Y crys gwyrdd yn parhau i fod ym meddiant diogel Peter Sagan wedi iddo ennill gwib glwstwr arall.
Hat-trig i Sagan
Am y trydydd gwaith eleni, y Slofac Peter Sagan oedd orau yn y wib glwstwr gan guro Arnaud Demare ac Alexander Kristoff i’r llinell derfyn.
Lawnsiwyd ymosodiad gobeithiol gan Philippe Gilbert ond nid oedd hi am fod i’r gwr o Wlad Belg yn Valence.
Llosgwyd egni tim Groupama FDJ yn dilyn ymosodiadau tila Gilbert a Marcus Burghardt a thrydydd oedd eu canlyniad ar y diwrnod.
Mae’n siwr bod nifer o barau o goesau’n sigledig wedi tri chymal gwallgof yn yr Alpau, a daliodd Geraint Thomas ar y crys melyn gwerthfawr.
Canlyniadau
Cymal 13
Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe
Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates
Arnaud Demare (FFR) Groupama FDJ
Dosbarthiad CyffredinolGeraint Thomas (CYM) SkyChris Froome (PRY) Sky +01:39Tom Dumoulin (ISE) Sunweb, +01:50
Cymal 14
Dringfa i orffen y cymal a digon o fetrau fertigol yn y coesau cyn hynny – cymal bryniog heb fod yn fynyddig.
Ond mae’n bosib y bydd gwahaniaethau amser ychwanegol rhwng y ffefrynnau.
Darogan
Geraint Thomas. Pam lai.
Comments