Mae Taith Prydain (OVO Energy Tour of Britain) yn dychwelyd ddydd Sul yma (yr ail o Fedi) gan gychwyn ar drac Pembre yng Sir Gar.
Bydd y cymal cyntaf yn Ne Cymru’n gyfle perffaith i groesawu gartref ennillydd y Tour de France, Geraint Thomas, sy’n rhan o dîm cryf Sky.
Y Cwrs
Unwaith eto eleni, prin ydy'r cwrs yn 'daith' o Brydain, ond mae'n braf gweld Cymru'n dychwelyd i'r ras eleni.
Cymal 1 - Pembre i Gasnewydd
Wedi dwy ddringfa yn y Bannau Brycheiniog - Bryn Bethlehem (categori 3) sy'n 1.8km ar 3% er gwaethaf serthedd uwch mewn mannau; a dringfa Defynnog (categori 3) sy'n gilometr ar 9% - bydd y reidwyr yn herio proffil bryniog cyn diweddglo gwastad lle disgwylir gwib glwstwr yng Nghasnewydd.
Ond llai na 10km o'r diwedd bydd dringfa Belmont (categori 2), sy'n 800m ar 9%, all dorri'r ras i ddarnau ac o bosib cyfle am ddihangiad llwyddiannus.
Cymal 2 - Cranbrook i Barnstaple
Mae cymal 2 yn cynnig proffil sy'n go debyg i cymal 1 gyda gwib glwstwr yn ddisgwyliedig.
Serch hynny, mae'r ddringfa olaf i Challacombe Hill (categori 1) yn 1.3km ar 13% i'w daclo 20km o'r llinell derfyn.
Cyn hynny, mae dwy ddringfa gategori 2 - Chineway Hill (2.8km ar 5.5%) a Bratton Fleming (4.9km ar 5%) - lle bydd cystadleuaeth glos am y pwyntiau sydd ar gael.
Cymal 3 - Bryste i Fryste
Mae copa'r ddringfa anoddaf o'r cymal hwn 7km o'r diwedd gan roi her cyn y diweddglo wibio unwaith eto.
1km ar 8.8% yw'r ddringfa hon, sef Providence Lane. Y ddwy ddringfa arall ar y cymal hwn yw Shipham (cat 4; 1.6km; 2.3%) a'r enwog Cheddar Gorge (cat 2; 5km; 4.5%).
Cymal 4 - Nuneaton i Royal Leamington Spa
Disgwylir cymal gwibio yma ar cymal sydd 183.5km o hyd.
Mae tair dringfa gategori 3 i ddelio gyda nhw ar cymal 4; Ilmington, 2.1km ar 5%; Edge Hill, 800m ar 10%; a Burton Dassett, 1.7km ar 5%.
Cymal 5 - Cockermouth i Whinlatter (RECT)
Ras yn erbyn y cloc i dimau (RECT) sydd ar y fwydlen ar cymal 5 gyda dringfa raddol yn yr ail hanner.
Mae'n bosib y bydd y cymal yma'n cael dylanwad mawr ar y dosbarthiad cyffredinol terfynol - yn enwedig o gofio cryfder rhai timau.
Cymal 6 - Barrow-in-furness i Whinlatter
Unig gymal diweddglo copa Taith Prydain eleni a hynny ar frig Whinlatter Pass, dringfa 3.2km ar 7%. Caiff ei goncro ddwywaith ar y cymal.
Yn ogystal, bydd dringfeydd y Hawkshead Hill a Fangs Brow (y ddau'n gategori 1) ynghyd a Dunmail Rise (categori 3).
Cymal 7 - West Bridgford i Mansfield
Cymal gwibio unwaith yn rhagor gyda thair dringfa gategori 4 ar ddechrau'r cymal - Keyworth; Bank Hill ac Oxton Hill.
Cymal 8 - Llundain
14 lap o 5.5km yn Llundain ar gyfer cymal wibio ddinesig sy'n gyfanswm o 77km.
Y dosbarthiadau
Chwith i'r dde
Dosbarthiad Cyffredinol OVO Energy - I gyd-fynd gyda'r noddwyr, crys gwyrdd fydd arweinydd y dosbarthiad cyffredinol yn ei wisgo.
SKODA Brenin y Mynyddoedd - Yn erbyn y traddodiad o bolca dot, mae Skoda'n noddi'r dosbarthiad mynyddoedd lle, fel arfer, mae un o'r dihangiad yn llwyddo.
Dosbarthiad Gwibio Eisberg - Cyfle i reidwyr y dihangiad gipio pwyntiau'n y gwibiau canolig.
Dosbarthiad Pwyntiau Wahoo - Y reidwyr yn y 15 uchaf i gyd yn cael pwyntiau ar gyfer y dosbarthiad yma.
Reidwyr i'w gwylio
Yn serennu i dim Sky mae Geraint Thomas, Chris Froome, Vasil Kiriyenka, Ian Stannard a Lukasz Wizniowski i gefnogi Wout Poels.
Mae enwau mawr eraill yn cynnwys Primoz Roglic, Stefan Kung, Jos van Emden, Alex Dowsett a Tony Martin.
Yn cystadlu am gymalau'r gwibwyr mae Caleb Ewan, Edvald Boasson Hagen ac Andre Greipel ymysg eraill - ond mae Mark Cavendish a Marcel Kittel wedi tynnu allan oherwydd salwch.
Comentarios