Un o'r llyfrau ddaeth allan o bapur lapio Nadoligaidd eleni oedd 'Higher Calling' (2017) gan yr awdur seiclo, Max Leonard.
Mae Leonard yn hen law ar ysgrifennu i ddiddanu seiclwyr y byd. Fo yw awdur y llyfr 'Lanterne Rouge' (2014) sy'n dathlu'r rhai sy'n gorffen yn olaf, ac nid yn gyntaf, yn y Tour de France.
Ymysg ei gyhoeddiadau eraill, mae 'Fixed' (2009), sy'n lyfr am y diddordeb dinesig o reidio beiciau un ger. Cyfranodd, yn ogystal, at gyfres Rapha, 'City Cycling', yn y gyfrol am Barcelona a'r un am Copenhagen.
Mae'n debyg i mi felly fod bywyd dinesig yn tanio'i ysfa i seiclo'n y mynyddoedd mawrion, a'n darparu'r ysbrydoliaeth y tu ol i'r llyfr yma sy'n mynd o dan groen 'obsesiwn seiclo ffordd gyda'r mynyddoedd'.
Yn ol y broliant (cyfieithiad), mae "seiclo i fyny mynydd yn anodd - mor anodd ei fod, i rai sydd ddim yn seiclo, yn gallu ymddangos yn hurt.
"Ond, i rai," parha, "mae dringo'r llethrau'n osgeiddig yn cynrychioli pinacl cyrrhaeddiad mewn seiclo. Dyma lle mae arwyr yn ffurfio, a lle mae mawrion y gamp yn gwneud enw iddyn nhw'u hunain."
Mae'r modd y mae Leonard wedi ysgrifennu'r gyfrol yn ddiddorol. Y Cime de la Bonette yw'r prif leoliad, wrth iddo ddefnyddio trosiadau megis yr arad eira a bugeiliaid y copaon i ddisgrifio'r teimlad a gawn wrth goncro dringfeydd.
Gorffenna'r bennod gyntaf drwy adlewyrchu hyn: "Hard and physical and with a certain pleasure, but ultimately intangible, ephemeral, a bit like cycling up a mountain itself."
Er fod yr elfen yma yn ddiddorol ar brydiau, teimlais weithiau ei fod yn ddiffygiol o sylwedd oedd yn cyfeirio 'nol at deitl y llyfr. Arweiniodd hyn at bennod oedd yn ddi-fflach ac anniddorol - o'n safbwynt i beth bynnag.
Wedi dweud hynny, mae'r cyfeiriadaeth a geir at Citroen 2CV yn apelgar ac yn un y gwnes i fwynhau wrth wneud y cysylltiad gyda chategoreiddio dringfeydd (gyda char tebyg y byddent wedi gwneud hynny, categori yn adlewyrchu pa ger oedd ei angen i allu gyrru i'r copa).
I mi, roedd y pennodau oedd yn mynd i afael profiadau seiclwyr yn benodol yn llawer mwy diddorol, ac roedd cael mewnbwn gan Joe Dombrowski (EF Education First) yn werthfawr.
Y farn derfynol: Mae'r trywydd mae Leonard wedi'i ddilyn wrth ysgrifennu'r gyfrol yn wahanol i'r hyn yr oeddwn i'n ei ddisgwyl. Byddwn efallai wedi mwynhau'n fwy pe bai'n dilyn ystod ehangach o seiclwyr ar ystod ehangach o ddringfeydd fel y byddai modd uniaethu'n well gyda'r cynnwys - ond fy safbwynt personol yn unig yw hwnnw. Rwy'n sicr yn argymell y llyfr - un y gwnes i ei fwynhau, ar y cyfan.
Comments