Mewn cyfres newydd sbon danlli, dwi’n dilyn ôl troed rhannau o gymalau mwyaf nodedig y Tour de France. Dywedwyd wrtha i yn eithaf cynnar yn fy nyddiau seiclo mai’r gallu i reidio’r un heolydd ag y mae seiclwyr gorau’r byd yn ei wneud yw un o’r pethau gorau am seiclo - rhywbeth sy’n gwneud iddo sefyll allan o’i gymharu â champau eraill.
Mi ddechreuwn ni heddiw gyda dringfa Hautacam yn y Pyrénées a diweddglo copa cymal 18 o Tour de France 2022.
*
Wrth ddeffro ar ddiwrnod olaf fy ngwyliau yn y Pyrénées yn wythnos olaf mis Gorffennaf, dwi’n gweld golygfa gyfarwydd. Niwl. Brouillard. Mae wedi bod yn batrwm yr wythnos hon, ond yn ffodus, bu i mi allu ddringo drwyddo ac uwchben ar ddau ddiwrnod o’r trip, a hynny i’r Col du Tourmalet ac i Luz Ardiden. Mae’n sicr yn hinsawdd wahanol yng nghrombil y mynyddoedd i’r hyn yr ydw i wedi arfer ag o ar wyliau, yn yr Alpau hyd yn oed.
Y gobaith yw medru esgyn uwch y niwl eto heddiw, ac y bydd modd gweld rhywbeth o gopa’r Hautacam. Yng ngeiriau Mr Picton; cadwch yn y ffydd, cadwch yn y ffydd.
Mae’r ardal hon o’r Pyrénées, elwir yn Mecca i seiclwyr (sy’n eironig gan nad ydy o ddim nepell o Lourdes), yn seiliedig ar geunant y Gorge de Luz. Ar y pen deheuol, mae tref Luz Saint Sauveur - troed y Tourmalet a Luz Ardiden - lle dwi’n aros, ac ar y pen arall mae tref Argelès Gazost - troed y Col du Soulor a’r Aubisque, a’r Hautacam. Felly mae dechrau’r siwrne yn mynd a mi ar y ffordd - yr unig un sy’n cysylltu’r ddwy dref - sy’n gul a gweddol brysur ond ar y cyfan ar y goriwaered, ac ar ei ddiwedd, yn troi i’r dde gan ddilyn yr arwydd am Hautacam.
Mae’r peloton wedi dringo’r Col d’Aubisque ac yna wedi disgyniad byr yn gorfod dringo rhyw fymryn eto i gopa’r Col du Soulor, cyn troi i’r chwith am Ferrières a throed dringfa ola’r dydd, y Col de Spandelles.
Dyma’r diwrnod olaf yn y mynyddoedd, a Jonas Vingegaard sydd yn y crys melyn. Mae Pogačar yn gwybod fod rhaid iddo ymosod o bell heddiw er mwyn ennill y ras.
Mae’r drama’n dechrau ar y Spandelles. Pogačar yn ymosod, Vingegaard yn ymateb. Cadoediad. Pogačar yn ymosod eto. Vingegaard yn ymateb. Yng nghanol hyn i gyd, mae’r Cymro Geraint Thomas wedi cael digon ar gael ei ollwng, ac wedi iddo ddal y ddau ar frig y dosbarthiad cyffredinol, yn penderfynu - ‘blow this’ - ac ymosod drosto’i hun. Mae’n cael rhywfaint o fwlch. Ond mae Pogačar yn ymosod eto; yn ffrwydrol y tro hwn. Ond mae fel pe bai glud rhwng ei olwyn gefn ac olwyn flaen Vingegaard. Dydy o methu cael gwared ar y gŵr o Ddenmarc. Wrth groesi copa’r Spandelles, does dim gwahaniaeth rhyngddynt.
Ar y disgyniad, mae’r ddau ar ruthr. Vingegaard yn rhyw lithro fymryn ar y graean. Y galon yn colli curiad neu ddau. Y ddau’n ôl efo’i gilydd, a rownd y gornel… Pogačar yn gwthio’n rhy galed ar y gornel, ac mae o ar lawr. Ein calonnau yn ein gyddfau. Ond cadoediad rhyngddynt sy’n dilyn. Y ddau’n ysgwyd llaw, ac ewyllys da rhyngddynt. Ai dyma’r foment sy’n ennill y Tour i Vingegaard?
Wrth gyrraedd troed yr Hautacam, a dechrau ar y ddringfa 13.6km ar gyfartaledd o 8%, mae cyd-reidiwr Vingegaard, Wout van Aert, yn y dihangiad blaen ddwy funud a hanner o flaen grŵp y crys melyn. Mae dau domestique gan Vingegaard o’i flaen i’w gynorthwyo ar lethrau isa’r ddringfa, ac i’w warchod rhag ymosodiadau gan Pogačar sy’n dynn ar ei olwyn.
Dwi’n dechrau ar y ddringfa, gan fynd drwy bentref bach a throi’n siarp i’r dde rhwng casgliad o dai, a’r cilomedr cyntaf yn galed ar gyfartaledd o 9%. Mae’n dal i fod yn hynod o niwlog, ond mae modd gweld rhywfaint o’r hyn sydd o’m blaen.
Wrth gyrraedd pentref bach arall, dwi’n cael fy nghroesawu gan yr ail bostyn ac arno’r neges ddymunol mai 6% yw cyfartaledd yr ail gilomedr. Rhywfaint o ysbaid, felly. 60 o fetrau esgyn yn y cilomedr nesaf.
Ond mae’n teimlo’n llawer serthach na hynny. Mae’m cyfrifiadur Wahoo yn cytuno, gan ddangos ffigyrau dwbl. Gan gadw llygad barcud ar yr ystadegyn o fetrau uwchlaw lefel y môr, dwi’n sylwi fod y rhan fwyaf o’r 60 medr esgyn wedi eu cyflawni’n gynnar yn y cilomedr. Dim syndod gweld rhywfaint o wastad ar ôl hanner cilomedr er mwyn cydbwyso’r cyfartaledd hwnnw.
Nôl yn y peloton, mae’r bwlch i’r tri blaen - van Aert, Thibaut Pinot a Dani Martínez - yn dod i lawr yn gyflym dan effaith gwaith Tiesj Benoot ar y blaen. Gyda deuddeg cilomedr i fynd, mae Benoot yn gwagu’r tanc, a thro’r Americanwr Sepp Kuss yw hi i osod y tempo o flaen Vingegaard.
Golygfa ddisgwyliedig yw’r hyn sy’n fy aros ar y postyn nesaf; cyfartaledd 9.5%. Ond mae’n gyson, sy’n beth da. Mae ‘na gyfle i ddod o hyd i rhythm, a chadw ato, yn hytrach na gorfod dawnsio’n ffyrnig - oxymoron o rywfath, oni bai’i fod o’n Tango, debyg - allan o’r cyfrwy i wrthsefyll graddiannau caled.
O dan yr olwynion, mae olion enwau wedi eu peintio o’r Tour. Rownd un gornel, mae’n amlwg fod giang o gefnogwyr o Slofenia wedi bod, ag enwau Mezgec, Pogačar, Mohorič yn glir. Mae’r Ffrancwyr lleol wedi bod yma i ddweud eu dweud hefyd; ‘Non aux ours’, eu protest yn erbyn ailgyflwyno eirth i’r gwyllt yn yr ardal.
Cilomedr arall wedi’i gyflawni, a dwi’n synnu rhywfaint gweld 6% fel cyfartaledd y graddiant ar gyfer yr un dilynol.
Ar ôl darllen ffigyrau dwbl graddiant ar y Wahoo, a chynddeiriogi â diffyg pwynt y postyn bondigrybwyll, dwi’n bwydo nodyn lleisiol i’m ffôn ar gyfer sgwennu’r cofnod hwn, “ma 6% afrej yn cym’yd y mic rili”. Serth, gwastad, serth, gwastad.
Kuss yn gosod tempo aruthrol o uchel, ond ymddangos fel nad ydy o hyd yn oed yn chwysu. Y bwlch yn parhau i ddisgyn yn gyflym, a David Gaudu wedi’i ollwng ac mae eisoes funud y tu ôl i grwp y crys melyn.
Yn ddigon buan wedyn, â 9km i fynd, mae’r grwp hwnnw i lawr i bedwar dyn yn unig. Sepp Kuss, Jonas Vingegaard, Tadej Pogačar, Geraint Thomas. Rywsut neu’i gilydd, mae’r bwlch i lawr i funud yn unig.
Yn y cyfamser, mae Wout van Aert yn ymosod ar Hautacam yng nghrys gwyrdd y gwibwyr. Martínez yn llwyddo i bontio, ond breuddwyd y Ffrancwr Pinot o ennill cymal yn y Tour eleni wedi pylu i ddim.
Mae’r hyn dwi’n ei allu gweld yn pylu i ddim yn fuan iawn hefyd wrth i’r niwl fynd yn fwy trwchus byth.
Wedi’r cilomedr melltigedig hwnnw yn fy nhwyllo i feddwl mai 6% fyddai’r graddiant, mae’n rhywfaint o gysur gweld 9%. O leiaf bydd hwn yn gyson, dwi’n meddwl. Mi alla’i setlo mewn i rhythm. Fel Geraint Thomas, cadw tempo, nid ysbeidiau o fynd amdani.
Ond mae tipyn o oriwaered ar ddechrau’r cilomedr hwn. Ac yna, y ffordd yn gogwyddo tua’r nefoedd o’m blaen i. Y graddiant yn 14% am sbel go hir. Rhywun yn gwisgo crys Iseldireg yn fy mhasio. Sut ddiawl man’hw’n gallu dringo?
Ar y llethrau serthion hyn mae’r elastig yn torri ac mae Geraint Thomas yn cael ei ollwng. Kuss yn dechrau rhoi’i droed lawr, a’r bwlch yn disgyn o dan funud, wrth basio briwsion y dihangiad. Yn y pedwerydd grŵp funud arall tu ôl, mae Valentin Madouas yn rhoi shifft aruthrol i ymdrech Gaudu o gadw’i le yn y pedwar uchaf.
7km i fynd ac mae ‘masterplan’ Jumbo yn dwyn ffrwyth go iawn; van Aert yn tynnu rhywfaint oddi ar y tempo, Kuss yn cynyddu’r tempo, a thrwy hynny mae’r bwlch o dan hanner munud.
Mae’r cilomedr nesaf yn un anodd, ond cyson. Mae’n hawdd dod o hyd i rhythm, sydd wedi bod yn beth anodd ar y cilometrau eraill oriog.
Wrth weld enw Simon Geschke o dan yr olwynion, dwi’n meddwl am y torcalon enfawr gafodd ar y cymal hwn wnaeth achosi iddo golli gafael yn llwyr ar y crys polca dot. Gobeithio na fydda’ i’n dioddef yn yr un modd ar y copa.
Dwi’n gresynnu hefyd na fu cystal cystadleuaeth a’r disgwyl am y crys polca wedi iddyn’hw newid y system, ac mai Vingegaard enillodd y bencampwriaeth wedi’r cyfan. Dim digon o gymhelliant i ddringwyr pur fel Quintana i fynd am y crys - oes angen dychwelyd i’r 60au a chynnig gwell gwobr i gynyddu statws a mawredd y gystadleuaeth o’r newydd?
Dyna sy’n digwydd ar feic. Y meddwl yn crwydro.
Gyda phum cilomedr ar y ticr, mae’r ddau grŵp yn dod yn un, ac er ei ymdrechion arwrol yn y dihangiad, mae van Aert yn cymryd yr awennau i dywys Vingegaard. Bwystfil.
Â’r poen yn amlwg iawn ar ei wyneb, mae van Aert yn dod allan o’r cyfrwy, yn dawnsio ar y pedalau, yn ‘sgyrnygu’i ddannedd tra’n codi’r tempo… ac mae’r elastig yn torri eto, wrth i Pogačar gael ei ollwng oddi ar y cefn. Y crys gwyrdd yn tywys y crys melyn i gadarnhau buddugoliaeth, a’r crys gwyn - crys melyn y llynnedd - oddi ar y cefn. Anhygoel.
Rhwng pum cilomedr i fynd a phedwar cilomedr i fynd, dw i’n amlwg yn codi’n uwch, ond does dim golwg fod y niwl yn mynd i glirio o gwbl. Mae’n dal i fod yn drwchus, ac wrth i bethau ddechrau agor allan, mae ‘na gyfle i ddefnyddio’r dychymyg; tybed beth sy’n cuddio tu ôl i’r llen o gwmwl? Mynyddoedd, swn i’n tybio, ond pwy a ŵyr?
Mae’n un arall o’r cilometrau anodd ‘na. Y postyn camarweiniol yn dangos 8% fel cyfartaledd, ond mae’n codi, yna gwastatu, codi, gwastatu.
Gyda phedwar cilomedr i fynd, mae van Aert hefyd yn gwagu’r hyn sy’n weddill yn y tanc, ac mae Vingegaard yn lansio tua copa’r Hautacam. Yn y cyfamser, mae’r bwlch yn ôl i Pogacar yn llai na 20 eiliad, ac mae Madouas a Gaudu yn prysur ennill tir ar Geraint Thomas.
Am sbel, mae van Aert yn dal mlaen i olwyn Pogacar ar ol cael ei ollwng. Rhyfeddol, ond yn y pen draw, mae’n profi ei fod o rywfaint yn ddynol.
Llun chwith ydy f'un i, a llun chwith o gymal y Tour.
Mae’n dechrau ‘agor allan’ go iawn erbyn hyn; hynny yw, does dim coetir o boptu i mi. Ond mynd yn fwyfwy trwchus mae’r cymalau.
Wrth i fi barhau i ddringo, bob yn un, mae ‘na driawd yn mynd heibio; yr ieuengaf gyntaf, a’r ddau hyn ychydig wedyn. Dwi’n rhyw fwmblan ‘c’est dur, hein’ - ‘ma’n anodd ‘ndi’ - ond ‘si’ ydy’r ateb ganddyn’hw. Mae’n bosib mai Ffrancwyr ydyn nhw sy’n dweud ‘for sure‘, ond o sylwi yn y diwedd ar eu crysau Mallorca dwi’n gweld mai ateb Sbaeneg a gefais, ac nad oedden’hw wedi fy neall i yn y lle cyntaf.
3km i fynd ac mae Geraint yn cael pyncjar ac yn newid beic. Buan wedi hynny, mae’n cael cwmni. Martínez yn ei dywys tua’r copa, a Gaudu, wedi gwaith ardderchog Madouas, yn llwyddo i ddal mlaen i’w olwyn gefn. Pe bai pethau’n aros fel hyn, mae lle’r Cymro ar y podiwm yn ddiogel.
Pur anaml y mae’r gair ‘poursuivant’ yn ymyl enw Pogačar, ond mae Vingegaard yn urddasol wrth barhau i bweru tua’r copa mewn ymdrech neilltuol o gryf, a’r bwlch rhyngddo fo a’i ragflaenydd yn chwyddo tua’r munud.
O dan y flamme rouge, a does neb yn ildio’u hymdrech. Pawb yn ‘sgyrnygu dannedd am bob eiliad gwerthfawr yn y ras am y melyn, er fod y canlyniad bellach yn anochel. Y bwlch rhwng y Daniad a’r Slofeniad yn funud.
Yn y cilometrau olaf mae ‘na rywfaint o fachdroeon a rhai rhannau anodd dros ben; 12, 13 ac 14%. Dwi’n croesi grid gwartheg, sydd ag enw difyr yn Ffrangeg - passage canadien. Mae’n llawer mwy esmwyth na rhai Cymreig.
Fy llun i ar y chwith a llun y cymal ar y dde, yn amlwg.
Wrth groesi’r llinell mewn modd hynod fawreddog, a’r crys melyn yn dynn ar ei ysgwyddau, mae Tour de France Jonas Vingegaard yn gyflawn, ac yntau’n awr wedi ennill cymal yn y crys melyn.
Pogačar yn gorffen funud a phedair eiliad y tu ôl i Vingegaard, ac yna’n mynd yn syth i longyfarch ei gystadleuydd, ac yntau’n siarad efo’i wraig a’i blentyn ar y ffôn.
Van Aert, yn un o berfformiadau’r ganrif, yn llwyddo i orffen yn drydydd ryw ddwy funud dda ar ei hôl hi, wedi diwrnod cyfan yn y dihangiad yn y mynyddoedd a shifft hegar i’w arweinwyr.
Geraint Thomas yn dod ag unrhyw amheuon am gadernid ei safle ar y podiwm i ben drwy roi pedair eiliad o olau dydd rhyngddo fo a Gaudu, a’r Ffrancwr yn teilyngu canmoliaeth am berfformiad clodwiw ar y dydd.
Vingegaard felly’n gadarn ei le ar frig y dosbarthiad cyffredinol bron i dair munud a hanner o flaen Pogačar, ac wyth munud ar ei ben o flaen Geraint Thomas. Y bwlch rhwng 1af a 10fed yn hwy nag ugain munud; bylchau enfawr nas gwelwyd ers cryn amser.
Dad a fi ar y top.
Wrth groesi llinell wen sy’n dynodi lle bu i’r cymal orffen, dwi’n cario mlaen rownd y gornel ac yn cychwyn ar ryw filltir arall o ddringo lle mae’r ddringfa ei hun yn gorffen mewn gwirionedd - y Col de Tramassel.
Mae’n anodd ar ddiwedd dringfa heriol dros ben - o bosib yr anoddaf o’r wythnos oherwydd natur amrywiol ac anghyson y graddiant.
Col de Tramassel
Wrth gyrraedd y copa, a phrin yn gallu gweld dim byd erbyn hyn, mae’r triawd efo Mallorca ar eu crysau wedi ymgasglu. Ac er fy mod i’n medru siarad Sbaeneg (wel, i ryw raddau), dwi’n methu dallt gair o’u sgwrs nhw, ac yn penderfynu eu bod nhw’n siarad rhyw straen Faiorcaidd o’r Sbaeneg.
Yn y diwedd, mae’r un ifanc barfog yn dod ata’i a’i ffôn ac yn ystumio i ofyn pe bawn i’n fodlon cymryd llun ohonyn’hw.
Dwi’n cytuno a gofyn os mai Sbaenwyr ydyn nhw mewn Sbaeneg.
Ie, o Mallorca, medde f’yntau, a gofyn i mi os oeddwn i’n dod o Sbaen hefyd.
Nac’dw i, o Gymru. Ac wedyn ymlaen a’r sgwrs am Geraint Thomas a jôc am ei byncjar o ar Hautacam ac yn y blaen.
Maen’hw’n rhyfeddu ‘mod i’n gallu siarad rhywfaint o Sbaeneg, nesa’ peth i ofyn pam a sut fyswn i’n siarad yr iaith. Dweud mod i’n ei astudio yn yr ysgol, er nad ydy hynny’n amlwg o gwbl o natur hynod rydlyd fy nghyfranogiad yn y sgwrs.
Wedi i mi gymryd y llun ohonynt maen’hw’n fy annog i fynd ar fy mlwyddyn allan i Mallorca - achos bod y tywydd yn well, y traethau’n well a’r seiclo’n well.
Wrth ffarwelio â nhw wrth iddyn’hw ddechrau eu disgyniad - hasta luego - dwi’n cael fy atgoffa o natur optimistaidd a phositif yr ymadroddion yn Ffrangeg a Sbaeneg. ‘Wela’i di’n fuan’ yn Sbaeneg. Au revoir - tan y gwelwn ni’n gilydd eto, yn Ffrangeg.
*
Dw i’n gwybod mai cymal y Col du Granon, cymal 11, efallai fydd yn cael ei gofio fwyaf am mai dyna’r tro cyntaf y di-sodliwyd Pogačar am y tro cyntaf.
Ond i mi, dwi’n credu mai cymal yr Hautacam sy’n crynhoi a chrisialu Tour de France 2022 orau. Dyma gymal oedd yn arddangosfa o’r gorau o seiclo, ac hefyd yn arddangosfa o rai o’r clichés.
Camp i dimau sy’n cael ei ennill gan unigolion. Roedd perfformiad Jumbo Visma yn un cwbl meistrolgar ar draws y dair wythnos, ond yn enwedig ar y cymalau lle’r oedd angen iddyn’hw fod yn greadigol ac yn fentrus i ddisodli Pogačar. Roedd y dacteg o losgi holl fatsys Pog ar gymal 11 yn gynnar yn y cymal yn un gwreiddiol ac yn llwyddiannus, a’r modd y rhoddon’hw van Aert yn y dihangiad ar gymal 18 yn profi gwerth cael super-duper domestiques, a bod eu buddsoddiad aruthrol wedi dwyn ffrwyth.
Mae ennill y crys melyn wedi bod yn brif brosiect Jumbo ers i Roglič gyrraedd, ac yn enwedig ers 2020 pan ddaethon’hw o fewn trwch blewyn. Roedd yr emosiwn ar wyneb Wout van Aert ar ddiwedd y cymal yn erbyn y cloc pan oedd buddugoliaeth Vingegaard wedi’i chadarnhau yn gwbl amlwg, ac yn dweud y cyfan am nid yn unig yr ymroddiad a’r ymdrech, ond am yr agosatrwydd rhwng y reidwyr hefyd.
Ond y cliché hoffwn i’i drafod fwyaf ydy mae’r reidiwr cryfaf sydd wastad yn ennill y Tour de France.
Rhaid i mi gyfaddef, dwi wedi, ac i raddau’n dal i gredu bod ‘na wirionedd yn y cliché hwn. O’r holl Tours yr ydw i wedi eu gwylio, dwi’n credu bod yr enillydd wedi bod yn deilwng o’r fuddugoliaeth, ac yn gryfach na’r gweddill.
Mae Tour eleni, fodd bynnag, wedi herio fy nghrediniaeth yn y cliché hwn yn fwy na dim un o’r blaen.
Darllen papur chwaraeon dyddiol L’Équipe wnaeth i mi ystyried hyn, achos mi’r oedd ganddyn’hw erthygl yn datgan yn blwmp ac yn blaen mai Wout van Aert oedd reidiwr cryfaf y Tour yn 2022.
Mae’n anodd iawn dadlau â hynny.
Mi grëodd o argraff fawr iawn arnom ni ‘gyd yn y Tour y llynedd gan ennill cymalau gwibio - gan gynnwys pencampwriaethau’r byd answyddogol y gwibwyr ar y Champs Élysées - yn ogystal â chymal yn erbyn y cloc, a chymal y Mont Ventoux. Roedd hynny’n brawf o ba mor amryddawn oedd o, ac mi gododd ambell un gwestiwn ynghylch y posiblrwydd ohono’n herio am y crys melyn ryw ddydd.
Y perfformiad ar yr Hautacam, fodd bynnag, sydd wedi f’argyhoeddi i fwyaf o’i allu i ennill y Tour. Ar ôl bod yn y dihangiad ar gymal mynyddig, heriol drwy gydol y dydd, nid yn unig y gwnaeth o ymosod a gollwng dringwyr pur fel Pinot a Martínez, ond wedyn mynd ymlaen i dynnu Vingegaard a gollwng Pogačar - reidiwr DC y genhedlaeth - ac ar ben hynny yn gorffen yn 3ydd ar y cymal.
Ac felly, mae’n hawdd iawn gen i ddod i gasgliad mai Wout van Aert yw reidiwr gwrywaidd gorau’r byd ar hyn o bryd, heb os nac oni bai.
Y reidiwr cryfaf sydd wastad yn ennill y Tour?
Y reidiwr cryfaf o’r rhai sy’n ceisio ennill y Tour sydd wastad yn ennill y Tour.
Comments