top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Siarad Giro en Italiano

Buongiorno!


Benvenuto a Y Ddwy Olwyn!


Mae'r Giro wedi hen gychwyn erbyn hyn, ac rydym wedi cael dros i wythnos i ymgyfarwyddo gyda'r ras brydferth hon. Bum yn trafod yn y gofnod rhagolwg yn ogystal ag ar Radio Cymru am y rhinweddau sy'n gwneud y ras hon mor arbennig - y diwylliant, yr iaith, y treftadaeth, yr hanes, yr angerdd.


Un o'r rheiny sy'n cymryd fy sylw heddiw, sef yr iaith.


Dilyniant mewn ffordd i'r gofnod termau Cymraeg (https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/siarad-seiclo-yn-y-gymraeg/) felly byddwn yn argymell darllen hwnnw'n gyntaf os nad ydych yn rhy gyfarwydd gyda'r termau Cymraeg fydd yn cael eu defnyddio heddiw.


Awn ar daith drwy rai o'r termau allweddol i'w cadw mewn cof wrth wylio'r Giro dros y bythefnos nesaf.


Godetevi! (Mwynhewch!)

Anatomia della Bicicleta (anatomeg y beic)


Rhai rheolau i'w cofio o ran ynganu

  • Yn debyg i'r Gymraeg, mae'r acen fel arfer yn disgyn ar y goben (y sillaf olaf ond un) e.e. It-AL-ia.

  • Pan fydd 'c' yn cael ei ddilyn 'i' neu 'e', mae'n gwneud sain 'ch' fel yn 'chocolate'. Pan fydd 'c' yn cael ei ddilyn gan unrhyw lythyren arall, mae'n rhoi sain caled fel yn 'caled'.

  • Mae'r un rheol yn gymwys i'r lythyren 'g'. Mae'n feddal pan gaiff ei ddilyn gan 'i' neu 'e', a'n galed pan gaiff ei ddilyn gan unrhyw lythyren arall.

  • Ar ddiwedd gair, mae 'gio' yn gwneud y sain 'Joe' yn hytrach na 'gee-oh'.

  • Mae'r Eidaleg yn llythrennol, yn debyg i'r Gymraeg eto.

 

Os ydych chi wedi bod yn gwylio'r Giro eleni, byddwch chi'n ymwybodol bod nifer o fathau gwahanol o reidwyr; bod reidwyr gwahanol yn arbenigo ar dirwedd gwahanol, er enghraifft. Dyma rai ohonyn nhw:


Fondista (ffon-DI-sta): Reidiwr cyflawn sy'n serennu ar y dringfeydd.


Passista (pa-SI-sta): Reidiwr mawr, cryf, caled fyddai fwy na thebyg o serennu yn y clasuron undydd yng ngwlad Belg. Mae'n bosib bydden nhw 'falle'n ystyried Filippo Ganna fel 'passista'?


Velocista (velo-CHI-sta): Gwibwyr!


Scattista (sca-TI-sta): Un sy'n galu ffrwydro i ymosod ar ddringfeydd byrion neu gymryd buddugoliaeth gwib o grwp dethol.


Scalatore (scala-TOR-e): Dringwyr pur y peloton.


Dicesista (di-che-SI-sta): Un fydd yn wych ar y disgynfeydd / y goriwaered.


Attacante (a-ta-CAN-te): Un fydd yn ymosod yn dragwyddol. Dim enghraifft bennaf yn y Giro hyd yn hyn.


Gregario (greg-AR-io): Y term sy'n gyfystyr a'r Ffrangeg 'domestique' neu'r Gymraeg 'cadfridog'. Y term sy'n cyfeirio at y rhai sy'n gwneud gwaith caib a rhaw dros eu harweinydd.


Mae'r termau canlynol yn cyfeirio at gyfansoddiad y ras.


Il gruppo (il GRWP-o): y peloton, sef y prif grwp o reidwyr ar yr heol.


Perdere le ruote (PER-der-e le rw-O-te): colli'r olwyn, cael eich gollwng. Ddim yn deimlad pleserus o gwbl.


Gruppo frazionato (GRWP-o ffrat-sion-AT-o): Pan fydd y peloton yn torri 'lawr i grwpiau llai. Enghraifft o hyn fyddai'n gynnar ar cymal 8 pan wnaeth y croeswyntoedd hollti'r peloton i grwpiau bychain.


i fuggetivi (i ffwj-e-TI-fi): y reidwyr sydd wedi dianc, rhai sy'n rhan o'r dihangiad.


cambi corti e regolari (CAM-bi COR-ti e reg-o-LAR-i): Pan fydd reidwyr yn cymryd eu tro ar flaen y grwp, gan amlaf mewn dihangiad neu grwp llai.


Dyma rai geiriau fyddai'n ddefnyddiol i ddisgrifio arddull seiclo rhai seiclwyr.


pedalata dura (peda-LA-ta DWR-a): Mae 'dura' yn golygu caled/anodd, felly mae 'pedalata dura' yn cyfeirio at bedalu'n galed.


pedalata leggera (le-JER-a): Pedalu'n ysgafn; dim gormod o ymdrech i bedalu.


punta di sella (PWN-ta di SEL-a): Cyfeirir at reidio ar bwynt blaen y cyfrwy er mwyn cyflawni safle erodynamig a mynd a'ch gwynt yn eich dwrn.


giornata no (jor-NA-ta no): Yn llythrennol, 'diwrnod na'. Diwrnod lle nad ydy'r coesau gennych. Byddech efallai'n clywed sylwebwyr yn trafod 'giornata no' Simon Yates ar cymal 18 o'r Giro yn 2018.


Gadewch i ni ddisgrifio'r cwrs neu'r tirwedd.


percorso (per-COR-so): tebyg iawn i'r gair 'parcours' yn Ffrangeg, a chyda'r un ystyr. Gall percorso fod yn 'lungo' (hir) neu 'corto' (byr), er enghraifft.


Cima Coppi (CHI-ma Coppi): y pwynt uchaf yn y Giro d'Italia. Bydd hwnnw'n dod eleni ar cymal 16, ar y Passo Pordoi.


sali-scendi (sali SHCEN-di): Term defnyddiol tu hwnt sy'n cyfeirio at percorso sy'n fryniog - un ai fyny neu lawr, drwy'r amser.


piano (piano): Cyfeirio at ffordd gwastad. Gellir defnyddio falso-piano hefyd sy'n cyfeirio at ffordd sy'n ymddangos yn wastad ar ddringfa ond mewn gwirionedd yn dal i ddringo.


muro (MWR-o): Yr un ystyr a 'mur' yn Gymraeg, 'mur' yn Ffrangeg, 'muro' yn Sbaeneg. Wal. Rhan serth iawn o ffordd, mewn seiclo.


passo (PAS-o): Bwlch. Bwlch y Groes yn Eidaleg fyddai 'Passo della Croce'.


volata (fol-A-ta): gwib glwstwr ar ddiwedd cymal gwastad.


treno (TREN-o): tren bach sy'n arwain gwibwyr at y llinell derfyn.


Y crysau yn y Giro:


maglia rosa (mag-lia ROS-a): Crys pinc, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad cyffredinol (classificazione generale).


maglia ciclamino (mag-lia chick-la-MI-no): Crys piws, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad bwyntiau (classificazione a punti).


maglia azzura (mag-lia at-SWR-a): Crys glas, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad mynyddoedd (classificazione delle montagne).


maglia bianca (mag-lia BIAN-ca): Crys gwyn, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad ieuenctid (classificazione dei giovani).


A dyna ni! Taith iethyddol arall ar ben, gan obeithio bod eich gwybodaeth o'r Eidaleg wedi'i ddyfnhau wrth i ni edrych ymlaen at bythefnos olaf y Giro d'Italia.


Ciao!



Recent Posts

See All

Comments


bottom of page