Mae'r amser yna o'r flwyddyn wedi cyrraedd. Union flwyddyn ers y cofnod cyfatebol llynnedd (cyd-ddigwyddiad llwyr), mae'n bryd bwrw golwg yn ôl ar rai o uchafbwyntiau'r tymor seiclo proffesiynol.
Er y daeth achosion o Covid-19 ar draws ambell i ras ar draws y flwyddyn - cwpl o achosion yn y Giro, tipyn yn y Vuelta ac ambell un uchel ei broffil adeg y clasuron - roedd hi'n flwyddyn fwy neu lai yn llawn, fwy neu lai'n arferol.
A do, mi gafwyd rasio arbennig drwyddi draw. Efallai'n bod ni ers y clo mawr wedi dod i arfer â rasio mwy gwyllt a chyffrous, ond eto doedd dim byd fyddai wedi gallu'n paratoi ni ar gyfer y rhialtwch a gafwyd o bryd i'w gilydd.
Felly, heb oedi ymhellach, dyma fwrw golwg dros beth oedd - yn fy marn i - yn bedwar prif uchafbwynt o'r tymor, cyn mynd ati i goroni reidiwr y flwyddyn, a'n cloi gydag ambell un o'ch uchafbwyntiau chi.
Uchafbwyntiau'r Flwyddyn
Vingegaard v Pogačar yn y Tour de France

Mae'n rhaid dechrau gyda'r un amlwg; y Tour de France gorau ers tro. Cymaint o bethau y gallwn i sôn amdanyn'hw, ond bron nad yw geiriau'n gwneud cyfiawnder â'r dair wythnos a gafwyd. Tour wnaeth wireddu rhai o'r clichés mwyaf amlwg - camp i dimau sy'n cael ei ennill gan unigolion, y reidiwr cryfaf sydd wastad yn ennill y Tour de France - ond ar yr un pryd yn creu cyffro nas gwelwyd ers amser. Cymaint o elfennau'n dod ynghyd, cymaint o straeon bychain yn rhan o bob cymal yn ychwanegu at blethwaith arbennig y ras, emosiwn cyd-reidwyr Vingegaard... hynny heb sôn am y cymal gwallgof i'r Col du Granon. Ewch i ddarllen y cofnod blaenorol am y cymal Hautacam am fwy o gig ar yr asgwrn: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/tour-paralel-hautacam-van-aert-a-fi
Tour de France Femmes

Mae'r ddau uchafbwynt nesaf yn ymwneud â thorri tir newydd. Cafwyd wythnos o seiclo penigamp i nodi dechrau newydd i seiclo menywod gyda newydd-ddyfodiad y Tour de France Femmes. Roedd y rasio'n danllyd, y straeon yn gofiadwy - ond y potensial am fwy sy'n cynnau cyffro yn rhywun. Y gobaith mai dyma'r dechrau'n unig. Ac o'r dechrau'n deg, mae 'na ymbellhau o fformat ras y dynion, sy'n beth da yn fy marn i. Fy hoff gymal? Buddugoliaeth Cecilie Uttrup Ludwig ar gymal 3. Damweiniau lu ar ddiwrnod ofnadwy i'r tîm y diwrnod blaenorol, ac ysbryd o wytnwch yn ei phweru i fuddugoliaeth fwya'i gyrfa o flaen Marianne Vos. Ac wrth gwrs, fel sy'n ddisgwyliedig ganddi, roedd y cyfweliad wedi'r ras werth ei gweld hefyd.
Biniam Girmay yn Gent Wevelgem a'r Giro

Stori arall fydd yn sicr yn torri tir newydd. Arwr, seren mewn hyfforddiant. Reidiwr fydd yn eicon i genedlaethau o seiclwyr yn ei famwlad Eritrea ac yn ehangach ar gyfandir Affrica. Reidiwr sy'n torri cylched traddodiad gwyn, breintiedig y byd seiclo, ac yn rhoi gobaith bod llwybr i newid er gwell yn bosibl i'r gamp. Ar ôl dechrau addawol i'r tymor, daeth yr Affricanwr cyntaf i ennill un o glasuron Gwlad Belg, a hynny yn Gent-Wevelgem (darllennwch fwy am hynny yn fan hyn: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/cenhedloedd-seiclo-fflandrys). Wedyn, aeth ymlaen i orffen yn y pump uchaf bum gwaith yn naw cymal cyntaf y Giro d'Italia, ei Grand Tour cyntaf, cyn coroni hynny â buddugoliaeth ar gymal 10 - yr Affricanwr croenddu cyntaf i ennill cymal mewn Grand Tour. Daeth y cyfan i ben disymwth wedi hynny, wedi iddo orfod gadael y ras gydag anaf i'w lygad gafodd gyda chorcyn y botel siampên ar y podiwm. Sbarc mewn Giro oedd fel arall yn ddigon llwm.
Y Chwyldro Gymreig: Zoe Bäckstedt a Josh Tarling


Mi wnes i hoffi Trydariad Jens Dekker adeg Pencampwriaethau'r Byd Wollongong yn fawr. Roedd yn ymwneud â'r ffaith fod De Cymru Newydd wedi'i henwi oherwydd ei bod wedi'i choncro gan y Cymry ifanc wnaeth bron iawn wneud clean sweep o'r teitlau ieuenctid ym Mhencampwriaethau'r Byd. Ie, y BYD! Ganol wythnos, aeth Zoe Bäckstedt, yn enedigol o Bontyclun, a Josh Tarling, yn enedigol o Aberaeron, â theitl yr un yn y ras yn erbyn y cloc, cyn i Bäckstedt, ar achlysur ei phenblwydd yn ddeunaw, fynd â'r ras ffordd ar y dydd Sadwrn hefyd. Y penawdau rhyngwladol yn glir yn eu rhethreg; 'Welsh youngsters on top of the world down under' a 'Welsh teenagers becoming next cycling stars'. Ond mae'n arw iawn gen i na wnaethpwyd mwy o sylw ar y pryd yn y cyfryngau Cymreig. Naill ffordd neu'r llall, gyda Bäckstedt wedi arwyddo gydag EF-Tibco ar gyfer y flwyddyn nesaf, a Tarling ar ei ffordd i'r Ineos Grenadiers, mae dyfodol disglair o'u blaenau, ac mae'n bur debyg y clywn ni lawer mwy amdanyn'hw.
Reidiwr y flwyddyn
Yn fuddugol:
Annemiek van Vleuten

Fel sy'n dod i'r amlwg yn y llun hwn, mae gwytnwch ac urddas Annemiek van Vleuten yn ddi-amheuaeth, ac yn ddi-hafal. Ym Mhencampwriaethau'r Byd, torrodd ei phen-elin yn y ras yn erbyn y cloc, ond aeth ymlaen i ennill y ras ffordd ddiwrnodau'n ddiweddarch beth bynnag, a hynny gydag ymosodiad hwyr ag elfen o'r annisgwyl yn allweddol. Camp a hanner. Mae hi felly'n medru gwisgo crys yr enfys ar ei hysgwyddau yn nhymor olaf ei gyrfa, yn goron ar ei gyrfa. Roedd y fuddugoliaeth honno'n goron ar dymor arbennig arall i'r Isalmaenes. Enillodd y dair brif ras aml-gymal - y Giro Donne, y Tour de France Femmes a'r Challenge La Vuelta; dwy glasur yn Liège ac Omloop; ar ben gorffen ar y podiwm sawl gwaith. Un peth sy'n sicr; bydd enw Annemiek van Vleuten yn ymddangos yn fynych iawn yn llyfrau hanes seiclo menywod.
Remco Evenepoel

Hon oedd tymor Remco Evenepoel. Mae'i enw wedi'i grybwyll lawer tro ers ambell i flwyddyn bellach fel 'seren newydd nesaf' y byd seiclo, hyd yn oed fel yr 'Eddy Merckx newydd'. Er ei fod o wastad wedi ymbellhau o unrhyw gysylltiad â'i gyd-wladwr ystyrir y seiclwr gorau erioed, does dim pwynt gwadu'r paralels y medrir eu tynnu rhwng y ddau. Ymosodiadau beiddgar o hirbell, arddull o rasio di-droi'n-ôl. Roedd o'n gystadleuol yn y rasys wythnos a'r rasys undydd yn hanner cyntaf y tymor - gan gynnwys ennill y Tour of Norway, y Volta ao Algarve a Liège-Bastogne-Liège - ond mi ddatblygodd yn fwystfil gwahanol yn ail hanner y tymor. Cafwyd perfformid meddiannol ganddo i ennill y Vuelta, ei fuddugoliaeth Grand Tour gyntaf, cyn ymosodiad hirbell hurt bost i ennill Pencampwriaethau'r Byd mewn modd hollol rwydd. Edrychwn ymlaen at weld beth fydd ganddo i'w gynnig yn y flwyddyn i ddod yn lifrai'r enfys.
Eich Uchafbwyntiau Chi
Diolch i'r rhai ohonoch chi sydd wedi cysylltu â'ch uchafbwyntiau personol chi o'r tymor seiclo a fu. Dyma ddetholiad:
Bình luận