Mae'n bleser gen i gyhoeddi cofnod heno 'ma.
Ers cychwyn y blog hwn ym mis Mehefin 2018, rydw i wedi bod yn rhannu'r cynnwys gyda dilynwyr ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Twitter ddaeth gyntaf, wedyn y clwb ar Strava ac yn gynharach eleni cychwyn arni ar Instagram (o.n. dydw i ddim yn ffan o Facebook).
Dwi'n teimlo bod grwp gwahanol ar bob un o'r cyfryngau uchod. Grwp Twitter yw'r mwyaf - gyda'r gallu i ymestyn tu hwnt i'r 704 dilynwr sydd - wedyn tua 250 o aelodau ar y clwb Strava a chwta 100 o ddilynwyr Instagram.
Braf oedd agor y cyfrif Instagram ddechrau eleni gan fod y rhan fwyaf dwi'n meddwl yn gwbl newydd i gynnwys y blog, a chyfle i gyflwyno'r cynnwys i gynulleidfa newydd unwaith eto.
Un o'r rheiny yw Sophie Tuckwood, neu @welsh.notebook. Cynnwys am ieithoedd sydd yn bennaf - ei llwybr at y safon uchel iawn o'r Gymraeg sydd ganddi erbyn hyn, yn ogystal a dysgu am ieithyddiaeth a dysgu Ffrangeg ar hyn o bryd - ond daeth i'r amlwg bod diddordeb ganddi mewn seiclo.
Felly dyna arwain at gofnod heddiw, cyfle i glywed mwy amdani. Dwi'n siwr y gwnewch chi gytuno fod ei Chymraeg yn ganmoliadwy dros ben ac yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd am ddysgu unrhyw iaith.
Mwynhewch!
Cyn i ni ddechrau o ddifri, dywedwch wrthon ni ychydig amdanoch.
Sophie Tuckwood ydw i. Dw i’n byw yn Sir Benfro a treulio fy amser astudio ieithoedd ac Ieithyddiaeth, mynd ar anturiaethau gyda fy nheulu bach a seiclo.
Mae’n bosib fod rhai o’r darllennwyr wedi dod ar draws eich cyfrif Instagram, @welsh.notebook, lle rydym ni’n gweld eich bod chi wedi dysgu Cymraeg i safon uchel. Disgrifiwch eich taith i ddysgu’r iaith.
Wel, dechreuais i ddysgu Cymraeg cwpl o flyneddoedd yn ôl heb unrhyw syniad am ddysgu ieithoedd, a bod yn onest. Roeddwn i’n meddwl byddai'n dda i'r plant wybod iaith arall. Ond wrth gwrs, wedyn newidiodd fy safbwynt ar Gymraeg ac ieithoedd yn llwyr. Mae wir wedi agor drws i fyd newydd i fi. Dw i’n disgrifio'r profiad fel ‘awakening’! Dw i wedi bod yn taflu fy hun i bopeth Cymraeg ers hynny!
Oherwydd dysgu Cymraeg wedi cael effaith mawr ar fy mywyd, dw i’n gobethio helpu oedolion eraill gwneud yr un peth. Dw i’n gwybod os galla i ei wneud, gall unrhyw un!
Yn ddiweddar hefyd rydw i wedi sylwi ar eich diddordeb ehangach mewn ieithoedd a ieithyddiaeth - o le daeth y diddordeb hwnnw?
Roeddwn i'n arfer credu'r holl gamsyniadau am ddysgu ieithoedd, sy gyda phobl yn y DU yn arbennig. Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n rhy hen, neu ddim yn ddigon clyfar, neu does dim digon o amser da fi. Felly pan sylweddolais i nad oedd y pethau hyn yn wir, dechreuais ymchwilio mwy am ddysgu ieithoedd a sut yn union mae'n digwydd! Wedyn nes i gwympo i lawr y twll cwningen. Nesaf, dw i’n astudio Ieithyddiaeth fel MA.
Iaith yw'r peth sy'n ein diffinio fel rhywogaeth - ein gallu i ddysgu ieithoedd yw ein pŵer mawr ac mae'n galluogi ein holl sgiliau gwybyddol a chymdeithasol. Mae'n galluogi inni drosglwyddo ein gwybodaeth trwy genedlaethau er mwyn creu bywyd fel dyn ni’n ei adnadbod. Mae'n anhygoel ac yn hynod ddiddorol.
Bydda i’n stopio oherwydd gallwn i siarad am hyn dros ddyddiau...
Felly rydym ni wedi cwrdd a chi fel siaradwraig Gymraeg weddol newydd ac un sy’n ymddiddori mewn ieithoedd, dywedwch wrthon ni am eich diddordeb mewn seiclo.
Dechreuodd fy niddordeb mewn seiclo flynyddoedd yn ôl pan symud i mewn gyda fy ngŵr a dechrau gwylio'r Tour de France gyda fe. Felly, dysgais i am seiclo pro gan Chris Boardman a Ned Boulting wrth y segmentau hynny yn yr uchafbwyntiau. Roedd yn gyffrous iawn (annisgwyl) i fi. Dw i wrth fy modd â'r tactegau, dynameg y timau, dod i adnabod y beicwyr, natur ryngwladol y timau, yr angerdd a'r ddrama!
Dros y blynyddoedd, mae mwy a mwy o ddiddordeb gyda fi mewn beicio, yn enwedig nawr mae mwy o ffrindiau sydd â diddordeb yn y gamp gyda fi a bod fy meic fy hun gyda fi! Mae mwy o ddiddordeb gyda fi hefyd mewn beicwyr dygnch, fel Richie Cotter, Lee Craigie, Lael Wilcox a Juliana Bühring.
Pa elfennau o seiclo sy’n mynd a’ch pryd chi fwyaf; gwylio seiclo proffesiynol neu fwynhau seiclo yn yr awyr agored?
Dw i newydd wedi dechrau seiclo fy hun! Llynedd prynais i fy meic ffordd felly dechreuwr go iawn ydw i. Roeddwn i'n poeni na fyddwn i'n mwynhau beicio oherwydd ei fod e’n mor fryniog lle dyn ni'n byw ac mae'n llawer o arian i'w wario... Ond ddylwn i ddim fod wedi poeni!
Dw i wastad yn hoffi treulio fy amser yn yr awyr agored. Mae seiclo yn ffordd mor wych o fod mas gyda natur, gweld y bywyd gwyllt a'r golygfeydd godidog yma yn Sir Benfro. Mae'n wych ar gyfer lles meddyliol hefyd. Mae’n rhoi cyfle cael awyr iach, i gael ymarfer a dawelwch - neu joio sgwrs gyda ffrind!
Felly erbyn hyn, dw i wedi dod i fwynhau'r ddwy ochr o feicio gyda'n gilydd. Mae gwylio'r seiclo proffesiynol yn bendant yn fy ysbrydoli i wthio ymhellach ar y beic.
Beth yw eich hoff route / reid beic a pham?
Yn Sir Benfro, dw i’n hoffi mynd tuag at y môr - sy mewn unrhyw gyfeiriad o fy nhŷ i! Pan es i adref i Nottingham, cefais i fy synnu hefyd gan reid hyfryd i ganol y ddinas ar hyd llwybrau'r gamlas. Welais i ochr hollol wahanol i'r ddinas ar wahân i’r traffig. Beth yw eich amcanion a dyheadau am y flwyddyn hon a thu hwnt?
Gyda'r Gymraeg, dw i’n gobeithio gwella fy rhuglder. Dw i hefyd yn dechrau dysgu Ffrangeg, sy'n ddiddorol! (darllenwch: heriol) Gyda seiclo, dw i'n gweithio ar seiclo pellteroedd hirach. Yn y haf, bydda i a fy ngwr yn seiclo Cymru, o Ddinbych-y-pysgod i Gaergybi, i godi arian ar gyfer MNDA. Dw i’n gobeithio y bydd hon yn her hwyliog, gweld mwy o Gymru a'r cyntaf o lawer o deithiau cyffrous eraill.
Mewn gwirionedd, mae seiclo a dysgu Cymraeg yn rhyfeddol o debyg. Fyddwch chi ddim yn gallu seiclo lan Mont Ventoux y tro cyntaf i chi fynd ar y beic. Yr un peth â dysgu iaith, mae rhaid i chi dreulio'r amser, gwneud y milltiroedd, a mwynhau'r reid. A pho fwyaf o angerdd sydd gyda chi, y cyflymaf a'r ymhellach y byddwch chi'n mynd!
A dyna i chi gofnod nos Sul yma - gobeithio ichi'i fwynhau gymaint ag y gwnes i. Cofiwch na fydd cofnodion ganol wythnos am sbel, ac y bydd cofnod rhagolwg y Giro d'Italia yn cael ei gyhoeddi bythefnos i heddiw.
Digon o seiclo proffesiynol i'ch diddanu yn yr wythnos i ddod - gyda Tour of the Alps rhwng dydd Llun a dydd Gwener, La Fleche Wallonne ddydd Mercher a Liege-Bastogne-Liege wythnos i heddiw (dydd Sul).
Hwyl am y tro!
Comentarios