Dan Martin serennodd ar y Mur de Bretagne wrth i Geraint Thomas esgyn i’r ail safle ar y dosbarthiad cyffredinol.
Cyfle cyntaf i weld y ffefrynnau
Dan Martin (Iwerddon) brofodd orau ar y ddringfa heriol hon gan guro nifer o’r ffefrynnau am y Tour eleni.
Pierre Latour oedd agosaf ato, tra ennillodd nifer, megis Geraint Thomas, amser gwerthfawr ar y ddringfa ac ar y wib am eiliadau bonws.
Nid oedd hi’n ddiwrnod mor llwyddiannus i Tom Dumoulin. Collodd amser oherwydd pyncjar a chael dirwy o 20 eiliad am or-ddrafftio car wrth geisio ad-ennill amser.
Hefyd, dioddefodd Romain Bardet gan golli hanner munud arall wrth i’w obeithion am fuddugoliaeth deneuo hyd yn oed yn fwy.
Canlyniadau
Cymal 6
Dan Martin (IWE) UAE Team Emirates
Pierre Latour (FFR) AG2R La Mondiale, +1 eiliad
Alejandro Valverde (SBA) Movistar, +3 eiliad
Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors, “
Rafal Majka (PWY) Bora-Hangrohe, “
Dosbarthiad Pwyntiau
Peter Sagan (SFC) Bora-Hansgrohe, 199 pwynt
Fernando Gaviria (COL) Quick-Step Floors, 156
Alexander Kristoff (NOR) UAE Team Emirates, 88
Dosbarthiad Ieuenctid
Soren Kragh Andersen (DEN) Sunweb
Egan Bernal (COL) Sky, +27 eiliad
Pierre Latour (FFR) AG2R La Mondiale, +02:17
Dosbarthiad Mynyddoedd
Tom Skujins (LAT) Trek-Segafredo, 6 pwynt
Sylvain Chavanel (FFR) Direct-Energie, 4
Dion Smith (SLN) Wanty Groupe Gobert, 4
Dosbarthiad Timau
Quick-Step Floors
BMC
Team Sky
Dosbarthiad Cyffredinol
Greg van Avermaet (BLG) BMC
Geraint Thomas (CYM) Sky, +3 eiliad
Tejay van Garderen (UDA) BMC, +5 eiliad
Julian Alaphilippe (FFR) Quick-Step Floors, +6 eiliad
Philippe Gilbert (BLG) Quick-Step Floors, +12 eiliad
Cymal 7
Â’n sylw ni ‘nôl at y gwibwyr, cymal ddi-gyffro fydd hwn mae’n debyg.
Un ddringfa, un ganolwib ac un wib am eiliadau bonws sydd yn y 231km, cyn y disgwylir i’r cymal adfywio yn ystod y cilometrau olaf.
Darogan
Gaviria yw’r cyflymaf, ond dwi’n darogan mai Andre Greipel fydd yn ein synnu a chipio buddugoliaeth.
Comments