Mae'n deg dweud bod Carlton Kirby, 'Mr Cycling' ar ddarllediad Eurosport, yn hollti barn am ei arddull sylwebu, a byddwn innau'n cyfaddef fy mod yn ddiolchgar am S4C yn ystod y Tour a'r Giro.
Fodd bynnag, mae'r brwdfrydedd mae'n ymroi tuag at ei waith yn amlwg a'r ffordd mae'n sylwebu diwedd y rasys yn ganmoladwy, ac yn ychwanegu at y cyffro. Y mwydro am yr oriau cyn hynny sy'n poenydio'i gynulleidfa.
Felly pan gyhoeddwyd ei gyfrol, 'Magic Spanner - The World of Cycling According to Carlton Kirby', doeddwn i ddim yn rhy siwr os yr oeddwn am ei ddarllen - yn wyliadwrus efallai bod ei barablu ar y sgrin fach am gael ei adlewyrchu rhwng dau glawr ei gyfrol.
Ond, mi ges i siom ar yr ochr orau.
Yn ôl y broliant (cyfieithiad, yn amlwg), mae'r llyfr yn 'ffraeth, agored a di-flewyn-ar-dafod. Yn fewnwelediad i fywyd ar y Grand Tours a'r clasuron, hynny oll yn cael ei gyflwyno yn yr arddull efelychadwy y mae Kirby'n enwog amdano.
"Wedi'i fritho gydag anecdodau doniol, mae Kirby'n rhoi golwg arbenigol tu ôl i'r llen - ongl nad ydy'r cefnogwr cyffredin yn ei weld yn aml."
Dwi wedi darllen nifer fawr o hunangofiannau yn y gorffennol ac erbyn hyn wedi darganfod y fformat dwi'n ei hoffi orau.
Mi gewch chi hunangofiannau sy'n llawn o hanesion personol o blentyndod a darlun o sut maent wedi cyrraedd brig eu maes, ond mae ffurf y gyfrol yma'n wahanol i hynny sy'n beth iach, yn fy marn i.
Yn debyg i ddwy gyfrol Geraint Thomas 'The World of Cycling...', ac yn hwyrach ymlaen 'The Tour...', 'according to G, mae teitl cyfrol Kirby'n crynhoi'n union beth sydd rhwng y ddau glawr.
Pennodau addas sy'n trin a thrafod pynciau niferus a chyfredol y byd seiclo, o'r 'Breakfast for Kings' a 'Party Time!' i 'The Dark Side of Cycling'.
Yn byrlymu ar y tudalennau, mae rhai o straeon gorau'r sylwebydd o fywyd tu ôl i'r meic ar rasys y byd seiclo - gan gynnwys gyrru'n wyllt a rasio'n erbyn timau sylwebu Almaeneg i gyrraedd y gwesty'n gyntaf a hawlio'r ystafelloedd gorau, yn ogystal ag aros mewn ystafell frenhinol.
Wedi'i chlymu'n berffaith gyda hynny mae gallu Kirby i roi ei farn yn blwmp a phlaen am rai o dopigau mwyaf cynhennus y gamp, o'r cefnogwyr mewn mankinis i fyd tywyll cyffuriau.
Mewn 220 o dudalennau llawn sylwedd, cawn gymysgedd berffaith o hiwmor a gwybodaeth y mae'r sylwebydd profiadol wedi'i gronni dros deng mlynedd ar hugain tu ôl i'r meic.
Felly os oes gennych docyn llyfr ar ôl o'r 'Dolig, ni chewch chi'ch siomi gan gyfrol sydd werth eich darlleniad, ac un fydd yn siwr o godi gwên.
Comments