Wedi cofnodion llwyddiannus yn dilyn dringfeydd y Gogledd Orllewin a'r Gogledd Ddwyrain, dyma'r drydydd yn y bennod sy'n edrych ar ddringfeydd y Canolbarth - yn seiliedig ar siroedd Ceredigion a Phowys.
Mae'r holl ddringfeydd isod wedi cael eu hawgrymu gan ddilynwyr y blog ar Trydar.
Llun clawr: Rhys Gerallt Owen (@rhys_gerallt)
1 Nant y Moch
Llun: Geraint Owen (@geraintwn)
Dringfa sy'n boblogaidd yng Ngheredigion, mae Nant y Moch yn cychwyn ger Tal-y-Bont - cartref Cafi Gruff. Mae'r graddiant yn gyson 4-6%, oni bai am ambell glip dros bellter o bum milltir.
2 Dylife
Lluniau: Geraint Rowlands (@RowlyBech)
Mae dringfa Dylife'n sicr yn her a graddiannau cyson i'r coesau gyda'r graddiant yn cyrraedd hyd at 15% ar adegau.
3 Devil's Staircase
Dringfa fer ond heriol gyda'r graddiant cyfartalog yn 12% dros gyfnod o gilomedr. Ond dim ond hanner y stori yw hyn, mae'r graddiant mwyaf yn 20%.
4 Devil’s Elbow
Lluniau: Geraint Rowlands (@RowlyBech)
Dringfa fer unwaith eto gydag ychydig dros i filltir ar 10%. Fodd bynnag mae'r graddiant yn agosach at 20% ar y bachdroeon.
5 Mynydd Llangynidr
Dringfa hirach yn chwe cilomedr (oddeutu pedair milltir) gyda'r graddiant yn gyson ond yn heriol - yn 7%. Nid dringfa mymbo jymbo mohono - ond her go iawn i'r coesau.
Diolch am eich cyfraniadau - edrych ymlaen at gofnodion y deheubarth yn yr wythnosau nesaf!
Cofiwch am:
Commenti