Cymal llawn cyffro unwaith eto wrth i Geraint Thomas ddal ei afael yn dynn ar y maillot jaune.
Geraint, Geraint, Geraint
Copa Alpe d’Huez oedd cartref diweddglo dramatig a brwydrol wrth i’r Cymro gipio’i ail fuddugoliaeth ar y trot.
Ef yw’r cyntaf i wneud hynny ers y 1990au a dim ond y trydydd mewn hanes i gyflawni’r gamp.
Roedd yn fuddugoliaeth hanesyddol i Geraint gan iddo fod y Prydeiniwr cyntaf i orchesu’r ddringfa.
Ei dim eto oedd yn rheoli ar y ddringfa a gwaith anghredadwy gan y gwr ifanc o Golombia, Egan Bernal, ddistewodd ymosodiadau gan y ffefrynnau.
Erbyn y copa, pump oedd ar ol yn y grwp blaen; Chris Froome a Geraint o dim Sky, Mikel Landa (Movistar), Tom Dumoulin (Sunweb) a Romain Bardet (AG2R).
Brwydron nhw ymysg eu gilydd yn ystod y cilometrau olaf a’r symudiad allweddol ar y gornel olaf gan y Cymro sicrhaodd ei fuddugoliaeth.
Nibali allan
Ail-agorwyd y ddadl am gefnogwyr ar y dringfeydd wedi i un achosi i Vincenzo Nibali ddisgyn gan dorri ei fertebrae.
O’r herwydd, rhaid i’r Eidalwr ymadael a’r ras.
Mae’n gliriach nawr pwy sydd wir am ennill y Tour eleni wedi tridiau brwdfrydig yn yr Alpau.
Collodd Dan Martin ac Adam Yates amser ar cymal 11 ac 12, ac mae’n amlwg nad yw Nairo Quintana na Jakob Fuglsang ar eu gorau.
Canlyniadau
Cymal 12
Dosbarthiad cyffredinol
Yr holl ganlyniadau ar wefan ProCycling Stats.
Cymal 13
Y sylw ‘nol at y gwibwyr, ond grwp bach sydd gennym bellach.
Mae nifer megis Greipel, Groenewegen, Gaviria, Cavendish a Kittel wedi gorfod gadael y ras.
Ond mae’n debyg bydd y frwydr rhwng Peter Sagan, Sonny Colbrelli, Arnaud Demare a John Degenkolb am y cymalau gwibio sy’n weddill.
Darogan
Sonny Colbrelli yw’n ffefryn i am heddiw wedi iddo orffen yn ail mewn dau wib mewn cymalau blaenorol.
Comments