Blwyddyn ryfedd ar y naw fu 2021, fel y gwnes i ysgrifennu mewn cofnod blaenorol:
"Yng nghrombil clo mawr blwyddyn d’wetha, y gobaith am flwyddyn well, am flwyddyn o ryddid, oedd y golau ar ddiwedd y twnel, yr haul ar y bryn. Ond nid felly y bu hi, ac mewn amryw o sefyllfaoedd roedd hyd yn oed mwy o gyfyngiad ar ein rhyddid - er efallai fod hynny o ganlyniad i ddealltwriaeth well o’r haint. Er fod yr haint yn parhau i ymledu’n ffyrnig, mae’n traed ni’n rhydd o grafangau cyfyngiadau llym ar hyn o bryd. Felly, mae’n flwyddyn sydd yn cael trafferth diffinio’i hun, yn cael trafferth diffinio’i hunaniaeth - yn troedio ryw hen dir neb amwys rhwng caethiwed a rhyddid. Ond o leiaf nad ydyn ni’n clywed am yr haul ar y bryn hyd syrffed."
Felly y mae hi wedi parhau i fod. Yn wir, mi gawson ni gyfle i ymgynnull ynghyd unwaith eto i ryw raddau dros y 'Dolig ac hefyd wrth i ddigwyddiadau cymdeithasol ail-gydio. Bu'n flwyddyn ddigon normal o ran y seiclo ar lawr gwlad wrth i reids cymdeithasol a rasys ac ati ddigwydd unwaith eto, er na fu seiclo dramor yn bosib i nifer fawr ohonom eleni a hynny'n fwy trafferthus na 2020 hyd yn oed.
Bu'r flwyddyn seiclo pro yn un ddigon normal hefyd, ond roedd rhai o'r perfformiadau y tu hwnt i unrhywbeth yr oedden ni wedi'i weld o'r blaen. Mi ysgrifennais i gofnod llawn yn bwrw golwg ar hynt a helynt y tymor ganol mis Hydref - gallwch ei ddarllen yma.
Ond mae'r sylw yn y cofnod hwn ar ein huchafbwyntiau seiclo ni - fy rhai i a rhai y gwnaethoch chi eu hanfon ata i.
Mae fy uchafbwyntiau eleni yn brawf o bwer dwy olwyn i uno. I ddechrau, y gallu i seiclo efo fy modryb a'm hewythr unwaith eto wedi iddynt brynu beics trydan, hynny wedi blynyddoedd lle roedd trafferthion meddygol ac ati yn rhwystro hynny rhag digwydd. Yn ail, fy reid hiraf o'r flwyddyn aeth â mi i rannau o Gymru oedd yn newydd i mi - y Dylife ac ati - lle roedd modd cwrdd â Mam, Sara a Mamgu am baned a brunch yn Mach. Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, oedd seiclo yn fy mro genedigol am y tro cyntaf - o Aber i Nant y Moch ac ati - efo Dad.
Cymaint o uchafbwyntiau oedden nhw yr ydw i wedi ysgrifennu cofnod am bob un ohonyn nhw eisoes:
Ond dyna hen ddigon amdana i, ymlaen at y darn pwysig - eich uchafbwyntiau chi.
Ross McFarlane
Grinduro oedd uchafbwynt Ross eleni. "Roedd e ei dro cyntaf yn cael ei cynnal yng Nghymru. Wnes i joio fe dros ben. Roedd e’n neis i weld mwy o’r tirlun o gwmpas Mach, a gyda tywydd gwych, hefyd." Mi wnaethon ni grybwyll hwn yn y sesiwn am seiclo graean - gallwch ei ddarllen yma.
Elen ap Gwilym
"50 o weithiau i fyny Bwlch y Groes (ochr y Gogledd) tra'n 50. Pyncjar a phla o bryfed oedd yr isafbwyntiau!"
Robyn Davies
"Fy uchafbwynt i ar gyfer 2021 oedd ail ddarganfod Pen-llyn. Roeddwn yn treulio bob gwyliau ym Mhen-llyn yn ystod fy mhlentyndod gyda Nain a Taid. Cefais y cyfle eleni i grwydro y ffyrdd am wythnos gyda tywydd gwych a traethau godidog. Dyma cwpwl o luniau ac mae wir yn lle perffaith am wyliau beicio."
Gareth Griffiths
Guto Bongos
*Diolch i Guto am y trydariad yma ac am blannu'r syniad am y cofnod hwn!
Rhodri Jones
Geraint Rowlands
Dyfrig Williams
"Uchafbwynt fi oedd seiclo i fyny i Wlad yr Haf i seiclo bryn heriol Crowcombe. Mae'n cael ei ystyried fel un o fryniau mwyaf heriol yr ardal (https://roadcyclinguk.com/sportive/ten-best-climbs-somerset-dorset.html). Yn y llun, rwy'n anfon neges i fy nghariad i esbonio pam y byddai tua dwy awr yn hwyr ar ôl mynd ar antur i ffendio caffi da. Roedd rhaid rhoi'r gorau iddi a chael coffi "instant" o'r gorsaf trenau lleol, gan fod pobman ar gau. Ond roedd y golygfa, cwmni a'r tywydd i gyd yn anhygoel, ac yn werth y 152km (a'r poen a'r strach) i fynd yna a nôl o Gaerwysg. Mae'n bryn hynod o brydferth os dy chi'n ffeindio eich hunain yn Ne Orllewin Lloegr.
I'r rhai ohonoch chi sydd wedi edrych ar eich calendr neu ddyddiadur, mi fyddwch chi'n ymwybodol mai heddiw, Gwyl San Steffan, yw dydd Sul ola'r flwyddyn, ac felly mae hynny'n dynodi cofnod olaf y flwyddyn ar Y Ddwy Olwyn.
Fy adduned neu nod ar gyfer eleni oedd cyhoeddi cofnod blog bob wythnos, ac mi'r ydw i wedi llwyddo. Mae 'na 64 o gofnodion wedi eu cyhoeddi ar y blog eleni.
Ond dwi'n mynd i fod yn hollol onest, roedd o'n anodd ar adegau. Dydw i ddim am ymrwymo'n y fath fodd yn 2022 - yn amlwg dwi'n mynd i geisio 'ngorau i gyhoeddi cofnod yn wythnosol; dwi'n rhagweld y bydd hynny'n bosib y rhan helaeth iawn o'r amser, ond ar brydiau efallai'n ormod o ymrwymiad ac y bydd angen blaenoriaethu pethau eraill.
Ar nodyn mwy positif, mae wedi bod yn flwyddyn hynod llwyddiannus o ran y blog. Dwi wedi llwyddo i fynd ag o i'r cam nesaf dwi'n credu a'r gobaith yw y bydd o'n parhau i dyfu yn y flwyddyn newydd. Mae'r ystadegau o ran darllennwyr ac ati wedi bod yn ffafriol iawn eleni ac mae hynny bob amser yn ysgogiad. Dyma gofnodion mwyaf poblogaidd y blog eleni i chi bori drwyddynt os nad ydych wedi cael cyfle i'w darllen hyd yma.
Felly dyna ni ddiwedd ein gwibdaith drwy 2021. Y cwbl sydd eto i'w wneud yw diolch i chi oll am eich cefnogaeth eleni, a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch.
Hwyl am y tro!
コメント