Hen flwyddyn ryfedd ar y naw ydy 2021. Yng nghrombil clo mawr blwyddyn d’wetha, y gobaith am flwyddyn well, am flwyddyn o ryddid, oedd y golau ar ddiwedd y twnel, yr haul ar y bryn. Ond nid felly y bu hi, ac mewn amryw o sefyllfaoedd roedd hyd yn oed mwy o gyfyngiad ar ein rhyddid - er efallai fod hynny o ganlyniad i ddealltwriaeth well o’r haint. Er fod yr haint yn parhau i ymledu’n ffyrnig, mae’n traed ni’n rhydd o grafangau cyfyngiadau llym ar hyn o bryd. Felly, mae’n flwyddyn sydd yn cael trafferth diffinio’i hun, yn cael trafferth diffinio’i hunaniaeth - yn troedio ryw hen dir neb amwys rhwng caethiwed a rhyddid. Ond o leiaf nad ydyn ni’n clywed am yr haul ar y bryn hyd syrffed.
Wrth i’r flwyddyn droedio tir neb amwys, mae’r peloton proffesiynol wedi profi llwybr cadarn, didrafferth o dan eu holwynion. O’i gymharu â throedio ar haen denau iawn o iâ yn 2020, gydag ail-drefnu’r calendr yn achosi drama diddiwedd a helbul llwyr, mae’r tymor seiclo pro wedi bod yn rhyfeddol o normal eleni - ac eithrio ambell ras yn cael ei gwthio ‘mlaen oherwydd clo ym misoedd cyntaf y flwyddyn.
Fel arfer, mae cynnwrf rasys cyntaf y flwyddyn yn cychwyn yn go fuan ym mis Ionawr yn Awstralia gan amlaf, ond eleni roedd yn rhaid i ffans seiclo pro fyw ar friwsion megis seiclo traws tan ddechrau mis Chwefror. Ac wrth efelychu ail-ddechreuad tymor 2020 ym misoedd yr haf, roedd seiclwyr serennog a gwylwyr teledu yn glafoerio ar rasys gymharol ddibwys fel yr Étoile de Bessèges, y Tour de la Provence a’r Tour du Var - rasys oedd, serch hynny, yn hynod, hynod gyffrous.
Mi gymerodd tan tua diwedd mis Chwefror i ni sefydlu ryw batrwm am y tymor i ddod, a hynny yn ras ddadleuol yr EAU. Tadej Pogačar yn hawlio crys yr arweinydd ar yr ail ddiwrnod yn unig, ac yn meddiannu’r ras hyd y diwedd. Coesau’r Slofeniaid yn amlwg mewn cyflwr da, yn barod i ddiddanu a llewyrchu am weddill y tymor.
Daeth y pandemig ar draws tymor y clasuron undydd yn 2020, ond ac eithrio Paris-Roubaix, cafwyd calendr lawn o rasys gwych i’n diddanu eleni. Y reidwyr profiadol yn serennu ar Openingsweekend, cyn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ar benwythnos cyntaf mis Mawrth. Ac am unwaith, roedd modd ei fwynhau’n ei gyfanrwydd yn absenoldeb yr Eisteddfodau. Gwir bleser, fel arfer, oedd mwynhau prynhawn cyfan o rasio ar heolydd gwynion Toscana, a’r arlwy dactegol afaelgar. ‘Celf symudol’ y byd seiclo ar waith. Ffrwyth y rasys oedd enillwyr haeddiannol o grwpiau dethol - a’r llun sy’n barod yn anfarwol, yn eiconig yn hanes seiclo.
Llun y flwyddyn, heb os, ac mi’r ydw i, fel Gareth Parri ar Twitter, yn meddwl fod Strade yn agos iawn iawn at frig y rhestr rasys gorau eleni.
Trodd y sylw at rasys wythnos am sbel wedyn; Paris-Nice yn gyntaf - lle profon ni ergyd arall i Primož Roglič gollodd y ras i Max Schachmann ar y diwrnod olaf, gan atgyfodi atgofion chwerw o Tour 2020 - ac wedyn Tirreno Adriatico. Dyna i chi beth oedd ras. Y sêr yn heidio, ac yn perfformio drama i’w chofio. Wout van Aert, Mathieu van der Poel a Julian Alaphilippe yn brwydro am rôl yr arwr gan gipio cymal yr un yn y tridiau cyntaf, cyn bod Tadej Pogčar eisiau chwarae’i ran yntau gan ennill cymal 4 a hawlio crys yr arweinydd. Wedyn cymal 5, un o hoff rasys Rhodri Jones o’r flwyddyn, lle ymosododd van der Poel o 50km a mwy ‘gan ei fod o’n oer’. Mi frwydrodd Pogačar i’w ddal, ond llwyddodd yr Iseldirwr i ddal gafael am y cymal gyda deg eiliad i sbario. Anhygoel.
Wnaeth y rasio gwych ddim stopio. Milano Sanremo - ac yn fy marn i un o ddiweddgloeon gorau’r tymor. Grwp o 17 yn goroesi’r Poggio, ac ar waelod y disgyniad, crefft yr ymosodiad digymell yn cael ei arddangos gan Jasper Styuven - yn bachu ar hanner cyfle i ddwyn y dydd. Drannoeth, a pherfformiad unigol gwefreiddiol arall gafwyd yn Trofeo Binda, wrth i Elisa Longo Borghini selio’i lle ymysg goreuon y gamp gan gadw criw hynod gryf draw.
Dau o sêr yn serennu yn Gent-Wevelgem ac yn Amstel Gold - Wout van Aert a Marianne Vos yn gwibio i fuddugoliaethau; y naill yn ychwanegu mwy at ei gasgliad rhyfeddol, a’r llall yn cyfnerthu ei statws fel un o’r seiclwyr gorau erioed. I gloi tymor y clasuron, dau fyddech chi’n disgwyl i ennill o ymosodiadau pell yn ennill yn De Ronde van Vlaanderen. Un yn gwneud hynny; Annemiek van Vleuten yn ennill â mantais o 26 eiliad. Ond y llall, Kasper Asgreen, yn rhoi ffydd yn ei wib a’i allu ei hun yn erbyn van der Poel y gwibiwr talentog, a’r hunan hyder hwnnw’n darparu’r llwyddiant. Yng nghlasuron yr Ardennes; y profiadol yn ennill La Flèche Wallonne - Julian Alaphilippe ac Anna van der Breggen, a’r sêr iâu Pogačar a Demi Vollering yn mynd â hi yn Liège Bastogne Liège.
Y frwydr bŵer rhwng Jumbo-Visma a UAE Emirates, rhwng Rog a Pog, yn dechrau’n gynt na’r disgwyl wrth i ni gael cipolwg o’r hyn oedd i ddod yn y Tour yn ras Itzulia Gwlad y Basg. UAE yn rhoi eu ffydd yn yr ifanc Brandon McNulty, ddaliodd grys yr arweinydd am ddeuddydd, a Pog yn gweithio drosto. Ond daeth hynny i’w baglu ar y diwrnod olaf gyda ras hynod ddramatig; Pogačar yn cwrso am ei fywyd, ond dim all o wneud i atal Roglič rhag cymryd crys yr arweinydd mewn pact â David Gaudu hawliodd y cymal. Un o ddiwrnodau mwyaf dramatig y tymor, heb os; ac arwydd nad ydy’r frwydr o reidrwydd am fod rhwng Pog a Rog bob amser - gan fod gan y ddau reidwyr talentog iau yn y tîm hefyd yn Jonas Vingegaard a Brandon McNulty.
Buan iawn y daeth hi’n amser y Giro d’Italia, a gyda hynny gadewch i ni drafod y Grand Tours eleni. Ym marn Ed Pickering, newyddiadurwr seiclo hybarch, un Grand Tour oedd eleni - wythnos gyntaf y Tour, ail wythnos y Giro a thrydydd wythnos y Vuelta. Dwi’n meddwl yr oedd ‘na fwy iddi na hynny - ond yn sicr dyna’r wythnosau mwyaf cyffrous.
Mae Grand Tours eleni wedi cynhyrchu rhai o’r diwrnodau gorau o rasio i mi eu gwylio erioed. Yn y Giro; cymal 11 o Perugia i Montalcino. Yn cymryd ysbrydoliaeth o’r Strade Bianche, roedd ‘na 35km o raean yn y 70km olaf - llwch ym mhobman yn creu delweddau hynod ddramatig. Roedd ‘na ymosodiadau o bell, ‘chaos fel arfer’ oedd sylw Rhys James, a chryfder pur Egan Bernal yn cael ei arddangos i ni gyd. Roedd eisoes wedi cymryd y maglia rosa ar y cymal anhygoel arall i Campo Felice, gyda’r graean eto’n codi’i ben i ychwanegu at y cyffro.
Er y drama a’r dadlau am wendid Bernal ar Sega di Ala, blip oedd hwnnw ac mi’r oedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i’r Colombiad. Mi ddaliodd o’r crys pinc o gymal 9 hyd y diwedd mewn modd anrhydeddus.
Yn y Tour, roedd hi’n wythnos gyntaf a hanner â dweud y lleiaf. Alaphilippe a van der Poel yn brwydro am y ddau gymal gyntaf, y naill yn anrhydeddu’r crys enfys a’r llall yn anrhydeddu’i daid Raymond Poulidor. Ond ar gymal 4 daeth y drama, oedd mor gyffrous i’m rhoi ar flaen fy sedd, cyn neidio allan ohono ar y llinell derfyn. Y frwydr rhwng Brent van Moer, yr olaf o’r dihangiad, a’r peloton tu ôl. van Moer yn ceisio efelychu Taco van der Hoorn wnaeth ddal gafael ar fuddugoliaeth arwrol ar cymal 3 y Giro, ond mi fethodd o drwch blewyn. Y peloton yn rhuthro heibio, a phwy oedd gyflymaf ohonynt i gyd?
Mark Cavendish.
Comeback king! Buddugoliaeth cymal rhif 31 iddo, a’r cyntaf ers 2016. Dyna oedd stori orau’r Tour - os nad y flwyddyn - eleni; Cav yn camu’n ôl i frig y gamp, a’r stori dylwyth teg yn parhau bron hyd y diwedd. Daeth yn gyfartal â record Eddy Merckx, ond reidiwr amryddawn arall oedd yn drech nag o ar y Champs-Élysées i’w atal rhag torri’r record.
Buddugoliaeth ar gymal gwib i gloi’r Tour, i ddilyn buddugoliaeth yn y ras yn erbyn y cloc y diwrnod blaenorol, a buddugoliaeth ar gymal mynyddig yn dringo Mont Ventoux ddwywaith. Oes trindod o fuddugoliaethau mwy gwahanol na hynny? Mi ydw i wrth gwrs yn sôn am Wout van Aert - seiclwr sydd mor dalentog, mae’n hurt.
Seiclwr talentog arall yn Pogačar oedd brenin y Tour eleni unwaith eto, ac fel Bernal, mi gymrodd reolaeth o’r ras yn fuan, ac anrhydeddu’r maillot jaune hyd y diwedd. Dwi’n credu y bydd hi’n amser maith cyn i ni anghofio am y perfformiad arallfydol ganddo ar y cymal i Le Grand Bornand - diwrnod glawog yn y mynyddoedd mawrion, a’r Slofeniad yn pasio cymaint o reidwyr fu’n y dihangiad. Roedd ei fantais dros y cystadleuydd agosaf ar y DC yn fwy na phedair munud a hanner.
Felly eto, yn debyg i’r Giro, chawson ni ddim mo’r frwydr epig am y crys melyn, ond yn hytrach, cafwyd perfformiad urddasol a meddiannol gan seren y gamp - sy’n sicr o lwyddo am flynyddoedd maith i ddod.
Rhaid i mi gyfaddef fod yr holl rasio wedi bod yn drech na mi eleni eto, a phylu wnaeth fy niddordeb yn La Vuelta. Ond braf iawn oedd gweld un arall o sêr y gamp, Primož Roglič, yn llwyddo am y trydydd gwaith o’r bron yn y ras. Hawliodd y crys ar dri achlysur gwahanol yn ystod y ras, ond erbyn y diwedd roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus - yn curo gyda mantais o bron i bum munud.
Yn unig ‘Grand Tour’ y menywod, tebyg oedd y stori. Anna van der Breggen yn hawlio crys yr arweinydd yn y Giro Donne ar yr ail ddiwrnod gyda buddugoliaeth gyfforddus i Prato Nevoso, ac yn dal gafael hyd y diwedd. Â hithau’n ymddeol ar ddiwedd y tymor, roedd hwnnw’n un o lu o berfformiadau eleni yn profi ei chyfraniad aruthrol i’r gamp. Un arall o’r perfformiadau hynny oedd yn La Course, pan y gweithiodd hi er budd ei chyd-reidiwr SD Worx, Demi Vollering, i ddarparu buddugoliaeth iddi. Gwir bencampwraig.
Yng nghanol hyn oll, cafwyd dwy ras ffordd i’w chofio yng Ngemau Olympaidd Tokyo. Profiad gwahanol oedd deffro’n gynnar i wylio ras, ond roedd o’n werth pob munud. Grwp serennog o seiclwyr, pob un yn cynrychioli cenedl wahanol, ar y blaen yn ras y dynion, ac felly tactegau ar chwâl. Ond un ymosodiad crefftus gymrodd hi i selio’r fedal aur, a daeth hynny gan Richard Carapaz o Ecwador. van Aert a Pog yn gwibio i’r arian a’r efydd. Ras orau’r flwyddyn yn ôl Evan Wynne.
Yn ras y menywod, roedd hi’n stori dra wahanol - a pherfformiad arallfydol oedd yn ddigon i fod yn reidiwr y flwyddyn yn ôl Rhodri Jones. Heb dîm proffesiynol, ac yn ddeiliad PhD mewn Mathemateg, cafwyd perfformiad cryf dros ben gan yr Awstriad Anna Kiesenhofer. Y ffefrynnau i gyd yn ddiarwybod am ei gallu, a hithau’n hwylio i’r fedal aur. Stori underdog gwerth chweil.
Wrth gwrs, ni wnaeth yr arlwy seiclo Olympaidd ddod i ben yn fan’no. Mi wnes i fwynhau REC y dynion yn fawr iawn - yn enwedig gweld Tom Dumoulin, sydd wedi cael amser caled yn ddiweddar, yn ôl ar dop ei gêm i hawlio medal arian. Roedd Rhys James wrth ei fodd yn gwylio’r keirin yn benodol. Y rasio BMX yn rhoi llwyfan i wynebau newydd, a dau fuddugwr haeddiannol yn y beicio mynydd.
Yn neufis olaf y tymor, Medi a Hydref, parhau wnaeth y wledd o rasio. Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i nifer - i Dr Dylan Parry, Gareth Parri, Ryan Jones a Marc James a llawer mwy mae’n siwr - oedd croesawu reidwyr gorau’r byd i’n ffyrdd lleol, cyfarwydd ar y Tour of Britain. Roedd y cymal o Aberaeron i’r Gogarth yn arbennig iawn - hyd yn oed i mi fethodd fynd i wylio ar ochr ffordd. Roedd gweld y brwdfrydedd, yr angerdd yn y Cymry aeth i wylio, a phrofi brwydr agos rhwng van Aert ac Alaphilippe ar Ben y Gogarth yn brofiad bythgofiadwy. Heb anghofio, wrth gwrs, fel y gwnaeth Steff Rees f’atgoffa, Gruff Lewis yn y dihangiad i gyfeiliant cefnogaeth yr ardal a’r genedl. Cymru ar ei gorau. Rasio beics ar ei orau.
Mwynhaodd nifer bencampwriaethau’r byd, a dwi’n hynod falch o weld bod Julian Alaphilippe yn cael parhau i fod yn ddeiliad teilwng tu hwnt o grys yr enfys. Elisa Balsamo yn cipio’r crys i’r menywod rywfaint yn groes i’r disgwyl efallai, ond mae’n braf gweld wynebau newydd yn serennu, yn enwedig o gofio cymaint o arwyr sydd yn dynesu at ddiwedd eu gyrfaoedd.
Mae’n bosib ichi sylwi ‘mod i wedi dyfynnu ambell un drwy gydol y gofnod hon; hynny oherwydd i mi ofyn i’m dilynwyr Twitter am eu huchafbwyntiau nhw eleni. Mi wnaeth y rhan helaeth ohonyn nhw - Steff, Rhodri, Dylan, Rhys, Mark Davies, Dyfed Thomas, Steffan Jones, Simon Stretch a Dan Allsobrook - nodi Paris-Roubaix fel uchafbwynt y tymor.
Bu’r aros am y ras yn hir - dwy flynedd a hanner ers ras y dynion, a 125 o flynyddoedd i gael ras i’r menywod. Wnaeth yr un o’r ddau mo’n siomi naddo. Lizzie Deignan â pherfformiad urddasol i ennill ar y dydd Sadwrn, a Marianne Vos yn ail. Heb os, dyma ras bwysicaf y flwyddyn, y ras fwyaf hirddisgwyliedig - gan obeithio’i fod yn ddechrau ar gywiro’r anhafaleddau chwerthinllyd sy’n parhau i fod rhwng y ddau peloton.
Wnaeth y tywydd gwlyb a garw ddim eu heffeithio nhw gymaint ag y gwnaeth o effeithio ar y dynion, fodd bynnag; ac mi fydd yr olygfa o peloton llawn o reidwyr ‘chwdrel’ (gair ardal yma am filthy) yn byw’n hir yn y cof. Doedden ni ddim yn gallu adnabod un o’r llall. Yr angerdd a’r gorfoledd ar y llinell derfyn gan Sonny Colbrelli yn gofiadwy dros ben, yn ogystal â pherfformiad gwych y reidiwr ifanc Florian Vermeersch. Penwythnos anhygoel.
Mae’r tymor fel arfer yn dod i ben gyda phumed maen y flwyddyn; Giro di Lombardia. Dyna ddigwyddodd eleni eto, a Pogačar yn coroni blwyddyn i’w chofio yn yr Eidal gan drechu’r boi lleol Fausto Masnada yn y wib i’r llinell derfyn. Nifer o sêr yn cyrraedd y deg uchaf; Roglič, Yates ac Alaphilippe yn eu plith - cyn paratoi am y gaeafgwsg hir o’u blaenau.
Felly i grynhoi…
Reidwyr gorau’r flwyddyn
Wout van Aert - roedd y perfformiadau yn y Tour yn hollol wefreiddiol. Ennill cymal mynyddig, cymal gwib a chymal REC mewn un Grand Tour? Anghredadwy. Reidiwr amryddawn, a thalent prin.
Tadej Pogačar - ennill y Tour de France yn gyfforddus dros ben, ennill dau o’r meini yn Liège a Lombardia, ac ennill medal Olympaidd. Mewn blwyddyn. Dim ond newydd droi’n 23 mae o. Talent prin arall.
Anna van der Breggen - gwir bencampwraig, fel y gwnes i gyffwrdd arno’n gynharach. Yn anrhydeddu ei blwyddyn olaf yn y gamp, yn anrhydeddu crys yr enfys ac yn anrhydeddu seiclo. Gyrfa i’w gofio.
Marianne Vos - llenwi bylchau yn ei palmarès drwy ennill Gent-Wevelgem, ac ennill ei degfed cymal ar hugain o’r Giro Rosa. Y reidiwr gorau erioed? Alla i gyfri ar un llaw y reidwyr sydd â palmarès mor llawn â’i hun hi.
Perfformiadau gorau’r flwyddyn
Mark Cavendish - stori tylwyth teg y Tour yn un o straeon gorau’r byd seiclo, ac yn wir un o straeon gorau’r byd chwaraeon. Stori o ddyfalbarhad, o freuddwydio ac o weithio’n galed.
Anna Kiesenhofer - y perfformiad underdog gorau i mi ei gofio.
Felly beth a ddaw yn 2022? Ddydd Iau, cyhoeddwyd y routes ar gyfer y Tours de France - ie, lluosog - ac mae’r cyffro am y Tour de France Femmes yn ffrwtian yn barod. All unrhyw un atal Pogačar, Roglič a Bernal rhag cipio’r tri Grand Tour eto eleni? Pwy fydd yn camu i esgidiau van der Breggen, Dan Martin, Andre Greipel et al sydd oll yn ymddeol? A beth am yr hen Geraint Thomas? A fydd Remco Evenepoel yn camu i’r brig go iawn? Demi Vollering ac Emma Norsgaard i barhau i ddatblygu fel sêr mawr y dyfodol?
Cymaint o gwestiynau, cymaint o chwilfrydedd; ond mae digon o gyfle i bendroni dros y misoedd nesaf ac ymadfer cyn ailgychwyn y gylched.
Comments