top of page
Eluned King

Trosglwyddiadau Mwyaf (ME) 2021 Biggest Transfers

Updated: Jan 11, 2022

gan Eluned King

@elkingy9


Dros y misoedd diwethaf, mae yna wedi bod newyddion mawr am bobl yn newid timau, pobl megis Froome a Bardet sydd wedi bod gyda’r un tîm, a gweithio gyda’r un bobl, drwy gydol eu gyrfaoedd ac am ddechrau yn newydd mewn tîm gwahanol, diwylliant gwahanol a gydag ethos gwahanol. Mae’r rhestr yma yn bump o enwau rydw i’n credu bydd yn cael effaith fawr ar dymor 2021 ac ymhellach i’r dyfodol. Maent i gyd yn enwau cyfarwydd ond gobeithio gallaf eich diddori wrth drafod fy marn i ar sut mae ganddyn nhw'r potensial i gael effaith positif ar eu timau newydd, a sut rydw i’n disgwyl i weld nhw yn datblygu fel athletwyr yn amgylchedd gwahanol.


Er hwylustod mae yna fersiwn yn Saesneg ar ddiwedd y post.


Joiwch.

 

1. Greg Van Avermaet (AG2R Citroën)

(Image credit: Getty images Luc Claessen)

Pencampwr ar yr heol yn y Gemau Olympaidd yn 2016. Enillydd Paris Roubaix, Omloop Het Nieuwsblad a Gent–Wevelgem yn 2017. Gwisgwr y crys melyn yn y Tour de France am 11 dydd (2016 a 2018). Mae Greg Van Avermaet , neu GVA fel ei elwir yn serchog, yn feiciwr anhygoel. Ac yn 35 oed mae wedi symud o BMC (cafodd ei ailenwi yn CCC yn 2019) lle oedd ei gartref ers 2011 i’r tîm Ffrangeg AG2R Citroën (AG2R La Mondiale). Mae’n rhaid dweud, dyma un o symudiadau fwyaf cyffrous y tymor cyfagos gan fod AG2R Citroën wedi llwyddo i adeiladu tîm anhygoel ar gyfer y Clasuron, Coblog ac Ardennes. Gyda Bob Jungels, Oliver Naesen ac GVA ar gyfer y clasuron Coblog ac wedyn Benoît Cosnefroy a Bob Jungels ar gyfer yr Ardennes, maent gyda’r nerth i herio Deceuninck - Quick Step sydd wedi cael gafael gref ar y tîm gorau yn y byd ers rhai blynyddoedd.


Yn ôl safonau uchel ei hun, fe gaeth GVA tymor llethol yn 2020 lle fe wnaeth o ddim llwyddo i ennill ras am y tro cyntaf ers 2010. Gwir, roedd tymor y ras wedi'i gywasgu i 3 mis yn unig, gyda llawer o rasys llai lle byddai GVA fel arfer yn codi llond llaw o enillion wedi'u canslo oherwydd argyfwng parhaus COVID-19. Ac fe wnaeth o gael damwain cas yn Liège–Bastogne–Liège olygu nad oedd gallu dechrau ei darged fwyaf, y Tour of Flanders wythnos yn olynol. Ond, wrth symud i dîm newydd, gyda llai o bwysau ar ei ysgwyddau i gymharu â CCC ag oedd gyda phroblemau cyllidebol, rydw i’n siŵr bydd GVA nol i frwydro yn ei rasys ffefryn, y clasuron yn y Gwanwyn. Ac rydw i yn sicr yn edrych ymlaen at ei weld yn ôl ar feic BMC, lle mae'n ymddangos ei fod yn perthyn.


2. Nils Politt (Bora Hansgrohe)

(Image credit: Getty images Luc Claessen)

Ar ôl gorffen yn ail yn ‘Paris Roubaix’ ac yn bumed yn Flanders yn 2019, a hynny heb lawer o gefnogaeth tîm, fe ddaeth Politt yn seren y clasuron ar gyfer y dyfodol. Roedd y perfformiad yn Roubaix yn anhygoel, yn gorffen yn ail du ôl Gilbert sydd yn cael ei ystyried yn un o feicwyr y clasuron gorau ein cenhedlaeth. Bu hyn ddenu sylw Bora–Hansgrohe ac yn Awst 2020 fe gyhoeddwyd bydd yr Almaenwr yn ymuno gyda’r tîm Almaeneg. Er bod carfan glasuron y tîm wedi cael ei hadeiladu i raddau helaeth o amgylch Peter Sagan, mae Politt yn cynnig atgyfnerthiad a’r opsiwn o gallu chwarae sawl carden yn y clasuron coblog.


Dim dim ond y clasuron coblog lle mae Politt yn gryf, mae’n gryf yn erbyn y cloc a gallu ennill gwib ar ddiwedd ras caled fel dengys yn y Deutschland Tour yn 2018. Gorau yw mai’n ddigon gwahanol o dalentau arall Bora megis Sagan a Schachmann i gael cyfleoedd ei hunan. Yn ogystal ag hyn mae ganddo'r potensial i gryfhau'r tîm yn y ‘Grand Tours’ trwy helpu ar y cymalau sbrint ar gyfer Pascal Ackermann ond hefyd fel injan ar gyfer Emanuel Buchmann a Wilco Kelderman sydd yn mynd am y dosbarthiad cyffredinol.


3. Tom Pidcock (INEOS)

(Image credit: Getty images Luc Claessen)

Mae’n amhosib ysgrifennu am dalentau i’r dyfodol heb sôn am Tom Pidcock, pencampwr y byd ar feic mynydd, y ras yn erbyn y cloc a traws seiclo ar sawl achlysur ac yn sawl categori, does dim syndod roedd gymaint o dimau yn trio ei arwyddo. Y tîm llwyddodd i ddenu ei sylw oedd Ineos, ac rydw i’n credu o fewn y tîm yma bydd y Brit ifanc yn datblygu i fod un o feicwyr gorau ein cenhedlaeth ni.


Yn 1.6m o daldra ac yn pwyso llai na 60kg, mae’n edrych yn fach i gymharu gyda’i gystadleuaeth, ond ar yr heol, mae’n gawr. Rhywbeth sydd yn gwneud Pidcock yn wahanol i weddill Team Ineos yw ei dalent ar draws gymaint o feysydd y gamp. Mae’n cystadlu yn erbyn pobl fel Mathieu van der Poel a Wout van Aert yn rheolaidd yn nhraws seiclo, wedyn hefyd gallu ennill y Baby Giro yn erbyn dringwyr orau dan 23 oed, ac yna ennill Paris Roubaix yn y categorïau dan 18 a dan 23. Does dim diwedd i’w dalent. Yn wahanol i’w gystadleuaeth, ni ruthrodd i arwyddo yn syth i’r lefel World Tour, er byddwch yn dadlau roedd yn ddigon da. Pan gafodd ei gwestiynu ar ei ddewis i beidio mynd yn World Tour yn syth, i gymharu gyda beicwyr megis Remco Evenepoel a Pavel Sivakov, atebodd "Dwi ddim ar frys a does gen i ddim byd i'w brofi." Mae ei onestrwydd a'i hyder yn adfywiol, a rhywbeth a fydd yn ei wasanaethu'n dda yn ei yrfa.


Wrth edrych ymlaen at ei ddyfodol ar yr heol, ynghyd gyda Tao Geoghegan Hart ac Ethan Hayter, efallai Pidcock bydd yn adfywio'r dalent Prydeinig yn Ineos. Tîm oedd gyda’r bwriad cyntaf o gael enillydd Prydeinig o’r Tour de France ac sydd bellach gyda 6 buddugoliaeth gyda thri enillydd Prydeinig gwahanol. Tybed a Pidcock bydd y pedwerydd. Bydd yn ddidorol i weld siwd mae’n ymdopi gyda yr angerdd personol i lwyddo, yn nhim lle mae yna gymaint o ffocws ar un ras yn unig, Y Tour. Un peth sydd yn siŵr, nad oes diwedd i dalent y beiciwr ifanc yma ac rydw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’n datblygu fel person ac athletwr dros y blynyddoedd nesaf.


4. Dani Martinez (INEOS)

(Image credit: Getty images sport)

Enillydd annisgwyl y Criterium de Dauphine yn 2020 ac i dîm gydag un o gyllidebau lleiaf y peloton, fe wnaeth Dani Martinez adael ei farc ar y tymor diwethaf. Roedd hi’n sioc i glywed bod y dyn o Golombia wedi dewis i adael EF ac i ymuno gyda thîm sydd mor wahanol. Mae’n edrych fel, ar ôl llwyddiant Jumbo visma eleni bod Ineos yn newid ei dull. Gydag Amador, Bernal, Carapaz, Henao, Narvaez, Rivera, Sosa a nawr Martinez, mae talent dringo Ineos yn bennaf yn dod o Dde America. Gobeithio bydd Martinez dal gallu cael posibilrwydd o gallu arweinio tîm yn rhyw Grand Tour gan ei fod yn ddringwr hynod o gryf fel dengys pan enillodd cymal 13 o'r Tour ar ben y Puy Mary.


Does dim sôn o beth bydd rôl Dani Martinez yn 2021 ond rydw i’n gobeithio ei weld yn y Vuelta gan fydd y dringfeydd byr a fwy serth yn ei siwtio, ac mae’n annhebygol bydd yn cael arweinyddiaeth ar gyfer y Tour de France. Os yw am fod yn un o brif helpwyr Bernal yn y mynyddoedd ni fydd ganddo'r un rhyddid i fynd am gymalau ei hun fel cafodd yn EF, ac rwy’n credu bydd yn siom i beidio ei weld e yn y dihangiad mor aml.


Gyda help Martinez rwy’n rhagweld bydd Ineos nol fel y tîm i guro yn 2021, ond bydd yn ddiddorol i weld y frwydr rhyngddyn nhw a Jumbo Visma yn y mynyddoedd. Efallai bydd Ineos yn newid ei thacteg ac yn gadael i Jumbo Visma reidio o’r blaen fel fe wnaethant nhw eleni ac wedyn rasio yn fwy ymosodol. Os dangosodd y Tour a’r Vuelta yn enwedig unrhywbeth i ni eleni, roedd angen fwy o gymorth a niferoedd yn y mynyddoedd ar gyfer Bernal a Carapaz.


5. Romain Bardet (TEAM DSM)

(Image credit: Getty images sport)

Mae yna dim ond llond llaw o gysondebau ym mywyd; ac un o rheini yw Bardet yn siorts brown, yn chwarae gyda chalonnau'r cyhoedd Ffrengig bob haf yn y Tour de France. Roedd 2020, o’r tu allan yn edrych yr un peth. Felly pan gyhoeddwyd bod Bardet yn gadael ei gartref gyda AG2R La Mondiale ar ôl 9 blwyddyn, roedd yn sioc fawr i bawb. Am flynyddoedd roedd Bardet yn y gobaith mawr Ffrengig ar gyfer y Tour de France, nad yw Ffrancwr wedi ennill y ras ers Hinault yn 1985, ond bu Bardet fyth chyflawni'r fuddugoliaeth.


Mae Bardet yn ddringwr anhygoel fel dengys pan orffennodd yn ail yn y Tour yn 2016, ac yn drydedd yn 2017. Mae wedi ennill y crys smotiog (yn 2019), a thri chymal (2015, 2016, 2017). Ond, lle mae hefyd yn rhagori yw’r clasuron Ardennes a rasys caled megis Pencampwriaeth y byd. Mae wedi rasio saith Liège–Bastogne–Liège ac wedi gorffen o fewn y deg uchaf pedair gwaith, gyda’i ganlyniad gorau yn dod yn 2018 pan orffennodd yn drydydd. O fewn Tîm DSM (enw newydd Tîm Sunweb), bydd yn ddiddorol i weld sut bydd yn perfformio yn y clasuron Ardennes yma yn nhîm sydd gyda mwy o opsiynau i gymharu â AG2R (rasio wrth ymyl Tiesj Benoot a Søren Kragh Andersen er enghraifft).


Rydw i’n gobeithio i weld Bardet yn datblygu o fewn system wahanol a fwy wedi’u seilio ar dystiolaeth nag AG2R oedd bob tro yn edrych fel bod ei dewisiadau wedi’u seilio ar emosiwn. Efallai mai dyma’r gwahaniaeth rhwng dim Almaeneg a thîm Ffrangeg, pwy a ŵyr. Esiampl o hyn yw yn y ras yn erbyn y cloc, dyma ran wannaf Bardet fel cystadleuydd yn y Grand Tours. I gymharu gyda beicwyr fel Geraint Thomas, Primoz Roglic, Tom Dumoulin a Chris Froome, roedd Bardet wastad yn colli llawer o amser gan nad oedd AG2R yn treulio llawer o amser yn datblygu yn y rhan hon. Os yw DSM, gyda’i ethos lawer mwy gwyddonol, gallu gweithio gyda Bardet ar ddatblygu ei alluoedd yn y rhanbarth yma. Efallai, gyda pheth lwc, a llai o bwysau ar ei ysgwyddau, bydd enillydd Ffrengig o’r Tour de France yn y blynyddoedd nesaf.

 

I orffen, credaf y bydd tymor 2021 yn un rhyfedd. O'i gymharu â 2020 lle cafodd popeth ei daflu yn yr awyr oherwydd y pan demig COVID-19 parhaus, bydd timau, beicwyr a threfnwyr rasys yn llawer mwy parod ac yn gwybod beth i ddisgwyl. Cawn weld a oedd tymor llethol Tîm Ineos yn arwydd o’r hyn sydd i ddod gyda chystadleuaeth gryfach yn y Grand Tours o Jumbo Visma ac UAE, neu alltud oherwydd tymor cywasgedig.


Rwy'n credu y bydd yn ddiddorol i weld sut mae'r beicwyr yn ymdopi ag egwyl gymharol fyr rhwng gorffen tymor 2020 a dechrau'r clasuron fel y trefnwyd yn y gwanwyn. Bydd y weithred o jyglo'r Tour a'r Gemau Olympaidd i lawer o feicwyr, yn enwedig y rhai sydd â dyletswydd i'w tîm a'u gwlad, yn hynod ddiddorol hefyd.


A welwn ni enillydd hyd yn oed yn iau yn y Tour? O Bernal yn 2019 yn 22, Pogacar yn 2020 yn 21, diwrnod cyn iddo droi’n 22. Os bydd Evenepoel yn ennill y Tour eleni, bydd e hefyd ond yn 21 oed.

Mae un peth yn sicr, bydd yn flwyddyn ddi-stop gyda digon o feicwyr yn cael pwynt i'w brofi ar ôl 2020. Gyda'r tymor yn debygol o gael ei effeithio am yr ail flwyddyn yn olynol gan coronafirws, bydd y beicwyr yn awyddus i fod ar dan ar ddechrau'r tymor. Gyda'r pryder cyson o beidio â gwybod a fydd y tymor yn cael ei ohirio.


Diolch yn fawr am ddarllen, gadewch fi wybod os oes unrhywbeth hoffwch chi fi i drafod yn y dyfodol.

Gallwch gysylltu fi via Twitter neu Instagram o dan y ddolen elkingy9 :)


 

Recent Posts

See All

コメント


bottom of page