Fernando Gaviria gipiodd ei ail fuddugoliaeth o’r Tour de France eleni ar gymal 4.
Gwib a hanner
Y gwr o Golombia oedd yn fuddugol yn y diwedd, ond mi gymrodd hi dipyn o waith iddo sicrhau hynny.
Roedd yn amnewid a’r hen ben Andre Greipel yn y safle blaen, ond Peter Sagan ddaeth o nunlle i gipio’r ail safle oddi wrth yr Almaenwr.
Dylan Groenewegen eto i brofi ei allu yn y Tour eleni; gorffennodd o’n y pedwerydd safle.
Damwain arall
Cafodd Mikel Landa a Rigoberto Uran eu dal yn y ddamwain ddigwyddodd (yn allweddol) dros 3km o’r llinell derfyn, ond Ilnur Zakarin ddioddefodd waethaf o’r reidwyr DC – ei obeithion tenau o gyrraedd podiwm yn cael eu rhacso.
Axel Dumont (AG2R) a Tiesj Benoot (Lotto Soudal) gafodd eu heffeithio fwyaf gan y “salade du bicyclettes” gydag aelodau o dim Sky i gyd yn ddiogel.
Canlyniadau
Cymal 4
Fernando Gaviria (COL) Quick-Step Floors
Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe
Andre Greipel (ALM) Lotto Soudal
Dylan Groenewegen (ISE) LottoNL Jumbo
Marcel Kittel (ALM) Katusha-Alpecin
Dosbarthiad Pwyntiau
Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe, 143 pwynt
Fernando Gaviria (COL) Quick-Step Floors, 139 pwynt
Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates, 72 pwynt
Dosbarthiad Ieuenctid
Soren Kragh Andersen (DEN) Sunweb
Egan Bernal (COL) Sky, +01:08
Magnus Cort Nielsen (DEN) Astana, +01:22
Dosbarthiad Mynyddoedd
Dion Smith (SLN*) Wanty Groupe Gobert, 1 pwynt
Anthony Perez (FFR) Cofidis, 1 pwynt
Kevin Ledanois (FFR) Fortuneo Samsic
*Seland Newydd
Dosbarthiad Timau
Quick-Step Floors
Sunweb, +16 eiliad
BMC, +23 eiliad
Dosbarthiad Cyffredinol
Greg van Avermaet (BLG) BMC
Tejay van Garderen (UDA) BMC +yr un amser
Geraint Thomas (CYM) Sky, +3 eiliad
Philippe Gilbert (BLG) Quick-Step Floors, +5 eiliad
(+1) Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors, +7 eiliad
(-1) Bob Jungels (LUX) Quick-Step Floors, +7 eiliad
Tom Dumoulin (ISE) Sunweb, +11 eiliad
Soren Kragh Andersen (DEN) Sunweb +11 eiliad
Michael Matthews (AWS) Sunweb +11 eiliad
Rigoberto Uran (COL) EF-Drapac +35 eiliad
Cymal 5
Cymal fryniog tu hwnt sydd ar gyfer cymal 5 y Tour de France 2018. Yn Ffrangeg, “casse-pattes” fyddai’r term i ddisgrifio’r cymal hwn a olygir tirwedd fyny a lawr, fyny a lawr a chorneli peryglus hefyd.
Dyma’n union sydd i’w gael yma – un sy’n ffafrio arbenigwyr y clasuron megis Peter Sagan, Greg van Avermaet a Julian Alaphilippe. Quick-Step i deyrnasu?
Darogan
Yn y crys melyn, dwi’n credu taw Greg van Avermaet fydd yn fuddugol ond mae bron yn amhosib darogan yr ennillydd a chymaint o ffefrynnau’n debygol o frwydro am y fuddugoliaeth.
Comments