Pan ydw i ar fy meic ydw i'n cael fy syniadau gorau. Rhwng Maerdy a Chorwen oeddwn i ryw bythefnos yn ôl pan ges i'r syniad o wahodd ambell i seiclwr / triathletwr Cymraeg byddai pobl yn eu 'nabod i ateb fy nghwestiynau.
Yr enw cyntaf ddaeth i'm meddwl oedd Alun Davies. Mi fydd rhai ohonoch chi'n siwr o'i 'nabod o'n well na fi - gan mai dim ond yn yr haf llynnedd y des i'n gyfarwydd ag o, a hynny drwy'i ddwy nofel.
Y ddwy nofel gyntaf yn nhrioleg y ditectif Taliesin MacLeavy oedd rhain, sef 'Ar Drywydd Llofrudd' ac 'Ar Lwybr Dial'. Bum yn darllen nifer fawr o nofelau trosedd yn y clo mawr gan rai o fawrion yr arddull yma, ond dwi'n dal i gredu mai'r rhain oedd y mwyaf cyfareddol.
Mi wnes i'i hargymell nhw i Mamgu, Nain, anti Ann ac anti Margaret - a phawb yn gytun nad oedd posib eu rhoi i lawr.
A gyda diolch iddo am ei barodrwydd i ateb ac am ei brydlondeb yn anfon ei atebion, gadewch i ni glywed mwy amdano fel nofelydd, triathletwr a thad.
Mwynhewch.
Gruffudd ab Owain: Cyn i ni ddechrau o ddifri, dywedwch wrthon ni pwy yw Alun Davies. Alun Davies: Rydw i’n nofelydd, yn gweithio gyda cyfrifiaduron yn ystod y dydd, yn gwneud ambell i driathlon pan alla i a, yn fwyaf pwysig, yn dad i dri o blant. GaO: Bydd rhai o’r darllennwyr yn siwr o’ch ‘nabod o’r ddwy nofel o drioleg y ditectif Talesin MacLeavy sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi; o le daeth yr awen i ‘sgrifennu nofel ac yn yr arddull Cardi Noir yma’n benodol? AD: Rydw i wedi mwynhau ysgrifennu erioed, ond doedd dim un foment arbennig wnaeth fy arwain i at ysgrifennu y llyfr cyntaf, Ar Drywydd Llofrudd – digwydd bod roedd gen i brynhawn rhydd un dydd Sul a fe wnes i eistedd lawr o flaen y cyfrifiadur heb rhyw lawer o syniad am sut i ysgrifennu nofel, a bwrw ati. Doedd gen i ddim syniad os oedd y nofel orffenedig yn dda neu beidio, ond mae'r adborth wedi bod yn gret, a mae'n hyfryd clywed fod bobl yn mwynhau darllen straeon Taliesin. O ran yr arddull, dwi'n meddwl wnaeth hynny arwain yn naturiol o'r lleoliad – fe ges i fy ngeni a fy magu yn Aberystwyth, felly dyna lle roeddwn i eisiau lleoli'r stori, a mae naws a tirlun Ceredigion yn ffitio'n berffaith gyda'r arddull noir. GaO: Pryd gallwn ni ddisgwyl bydd diweddglo’r drioleg yn cyrraedd y silffoedd?
AD: Diwedd y flwyddyn yw'r cynllun ar hyn o bryd. Mae drafft cyntaf y llyfr – Ar Daith Olaf – gyda'r Lolfa yn cael ei olygu ar hyn o bryd. Mi fydd e'n rhyfedd anfon y drafft gorffenedig ffwrdd a gwybod taw dyna'r tro diwetha fydda i'n ysgrifennu am Taliesin, ond dwi'n gobeithio fydd y darllenwyr yn teimlo ei fod e'n ddiweddglo da i'r dreioleg.
GaO: Felly rydym ni wedi cwrdd ag Alun Davies y nofelydd, dywedwch wrthon ni am Alun Davies y seiclwr a’r triathletwr. A pha un ddaeth gyntaf - seiclo neu triathlon? AD: I ddweud y gwir, rhedeg ddaeth gyntaf. Rydw i wedi mwynhau rhedeg ers blynyddoedd, a fe wnaeth hynny arwain at rhoi cynnig ar driathlon am dipyn o her. Doeddwn i heb feicio rhyw lawer tan rhyw bum mlynedd nol, a mae hynny'n dal i ddangos yn fy amserau beicio i yn y triathlons yn anffodus, ond rydw i wedi bod yn gweithio ar y turbo trainer dros y gaeaf yma i wella ar hynny. Rydw i wedi cael ambell brofiad anffodus ar hyd y ffordd – teiar fflat mewn triathlon yng Nghaerdydd, a nofio mewn môr oedd fel peiriant golchi ym Mhorth Tywyn neu trwy haid o jellyfish yn Abertawe - ond yn gyffredinol rydw i'n mwynhau'r ymarfer a'r rasio'n fawr iawn. GaO: Rydych chi’n un sy’n hoff o deithio’r byd - fyddwch chi’n gwneud hynny gyda beic? AD: Dydw i ddim wedi gwneud eto, ond fydda i wrth fy modd yn mynd i redeg pan yn ymweld a rhywle newydd – mae'n ffordd mor dda o ddod i adnabod y lle. O bryd i'w gilydd fydda i'n cofio pan oeddwn i'n teithio trwy wledydd canol a de America flynyddoedd yn ôl, a'n sylweddoli mod i wedi colli cyfle euraidd i neidio ar feic a gweld cymaint mwy o'r llefydd yna. Pan ga i gyfle i fynd i deithio eto fydda i’n siwr o beidio gwneud y camgymeriad yna eto! GaO: Beth yw eich hoff route / reid beic a pham?
AD: Rydw i'n byw yng Nghaerdydd, a mi fydda i'n hoffi neidio ar y beic a dianc o'r ddinas. Am y Fro i gyfeiriad Barry yw'n ffefryn i – o fewn deg munud mae'n teimlo fel eich bod chi yng nghefn gwlad, yn pasio trwy byd o bentrefi bach prydferth a caeau fferm. GaO: Beth yw eich amcanion a dyheadau am y flwyddyn hon a thu hwnt ar feic?
AD: Y prif ddyhead yw cymryd rhan mewn rasus eto. Roeddwn i wedi bwriadu gwneud rhyw bedwar neu bump ras blwyddyn diwetha ond gafodd pob un ei alw ffwrdd oherwydd yn pandemic, felly rydw i wedi defnyddio’r amser i ymarfer, a gobeithio fydd hynny yn cael ei adlewyrchu yn fy amseroedd beicio i! Ond yn y tymor hir rydw i’n awyddus i gymryd rhan mewn ambell i driathlon hirach, felly dwi’n rhagweld fydda i ar y beic dipyn dros y blynyddoedd nesa.
Diolch yn fawr eto i Alun am gyfrannu at y gofnod yma, a gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau ei ddarllen. Ac os oes rhywun hoffech chi glywed ganddyn nhw mewn cofnod yn y dyfodol, gadewch i mi wybod yn y ffyrdd arferol (Twitter, Instagram, yddwyolwyn@gmail.com).
Kommentare