(Scroll down for English)
Mae'n braf gallu dweud fod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir o ran y pandemig ar hyn o bryd.
Rhwng lefel isel o achosion a gwaith diflino staff y GIG ar y raglen frechu, mae elfen o normalrwydd yn dychwelyd a gallwn ailgydio yn rhai o'r elfennau o seiclo sydd wedi bod yn amhosib dros y misoedd diwethaf.
Ond, mae'n rhaid i rai digwyddiadau aros yn rhithiol am y tro.
Un ohonynt yw'r Tour of Pembrokeshire, sportive blynyddol, fydd yn cael ei chynnal wythnos nesaf, ac fel mae un o'r trefnwyr yn esbonio wrtha i isod, mae'n fwy real na byddai un yn disgwyl...
I ddechrau, dywedwch wrth y darllennwyr am sut beth oedd y Tour of Pembrokeshire mewn oes cyn Covid.
Mae'r Tour of Pembrokeshire yn croesawu reidwyr o ar draws y byd. Cynhelir y digwyddiad yn Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi lle mae'r seiclwyr yn reidio un o bedwar route heriol, yr hiraf ohonynt y Paul Ties 100. Mae'r gorsafoedd bwyd bob ryw 20 milltir yn llawn o fwydydd wedi'i gwneud yn lleol a'n cael ei redeg gan RAF Air Cadets. Mae'r atmosffer yn y digwyddiad, yn enwedig ar y diwedd, yn ddiguro. Mae'r digwyddiad yn cefnogi wyth o elusennau, bob un yng Nghymru, ac mae'r coaster i'r rhai sy'n gorffen wedi'i wneud o onnen wedi'i dyfu'n lleol.
Oedd y penderfyniad i gynnal yn rhithiol eleni yn un anodd, gan ystyried bod pethau wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir yn ddiweddar?
Roedd y penderfyniad i gynnal fersiwn rithiol yn 2021 yn un hawdd. Roeddem ni'n gwybod na fyddai hanner y cystadleuwyr wedi'i brechu, roeddem ni'n credu byddai cyfyngiadau teithio'n dal i fod mewn grym, a gan fod yr adnoddau ar gael i ni ail greu atmosffer y digwyddiad, roedd fersiwn rithiol yn golygu na fyddai neb yn cael ei alltudio ac y bydden ni'n dal i godi arian at elusennau.
Esboniwch i ddarllennwyr sydd a diddordeb cymryd rhan beth yn union yw'r Tour of Pembrokeshire 2021.
Gallwch gwblhau'r digwyddiad un ai tu fewn neu tu allan gyda ffrindiau, yn ddibynnol ar gyfyngiadau lleol, o unrhyw le yn y byd ar benwythnos y 15ed a'r 16eg o Fai. Bydd pob reidiwr yn recordio'u hamseroedd ar-lein ac yn cwblhau'r pellter maent wedi cofrestru i wneud. Byddwn yn anfon y maeth sydd ei angen arnynt mewn musette Tour of Pembrokeshire ychydig o ddiwrnodau o flaen llaw. Gall reidwyr ymuno yn y drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, rhannu lluniau a cael eu lle ar y roll of honour. Bydd pob reidiwr yn derbyn tystysgrif gorffen, felly mae'r digwyddiad yn fwy real na byddech chi'n ddisgwyl.
Beth yw'r pellteroedd gwahanol?
Paul Ties 103 milltir
Bullfinch Cycles 80 milltir
Bryan Jones 60 milltir
Paul Sartori 21 milltir
Sut mae cofrestru?
Ewch i tourofpembrokeshire.co.uk.
Esboniwch pam dewis yr elusennau yma'n benodol.
Gan fod Bryan Jones, un o sylfaenwyr y digwyddiad wedi marw ym mis Rhagfyr o Motor Neurone, penderfynon ni godi arian tuag at My Name’5 Doddie a The Paul Sartori Foundation, wnaeth ofalu am Bryan. Mae Scott Quinnell, ffrind i Doddie Weir, wedi rhoi ei gefnogaeth felly dylai fod yn benwythnos gwerth chweil.
It's great to be able to say that things are heading in the right direction at the moment.
Between a low level of cases and tireless efforts by NHS staff on the vaccination programme, a hint of normality is starting to return as we become more able to restart elements of cycling that have been impossible in the last few months.
However, some events must stay virtual for the time being.
One of them is the Tour of Pembrokeshire, an annual sportive, held next weekend, and as one of the organisers explains below, it's more real than one might think...
First of all, tell the readers about the traditional running of the Tour of Pembrokeshire sportive, in a pre-Covid era.
The Tour of Pembrokeshire welcomes riders from all over the world. The event is held at Ysgol Penrhyn Dewi in St Davids from where cyclists ride one of four challenging routes, the longest of which is the Paul Ties 100. The feed-stations are approximately 20 miles apart and are stocked with locally made food and manned by local communities and RAF Air Cadets. The atmosphere at the event, especially the finish is described as unrivalled. The event supports eight charities, all of which are in Wales and the finisher’s coaster is made in Pembrokeshire from locally grown ash.
Was the decision to go virtual for 2021 a difficult one, considering the fact that things have been heading in the right direction recently?
The decision to create a virtual event for 2021 was an easy one. We knew that at least half of the people attending the event would not have been vaccinated, we felt it highly likely that travel restrictions would be in place and with the excellent resources at our disposal to re-create some of the event’s atmosphere, a virtual event meant no one would be excluded and we could still raise money for charity.
Explain to the readers who might be interested in participating what exactly is the 2021 Tour of Pembrokeshire.
The event can be ridden indoors or out of doors with friends, subject to local regulations, from anywhere in the world during the weekend of the 15th and 16th May. Each rider will record their start time via their on-line timing card and ride the distance they chose when they entered. We will supplement their nutrition with some locally made food that we send to them in a Tour of Pembrokeshire musette a few days beforehand. Riders will be able to join in a social media conversation and upload pictures throughout the event and appear in the roll of honour. Every rider will receive a finisher’s certificate, so the event is actually more real than you may think.
What are the different distances?
Paul Ties 103 miles
Bullfinch Cycles 80 miles
Bryan Jones 60 miles
Paul Sartori 21 miles
How do we enter?
Simply visit tourofpembrokeshire.co.uk
And it’s all for a good cause; explain the decision behind supporting the two chosen charities.
As Bryan Jones, one of the event’s founders had died in December from Motor Neurone Disease, we decided to raise money for My Mame’5 Doddie and The Paul Sartori Foundation, who’d cared for Bryan. Scott Quinnell, a great friend of Doddie Weir’s lent us his support and we’ve had an excellent response so it should be a superb weekend.
Comments