Yn y byd yr ydym ni'n byw ynddo heddiw, mae'n wych o beth bod mwy o lonydd seiclo pwrpasol yn cael eu hadeiladu; er falle nad oes cymaint ag y bydden ni'n ei hoffi.
Ond bwriad y cofnod byr hwn yw cael cipolwg ar rai o'r lonydd seiclo sydd ar y gweill neu sydd wedi newydd ddyfod, o'r gogledd i'r de, gyda diolch i chi ddarllennwyr - yn benodol Cynan Llwyd, Steff Rees, Dafydd Trystan a Gwen Thomas - am eu huwcholeuo i mi.
Dyma ni'n mynd.
Llanelwy i Rhuthun
Mae gobaith y bydd Cyngor Sir Ddinbych ynghyd a chynllun ariannu gan Lywodraeth Cymru yn medru adeiladu llwybr diogel i feicwyr a cherddwyr ar hyd y 12 milltir rhwng Llanelwy a Rhuthun. Bydd hyn yn ymestyn y route Lon Clwyd o Lanelwy i'r Rhyl sydd eisoes yn bodoli, a thu hwnt wedyn i ymuno a'r route o Gaergybi i Gaer. Mae gobaith hefyd y bydd y cyngor yn medru dod o hyd i ddatrysiadau diogel tebyg rhwng Rhewl a Rhuthun, yn ogystal a rhwng Rhuthun a Llysfasi.
Machynlleth i Aberystwyth
Ym mis Awst y llynedd, cyflwynwyd cynlluniau manylach ar gyfer llwybr pwrpasol i gysylltu Aberystwyth a Machynlleth ar hyd llwybr yr A487. Bydd hwn yn rhan o'r Route 82 sydd eisoes ar y rhwydwaith seiclo genedlaethol, gan gysylltu'r cyfran rhwng Porthmadog a Machynlleth a'r cyfran rhwng Aberystwyth ac Abergwaun (Lon Teifi).
Llandeilo i Gaerfyrddin
Fideo o darganfodsirgar.com
Mae'r prosiect o adfywio hen reilffordd i fod yn lwybr beics rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin eisoes wedi cychwyn, dan yr enw 'Llwybr Cwm Tywi'. Bydd yn ymestyn hyd 16 milltir ar hyd yr afon dan fuddsoddiad o rhwng £5 a £8 miliwn rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyngor sir. Mae'n ymddangos efallai fod y momentwm wedi arafu rywfaint, gyda'r awdurdod yn cysegru peth o'r arian ar gyfer y cynllun i gefnogi busnesau wedi'r cloeon, ond mawr obeithiwn y bydd yn ol ar y trywydd cywir yn fuan.
Casnewydd i'r Barri
Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd fod y llwybr seiclo ar hyd Ffordd Casnewydd i mewn i ganol Caerdydd wedi cymryd cam ymlaen, a hynny wedyn yn ymuno a llwybr arall sydd ar y gweill ar hyd yr A48 i ganol Casnewydd. Dyma fydd y Route 88 ar y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, gan gysylltu'r ddwy ddinas a Phenybont, Parc Gwledig Margam, Ewenni, Llanilltud Fawr a'r Barri.
Beth ddaeth yn amlwg wrth ymchwilio i'r pedwar prosiect yma oedd ailadrodd nifer o dermau gan gynghorwyr ac ati; 'hybu'r economi', 'gwella iechyd' ac yn y blaen. Dwi eisoes wedi ymchwilio i'r rhain, ac os am ddarllen pellach heno 'ma, beth am fynd draw gan ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/pam-mai-buddsoddi-mewn-seiclo-yw-r-allwedd-i-ddatrys-problemau-r-wlad
Comments