Vélodromes; adeiladau wedi eu cysegru ar gyfer seiclo. Adeiladau sy’n ganolfannau datblygu a dathlu ein camp unigryw.
Yn wir, dyma’r unig adeiladau sydd gennym ni o fewn y byd seiclo sydd wedi eu cysegru ar gyfer y gamp. Un o’r pethau cyntaf ddywedwyd wrtha i pan ddechreuais i seiclo oedd nad oes modd i rywun rywun chwarae ar gae Wembley ond mae modd i rywun rywun seiclo ym mhrif leoliadau’r cystadlaethau mwyaf.
Mae’r vélodromes hyn i’w cael ar draws Ewrop a Phrydain ac wedi bodoli ers yr 1870au (y cyntaf un yn Brighton); rhai tu-fewn a thu-allan, ac maent yn parhau i gael eu hadeiladu - mae un ar y ffordd yn Rhuthun.
Rywsut neu’i gilydd dw i wedi llwyddo i amseru’r cofnod hwn yn berffaith i gydfynd â ras Paris-Roubaix gafodd ei gynnal heddiw a ddoe. Byddwn i’n dadlau mai’r vélodrome tu allan yn Roubaix yw’r mwyaf eiconig ohonyn nhw i gyd; yn gocòffoni o angerdd i groesawu diweddglo un o’r rasys gorau ar y calendr.
Ond vélodrome arall yn Ffrainc sydd gen i dan sylw heddiw - un gafodd ei adeiladu ym 1909 gan Henri Desgrange, seiclwr talentog yn ei hun dorrodd aml i record, ond sy’n fwy adnabyddus am ei waith fel newyddiadurwr a golygydd L’Auto ac fel trefnydd y Tour de France cyntaf ym 1903. Fe adeiladodd ‘un temple du vélo’ er mwyn i seiclwyr allu hyfforddi yn ystod y Gaeaf, a cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau seiclo poblogaidd.
Cafodd y Vélodrome d’Hiver, sy’n cael ei dalfyrru i ‘Vel d’Hiv’, ei ddinistrio ym 1959.
Mae’n leoliad sy’n gysylltiedig ag un o’r digwyddiadau mwyaf anghyfforddus a chywilyddus yn hanes Ffrainc.
Mi ddois i ar draws yr hanes fel rhan o fy astudiaethau Uwch Gyfrannol (AS) Ffrangeg eleni; cwrs sy’n gofyn am astudio ffilm benodol. Y ffilm yr ydw i’n ei astudio yw ‘La Rafle’ (2010) gyfarwyddwyd gan Roselyne Bosch.
Mae’r ffilm yn mynd â ni’n ôl i’r Ail Ryfel Byd ac i Paris ym 1942. Bryd hynny, roedd Ffrainc wedi ei rannu’n ddwy; roedd y mwyafrif o’r de yn rhydd, tra bo’r gogledd a rhan helaeth o arfordir y gorllewin wedi’i feddiannu gan ‘régime fantoche’ (puppet regime) y Vichy - oedd yn cyd-weithio gyda’r Naziaid.
Ar y 16eg a’r 17eg o Orffennaf, gyda chyd-weithrediad hyd at 9,000 o heddweision (onid ydy’r gair Cymraeg yn eironig yn y cyd-destun yma), allgludwyd dros 13,000 - Iddewon o Paris yn bennaf ond nid yn unig. Roedd 4,000 ohonynt yn blant, 6,000 yn fenywod a 3,000 yn ddynion.
Fe’u casglwyd oll yn y Vel d’Hiv, dan orchymun meistri’r regime Maréchal Phillippe Pétain, Pierre Laval, Rene Bousquet a’u cynghreiriaid o’r Almaen.
Ffilmwyd y golygfeydd yn y vélodrome mewn un tebyg yn Hẁngari - oedd mor debyg, yn ôl un o’r rhai wnaeth oroesi, ei fod yn gallu clywed yr arogleuon a’r synau erchyll brofodd bron i saith degawd yn gynharach.
Mae dau foment yn y ffilm sy’n dod i’r cof yn ymwneud a’r prif gymeriadau; un sy’n dilyn llygaid y nyrs Annette Monod sydd wir yn dangos gwir raddfa’r erchylltra, a’r ferch fach Nono yn gofyn pryd y bydd y seiclwyr yn cyrraedd. Dw i’n credu, yn groes i ambell i adolygwr ffilm, fod y ffilm yn portreadu’r trasiedi mewn modd effeithiol iawn.
Roedd yr amodau byw yn erchyll yno. Dim bwyd, diferyn o ddŵr, gwres annioddefol, arogl ofnadwy a swn uffernol. Bu i gant ohonynt ladd eu hunain.
Man carchar dros dro yn unig oedd y Vel d’Hiv; buan iawn y cafon nhw eu symud i wersylloedd tramwy - y rhan fwyaf i Drancy ond i Beaune La Rolande yr aent yn y ffilm - ac yn y pen draw ymlaen i Auschwitz.
O’r plant aeth i mewn i’r Vel d’Hiv ar yr 16eg o fis Gorffennaf 1942, dim ond llond dwrn lwyddodd i ddianc cyn cyrraedd Auschwitz.
Joseph Weismann oedd un ohonynt - prif gymeriad y ffilm.
O’r 42,000 o Iddewon gafodd eu hanfon i Auschwitz o Ffrainc yn y rhyfel, roedd dros chwarter ohonyn nhw yn y Vel d’Hiv. 811 wnaeth oroesi.
Yr hyn sy’n rhyfeddol yw ei bod hi wedi cymryd tan 1995 i’r wladwriaeth Ffrengig ôl-ryfel gydnabod unrhyw gyfrifoldeb neu fai am yr hyn ddigwyddodd i’r Iddewon. Gwadodd yr arlywyddion Charles de Gaulle a Francois Miterrand unrhyw gysylltiad, gan honni na ddylir cymysgu’r weriniaeth gyda’r régime Vichy.
Parhaodd gystadlaethau bocsio a sglefrio ia gael eu cynnal yno wedi’r rhyfel.
Ym 1995, gwyrdrodd yr arlywydd Jacques Chirac safiad ei ragflaenwyr gan ddweud mewn araith nodedig; “Cyflawnodd Ffrainc, gwlad y Goleuedigaeth a hawliau dynol, tir croeso a lloches, y diwrnod hwnnw, rywbeth na ellir mo’i gyweirio.”
Er mai l’État oedd yn gyfrifol ac nid la République, o flaen y gofeb godwyd bryd hynny er cof am y miloedd a gollwyd, cydnabyddwyd y drychineb yn hanes Ffrainc.
Mae’r ffilm yn hynod bwerus, ac mae’r diweddglo’n hynod emosiynol. Yn ogystal â rhoi digwyddiad hanesyddol trychinebus ar gof a chadw, mae’n ymdrîn â themau megis dynoliaeth, diniweidrwydd a phŵer.
Yn anffodus, nid yw’n hawdd ei wylio - dydy o ddim ar gael ar Netflix a Prime yn y lDG - ond os medrwch chi gael gafael arno rywsut, byddwn i yn ei argymell.
Y penwythnos hwn, roedd y seiclwyr yn Paris-Roubaix ar daith un cymal sy’n cael ei alw’n Uffern y Gogledd, gyda’r llinell derfyn mewn vélodrome.
I’r Iddewon, un cymal ar daith hirach oedd yn gorffen mewn vélodrome, roedd eu taith nhw i Uffern i barhau.
Bình luận