top of page
Eluned King

Trosglwyddiadau Mwyaf (WE) 2021 Biggest Transfers

Updated: Jan 11, 2022

gan Eluned King

@elkingy9


Mae'n rhaid dweud, wrth ddechrau roedd y rhestr yma yn cynnwys dros bymtheg o fenywod sydd gyda'r potensial, yn fy marn i, i gael tymor hynod o lwyddiannus yn 2021. Beth sy’n gyfarwydd rhwng bob un ohonynt yw eu bod wedi newid tîm ar gyfer y tymor cyfagos. Mae rhai wedi symud o dimau bach i dimau mawr ac yn gwneud y cam hynny yn eu gyrfaoedd proffesiynol, ac eraill yn symud er mwyn cipio’r cyfle i ennill rasys.


Rydw i wedi trio ysgrifennu ar y cyfan am bobl bydd yn gyfarwydd i'r rheini sydd yn gwylio rasys menywod yn aml, mi wnes i feddwl bod hi’n bwysig ysgrifennu am enwau sydd efallai ddim yn cael eu ffeindio ar stepen dop y podiwm mor aml â hynny, ond mae bob un ohonynt gyda’r potensial a’r talent i ennill rasys mawr yn y dyfodol cyfagos


Er hwylustod mae yna fersiwn yn Saesneg ar ddiwedd y post.


Joiwch.

 

1. Ashleigh Moolman Pasio (SD Worx)

Dewis diddorol i Ashleigh Moolman Pasio ymuno gyda SD Worx ar ôl dwy flynedd gyda LIV racing, mae wedi symud o dîm lle yr oedd Vos yn cael arweiniad ar gyfer bron bob ras, i dîm lle mae yna sawl arweinydd ar bob tirwedd yn barod. Mae Moolman Pasio wastad wedi bod yn rhwystredig fel edmygwr gan fod hi yn amlwg gyda’r gallu corfforol ; dengys hi hyn wrth ennill pencampwriaeth y byd cyntaf erioed ar Zwift ac wrth orffen yn 8fed yn Harrogate 2019 fel unig gynrychiolydd ei gwlad De Affrica. Ond nad yw hi wedi cael y “Breakthrough win” byddech yn disgwyl neu obeithio gweld o fenyw o’i thalent.


Yn 2014 daeth yn ail yn Le Samyn sydd yn ras athreuliol tu hwnt tra rasio gyda HITEC, enillodd hyn hi contract gyda Bigla o 2015-2018 ac fe wnaeth hi ddatblygu’n gloi yn y tîm. Gaeth hi tymor da yn 2015 a 2017, ond 2018 oedd ei thymor gorau o bell ffordd, rhai o’r uchafbwyntiau oedd gorffen yn ail yn y Giro Rosa, ac yn drydydd yn La Course, er mae’r rhan fwyaf yn cofio’r ras yma oherwydd brwydr Van Vleuten a Van der Breggen ddaeth lawr i’r metrau olaf. Roedd yn sioc felly ar ôl gymaint o lwyddiant a datblygiad iddi hi adael Bigla i ymuno gyda LIV, ac felly aberthu cyfleoedd ei hunan i weithio ar gyfer pencampwraig y byd ar sawl achlysur, Vos.


Gobeithio yn SD Worx bydd posibilrwydd i Moolman Pasio gael tîm wedi’i adeiladu o gwmpas hi ac yna gallwn weld ei llawn botensial fel arweinydd. Credaf bydd rasys megis y Giro Rosa yn ei siwtio yn dda a hoffwn weld hi yn cael arweinyddiaeth. Mae Moolman Pasio yn dod at ddiwedd ei gyrfa broffesiynol ac rydw i, ac eraill rwy’n siŵr, yn edrych mlaen i weld hi yn ennill y ras fawr honno mae’n teimlo fel y gwrthodwyd iddi am gymaint o flynyddoedd am un rheswm neu llall.


2. Chloe Dygert (CANYON SRAM)

Efallai'r enw fwyaf cyfarwydd ar y rhestr yma, er ei bod eisoes gyda rhestr hir o gyflawniadau; Pencampwraig y byd saith gwaith ar y trac ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel rôl allweddol i 'Team Pursuit' yr Unol Daleithiau yn 2016. Tebygaf dydyn ni ddim wedi gweld Chloe Dygert yn agosau i lewni ei llawn potensial ar yr heol. Bu ddamwain cas yn y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaeth y Byd yn Imola Hydref diwethaf roi stop ar ennill ei hail fedal aur yn y gamp ar ôl iddi hi ennill yn Harrogate rhyw flwyddyn ynghynt. Er gwaethaf y damwain, mae'n edrych fel bod Dygert yn gwella, ac yn ôl hi a'i hyfforddwr, Kristin Armstrong, bydd hi nôl cant y cant erbyn y Gemau Olympaidd yn Awst ac yn bwriadu i ennill medalau aur yn y Team Pursuit a'r ras yn erbyn y cloc (ar yr heol).


Ond, y newyddion fwyaf o Dygert yn 2020 oedd ei bod yn ymuno gyda Canyon Sram, newyddion dwi i ddim yn credu roedd unrhyw un yn disgwyl. Mae wedi llofnodi contract pedair blynedd a chredaf bydd yn ddiddorol i weld siwd mae'n perfformio ar yr heol yn nhîm lle efallai lle nad hi yw'r unig arweinydd. Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut mae hi'n ymdopi gyda rasio yn Ewrop i gymharu gyda'r UDA, ond os yw ei pherfformiad yn Harrogate yn 2019 (lle gorffennodd hi yn pedwerydd yn ei ras gyntaf yn Ewrop) yn unrhyw beth i seilio barn ar, bydd hi yn siŵr yn ffefryn ar gyfer rasys megis Flanders ac efallai, pwy ag ŵyr, yn dod â goruchafiaeth yr Iseldiroedd i ben ym mhencampwriaethau’r byd.


3. Amalie Dideriksen (Trek Segafredo)

Pan ddechreuais i i feddwl am bobl i sgwennu amdano yn y post yma, yr enw cyntaf fe ddaeth i fy mhen oedd Amalie Dideriksen. Pencampwraig y byd yn Doha yn 2016, yn ugain oed, ond dwy flynedd ar ôl iddi ennill ei hail fedal aur ym Mhencampwriaeth y byd i fenywod dan 18, mae hi’n raswr o fri. Dim ond pedair menyw cyn oedd wedi llwyddo i ennill pencampwriaeth y byd fel yn y categori dan 18 ac yn y categori elitaidd. Mae wedi bod gyda Boels Dolmans (sydd yn bellach yn SD Worx) ers 2015, mae hi’n dalent mawr, ond i ryw raddau heb gynyddu trwy’r rhengoedd fel byswch yn disgwyl. Gwir, nad yw hi wedi bod yn aflwyddiannus chwaith; enillydd Ronde van Drenthe yn 2017, Pencampwraig ar yr heol Denmarc yn 2014,’15,’18 a ‘19, enillydd dau gymal o’r ‘Boels Ladies Tour’ yn 2018, a heb dynnu oddi wrth ei rôl gritigol fel ‘domestique’ yn un o dimau fwyaf llwyddiannus yn hanes y chwaraeon. Ond i fi, fel gwyliwr, rydw i’n edrych ymlaen at weld ei datblygiad yn Trek Segafredo dros y ddwy flynedd nesaf. Gobeithio bydd hi eto yn chwarae rôl gritigol yn y tîm wrth weithio ar gyfer a gyda phobl megis Lizzie Deignan ac Elisa Longo Borghini ond hefyd, o dro i dro, yn cael cyfle i ail ddangos ei thalent yn gwibio.


Ras rydw i’n edrych ymlaen at wylio Dideriksen yn yw Paris Roubaix. Rydw i’n credu bod cymysg o’i phŵer amrwd yn gwibio, nerth y tîm yn gyffredinol, a’r gallu i chwarae sawl opsiwn yn ystod y ras yn fantais enfawr iddi hi ac i Trek Segafredo yn gyffredinol. Rhaid cofio, mai dim ond 24 oed yw Dideriksen, ac mae ganddi ddigon o amser i ennill rasys mawr megis Roubaix a Flanders. Ond un peth sydd yn siŵr, rydw i’n edrych ymlaen at wylio ei datblygiad yn nhîm sydd dal weddol newydd, a bydd yn bendant yn herio SD Worx ar gyfer coron y tîm gorau yn y peloton benywaidd.


4. Anna Shackley (SD Worx)

Enw fydd ddim mor gyfarwydd i gymharu gyda gweddill y rhestr, ond, credwch chi fi, enw ar gyfer y dyfodol. Efallai fy mod i yn rhagfarnllyd gan fod Anna yn ffrind agos i fi, ond nad oedd yn sioc i glywed bod y tîm fwyaf yn peloton y menywod wedi dewis i'w harwyddo ar ôl dim ond edrych ar ei data (pŵer, FTP a.y.y.b.) Beth sy’n destament i’w chryfder a’i photensial hi yw’r ffaith ei bod hi wedi cael ei harwyddo hen unrhyw ganlyniadau rhagorol, rhywbeth sy’n cael ei gwneud pan bod ganddyn nhw’r gallu i fod yn dalent mawr. Ac mae'r Albanes hon yn dalent fawr.


Prif gryfder Shackley yw dringo a dangosodd hi hynny gorau yn lap olaf pencampwriaeth y byd yn Imola, lle hi oedd cymorth olaf Lizzie Deignan. Bron bod yr unig bobl ar ôl yn y ras erbyn y pwynt yma oedd arweinwyr timau, domestiques yr Iseldiroedd (wrth gwrs!), ac Anna. Nad oedd ganddi lawer o brofiad o rasio'r pellter yna nag chwaith yn y cwmni yna, ond roedd hi yn ddi-ofn wrth reidio ar y blaen o ras mwyaf y byd, ar bwynt mor allweddol, yn ceisio ei gorau glas i adael ei harweinydd yn y man gorau phosib i ennill medal.


Bydd yn hynod o ddiddorol i weld hi'n ymdopi yn nhîm sydd gyda sawl arweinydd ac i weld hi'n datblygu fel beicrwaig ifanc (ond 19 oed!) Credaf byddwn ni yn gweld Anna yn mynd o nerth i nerth, yn enwedig o dan arweiniad pobl megis Anna Van Der Breggen a Chantal van den Broek-Blaak ar ôl iddyn nhw ymddeol ar ddiwedd y tymor. Gobeithio o fewn SD Worx bydd hi yn cael digon o gyfleoedd i rasio, ac i rasio yn aml yn osodiadau mawr. Gyda’r tîm yn gweithio ac yn gweithredu yn yr Iseldiroedd ac felly yn siarad Iseldireg (er bod y tîm yn eithaf rhyngwladol), bydd y flwyddyn nesaf yn siawns i ddysgu ac i ddatblygu dim dim ond fel athletwraig, ond fel person hefyd.


5. Kopecky (LIV RACING)

Enw arall rydw i’n disgwyl i weld yn cystadlu ar gyfer y Paris Roubaix cyntaf yw Lotte Kopecky o wlad Belg sydd yn symud draw o Lotto Soudal i LIV racing. Fe gaeth Kopecky tymor da yn 2020 yn ennill cymal o'r Giro Rosa, Pencampwraig gwlad Belg yn y ras yn erbyn y cloc ac ar yr heol, ail yn Gent Wevelgem a thrydydd yn Flanders. Y ras lle fe wnaeth Kopecky ddal fy sylw i oedd Le Samyn llynedd lle fe wnaeth dreulio amser hir yn y dihangiad, roedd Boels Dolman yn domeneiddio y ras ac fe orffennodd yn drydydd tu ôl Chantal van den Broek-Blaak a Christine Majerus. Y peth mwyaf trawiadol er hyn, oedd fe wnaeth hi ddychwelyd yn ôl o bencampwriaeth trac y byd ond ychydig o ddyddiau cyn, mae ras un diwrnod yng Ngwlad Belg yn gri bell o felodrom cynnes ym Merlin.


Yn eithrio Jolien D’Hoore mae Gwlad Belg wedi bod yn cwympo tu ôl ei chymydog Yr Iseldiroedd dros y blynyddoedd diwethaf wrth edrych ar feicio menywod. Dwi o’r farn bydd Kopecky yn newid hyn. Y rasys bydd yn siwtio hi orau wrth edrych ar geisio cael buddugoliaeth bydd y clasuron coblog, a gyda’r datblygiad o 'Paris Roubaix' yn 2021 mae ei gorffennol yn rasio traws seiclo, ynghyd a’i gwib o rasio ar y trac, rhaid ei gwneud hi yn un o’r ffefrynnau. Yn ogystal, mae’r cam o rasio ar y lefel ‘Contintental’ gyda Lotto Soudal, i rasio ar gyfer tîm ‘World Tour’ yn rhoi hi'r cyfle i ddatblygu. Yr unig gwestiwn yw, gyda beicwreig fel Vos a Moolman Pasio wedi gadael LIV, bydd yna dim digon cryf i’w chefnogi i gystadlu yn erbyn cewri megis SD Worx, Trek Segafredo a'r tîm Jumbo Visma newydd.

 

I gloi, un peth sydd yn siŵr i ddisgwyl o 2021 yn y peloton benywaidd yw fwy o ddyfnder. Rwy’n rhagweld mwy o enillwyr gwahanol o ystod eang o dimau ac o wledydd gwahanol.

Rwy’n gobeithio bydd y Paris Roubaix gyntaf gallu mynd yn ei blaen.

Rwy’n gobeithio bydd yn ysbrydoli menywod a merched ar draws y byd i feicio.

Ond, yn bwysicaf oll, rwy’n gobeithio, ac yn croesi bysau, bydd llwyddiant calendr y menywod yn dod â mwy o deledu, mwy o sylw, mwy o gefnogwyr, gan fod y menywod hyn yn haeddu’r un gydnabyddiaeth a pharch â’u cymheiriaid gwrywaidd.


Diolch yn fawr am ddarllen, gadewch fi wybod os oes unrhywbeth hoffwch chi fi i drafod yn y dyfodol.

Gallwch gysylltu fi via Twitter neu Instagram o dan y ddolen elkingy9 :)

 

Recent Posts

See All

コメント


bottom of page