Peter Sagan barhaodd ei oruchafiaeth yn nosbarthiad y crys gwyrdd ar gymal 5 gyda buddugoliaeth haeddiannol.
Sagan a’i rym yn ormod
Mi arhosodd y dihangiad allan ar y ffordd tan y cilometrau olaf cyn i arbenigwyr y clasuron danio’u hawch am fuddugoliaeth dros y ddringfa olaf.
Nid oedd unrhyw ymosodiadau o’n bell allan gyda phawb yn cadw’u hegni at ddiweddglo tanllyd.
Dyna a gawsom wrth i’r holl ffefrynnau am y gymal frwydro’n agos iawn am y fuddugoliaeth.
Cychwynnodd y crys melyn Greg van Avermaet ei ymosodiad ychydig yn rhy gynnar, a choncrwyd Philippe Gilbert a Sonny Colbrelli wrth i Sagan gael ei drwyn dros y llinell derfyn yn gyntaf.
Van Avermaet dal mewn melyn
Greg van Avermaet ddaliodd ei afael ar y maillot jaune ar ol cryn dipyn o waith caled gan ei dim, BMC.
Er i Sky orffen yn ddiogel tu ol i’r grwp blaen, disgynnodd Geraint Thomas i’r 4ydd safle ar y dosbarthiad cyffredinol yn sgil Philippe Gilbert yn cipio eiliadau bonws.
Canlyniadau
Cymal 5
Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe
Sonny Colbrelli (EID) Bahrain-Merida, yr un amser
Philippe Gilbert (BLG) Quick-Step Floors
Alejandro Valverde (SBA) Movistar
Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors
Dosbarthiad Bwyntiau
Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe, 180 pwynt
Fernando Gaviria (COL) Quick-Step Floors, 147 pwynt
Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates, 78 pwynt
Dosbarthiad Ieuenctid
Soren Kragh Andersen (DEN) Sunweb
Egan Bernal (COL) Sky, +01:08
Magnus Cort Nielsen (DEN) Astana, +01:39
Dosbarthiad Mynyddoedd
Tom Skuijns (LAT) Trek-Segafredo, 4 pwynt
Sylvain Chavanel (FFR) Direct-Energie, 4 pwynt
Lilian Calmejane (FFR) Direct-Energie, 3 pwynt
Dosbarthiad Timau
Quick-Step Floors
BMC
Sunweb
Dosbarthiad Cyffredinol
Greg van Avermaet (BLG) BMC
Tejay van Garderen (UDA) BMC, +2 eiliad
Philippe Gilbert (BLG) Quick-Step Floors, +3 eiliad
Geraint Thomas (CYM) Sky, +5 eiliad
Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors, +6 eiliad
Bob Jungels (LUX) Quick-Step Floors, +9 eiliad
Tom Dumoulin (ISE) Sunweb, +13 eiliad
Soren Kragh Andersen (DEN) Sunweb, “
Rigoberto Uran (COL) EF-Drapac, +37 eiliad
Rafal Majka (PWY) Bora-Hansgrohe, +52 eiliad
Cymal 6
Rhywbeth tebyg i gymal 5 sydd ar y fwydlen ar gyfer cymal 6, gyda’r sbeis ychwanegol o ymddangosiad wal Mur de Bretagne ddwywaith.
Yn ychwanegol at hynny, mae dwy ddringfa wedi’w categoreiddio – un gategori 3 a’r llall yn gategori 4.
Er gwaethaf hyn, mae’n debyg taw’r awr olaf o reidio fydd y gwir sialens, gyda’r ffordd yn fryniog tuag at y diwedd lle bydd y puncheurs yn cael eu profi unwaith eto.
Mae’n *bosib* y bydd rhai timau DC yn ceisio rhoi amser mewn i’w cyd-ffefrynnau gan fydd rhai yn dioddef ar y gymal yma.
Darogan
Er y bydd Alejandro Valverde, *Geraint Thomas* a Peter Sagan yn agos iawn at gopa podiwm y cymal hwn, Julian Alaphilippe yw’r un i’w wylio yn fy marn i.
Comments