu trefn. Er hynny, yr amcan yw i fod un lap cyfan o flaen y gweddill; y sawl sy'n gwneud hynny sy'n ennill. Fel arall, os ydyn nhw'n cyrraedd y lap olaf, mae 'na bwyntiau dwbl ar y llinell derfyn.
SUT MAE ENNILL: Mae'r pwyntiau o'r 3 digwyddiad cyntaf yn cael eu cario drwyodd i'r ras bwyntiau. Os ydych chi un lap tu ol i'r sawl ar y blaen yn y ras bwyntiau, rydych chi'n colli pwyntiau o'ch casgliad. Felly, does dim dal pwy sydd am ennill tan y llinell derfyn.
Ffefrynnau: Benjamin Thomas (Ffrainc), Elia Viviani (Yr Eidal), Matt Walls (Prydain), Jan Willem van Schip (Yr Iseldiroedd), Campbell Stuart (Seland Newydd), Szymon Sajnok (Gwlad Pwyl), Roger Kluge (Yr Almaen)
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Keirin y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Sylfaenwyd y Keirin yn Siapan ym 1948, ac mae'n dal i fod yn gamp hynod, hynod boblogaidd ym mamwlad Gemau Olympaidd 2020. Maen nhw'n dilyn beic modur, elwir yn derny, sy'n cynyddu'r tempo hyd at 45km/h. Mae'r derny'n tynnu i'r naill ochr gyda tua 2 a hanner o'r 8 lap yn weddill, ac oddi yno mae'n ras wib i'r llinell derfyn.
Ffefrynnau: Lee Wai Sze (Hong Kong), Kaarle McCulloch (Awstralia), Daria Shmeleva (Rwsia), Emma Hinze (yr Almaen)
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Gwener, 6ed o Awst
Velodrome Diwrnod 5
Amser: 07:25 tan tua 10-11
Sprint Unigol y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Ras yn erbyn y cloc unigol o 200m a'r 16 cyflymaf yn mynd drwyodd i'r rowndiau terfynol. Bryd hynny, dau reidiwr yn mynd benben a'r cyflymaf dros y llinell yn ennill. Fel arfer yn dactegol dros ben, yn enwedig yn y 200m pan mae pasio reidiwr ar yr ochr dywyll yn golygu diarddel. Felly, mae reidiwr yn ceisio cymryd y llinell byrraf o gwmpas y trac gan orfodi'r gwrthwynebydd i gymryd llinell hirach o'u cwmpas.
Ffefrynnau: Jason Kenny (Prydain), Denis Dmitriev (Rwsia), Matthew Glaetzer (Awstralia), Harrie Lavreysen (Iseldiroedd), Ethan Mitchell (Seland Newydd), Jack Carlin (Prydain), Sebastian Vigier (Ffrainc), Jeffrey Hoogland (Iseldiroedd), Mateusz Rudyk (Gwlad Pwyl), Azizhulasni Awang (Malaysia)
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Madison y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Mae'r madison yn cynnwys timau o ddau, lle mae un reidiwr yn tynnu'r reidiwr arall ar y tim o'i flaen gerfydd ei fraich. Mae'n ras 30km, 120 o laps. Bob 10 lap, mae'r reidwyr yn gwibio am y llinell, gyda phwyntiau'n cael eu dosbarthu i'r pedwar tim gyda'r canlyniadau cyfun gorau (5, 3, 2 ac 1). Mae pwyntiau dwbl ar y lap olaf. Yn debyg i'r ras bwyntiau yn yr omnium, mae 'na 20 pwynt ar gael os ydy tim yn llwyddo i fynd lap ar y blaen i weddill y timau. Y tri tim gyda'r mwyaf o bwyntiau ar y diwedd sy'n ennill y medalau. Dyma'r tro cyntaf i ras madison i'r menywod gael rhan yn y Gemau Olympaidd.
Ffefrynnau: Iseldiroedd, Ffrainc, Yr Eidal, Awstralia, Denmarc, Prydain, Gwlad Belg
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Sadwrn, 7fed o Awst
Velodrome Diwrnod 6
Amser: 07:25 tan tua 10-11
Dechrau Omnium y Menywod. Gweler yfory am fanylion pellach.
Madison y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Mae'r madison yn cynnwys timau o ddau, lle mae un reidiwr yn tynnu'r reidiwr arall ar y tim o'i flaen gerfydd ei fraich. Mae'n ras 50km, 200 o laps. Bob 10 lap, mae'r reidwyr yn gwibio am y llinell, gyda phwyntiau'n cael eu dosbarthu i'r pedwar tim gyda'r canlyniadau cyfun gorau (5, 3, 2 ac 1). Mae pwyntiau dwbl ar y lap olaf. Yn debyg i'r ras bwyntiau yn yr omnium, mae 'na 20 pwynt ar gael os ydy tim yn llwyddo i fynd lap ar y blaen i weddill y timau. Y tri tim gyda'r mwyaf o bwyntiau ar y diwedd sy'n ennill y medalau. Dyma'r tro cyntaf i ras madison i'r menywod gael rhan yn y Gemau Olympaidd.
Ffefrynnau: Iseldiroedd, Ffrainc, Yr Eidal, Awstralia, Denmarc, Prydain, Gwlad Belg
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Dydd Sul, 8fed o Awst
Velodrome Diwrnod 7
Amser: 02:00 - 05:30
Keirin y Dynion
Gwybodaeth allweddol: Sylfaenwyd y Keirin yn Siapan ym 1948, ac mae'n dal i fod yn gamp hynod, hynod boblogaidd ym mamwlad Gemau Olympaidd 2020. Maen nhw'n dilyn beic modur, elwir yn derny, sy'n cynyddu'r tempo hyd at 50km/h. Mae'r derny'n tynnu i'r naill ochr gyda tua 2 a hanner o'r 8 lap yn weddill, ac oddi yno mae'n ras wib i'r llinell derfyn.
Ffefrynnau: Jason Kenny (Prydain), Matthijs Buchli (Iseldiroedd), Azizulhasni Awang (Malaysia), Tomas Babek (Czechia), Maximilian Levy (Yr Almaen), Yudai Nitta (Siapan), Stefan Botticher (Yr Almaen), Harrie Lavreyson (Iseldiroedd), Yuta Wakimoto (Siapan)
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Omnium y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Y mwyaf cymhleth o'r disgyblaethau trac. Mae'n debyg i decathlon ar ddwy olwyn; 4 digwyddiad gwahanol dros ddeuddydd. Mae 18 o reidwyr yn cystadlu; un o bob gwlad. Dyma olwg fanylach ar y digwyddiadau:
Scratch Race: Ras 10km, fel arfer yn wib glwstwr, y cyflymaf dros y llinell yn ennill
Individual Pursuit: 3km. Dau reidiwr yn mynd benben; ceisio dal y llall neu osod yr amser cyflymaf
Elimination Race: Bob 2 lap, mae'r reidiwr olaf dros y llinell yn cael ei ddiarddel. Y reidiwr sy'n para hiraf yw'r ennillydd.
Ras Bwyntiau: 25km o hyd. 100 lap; bob 10 lap mae gwib bwyntiau (debyg i'r rhai yn y Tour). Pedwar cyntaf yn cael 5, 3, 2 ac 1 pwynt yn ol eu trefn. Er hynny, yr amcan yw i fod un lap cyfan o flaen y gweddill; y sawl sy'n gwneud hynny sy'n ennill. Fel arall, os ydyn nhw'n cyrraedd y lap olaf, mae 'na bwyntiau dwbl ar y llinell derfyn.
SUT MAE ENNILL: Mae'r pwyntiau o'r 3 digwyddiad cyntaf yn cael eu cario drwyodd i'r ras bwyntiau. Os ydych chi un lap tu ol i'r sawl ar y blaen yn y ras bwyntiau, rydych chi'n colli pwyntiau o'ch casgliad. Felly, does dim dal pwy sydd am ennill tan y llinell derfyn.
Ffefrynnau: Laura Kenny (Prydain), Kirsten Wild (Netherlands), Amalie Dideriksen (Denmarc), Letizia Paternoster (Yr Eidal), Jennifer Valente (UDA), Yumi Kajihara (Siapan), Daria Pikulik (Gwlad Pwyl), Lotte Kopecky (Gwlad Belg)
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Sprint Unigol y Menywod
Gwybodaeth allweddol: Ras yn erbyn y cloc unigol o 200m a'r 16 cyflymaf yn mynd drwyodd i'r rowndiau terfynol. Bryd hynny, dau reidiwr yn mynd benben a'r cyflymaf dros y llinell yn ennill. Fel arfer yn dactegol dros ben, yn enwedig yn y 200m pan mae pasio reidiwr ar yr ochr dywyll yn golygu diarddel. Felly, mae reidiwr yn ceisio cymryd y llinell byrraf o gwmpas y trac gan orfodi'r gwrthwynebydd i gymryd llinell hirach o'u cwmpas.
Ffefrynnau: Katy Marchant (Prydain), Zhong Tianshi (Tseina), Lee Wai Sze (Hong Kong), Mathilde Gros (Ffrainc), Emma Hinze (Yr Almaen), Anastasia Voynova (Rwsia)
CANLYNIAD Aur:
Arian:
Efydd:
Comments