Ar gyfer fy nghomisiwn diweddaraf ar gyfer BBC Cymru Fyw, bum yn cyfweld Eluned King, aelod o dim Wahoo-Le Col a system ieuenctid British Cycling, am ei phrofiad yn ei blwyddyn gyntaf fel reidwraig broffesiynol, Paris-Roubaix a'r Tour de France Femmes.
Bu rhaid cadw'r comisiwn hwnnw i lai na 900 gair - gallwch ei ddarllen drwy glicio yma - ond dyma'r fersiwn lawn, heb ei golygu, i chi bori drwyddo.
Mwynhewch!
Yn gyntaf, cyflwyna dy hun i’r darllennwyr, a dweud wrthon ni am dy siwrne hyd at y pwynt yma yn dy yrfa.
Fy enw i yw Eluned King, rwy'n dod a Abertawe ond ar y foment rydw i'n byw ym Manceinion fel ran o dîm seiclo dan 23 Prydain. Fe wnes i ddechrau seiclo gyda Towy Riders yng Nghaerfyrddin yn tua 6 oed. Trwy hynni fe wnes i ddechrau rasio rasys lleol ac yna ymarfer gyda thîm Cymru yn felodrom Casnewydd. Ers 16 oed rydw i wedi bod yn rhan o dîm Beicio Prydain a wedi rasio ym Mhencampwriaeth y Byd ac Ewrop ar y trac ac ar y rhewl. Fe wnes i symud lan i Fanceinion yn Hydref 2020 ac ers hynny rydw i wedi bod llawn amser yn seiclo.
Mi wyt ti wedi bod yn canolbwyntio ar y rasys undydd hyd yn hyn eleni, a tithau wedi llwyddo mewn rasys cyfatebol i reidwyr iau yn ogystal ag ennill pencampwriaethau Prydain; wyt ti’n credu fod dy rinweddau di’n siwtio’r math yna o ras?
Gobeithio! Roeddwn i wir wedi joio y rasys yma eleni er bod nhw i gyd yn hynod galed. Rydw i’n ymwybodol am y blynydoedd nesaf bydd yn galed i gystadlu ar y lefel uchaf ond gyda pheth gwaith a gobeithio peth lwc hefyd, byddai’n gallu bod yn gystadleuol rhywbryd yn y dyfodol. Mae’r rasio ym Mhrydain a Gwlad Belg wir yn siwtio fi gan fy mod i’n hoffi rasys caled sydd yn nodweddiadol i’r gwledydd yma, ond rydw i hefyd moen gweld siwd gallai ddatblygu yn rasys aml-gymal gan fy mod i heb eto wedi neud un ar y lefel proffesiynol.
Mi wyt ti hefyd wedi cymryd cam ymlaen i’r lefel broffesiynol eleni gyda Le Col-Wahoo - sut mae hynny wedi bod? Oedd o’n beth eithaf daunting i’w wneud - neu’n broses naturiol? Pa wahaniaethau wyt ti wedi sylwi rhwng rasio ieuenctid a rasio proffesiynol?
Rydw i wastad wedi moen camu i fyny i dim broffesiynol ar yr heol a phan wnes i siarad gyda Le Col-Wahoo am y tro cyntaf roedd hi’n glir mai dyma oedd y tim orau i fi gario mlaen datblygu gyda am o leiaf y dwy flynedd nesaf. Mae’r cam i fyny o rasio ieuenctid neu rasio ym Mhrydain i gymharu gyda rasio ar y cyfandir yn enfawr. Un peth mawr yw yn amlwg y pellter, i gymharu gyda 80km rydw i’n rasio 160km yn aml nawr, ond rwy’n credu mai’r gwahaniaeth mwyaf yw’r nifer o bobl ar y lefel uchaf. Mae bob tim yn gystadleuol, pe bai’n rasio i fod yn y dihangiad neu i fod yn y tim cyntaf mewn i sector neu dringfa. Ar y lefel uchaf yn amlwg dim ond 10 beicwraig sydd eisioes gallu ennill y rasys fwyaf, ond ar y lefel o dan mae pawb yn ysu i dorri mewn i’r grwp yma, ac yn y diwedd mae lefel cyffredinol y peloton yn cynyddu.
Dweud wrthon ni fymryn mwy am dy brofiad di o Paris-Roubaix; mae’n un o’r rasys mwyaf enwog ar y calendr, ac yn un o’r rasys anoddaf ar y calendr. Mae’n siwr ei fod o wedi bod yn brofiad anhygoel gwneud ras o’r fath mor ifanc, yn enwedig o ystyried mai dim ond ers llynnedd mae’r ras wedi bodoli?
Roedd Roubaix yn wych, yn anffodus nes i gwympo cyn y sector gyntaf o ‘cobbles’ a fe wnes i gael anaf i fy llaw ac fy asennau. O sector 17 i’r diwedd (mae’r sectorau yn cyfri lawr o 17 i 1), roedd dal 90km i rasio ac roeddwn i yn barod tu ol yr holl geir. Fe wnes i feicio rhan fwyaf o’r ffordd i’r felodrom ar ben fy hunan, yn pasio rheini oedd hefyd wedi cael peth anlwc ond oedd yn camu bant eu beiciau. Dyna’r poen mwyaf dwi wedi cael o’r blaen ar y beic ac roedd adegau roeddwn i ddim yn meddwl roeddwn i mynd i orffen. Ond roedd y torf yn anhygoel, roedd wal o swn ac fe wnaeth gymaint o bobl ddod i weld y ras. Er fy mod i’n ifanc ac rwy’n credu rydw i’n rhy ifanc i rasio rasys megis Roubaix, roedd y profiad yn arbennig. Fe wnes i neud recon go iawn o’r cwrs gyda Mavic tua mis cyn y ras a wedyn un arall gyda cwpl o’r merched wythnos cyn. Rydw i nawr yn gwybod y cwrs yn dda iawn a rwy’n credu yn y blynyddoedd nesaf bydd y dealltwriaeth yma o’r ras yn talu.
Yn sgil yr anaf yn Roubaix, ydy dy gynlluniau di ar gyfer y tymor wedi newid o gwbl? Beth yw’r amcanion ar gyfer gweddill y tymor?
Rydw i’n iawn ar ol yr anaf, ar ol tri dydd roeddwn i gallu beicio ar y turbo ac wedyn erbyn diwedd yr wythnos roeddwn i nol ar yr heol. Roedd gen i beth poen yn y llaw ac yr asennau yn enwedig ond does dim byd allwch chi rhili gwneud ond am aros i nhw wella, felly roeddwn i’n iawn i fod nol ar y beic. I’r amcanion, rydw i moen rasio y Team Pursuit a’r ‘Road Race’ yn y Gemau Gymanwlad, gyda’r gol fwyaf ar y Road Race i fi yn bersonol. Mis nesaf mae Pencampwriaeth Prydain ar yr heol a rydw i moen ennill y Crit a chael canlyniad da yn y Road Race hefyd. Ar ol yr Haf sai wedi cael cyfle eto i weld beth hoffwn i anelu at, ond mae eleni i gyd i fi amdano dysgu gymaint ag rwy gallu a chael profiad yn y rasys mwyaf ar y calendr.
O wybod fod Le Col-Wahoo wedi eu dewis ar gyfer y Tour de France Femmes eleni, faint o bwyslais sy’n cael ei roi ar y ras honno o fewn y tim? Ydy pawb yn anelu at yr un nod? Oes ‘na felly awyrgylch gystadleuol; pawb yn ysu i gael bod yn rhan o’r Tour de France cyntaf i fenywod?
Efallai i’r rheini sydd yn ysu i gystadlu yn y Tour de France Femmes, ond i fi ar ol trafod gyda’r tim ac hefyd gyda British Cycling, rwy’n credu bydd yn gam rhy pell i fi eleni. Mae’r ras hefyd ar ar yr un pryd ag y Gemau Gymanwlad ar y trac felly i fi mae hyna’n amcan fwy pwysig. I feicio menywod mae’r ras yn gret, ac yn hynod bwysig i ddatblygiad y chwaraeon yn gyffredinol. Mae’n teimlo fel cam enfawr i’r peloton i gyd, a rwy’n gwybod bod pawb yn y tim yn edrych ymlaen i fod yn ran fach o’r hanes.
Fel reidwraig ifanc o fewn y garfan, faint o hyder wyt ti’n ei gael o reidio gyda menywod proffesiynol eraill yn enwedig rhai mwy profiadol, a faint o hyder wyt ti’n ei gael o’r ffaith fod y tim yn rhoi ffydd ynot ti i fynd a rasio yn y rasys mawr yma?
Mae’r tim yn le gwych i ddatblygu fel beicwraig ifanc ond hefyd fel unigolyn a mae pawb moen codi safon pawb o’i gwmpas. Mae’r staff moen bod yn fwy a fwy broffesiynol bob blwyddyn ac yn gwneud popeth mae nhw gallu i wneud yn siwr bod ni y beicwyr yn y lle orau yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’r aelodau mwy profiadol o’r tim yn hoffi helpu llawer, gyda chyngor am bob dim, ar, ac bant y beic. Y peth fwyaf pwysig i fi yw bod dim gormod o bwysau ar canlyniadau a bod bob dim am ddatblygiad. Er enghraifft, ar ol 90km o Gent Wevelgem eleni roeddwn i yn wag. Roedd fy swydd i gyd amdano y ran cyntaf o’r ras gyda’r risg o echelon a gwynt rhyddefa. Fe wnes i fy swydd yn gynnar ac roeddwn i yn un o’r grwpiau bach tu ol y peloton ar ol y Kemmelberg. Roeddwn i dal yn bell o’r diwedd ond roeddwn i moen cyraedd diwedd y ras. Ar ol cwpla, fe wnaeth y DS siarad gyda fi amdano fel bod hyn yn dda i wneud bob tro, gan bod bob ras hefyd yn gyfle i wella yn gorfforol a nad yw’r rasys dim ond amdano pwy sydd yn croesi y llinell yn gyntaf.
Sut brofiad ydy bod yn rhan o’r chwyldro newydd yma o fewn seiclo menywod; a thithau ar ddechrau dy yrfa fel seiclwraig broffesiynol, ydi’r newidiadau cyffrous a chadarnhaol yma yn dy lenwi a chynnwrf?
Mae teimlad o newid yn y peloton ar y foment, yn enwedig gyda’r timau ‘World Tour’ yn dod mewn ag fwy o reolau i edrych ar ol ni y beicwyr. Gyda chamau fel cyflog minimwm, rheolau i wneud gyda absenoldeb mamolaeth a fwy o rasys mawreddog, mae’r chwaraeon yn mynd o nerth i nerth. Yr unig peth byddwn i’n anghytuno gyda yw bod y UCI yn blaenoriaethu rhoi fwy o wobr arianol na chyflog minimwm i’r rheini sydd ddim yn reido i dim World Tour. Yn fy marn i, mae angen edrych ar ol nhw sydd yn rasio i dimau ‘Continental’ neu greu lefel rhwng ‘World Tour’ a ‘Continental’ felly bod fwy o bobl gallu byw fel beicwraig proffesiynol a ddim cael swydd ar yr ochr i gallu fforddio byw.
Comments