Eluned King
Seiclwraig proffesiynol yn nhîm Wahoo-Le Col
Professional cyclist for Wahoo-Le Col
@elkingy9
CYNNWYS / CONTENTS
Yn union fel y bydd y flwyddyn newydd yn addo dechrau newydd i filiynau ledled y byd, mae hefyd yn nodi newidiadau ym mywydau beicwyr proffesiynol. Mae rhai, naill ai trwy ddewis personol neu oherwydd amgylchiadau anffodus, yn gadael y gamp, tra bo eraill yn newid crysau a dechrau pennod newydd yn nhîm newydd. Nid yw 2022 yn wahanol. Yn ystod misoedd olaf y tymor, roedd hi'n ymddangos fel pe bai llif cyson o newyddion a chlecs y trafod trosglwyddiadau beicwyr. Mae timau fel Ineos, Jumbo ac UAE wedi cryfhau eu carfanau; mae’r dewisiadau yn cyd-fynd â'u nod o ennill ‘Grand Tours’. Ar y llaw arall, mae Astana wedi ailadeiladu eu tîm yn llwyr, gan benderfynu ail-arwyddo cyn arweinwyr Vincenzo Nibali a Miguel Ángel López.
Er hwylustod mae yna fersiwn yn Saesneg ar ddiwedd y post. Joiwch.
Menywod
Bydd 2022 yn flwyddyn enfawr arall i feicio menywod, gyda phum tîm arall yn symud lan i’r ‘Women’s World Tour’, blwyddyn hon bydd 14 tîm yn yr haen uchaf. Bydd Paris Roubaix Femmes yn dychwelyd ar ôl dechreuad llwyddiannus yn 2021. Y newyddion mwyaf fodd bynnag yw'r Tour de France Femmes cyntaf ers 1989, bydd y ras amlgymal wyth diwrnod yn rhedeg yn syth ar ôl y Tour de France ac yn cychwyn ym Mharis ar y 24ain o Orffennaf. Bydd y ras yn hanesyddol am nifer o resymau, y cyntaf yw sylw'r cyfryngau o amgylch y Tour de France Femmes, a'r ail yw bod y ‘prize fund’ yn €250,000, yr uchaf yn hanes y chwaraeon. Er ei fod yn sylweddol is na ffigur y dynion, disgwylir iddi fod tua €2.3 miliwn, mae'n newid cadarnhaol yn chwaraeon lle bod gormod o fenywod yn jyglo gwaith llawn amser neu ran-amser gyda beicio proffesiynol.
Bydd 2022 hefyd yn flwyddyn wahanol oherwydd ymddeoliad un o’r mawrion, Pencampwr Olympaidd 2016 a Phencampwraig y Byd ar ddau achlysur, Anna van der Breggen. Bu van der Breggen benderfynu gorffen ei gyrfa broffesiynol a bydd yn lle yn gweithio fel DS i’w thîm SD Worx. Bydd yn golled fawr i’r chwaraeon fel enillydd La Fleche Wallonne ar saith achlysur ac enillydd y Giro Donne ar bedwar achlysur gan ei bod bob tro yn dangos proffesiynoldeb ac mae hi’n bencampwraig, ar y beic ac oddi arno. Efallai y bydd diwedd gyrfa van der Breggen hefyd yn arwydd o newid yn seiclo rhyngwladol menywod, gyda diwedd posibl i oruchafiaeth yr Iseldiroedd. Yn 2021 gwelsom gamgymeriadau gan dîm yr Iseldiroedd yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau’r Byd, ac er bod digon o dalent ifanc yn dod drwodd, ni all beicwyr fel van Vleuten, Vos a van Dijk aros biti am byth. Gyda sawl gwlad yn gwella eu rhestr carfan ryngwladol efallai na fydd Pencampwriaethau'r Byd ac Ewrop bellach yn gystadleuaeth o bwy all orffen yn ail i’r Iseldiroedd.
Coryn Labecki (DSM -> Jumbo Visma)
Fel rhan sylfaenol o dîm DSM ers 2017, roedd y newyddion bod Labecki (Rivera yn gynt) wedi symud i dîm Jumbo Visma wedi fy synnu. Mae Labecki yn wibiwr gyflym ac roedd hi’n feiciwraig hynod gryf yn nhymhorau 2017 a 2018 gyda buddugoliaethau yn Fflandrys, Trofeo Alfredo Binda, Ride London Classique ac enillwraig y dosbarthiad cyffredinol yn yr OVO Women’s Tour. 2020 oedd tymor cyntaf Labecki heb fuddugoliaeth ers chwe blynedd ond roedd 2021 ychydig yn well gyda deg uchaf ym Mhencampwriaethau'r Byd a’r Gemau Olympaidd. Enillodd hefyd gymal olaf y Giro Donne, a gorffennodd ar y podiwm ar gymalau yn y Tour of Norway a Ceratizit Challenge.
Yn Jumbo Visma, bydd Labecki yn ymuno â charfan sydd eisoes yn gryf ochr yn ochr â Marianne Vos. Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu'r un rhyddid i Jumbo â thimau fel SD Worx a Trek Segafredo gyda'r opsiwn i chwarae gwahanol gardiau ar ddiwedd y clasuron, ac wrth gwrs cymalau ym mhob un o'r tair Grand Tour. Yn ail hanner y tymor pan fydd llawer o rasys yn gorgyffwrdd, rwy'n gobeithio y bydd Labecki yn cael ei dynodi fel arweinydd tîm, rhywbeth yr wyf yn meddwl nad oedd ganddi unwaith wnaeth DSM arwyddo Lorena Wiebes.
Gyda phroblemau iechyd 2020 y tu ôl iddi, ac mewn amgylchedd newydd, rwy’n gobeithio y bydd Labecki yn dod o hyd i’r coesau a’r meddylfryd fe wnaeth ennill hi Fflandrys yn 2017.
Maud Oudeman (Canyon/Sram Racing)
Roeddwn i ar ‘Training camp’ ym mis Rhagfyr pan soniodd un o fy teammates eu bod yn rhyddhau fideos dyddiol am yr Zwift Academy ar GCN ac Youtube. Gwnaeth y gystadleuaeth ymddangos fel sioe deledu lle ddethoch i nabod y beicwyr a'u cymhellion mewn ffordd nad ydyn ni fel arfer yn cael cyfle i weld. Bob nos, roedden ni fel tîm yn gwylio’r ddrama yn datblygu ac yn gweld pum beiciwr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar ffyrdd Mallorca a Watopia. Maud Oudeman oedd yr ieuengaf o’r cystadleuwyr, ond o’r cychwyn cyntaf roedd hi ar lefel gwahanol i’r gweddill, gan ennill bob her dros y pum diwrnod. Mae academi Zwift wedi cynhyrchu beicwyr gwych i Canyon Sram gydag Ella Harris, Tanja Erath a Neve Bradbury yn parhau i greu argraff yn y peloton ar ôl eu buddugoliaethau.
Yn 18 yn unig, mae'n amlwg nad yw Oudeman wedi rasio yn y peloton World Tour o'r blaen. Mae ei phrofiad mewn unrhyw fath o beloton yn gyfyngedig, ond fel cyn ddeuawdletwraig nid yw'n ddieithr i gystadleuaeth. Rasiodd ond llond dwrn o ‘Junior Nations Cups’, ac yna ym mhencampwriaethau'r Iseldiroedd ac Ewrop ond nid oedd unrhyw un o'i chanlyniadau yn unrhyw beth anhygoel. Efallai bod hyn oherwydd ei diffyg profiad neu nerfusrwydd yn y peloton; fel y gwelsom ar Zwift, mae ganddi’r gallu corfforol.
Bydd 2022 yn flwyddyn fawr i Oudeman, bydd yn mynd o gydbwyso ysgol a hyfforddi i fod yn athletwr llawn amser ar dîm proffesiynol. Roedd ei hagwedd a’i haeddfedrwydd yn amlwg yn ystod Academi Zwift felly rwy’n siŵr na chaiff hi unrhyw drafferth addasu i’r newidiadau mawr hyn yn ei bywyd. Gawn ni weld lle mae'r flwyddyn yn mynd â hi.
Lotte Kopecky (LIV Racing -> SD Worx)
Pan gyhoeddwyd y byddai Anna van der Breggen a Joolien d’Hoore yn ymddeol o feicio proffesiynol, roedd hi’n ymddangos y byddai carfan SD Worx yn gwanhau o’r diwedd. Ond daeth dau drosglwyddiad mawr i’r tîm o’r Iseldiroedd, gyda Marlen Reusser a Lotte Kopecky. Mae'r ddwy wedi profi'n gystadleuaeth fawr i SD Worx yn gynt; Reusser yn y ras erbyn y cloc ac yn nosbarthiadau cyffredinol, a Kopecky yn y gwibiau.
Mae Kopecky wedi bod yn gystadleuol ar bob tirwedd, gyda buddugoliaethau yn Le Samyn, y dosbarthiad cyffredinol yn Lotto Belgium Tour, a chymalau yn y Giro a'r Vuelta yn 2021. Gorffennodd hefyd yn bedwerydd yn y Ras Ffordd yn y Gemau Olympaidd ar gwrs heriol. Mae’n goroesi ar ddringfeydd yn well na gwibwyr arall ac yn y dyfodol bydd yn caniatáu iddi fod yn gystadleuol ym mhob math o rasys. Daeth ei thymor i ben ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn y ras pwyntiau, lle dangoswyd ei nerth a’i phŵer i ennill y crys enfys.
Dwi’n meddwl bydd hi’n anodd i Kopecky yn y dechrau gyda thîm mor fawr a llwyddiannus ag SD Worx. Yn flaenorol yn nhîm LIV, a Lotto Soudal, roedd ganddi deyrnasiad rhydd o'r arweinyddiaeth ac yn aml byddai ar ei phen ei hun fel unig gynrychiolydd ei thîm ar ddiwedd rasys. Ar y llaw arall, fe allai gallu SD Worx i ddefnyddio eu rhifau ganiatáu i Kopecky fod ar y droed flaen yn niweddglo rasys, yn enwedig yn y rasys sy’n ei siwtio hi fel Clasuron y Gwanwyn. Bydd Kopecky, ynghyd â Demi Vollering, yn bendant yn anodd eu curo.
Elisa Balsamo (Valcar Travel and Service -> Trek Segafredo)
Pan arwyddodd Balsamo gytundeb tair blynedd gyda Trek Segafredo ym mis Awst y llynedd, rwy'n amau a oedd y ddwy ochr yn disgwyl iddi ddod â'r crys enfys gyda hi. Ond yn Leuven, dan arweiniad gladwraig a ‘teammate’ y dyfodol Longo Borghini, dangosodd Balsamo i'r byd yn union faint o botensial sydd ganddi trwy faeddu Marianne Vos, y beicwraig orau yn hanes ein chwaraeon. Er gwaethaf y fuddugoliaeth annisgwyl, nid yw Balsamo yn ddieithr i lwyddiant, daeth ei theitl elit yn 2021 bum mlynedd ar ôl ennill y teitl iau yn Qatar. Mae hi hefyd wedi bod yn bencampwraig y Byd ac Ewrop sawl gwaith ar y trac ar lefel iau a dan23, ac enillodd hefyd pencampwriaeth rasio ffordd dan 23 Ewrop yn Plouay yn 2020.
Mae Balsamo yn ymuno a thîm Trek Segafredo cryf, a fydd, unwaith eto, gyda sawl opsiwn i'w chwarae ym mhob ras fawr. Bydd enillydd cyntaf Paris Roubaix Lizzie Deignan yn awyddus i wneud argraff ar glasuron y gwanwyn ar ôl dechrau siomedig i’r flwyddyn yn 2021, tra bydd Pencampwr yr Eidal Elisa Longo Borghini mor ymosodol ag erioed. Bydd cyd-aelod newydd, Leah Thomas o Movistar, yn chwaraewr tîm cryf ynghyd â Phencampwr Byd y ras yn erbyn y cloc Ellen Van Dijk. Ar bapur, mae gan Trek o leiaf chwe beicwraig a allai fod yn arweinwyr yn nhimau arall ac felly bydd yn ddiddorol gweld sut y byddant yn defnyddio eu cryfder yn niferoedd.
Roedd Balsamo yn gryf yng nghlasuron y gwanwyn yn 2021, gyda phumed safle yn Gent Wevelgem a trydydd safle yn Brabantse Pijl a Scheldeprijs. Rydyn ni heb weld eto beth mae hi'n gallu gwneud yn y clasuron mawr fel Ronde Van Vlaanderen a Liege Bastogne Liege ond yn seiliedig ar sut y rasiodd yn Leuven 2021, dydw i ddim yn gweld pam na fyddai hi'n gystadleuol yn y rasys hyn. A gyda thîm cryf wrth ei hochr, bydd Pencampwr y Byd yn un i wylio yn 2021.
Dynion
Ar ddiwedd mis Rhagfyr, cawsom ein hatgoffa o’r anghydbwysedd yng ngalluoedd ariannol timau beicio. Hyd yn oed ar ôl tymor cymharol lwyddiannus i Qhubeka NextHash, gyda’r uchafbwynt o dair buddugoliaeth yn y Giro D'Italia, buont yn aflwyddiannus yn chwilio am noddwr newydd (gol: darllennwch fwy am hynny drwy glicio yma). Felly, yn 2022 bydd 18 tîm ‘World Tour’ yn y peloton gwrywaidd. Dyma’r pedwar trosglwyddiad mwyaf nodedig neu gyffrous yn fy marn i ar gyfer y tymor cyfagos.
Sam Bennett (Deceuninck-Quickstep -> Bora Hansgrohe)
Yn ei dymor cyntaf gyda’r tîm, roedd teyrnasiad Sam Bennett fel prif wibiwr Deceuninck-Quickstep yn llwyddiant ysgubol. Gyda dau gymal o’r Tour de France, a’r crys gwyrdd i’w enw, roedd yn edrych yn barod i ddychwelyd i’r ras yn 2021 i ychwanegu at ei gymalau. Trodd y mis cyn y ras yn gyfres ryfedd o golofnau a datganiadau cyhoeddus gan bennaeth tîm Deceuninck, Patrick Lefevere, yn mynegi amheuon am anaf Sam Bennett i’w ben-glin. Roedd sawl datganiad rhyfedd ond y gwaethaf oedd y cymhariaeth ansensitif o Lefevere yn ei golofn yn y papur Belg Het Nieuwsblad ar benderfyniad Bennett i ddychwelyd i Bora Hansgrohe, fel “yr un fath â menyw sy’n dychwelyd adref ar ôl camdriniaeth domestig.” Fe wnaeth proffesiynoldeb Bennett o amgylch yr ymosodiadau personol hyn, a'i hapusrwydd gwirioneddol ar gyfer llwyddiant ei dim, ennill lawer o barch iddo gan wylwyr a newyddiadurwyr chwaraeon.
Mae Bora-Hansgrohe hefyd wedi arwyddo Ryan Mullen, Shane Archobold a Danny Van Poppel gyda’r gobaith o adeiladu trên sbrintio llawn i gefnogi Bennett. Ar ôl blynyddoedd o Bora yn adeiladu tîm gydag uchelgeisiau Sagan mewn golwg (y prif reswm y tu ôl i Bennett adael y tîm yn 2019), rwy’n meddwl y bydd yn gyffrous iawn gweld yr hyn y gallant ei wneud yn y Grand Tours. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weld beth y gall Bennett ei wneud yn gynnar yn y tymor, yn enwedig ym Milan San Remo. Gyda thîm sydd ag uchelgeisiau ym mhob agwedd o'r gamp; tîm clasuron cryf gyda Politt a Van Poppel yn arwain, dringwyr cystadleuol fel Higuita a Vlasov, ac yna Bennett ei hun yn targedu’r gorffeniadau cyflym, rwy’n meddwl y bydd y tîm hwn yn cael 2022 llwyddiannus iawn.
Fodd bynnag, bydd gadael Deceuninck-Quickstep yn anodd i Bennett. Rydyn ni wedi gweld dro ar ôl tro, gwibwyr o fri yn gadael y tîm. Roedd Kittel, Gaviria, Viviani a Cavendish i gyd ar frig eu gêm wrth rasio i dîm Patrick Lefevere ac nid ydynt wedi cyrraedd yr un lefel yn rhywle arall. Fel y dalent Gwyddelig mwyaf cyffrous ers Sean Kelly, gobeithio nad yw Bennett yn dilyn yr un patrwm.
Ivan Ramiro Sosa (Ineos Grenadiers -> Movistar)
Yn ei dymor cyntaf gyda Team Sky yn 2019, fe wnaeth Ivan Sosa greu argraff fawr gyda buddugoliaethau yn La Route d’Occitanie, Vuelta a Burgos a’r ail safle yn Gran Piemonte y tu ôl i ‘teammate’ a chydwladwr Egan Bernal. Yn Ineos roedd disgwyl y byddai'n datblygu, yn debyg iawn i ddringwyr gwych arall o Golombia, i fod yn gystadleuydd Grand Tour. Yn anffodus nid yw 2021 wedi gweld y dilyniant a ddisgwyliwyd gan Sosa. Cafodd ddechrau llwyddiannus arall i'r flwyddyn gyda'r teitl cyffredinol yn y Tour de la Provence, gydag uchafbwynt ennill cymal 3 ar ben y Mont Ventoux. Ond ers mis Mai mae dim ond wedi rasio yn llond llaw o glasuron Eidalaidd ym mis Medi a mis Hydref a na lwyddodd i’w gorffen nhw.
Bydd Enric Mas yn parhau i fod yn arweinwr gwarchodedig y tîm ar gyfer podiumau Grand Tour, ond gydag ymadawiad Lopez a Soler ni fydd gan Movistar gystadleuydd ar gyfer y tair Grand Tour. Fel tîm o Sbaen, mae'n debyg taw'r Giro fydd y daith anghofiedig. Ar hyn o bryd Valverde a Sosa yw'r unig aelodau o Movistar sydd wedi'u gosod ar gyfer y Giro a gyda Valverde yn annhebygol o fynd am y dosbarthiad cyffredinol, gallai hynny ryddhau lle i Sosa gael yr unig arweinyddiaeth. Yn debyg i Carapaz yn 2019, rwy'n gobeithio gweld Sosa yn cydio gyda’r cyfle i rasio drosto'i hun gyda dwy law yn y Giro, a phwy a ŵyr, efallai'r canlyniad bydd ef ar y podiwm yn Verona.
João Almeida (Deceuninck-Quickstep -> UAE Team Emirates)
Un arall sydd wedi graddio o Deceuninck-Quickstep, bydd Almeida yn ymuno â thîm UAE Team Emirates hynod gryf yn 2022. Mae'r beiciwr tair ar hugain oed o Bortiwgal yn dangos addewid mewn Treialon Amser, ar dir mynyddig, ac mae hefyd wedi ennill cefnogwyr gyda'i steil ymosodol ac agwedd diwyd. Pwy all anghofio ei orffeniad yn bedwaredd yn y Giro 2020, ei Grand Tour gyntaf, lle ddaliodd y Maglia Rosa o Gymal 3 i Gymal 18, dim ond ei golli ar ddringfa'r Stelvio. Mae'n ymuno ag UAE ar gytundeb pum mlynedd, gan ddewis mynd am hirhoedledd yn hytrach na chyflog uchaf. Yn ôl cyfweliad a gynhaliwyd gyda Cycling News, mae’r cytundeb pum mlynedd yn tanlinellu’r hyder sydd gan y tîm ynddo a bydd yn caniatáu iddo “ganolbwyntio ar reidio fy meic yn y blynyddoedd i ddod a chanolbwyntio ar ennill, gobeithio.”
Mae Almeida yn un yn unig o fflyd gref o dalent dringo sy'n ymuno ag UAE, gyda George Bennett yn ymuno o Jumbo Visma, a Marc Soler o Movistar. Heb os, bydd yn rhaid i bawb ymddwyn fel domestique i Pogacar rywbryd yn y dyfodol ond gobeithio y bydd gan bob un ohonynt gyfleoedd eu hunain hefyd. I Almeida, bydd y cyfle hwn yn dod yn y Giro D’Italia lle bydd yn gallu targedu’r ras am y drydedd flwyddyn yn olynol. Yn dal yn ifanc, a gyda chefnogaeth y tîm, dim ond un Grand Tour mae moyn targedi'r flwyddyn gyda’r broses meddwl o aneli am safon y rasio yn lle rasio gymaint ag sy’n bosib. Bydd ei aeddfedrwydd y tu hwnt i’w flynyddoedd o fudd iddo ym myd beicio proffesiynol ac mae bob un sydd eisoes wedi gweithio gyda Almeida, hyd yn oed Lefevere, yn canmol ei broffesiynoldeb a’i agwedd.
Yn dair ar hugain oed, mae Almeida yn seren ifanc arall sy’n aneli am y Grand Tours. Nad yw eto mor fawreddog ag eraill fel Pogacar, Bernal, Evenepoel a Pidcock ond credaf yn UAE y bydd yn mynd o nerth i nerth, a gobeithio gyda pheth rhyddid y bydd yn cadw ei feddylfryd cryf a'i steil ymosodol o rasio.
Esteban Chaves (BikeExchange -> EF Education Nippo)
Gyda’i bersonoliaeth hamddenol, a’i waith elusennol, FunChaves, mae Esteban Chaves yn un o gymeriadau mwyaf hoffus y peloton. Mae eisoes wedi cael gyrfa anhygoel, gyda dau bodiwm yn Grand Tour yn y Giro a Vuelta, ac enillodd Il Lombardia yn 2016. Fodd bynnag, yn 2018 fe dioddefodd o Epstein-Barr a ‘ sinusitis’ cronig. Ers hynny mae wedi adeiladu'n ôl yn raddol a ddangosodd gyda buddugoliaeth wych yn y Volta a Catalunya llynedd.
Ar ôl bod gyda BikeExchange ers 2014, bydd symud i EF Education-NIPPO yn ddechrau hollol newydd i Chaves. Gyda charfan gref ym mhob math o rasio, bydd Chaves yn rhan allweddol o'r grŵp sy'n canolbwyntio ar ddringo. Ochr yn ochr gydag aelod newydd arall y tim, Mark Padun, gorffenwr podiwm y Vuelta Hugh Carthy a chydwladwr Rigoberto Uran, bydd gan y tîm sawl opsiwn yn ystod y tair Grand Tour. Sai’n credu bod gan y tîm ar hyn o bryd y dyfnder i herio ar gyfer y cam uchaf, ond bydd eu hagwedd a steil ymosodol o rasio yn eu gwasanaethu'n dda ar gyfer gorffeniad podiwm neu ar gyfer cymalau unigol. Gall Chaves ei hun herio yn ddosbarthiadau cyffredinol mewn rasys wythnos o hyd, ac ar gyfer y crys polka dot neu gymalau o Grand Tours.
Gyda rhywfaint mwy o gysondeb yn 2021, mae Chaves yn edrych yn barod i gamu i fyny eto yn 2022, gan gyrraedd yr un uchelderau ag 2016 gobeithio. A chredaf mai EF Education-NIPPO fydd y lle perffaith iddo ddychwelyd at ei ffyrdd buddugol.
Byddwn yn argymell yn fawr fod unrhyw un yn edrych ar ei elusen FunChaves. Ei nod yw rhoi cyfleoedd i blant yng Ngholombia wella eu bywoliaeth gyda beiciau yn ogystal ag ariannu cymorthfeydd orthopedig a thriniaeth i blant na fyddent fel arall yn gallu ei fforddio.
Diolch yn fawr am ddarllen, gadewch fi wybod os oes unrhywbeth hoffwch chi fi i drafod yn y dyfodol.
Gallwch gysylltu fi via Twitter neu Instagram o dan y ddolen elkingy9 :)
Just as the new year promises new beginnings for billions across the world, it also marks changes in the lives of professional cyclists. Some; either by choice or by unfortunate circumstances, hang up their wheels, whilst others change jerseys and start a new chapter in a new team. 2022 is no different. During the final months of the season, it seemed as if there was a constant stream of news and gossip of rider transfers. Teams such as Ineos, Jumbo and UAE have strengthened their squads, aligning with their goals of winning Grand Tours. On the other hand, Astana have completely rebuilt their team, deciding to resign former leaders Vincenzo Nibali and Miguel Ángel López Moreno.
At the end of December, we had another stark reminder of the imbalances in the financial capabilities of cycling teams. Even after a relatively successful season for Qhubeka NextHash, the highlight being the triple stage victory at the Giro D’Italia, they were unsuccessful in their search for a new sponsor. Therefore, in 2022 there will be 18 World Tour Teams in the men’s peloton. In my opinion, here’s the four most notable or exciting transfers for the fast upcoming season.
Men
Sam Bennett (Deceuninck-Quickstep -> Bora Hansgrohe)
In his first season with the team, Sam Bennett’s reign as Deceuninck-Quickstep’s main sprinter was an overwhelming success. With two Tour de France stages, and the green jersey to his name, he looked set to return to the race in 2021 to add to his palmares. The month leading up to the race turned into a bizarre string of columns and public statements from Deceuninck’s team boss, the ever confrontational Patrick Lefevere, expressing doubts over Sam Bennett’s lingering knee injury. These accumulated into a insensitive and frankly disturbing comparison from Lefevere in his infamous column in Het Nieuwsblad on Bennett’s decision to return to Bora Hansgrohe, as “the same as women who still return home after domestic abuse." Bennett’s professionalism around these personal attacks, and his genuine happiness for the success of his team mates gained him a lot of respect from watchers and journalists alike.
Bora-Hansgrohe have signed Ryan Mullen, Shane Archobold and Danny Van Poppel with the hope of building a full sprint train to support Bennett. After years of Bora building a team with Sagan’s ambitions in mind (the main reason behind Bennett’s departure from the team in 2019), I think it will be really exciting to see what they’re able to do in Grand Tours. I am also looking forward to seeing what Bennett can do in the early season, in particular in Milan San Remo. With a team that has ambitions in every aspect of the sport; a strong classics team headlined by Politt and Van Poppel, competitive climbers like Higuita and Vlasov, and then Bennett himself targeting the fast finishes, I think this team will have a very successful 2022.
Leaving Deceuninck-Quickstep will be difficult for Bennett though. We’ve seen time and time again, previously dominant sprinters leaving the team. Kittel, Gaviria, Viviani and Cavendish were all at the top of their game whilst racing for Patrick Lefevere’s team and have never been able to quite reach the same level elsewhere. As the most exciting Irish talent since Sean Kelly, I hope that Bennett doesn’t follow the same pattern.
Ivan Ramiro Sosa (Ineos Grenadiers -> Movistar)
Ivan Sosa hit the ground running in 2019 in his first season with Team Sky with wins at La Route d'Occitanie, Vuelta a Burgos and second place at Gran Piemonte behind teammate and countryman Egan Bernal. At Ineos there was the expectation that he would develop, much like other super Colombian climbers, into a Grand Tour contender. Unfortunately 2021 hasn’t seen the progression that was expected from Sosa. He had another successful start to the year with the overall title at the Tour de la Provence, with the highlight of winning stage 3 on top the Mont Ventoux. But since May he’s only appeared at the start line of a handful of Italian classics in September and October which he failed to finish.
Enric Mas will continue to be the protected rider of the team for Grand Tour podiums, but with the departure of Lopez and Mas they won’t have a contender for all three Grand Tours. As a Spanish team, the Giro is likely to be the forgotten tour. Valverde and Sosa are currently the only Movistar riders set for the Giro and with Valverde unlikely to go for the overall classification, that could free up space for Sosa to have sole leadership. Similar to Carapaz in 2019, I hope to see Sosa take the opportunity to race for himself with both hands at the Giro, and who knows, it might end with him on the podium in Verona.
João Almeida (Deceuninck-Quickstep -> UAE Team Emirates)
Another graduate of Deceuninck-Quickstep, Almeida will join an incredibly strong UAE team in 2022. The twenty three year old Portuguese rider shows promise in Time Trials, on mountainous terrain, and has also gained fans with his attacking and tenacious attitude. Who can forget his fourth place finish at the 2020 Giro, his Grand Tour Debut, where he held the Maglia Rosa from Stage 3 to Stage 18, only losing it on the Stelvio climb. He joins UAE on a five year contract, choosing to go for longevity rather than max salary. According to an interview conducted with cyclingnews, the five year contract underscores the confidence the team has in him and will allow him to “focus on riding my bike in the years to come and hopefully focus on winning."
Almeida is just one of a strong fleet of climbing talent joining UAE, with George Bennett joining from Jumbo Visma, and Marc Soler from Movistar. All will undoubtedly have to act like a domestique for Pogacar at some point in the future but hopefully will all have their own opportunities as well. For Almeida, this opportunity will be at the 2022 Giro D’Italia where he will be able to target the race for the third year in a row. Still young, and with the team's support, he wants to approach the season with a focus on one Grand Tour going for quality over quantity. His maturity beyond his years will serve him well in professional cycling and everyone who works with him, even Lefevere, compliments his professionalism and attitude.
At twenty three years old, he is another in a long line of youngsters racing the Grand Tours. He is not yet as prestigious as others like Pogacar, Bernal, Evenepoel and Pidcock but I think at UAE he will flourish, and hopefully with the freedom he’s granted will keep his strong mentality and attacking style of racing.
Esteban Chaves (BikeExchange -> EF Education Nippo)
With his laid back personality, and charity work with his foundation FunChaves, Esteban Chaves is one of the most likeable characters in the pro peloton. Chaves has already had an incredible career, with two Grand Tour finisher podiums at the Giro and Vuelta respectfully, and winner of Il Lombardia in 2016. However, in 2018 he was diagnosed with Epstein-Barr virus and chronic sinusitis. Since then he has built back steadily which accumulated in a great stage win at last year's Volta a Catalunya.
After being with BikeExchange since 2014, moving to EF Education-NIPPO will be a completely new start for Chaves. With a strong squad in every type of racing, Chaves will be a key part of the climbing focused group. Alongside fellow new signing Mark Padun, Vuelta podium finisher Hugh Carthy and fellow Colombian Rigoberto Uran, the team will have several options during all three Grand Tours. I’m not convinced that the team currently has the depth to challenge for the top step, but their punchy and attacking style of racing will serve them well for a podium finish or for individual stages. Chaves himself can challenge for the overall at week long races, and for the polka dot jersey or stages of Grand Tours and will fit right in with the vibe of the team.
With some more consistency in 2021, Chaves looks ready to step up again in 2022, hopefully reaching the same heights as 2016. And I believe that EF Education–NIPPO will be the perfect place for him to return to his winning ways.
I would really recommend that anyone look up his organisation FunChaves. It has the aim of giving opportunities to children in Colombia to improve their livelihood with bikes as well as funding orthopaedic surgeries and treatment for children who would otherwise not be able to afford it.
Women
2022 will be another huge year for female cycling, with five more teams gaining World Tour licence, there will be 14 teams in the top tier. Paris Roubaix Femmes will return after a successful inaugural edition in 2021. The biggest news however is the first Tour de France Femmes since 1989, the eight day stage race will run directly after the Tour de France and start in Paris on the 24th of July. The race will be groundbreaking for several reasons, the first is the media attention around the Tour de France Femmes can only be positive for female cycling on the whole, and the second is the prize fund is a record breaking €250,000. Whilst it is significantly lower than that of the men's prize fund which is expected to be around €2.3 million, it is a positive change in a sport where too many women are juggling full time or part time work with professional cycling.
2022 will also be a different year due to the retirement of one of the greats, 2016 Olympic Champion and two time World Champion Anna van der Breggen has decided to finish her professional career and will instead work as a DS for her team SD Worx. The seven time winner of La Fleche Wallonne and four time winner of the Giro Donne will be sorely missed as a rider who always shows class and is a champion, both on and off the bike. The end of van der Breggen’s career might also signify a change in international women’s cycling, with the possible end to Dutch dominance. In 2021 we saw mistakes from the Dutch team at both the Olympics and the World Championships, and although there is plenty of young talent coming through, riders like van Vleuten, Vos and van Dijk can’t stick around forever. With several nations improving their international roster perhaps the World’s and Europeans will no longer be a competition of who can finish second to the Dutch squad.
Coryn Labecki (Team DSM -> Jumbo Visma)
A staple part of Team DSM since 2017, Labecki (nee Rivera) was a surprise signing for new World Tour Team Jumbo Visma. Labecki is a fast finisher and was a standout rider during both the 2017 and 2018 seasons with victories at the Tour of Flanders, Trofeo Alfredo Binda, Ride London Classique and the overall at the OVO Women’s Tour. 2020 was Labecki’s first season without a victory for six years but 2021 was slightly better with top ten at both the World Championships and Olympic Games Road Race. She also won the final stage of the Giro Donne, and picked up podiums at the Tour of Norway and Ceratizit Challenge.
At Jumbo Visma, Labecki will join an already strong squad alongside Marianne Vos. Hopefully this will allow Jumbo the same freedom as teams like SD Worx and Trek Segafredo with the option to play different cards at the end of classics, and of course stages in all three Grand Tours. In the second half of the season when many races overlap, I hope that Labecki will be designated as sole team leader, something that I think she lacked in DSM especially with the faster finisher, Wiebes.
With the health problems of 2020 behind her, and in a new environment, I hope that Labecki finds the form that led her to victory at the Tour of Flanders in 2017.
Maud Oudeman (Canyon/Sram Racing)
I was at training camp in December when one of my teammates mentioned that they were releasing daily videos about the zwift academy on GCN and Youtube. The new and improved coverage made the competition seem like a reality TV show where you got to know the riders and their motives. Everynight, we as a team watched the drama unfold and saw five riders compete against each other on the roads of both Mallorca and Watopia. Maud Oudeman at 18 was the youngest of the competitors, but from the very first zwift race she was head and shoulders above the rest, winning every challenge over the five days. The Zwift academy has provided Canyon Sram with some great riders with Ella Harris, Tanja Erath and Neve Bradbury continuing to impress in the pro peloton.
At only 18, Oudeman obviously hasn’t raced in the World Tour peloton previously. Her experience in any sort of peloton seems limited, but as a former duathlete she is no stranger to competition. She raced at a handful of junior nations cup, and then at the Dutch and European championships but none of her results were anything amazing. Perhaps this was due to her lack of race experience or nervousness in the group, as we saw on Zwift, she has the physical ability.
2022 will be a big year for Oudeman, she will go from balancing school and training to being a full time athlete on a professional set up. Her attitude and maturity shone through during Zwift Academy so I’m sure she will have no trouble adapting to these big changes in her life. Let's see where the year takes her.
Lotte Kopecky (LIV Racing -> SD Worx)
When it was announced that Anna van der Breggen and Joolien d’Hoore were to retire from professional cycling, it seemed that finally the squad of SD Worx would be weakened. But along came two massive signings for the Dutch team, with Marlen Reusser and Lotte Kopecky. Both have proved to be stiff competition, Reusser in the ITT and in stage races, and Kopecky in the fast finishes.
Kopecky has impressed on all sorts of terrain, with victories at Le Samyn, overall at Lotto Belgium Tour, and stages in both the Giro and the Vuelta in 2021. She also finished fourth at the Olympic Games Road Race on a challenging course, her ability to survive the climbs puts her on another level to other sprinters and in the future will allow her to be competitive in all manner of races. She capped off her season with a dominant display at the World Track Championships in the points race, where her road endurance paid dividends and was a big part of how she won the rainbow jersey.
I think it will be difficult for Kopecky to start with such a big and successful team like SD Worx. At LIV racing, and Lotto Soudal previously, she had free reign of the leadership and often entered finals alone as the sole representative of her team. On the other hand, the ability of SD Worx to use their numbers sensibly might allow Kopecky to be on the front foot in the finales, especially in the races that suit her like the Spring Classics. Kopecky paired with Demi Vollering will definitely be difficult to beat.
Elisa Balsamo (Valcar Travel and Service -> Trek Segafredo)
When Balsamo signed a three year deal with Trek Segafredo in August of last year, I doubt that either party expected her to be bringing the stripes with her. But in Leuven, led out by future teammate Longo Borghini, Balsamo showed the world exactly how much potential she has by outsprinting the greatest of all time, Marianne Vos. Despite the surprise win, Balsamo is no stranger to success, her elite title in 2021 came five years after winning the junior title in Qatar. She’s also several time World and European champion on the track at junior and u23 level, and also won the U23 Europeam road race championships in Plouay in 2020.
Balsamo joins a strong Trek Segafredo, who, once again will have several options to play in almost every major race. Inaugural Paris Roubaix winner Lizzie Deignan will be keen to impress in the spring classics after a disappointing start to the year in 2021, whilst Italian Champion Elisa Longo Borghini will be as aggressive as ever. Fellow new signing Leah Thomas from Movistar will be a strong team player paired with ITT World Champion Ellen Van Dijk. On paper, Trek have at least six riders who could be leaders in other teams so it will be interesting to see how they'll use their strength in numbers.
Balsamo was impressive in the spring classics in 2021, with fifth at Gent Wevelgem and third place at Brabantse Pijl and Scheldeprijs. We’ve yet to really see what she’s able to do at the bigger classics like Ronde Van Vlaanderen and Liege Bastogne Liege but based off how she raced in Leuven 2021, I don’t see why she wouldn’t be challenging for the win in these races. And with a strong team by her side, the World Champion will be one to watch in 2021.
Thanks for reading, let me know if there is anything you would like me to discuss in the future.
You can follow me on Twitter or Instagram under the username elkingy9 :)
Diolch o galon i Eluned am ysgrifennu cofnod mor gynhwysfawr ar ein cyfer heno 'ma, a hoffwn ddymuno pob dymuniad da iddi y tymor hwn.
A huge thanks to Eluned for writing such a comprehensive post for us tonight, and I'd like to wish her all the best for the upcoming season.
Comments