Mae Mallorca, ynys fwya’r Baleares, yn aml yn cael ei galw’n baradwys i seiclwyr.
Faint o wir sydd i hynny?
Ydy hynny’n difetha’r cyfan?
Mae'n cael ei werthu'n bennaf gan y tri peth isod:
1. Tywydd da
2. Ffyrdd da, esmwyth
3. Tirwedd cymysg
Fues i draw am benwythnos estynedig dros y Pasg, ac felly dwi rŵan mewn sefyllfa i ateb y cwestiynau yma.
Ddiwedd y cofnod, mi wna’i roi fy asesiad.
Cyn hynny, fodd bynnag, dyma ryff geid i chi i seiclo yn Mallorca.
*Gyda llaw! Dwi’n cofio ryw reol glywais i gan rywun rywbryd nad oes angen/na ddylid treiglo enwau llefydd tramor (sydd heb enw Cymraeg). Dyna pam mai ‘yn Mallorca’ fydda i’n ei ysgrifennu yn y cofnod yma, ac nid ‘ym Mallorca’.
Sut i gyrraedd
Hedfan yw’r opsiwn amlwg (yr unig opsiwn?) ac mae hediadau cyson i Palma o ogledd-orllewin Lloegr, o Birmingham, o Lundain ac o Fryste.
Mae’r hediadau yn sicr yn gyfle da i weld croestoriad cymdeithas, gan fod yr ynys yn denu perchnogion cyfoethog villas arfordirol a’r rhai sydd â’u pryd ar Magaluf fel ei gilydd.
Lle i aros
Mae’r rhan fwyaf o seiclwyr yn aros yn Port de Pollença, ar ben gogleddol yr ynys. Mae’n agos at rai uchafbwyntiau, ond yn bellach at rai eraill, ac yn siwrne o ryw 50 munud o’r maes awyr yn Palma. Mae tipyn o amrywiaeth o ran y seiclo oddi yma; mae modd dringo, ond mae modd seiclo ar y gwastatir hefyd. Mae’r ffyrdd i fynd allan o’r dref braidd yn brysur, er bod lôn i feics, felly rhywbeth i’w gadw mewn cof.
Mae posib aros yn Palma hefyd, i ymdrochi yn niwylliant y dref tra’n cydbwyso â’r seiclo. Bydd angen tipyn o seiclo er mwyn cyrraedd rhai o'r uchafbwyntiau, ond mae gosatrwydd at y maes awyr yn fonws.
Fues i’n aros yn Sóller. Opsiwn ‘canol’ efallai – yn ganolog o ran lleoliad, yn daith o ychydig dros hanner awr o’r maes awyr. Pe baech yn cymharu rhagolygon y tywydd rhwng y tri lleoliad, mae Sóller ambell radd yn gynhesach na’r lleill gan amlaf, am ei fod yn llygad yr haul, ac roedd hyn i’w deimlo. Mae'n debyg fod yr enw'n dod o'r Arabeg am 'ddyffryn aur'. Un ystyriaeth yw fod rhaid dringo allan o’r dref, pa bynnag gyfeiriad yr aech. Mae hefyd fymryn yn ddrytach ar gyfartaledd na’r ddau leoliad arall. Dyma dref, fodd bynnag, sydd â chydbwysedd braf o ran maint, prysurdeb, cyfleusterau, naws ac yn y blaen. Byddwn i’n argymell Sóller droeon a thro.
Sóller
Mae digonedd o lefydd i hurio beic. Pe aech i Sóller, ges i brofiad gwych yn Kilómetro Cero. Er mai mynd i Mallorca i geisio ymarfer Sbaeneg wnes i, Ffrancwr sy’n rhedeg y siop, felly siarad Ffrangeg amdani. Mae ganddo fo ystod eang iawn o feiciau o bob math ac i ffitio pob cyllideb, dwi’n credu, am fod y prisiau’n rhesymol. 117 ewro am 4 diwrnod ar Pinarello Paris 105. Dolen: https://www.kilometrocero-mallorca.com.
Uchafbwyntiau
Y lle amlwg i ganoli’ch seiclo yw parc cenedlaethol Sierra de Tramuntana; ystod o fynyddoedd sy’n safle treftadaeth y byd. Dyma’r holl uchafbwyntiau o’m pedwar taith, yn y drefn y gwnes i eu cwblhau nhw.
Er hwylustod, dwi wedi defnyddio meddalwedd Komoot i blotio’r route byrraf posib – taith gylch (h.y. cychwyn a gorffen yn yr un lle) – o’r tri lleoliad; Port de Pollença, Sóller a Palma. Wedi gadael i’r algorithm wneud y gwaith, felly dim ond bras syniad ydy hwn – mae’r routes nes i wneud yn dod nes ymlaen yn y blogbost.
Puig Major
y ffordd gefn i'r Puig Major drwy Fornalutx
Dyma’r brif ddringfa allan o Sóller, ac mi wnes i orfod ei dringo deirgwaith mewn pedwar diwrnod. Mae dwy ffordd i’w dringo – y brif ffordd, neu’r ffordd gefn drwy bentref Fornalutx. O fod wedi gwneud y ddwy, byddwn i’n argymell y ffordd gefn i ddringo – mae’n dawel hyfryd, golygfeydd da, ac mae’n arbed ryw fymryn ar y gwaith dringo a’r pellter. Mae’r brif ffordd yn well ar y ffordd i lawr. Naill ffordd neu’r llall, mae’n oddeutu 15km o hyd, felly tipyn go lew o waith dringo. Dim byd rhy serth, fodd bynnag; mae’r cyfan yn ddigon cyfforddus.
Taith gylch 32km / 20mi o Sóller
Taith gylch 96km / 60mi o Palma
Taith gylch 116km / 72mi o Port de Pollença
Sa Calobra (Coll dels Reis)
Dyma brif ddringfa Mallorca. Dyma sy’n denu’r rhan fwyaf o seiclo-dwristiaid. Mae'n faes chwarae i seiclwyr proffesiynol, a hwythau’n brwydro am deitl KOM Strava am yr amser cyflymaf i’w dringo. Tom Pidcock sydd piau’r teitl ar hyn o bryd, ac yntau wedi’i ddringo mewn amser o tua 22 munud. Mi gymerodd fwy na hynny i mi fynd i lawr. Mae’r corneli’n dynn, a phensaernïaeth y ffordd yn anhygoel. Dieithr yw’r teimlad o ddisgyn cyn dringo; bron fod y dringo’n gosb am fwynhau’r disgyniad, yn hytrach na’r disgyn yn wobr am ddringo. Beth bynnag, tua 9km ar tua 7% ydy o; ddim yn rhy ddrwg. Mae ‘na shack handi ar y gyffordd ychydig ar ôl y copa i gael tamaid a llymaid.
Taith gylch 75km / 47mi o Sóller
Taith gylch 97km / 60mi o Port de Pollença
Taith gylch 135km / 84mi o Palma
Coll de Femenia
Mae tipyn o plateau rhwng top y Puig Major a thop y Coll de Femenia. Alla i ddim tystio ‘mod i wedi dringo hon, ond dw i wedi bod ar i lawr. Golygfeydd gwych, ond o ystyried safon a chyflymder y disgyn, dwi’n dychmygu’i fod o’n dipyn go lew o slog o gyrion Pollenca.
Taith gylch 41km / 26mi o Port de Pollença
Taith gylch 77km / 48mi o Sóller
Taith gylch 100km / 62mi o Palma
Cap de Formentor
Un arall o lefydd seiclo mwyaf poblogaidd yr ynys, ond yn anffodus mae’n boblogaidd iawn gyda cheir yn ogystal, gyda’r goleudy ar y pen. Fyny a lawr ydy natur y ffordd, ond mae golygfeydd arbennig i’w cael o arfordir y penrhyn. Yn fy marn bersonol i, mae’n un i’w wneud un waith er mwyn cael y llun proffesiynol a gallu dweud eich bod wedi bod yno. Ond fydda i ddim yn brysio’n ôl yno. Ond chwaeth bersonol am lefydd tawelach, llai poblogaidd sy’n arwain at y farn honno. Ar ben hynny, mae’n bell o Sóller a Palma; ro’n i’n lwcus iawn o gael lifft nôl (gan y teulu, nid gan rywun rywun oddi ar y stryd, gyda llaw).
Os ydych chi’n desbret i weld goleudy (?) ges i orig ddifyr yn mynd i Cap Gros o Port de Sóller.
Taith gylch 38km / 24mi o Port de Pollença
Taith gylch 155km / 96mi o Sóller
Taith gylch 160km / 99mi o Palma
Coll de Sa Batalla
Eto, dim ond y disgyniad alla i dystio i fod wedi gwneud. O hynny, dwi’n gwybod ei bod hi’n dipyn o ddringfa gan ddechrau ym mhentref Caimari, a bod golygfeydd da i’w cael o wahanol rannau o'r ynys.
Taith gylch 62km / 39mi o Port de Pollença
Taith gylch 80km / 50mi o Sóller
Taith gylch 89km / 55mi o Palma
Coll de Sóller
Mae’n anodd gen i ddychmygu mai dyma oedd y brif ffordd rhwng Sóller a Palma cyn adeiladu’r twnel yn y 90au, o ystyried yr holl fannau culion a bachdroeon (herraduras yn Sbaeneg, neu fel mae’r arwyddion yn ddweud, curvas peligrosas, corneli peryg – digon teg). Dim rhyfedd mai’r porthladd oedd ffynhonnell economaidd yr ardal. Ta waeth am hynny, mantais y twnel yw llonyddwch a diffyg prysurdeb y ddringfa – sy’n bleserus iawn y ddwy ochr, a sy’n ffefryn gan nifer.
Taith gylch 18km / 11mi o Sóller
Taith gylch 59km / 37mi o Palma
Taith gylch 129km / 80mi o Port de Pollença
Port des Canonge
Dyma ddringfa sy’n anghyfarwydd i nifer fawr; does neb o’r seiclwyr dwi’n eu dilyn ar Strava wedi’i wneud, er fod llawer wedi bod yn Mallorca. Does dim diben i’r dringo chwaith; fawr ddim apêl i’r pentref ar y gwaelod ar lan y môr o ran caffi neu far ac yn y blaen. Ond mae golygfeydd gwych i’w cael ac mae’n ddringfa dawel iawn; yn uchel iawn ar fy rhestr o ffefrynnau.
Taith gylch 46km / 29mi o Palma
Taith gylch 67km / 42mi o Sóller
Taith gylch 144km / 89mi o Port de Pollença
Coll d’en Claret
Dyma un arall o fy ffefrynnau pennaf. Dydy hi fawr o ddringfa â dweud y gwir; fyddai neb yn mynd yn unswydd i’w dringo. Mae hi’n rhan o gylchdaith yn agos at bentref poblogaidd Valldemossa (y pentref uchaf ar yr ynys dwi’n credu), ond mae’n berl. Y tarmac yn esmwyth, y cwbl yn eang a golygfa tua Palma, a’r cyfan ddim ond yn rhyw 4km ar tua 4 neu 5%. Mae’n fwy o her wrth gwrs fel estyniad i ddringfeydd o Port des Canonge neu Port de Valldemossa. Profiad gwerth chweil, p’run bynnag.
Taith gylch 43km / 27mi o Palma
Taith gylch 56km / 35mi o Sóller
Taith gylch 140km / 87mi o Port de Pollença
Port de Valldemossa
O’i gymharu â Port des Canonge, mae hwn ychydig yn fwy poblogaidd; fwy na thebyg oherwydd fod ‘na le i fwyta yn y porthladd, ac mae ‘na ychydig mwy o fwrlwm bywyd bob dydd (yn hytrach na phobl ar eu gwyliau). Ges i ychydig bach o fraw yn gweld y prisiau yn y bwyty – yr unig un o’n i’n meddwl, ond wedi dweud hynny nes i gymryd hynny’n ganiatâol; falle bod ‘na un arall rownd y gornel. Ta waeth, roedd hwn yn saib bach llonydd a heddychlon dros ben; cyn cychwyn ar y dringo rownd y corneli tynn, cul.
Taith gylch 52km / 32mi o Palma
Taith gylch 52km / 32mi o Sóller
Taith gylch 142km / 88mi o Port de Pollença
Beth i’w ddisgwyl / argraffiadau cyffredinol
Felly i fynd yn ôl at y tri phwynt gwreiddiol:
1. Tywydd da
Ges i dywydd da iawn – yno yn ail wythnos Ebrill. Dw i wedi clywed sôn am dywydd anwadal yma fodd bynnag, ond ar y cyfan dwi’n meddwl fod y tywydd yn weddol ddibynadwy. Yn fwy dibynadwy, beth bynnag, na llefydd fel y Pyrenees neu ddyfnderoedd gwledig Andalucía sydd yn fwy ‘mynyddig’ ac felly’n naturiol yn oerach ac mae niwl yn fwy cyffredin.
2. Ffyrdd da, esmwyth
Nonsens! Ar y cyfan, roedd safon y ffyrdd yn wael o’i gymharu â beth oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Nid yn unig ar y ffyrdd cefn, cul (werth osgoi’r rhain), ond hyd yn oed ar y ffyrdd mwy poblogaidd. Poen pen-ôl ar ddisgynfeydd. Does dim cymhariaeth ag Andalucía, er enghraifft. Dydy disgynfa ddim yn teimlo fel disgynfa pan fo’r ffordd yn graciau a thyllau i gyd, ar ben yr holl gorneli tynn.
3. Tirwedd cymysg
Gwir. Ond os ydych chi, fel fi, yn aros yn Sóller neu oddi fewn i’r parc cenedlaethol, yna mae llawer mwy o ddringo nag o seiclo ar y gwastatir. Ond, mi wnes i ffeindio fod y dringo yn manageable – dim byd rhy hir (Sa Calobra yn 9km er enghraifft) – yn enwedig ar ddiwrnodau o bellter hirach. Dim byd rhy serth chwaith. Llawer iawn haws o’u cymharu â’r Alpau neu’r Pyrenees a’u dringfeydd 15-20km ar 8%. Ond eto, am ein bod ni’n Gymry, does dim modd cael cystal ymarfer nag oes – ro’n i’n ymarfer ar ddringfeydd 20 munud ar gyfer dringfeydd 50 munud-awr. Felly gwnewch benderfyniad ar sail eich parodrwydd i ddringo!
Ambell nodyn bach arall...
Traffic: Gyrrwyr yn ystyrlon ac amyneddgar iawn ar y cyfan. Safonau’r seiclwyr lleol yn uchel iawn... rhegfeydd mawr am ymddygiad fyddai’n foddhaol adref dwi’n meddwl. Mwy o draffig nag y byddwn i wedi ei hoffi ar Cap de Formentor yn enwedig, beics modur yn bla ar ddydd Sul fel adref, ond hawdd iawn yw dianc i ffyrdd tawel.
Iaith: Mae rhai arwyddion yn uniaith Catalaneg. Mi gewch chi gyfle i ystwytho’ch Sbaeneg o dro i dro, ond mae Saesneg y rhan fwyaf o safon uchel.
Seiclo-dwristiaeth: Ches i ddim fy nharo gan nifer y seiclwyr; yn amlwg rydym ni ym mhobman, ond ddim yn teimlo’n fwy na’r Alpau na’r Pyrenees chwaith.
Beth oedd yn braf iawn i’w weld, fodd bynnag, oedd y croestoriad o seiclwyr. Roedd 'na gymaint o fenywod ar feics, bron cymaint ag o ddynion, oedd yn wych i’w weld; seiclwyr o bob gallu, a chriw o Black Cyclists Network hefyd. Mae fel pe bai’n ficrocosm o’r gymuned seiclo fyd-eang. Rhywbeth y gwnes i’i werthfawrogi.
Seiclo i deuluoedd: Dwi’n meddwl fod opsiynau gwell – ardal Annecy yn enghraifft a’r llwybr beics godidog – ar gyfer teuluoedd sy’n mynd â’r bwriad o seiclo tipyn. Does dim llwybrau seiclo, fel y cyfryw, a thipyn o waith dringo fel y bûm i’n sôn. Ond, os mai un weithgaredd yw seiclo, yna mae digonedd o weithgareddau eraill i blesio pawb ar yr ynys; boed o’n gerdded neu’n fynd i’r traeth neu grwydro Palma neu barciau dŵr/anifeiliaid ac yn y blaen.
Felly dyna ni. Amcan y cofnod oedd bod yn gynhwysfawr o ran y wybodaeth am seiclo ar yr ynys, a dwi’n gobeithio 'mod i wedi llwyddo.
Yn hynny o beth, am fy mod i fel petawn i’n pwyso a mesur, efallai nad ydw i wedi cyfleu’n ddigonol gymaint o fwynhad ges i. 4 diwrnod anhygoel o seiclo, ymysg y gorau i mi eu cael erioed.
Dwi’n argymell 100%.
Yn sicr, o’m safbwynt i, mae Mallorca yn baradwys seiclo.
Commentaires