Bu Dydd Miwsig Cymru eleni, fel bob blwyddyn, yn gyfle gwych i gydnabod a chlodfori'r amrywiaeth eang tu hwnt o gerddoriaeth gyfoes sy'n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru.
Beth bynnag wnaethoch chi i nodi'r achlysur, boed yn wrando ar artist am y tro cyntaf neu wrando ar farathon ddarlledu Huw Stephens ar Radio Cymru 2, dylem ni 'gyd fod yn falch iawn o'r hyn sy'n digwydd yn y byd cerddoriaeth Cymraeg / Cymreig ar hyn o bryd.
Pan ges i syniad o greu rhestr chwarae, neu playlist, o gerddoriaeth Gymraeg i'r sesiynau tyrbo llynnedd, roedd Dydd Miwsig Cymru wedi pasio ers ambell i wythnos. Ond dwi'n neidio ar y cyfle 'leni i roi rhestr o ganeuon at ei gilydd!
Beth sy'n wych am yr amrywiaeth yma yw bod rhywbeth at bob achlysur. Er enghraifft, nid yw caneuon hafaidd ac ymlaciol Carwyn Ellis & Rio 18 yn addas ar gyfer ymdrechion ffwl pelt ar y tyrbo. Ar y rhestr hwn, ceir caneuon sy'n addas i gadw'r tempo a'r cymhelliant yn uchel.
Mae amrywiaeth o ganeuon ac artistiaid gyfrannwyd gennyf i a gan rai ar Twitter. Dydw i heb greu rhestr chwarae pendant ar gyfer unrhyw blatfform cerddoriaeth / ffrydio oherwydd 'mod i'n teimlo y dylai pawb weld pa bethau oddi ar y rhestr yma sydd at eu dant a'u chwaeth i greu eu rhestr eu hunain.
Dwi wedi defnyddio gwasanaeth songbpm.com i ychwanegu'r tempo (curiadau y funud) at y rhestr rhag ofn ei fod yn ddefnyddiol.
Mwynhewch!
Y Niwl
Cafodd Y Niwl ei argymell i mi gan ambell i un ar Twitter, er nad ydw i wedi rhoi tro iddynt ar y tyrbo eto. Dim gwybodaeth am bpm yn anffodus, ond nifer yn credu bod tempo eu caneuon yn ddefnyddiol.
Rhys Gwynfor
Artist arall gafodd ei awgrymu gan y Trydarwyr, a'r tro hwn mae gen i brofiad o wrando arno ar y tyrbo. Falle ddim at ddant y bobl metel trwm, ond tempo da - Bydd Wych yn 94bpm a Esgyrn Eira yn 99bpm.
Gwilym
Un o grwpiau mwyaf poblogaidd y foment, ac mae'r tempo yn nifer o'r caneuon yn gret ar gyfer cynnal cadens. Neidia yn 81bpm, Cwin yn 76bpm a Gwalia yn 80bpm.
Candelas
Cwpwl o glasuron o'r ddwy albym gyntaf fel Llwytha'r Gwn ac Anifail (86bpm), ond dwi'n credu bod y tiwns tyrbo gorau i'w cael ar yr albym ddiweddaraf, sef Wyt ti'n meiddio dod i chwarae? sy'n cynnwys Hi (96bpm) a Mae hi'n fwy roc a rol na chi i gyd (81bpm).
Lewys
Artist sy'n weddol newydd i'r sin, felly does dim ond angen edrych ar eu hunig albym, ryddhewyd yn 2020, Rhywbryd yn Rhywle. Ymysg y traciau tyrbo gorau mae Yn fy Mhen, Dan y Tonnau a Gwres. Trac arall gafodd ei argymell oedd Y Cyffro, sydd falle 'chydig yn anodd ar gyfer y tempo oherwydd yr amsernod 6/8.
Swnami
Band sydd ychydig yn llai prysur yn fwy diweddar, ond mae'n dal i fod hen ddigon o diwns tyrbo sy'n addas iawn ar gyfer tempo. Does dim angen edrych ddim pellach na Trwmgwsg (72bpm), Gwreiddiau (82bpm), Mynd a Dod (72bpm) a Gwenwyn (77bpm).
Yr Eira
Un o fy hoff fandiau Cymraeg ar hyn o bryd, sydd wedi cael fy mhleidlais ar gyfer albym y flwyddyn Gwobrau'r Selar, sef Map Meddwl. Falle ddim ar gyfer y tyrbo, heblaw am Galw'r Ddoe yn Ol (65bpm), ond os awn ni ychydig yn bellach yn ol mae traciau fel Ewyn Gwyn (81bpm), Dros y Bont (75bpm) ac Ymollwng (115bpm).
ALFFA
Arddull roc sydd wedi cyrraedd uchelfannau Spotify - milliynau o wrandawyr ledled y byd - ac felly wrth gwrs yn berffaith fel tiwns tyrbo. Mae'r tri trac sydd wedi croesi miliwn o wrandawyr sef Gwenwyn (61bpm), Pla (73bpm) a Full Moon Vulture (100bpm) yn gret, a dwi hefyd yn ymwybodol fod Dan dy Groen (82bpm) ac Amen (64bpm) yn boblogaidd ymysg y rhai sy'n hyfforddi tu fewn.
Patryma
Er mai dim ond dwy gan sydd wedi cael eu rhyddhau ganddynt hyd yma (mwy i ddod gobeithio), maen nhw wedi creu cryn argraff arna i beth bynnag. Falle bod yr enw'n gliw, ond Patryma sydd a'r gerddoriaeth tryma' ar y rhestr.... Disgyn yn 90bpm a Pydru yn 85bpm. Perffaith - ac yn ffitio'n well bob ochr i fandiau eraill sydd yng nghlustiau'r rhai ohonom sy'n ffafrio roc trwm.
Breichiau Hir
Band arall sydd falle rywfaint yn llai enwog - ond dydy hynny'n dweud dim am eu cerddoriaeth nhw. Yn Dawel Bach falle sydd fwyaf cyfarwydd (78bpm), ond mae Portread o ddyn yn bwyta ei hun (82bpm), B******s y nos (90bpm) a Preseb o Ias (83bpm) yn sicr werth eu hystyried i fod yn rhan o'ch rhestrau.
Endaf
Mae 'na ailgymysgiadau a chaneuon gwreiddiol da iawn yn rhan o broffil Endaf - 'nes i'n sicr fwynhau clywed ei ailgymysgiad o Planhigion Gwyllt gan Mellt ddydd Gwener, ond sydd ddim eto ar gael yn ehangach. Dan dy Draed gydag Ifan Pritchard (60bpm) a Glaw gyda SERA sydd fwyaf poblogaidd ac addas i'r tyrbo.
Band Pres Llareggub
Nifer fawr iawn o ddewisiadau ar gyfer y tyrbo gan Band Pres. Pwarr (78bpm), Gweld y Byd mewn Lliw (82bpm) a Croeso (92bpm) i enwi ond tri.
Los Blancos
Un arall o fy hoff fandiau i gloi'r rhestr. Addas ar gyfer amrywiaeth o sesiynau'r tyrbo - traciau fel Sbwriel Gwyn, Cadw Fi Lan a Ti Di Newid fwy na thebyg yn fwy addas i gynhesu fyny ar y dechrau, ond yn sicr mae Ddim yn Gret (85bpm), Cadi (70bpm) a Dilyn Iesu Grist (79bpm) yn addas i'r ymdrechion lle mae angen tempo uwch.
A LLAWER IAWN MWY!
Mewn gwirionedd, does dim diwedd i'r rhestr yma. Dim ond crafu'r wyneb ydw i wedi gwneud a dweud y gwir gyda rhai o'r bandiau mwy cyfoes, porwch drwy gynnyrch bandiau fel I Fight Lions, Elis Derby a Mellt hefyd. Wrth fynd yn ol mewn amser ychydig mae 'na fyd arall o opsiynau.
Mae 'na restr chwarae eisoes wedi'i wneud ar gyfer rhedwyr gan Yws Gwynedd - linc https://open.spotify.com/playlist/0oeSGJNDDEgrX48jauuT50?si=qOu5YPCmSsCaeS3ynchckw&nd=1 - ac mae 'na lawer o ganeuon sy'n gymwys i'r ochr yma hefyd. Ymysg y rhai gafodd eu hargymell i'r gofnod yma sydd yn y rhestr chwarae Rhedeg eisoes mae Eleri gan Betsan a Myfyrwyr Rhyngwladol gan HMS Morris.
Gobeithio wir bod digon o ddewis yma ichi guradu rhestr i chi'ch hunain!
Comments