top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

TDF #13

Waw! Waw! Waw! Geraint Thomas fydd yn y crys melyn yfory wedi buddugoliaeth anhygoel ar cymal 11 gan adael ei gyd-ffefrynnau yn ei sgil.

Y maillot jaune ym meddiant Cymru

Am yr ail flwyddyn yn olynol, gwelwyd Cymro ar frig podiwm cymal yn y Tour de France, a Geraint Thomas oedd o bryd hynny hefyd.

Gwaith arwrol gyflawnwyd gan ei dim drwy’r dydd; dros ddringfeydd Montee du Bisanne, Col du Pre a Cormet de Roselend.

Ni aethant i banig wrth weld Movistar yn ymosod gyda Marc Soler ac Alejandro Valverde na chwaith pan ddihangodd Tom Dumoulin.

Michal Kwiatkowski oedd y dyn mwyaf pwerus i Sky ar y ddringfa olaf i La Rosiere, a phan redodd o allan o bwff, cymrodd Geraint y cyfle i ymosod.

Clyfar iawn oedd yr ymosodiad yma gan iddo wybod fod Dumoulin i fyny’r ffordd i weithio ag o wedi iddo ollwng reidwyr Movistar.

Romain Bardet gychwynnodd y gwrth-ymosodiadau, ond Froome a Dan Martin weithiodd gyda’u gilydd i gau’r bwlch.

Ond caeodd Geraint y drws yn glep arnynt gan ymosod am yr ail dro, cyn pasio Mikel Nieve a chroesi’r llinell yn gyntaf.

Penbleth i Sky

Credaf fod yr is-bennawd yma’n danddatganiad o’r broblem bleserus sydd gan Team Sky a David Brailsford.

Gyda Geraint rwan yn y crys melyn a Chris Froome funud a hanner tu ol iddo’n yr ail safle, pwy fydd eu harweinydd?

Fy marn i – rhoi cyfle cydradd i’r ddau a gweld pwy fydd yn cracio gyntaf; gall fod yn Froome ar ol y Giro neu Geraint sydd eto i brofi ei hun mewn ras dair wythnos.

Y gobaith yw (i mi beth bynnag) y bydd Geraint yn mynd ymlaen i ennill y Tour de France a chael ei gydnabod yn arwr ledled y byd.

Canlyniadau

Cymal 12

Hwn yw’r cymal fwyaf o’r Alpau gann gorffen ar gopa’r enwog Alpe d’Huez.

Cyn hynny, mae cewri’r Col de la Madeleine (25km ar 6%), Lacets de Montvernier (3.4km ar 8%) a’r Col de la Croix de Fer (29km ar 5%) i’w herio.

Darogan

Dwi’n meddwl y bydd Sky yn goruchafu eto gyda Froome yn ennill a Geraint yn ail i gadw’r crys melyn.


Recent Posts

See All

Comments


bottom of page