Mae ‘na ap i bob dim erbyn hyn on’d oes. Boed ichi fod eisiau cadw mewn cysylltiad â phobl ar y cyfryngau cymdeithasol (neu gadw ‘fyny efo’r sgandal wleidyddol ddiweddaraf), ddysgu ieithoedd, cadw trac ar eich to-do list a’ch calendr - ein ffonau ydy’n control centres ni.
Bydd y cofnod hwn yn archwilio’r apiau sy’n angenrheidiol ar gyfer pob seiclwr, ble bynnag y byddwch yn mynd a pha bynnag fath o seiclo sy’n mynd â’ch pryd chi.
Mi ddechreuwn ni â’r un amlwg sef Strava. Mae’r ap bach oren yma wedi bod ar fy nyfais ers bron i wyth mlynedd - bron ers i mi ddechrau seiclo am y tro cyntaf. Dyma’r ap sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf a’r ap mwyaf poblogaidd ar y farchnad i seiclwyr. Yn y byd hwn lle mae popeth wedi cysylltu, mae Strava’n chwarae rhan enfawr ym mywyd y rhan fwyaf o seiclwyr. Yma y mae logio’ch pellter, eich mapiau a’ch lluniau er mwyn eu cadw ar gof a chadw tra hefyd yn eu rhannu ag eraill. Mi allwch chi recordio arno hefyd a thrwy ddefnyddio Beacon mi fydd eich anwyliaid neu bwy bynnag dymunwch yn gallu gweld eich union leoliad, ac felly mewn argyfwng yn gallu’ch lleoli’n hawdd. Mae’r elfen gymdeithasol yn bwysig ar Strava - ac hefyd i raddau’r elfen gystadleuol; y segments lle’r ydych yn cystadlu’n erbyn eich hunain ac eraill neu’n brwydro i fod y Local Legend.
Os nad ydy’r elfen gystadleuol yn apelio o gwbl, yna mae Komoot yn opsiwn gwell. Mae’n parhau i’ch galluogi i logio pellter a lluniau ac ati a’u rhannu ag eraill, ond mewn modd ychydig mwy ymlaciedig. Fodd bynnag, nid dyma pam mae Komoot ar fy ffôn. Komoot sydd ar flaen y gad o ran eu meddalwedd cynllunio routes. Mae’r elfen gymdeithasol ohono yn golygu fod defnyddwyr y meddalwedd yn gallu uwcholeuo llefydd penodol i dynnu’ch sylw at olygfa arbennig, dringfa galed neu ryd ar draws y ffordd, er enghraifft. Fe’u gelwir yn highlights, a credwch chi fi maen nhw’n arf hynod ddefnyddiol ar gyfer cynllunio yn enwedig pan yn ymweld â rhywle newydd. Mae’r ap ei hun hefyd yn nodi toiledau cyhoeddus, ffynhonnau dŵr, llefydd bwyta ac ati ac mae hynny wedi profi’n ddefnyddio i mi’n y gorffennol. Yn ogystal, mae holl gasgliadau goreuon Y Ddwy Olwyn wedi eu lleoli ar Komoot, ac mi allwch chi ddod o hyd iddyn nhw drwy glicio yma. Yn amlwg, nid Komoot ydi’r unig ap o’r fath ar gyfer cynllunio routes ac mae rhai yn ei weld yn eithaf ‘fiddly’ - mae gan Strava feddalwedd cynllunio ar eu gwefan ac mae RideWithGPS yn boblogaidd hefyd.
Mae’n werth nodi ar y pwynt yma fod yr ap sy’n gysylltiedig â’ch dyfais GPS - Wahoo neu Garmin er enghraifft - yn hynod bwysig. Mi allwch chi edrych ar eich data a’ch mapiau ac ati yma heb eu rhannu â neb, ac efo Wahoo er enghraifft, yma y byddwch yn actifadu ‘Live Track’ ar gyfer tracio lleoliad (diogelwch), cysylltu route ac hefyd yn personoli’ch sgrin.
Gadewch i ni symud ymlaen at ap sy’n hanfodol ar unrhyw ddyfais, ond yn amgenach fyth ar gyfer seiclwyr, ydy apiau tywydd. Mi drafodwyd y rhain rywfaint yn y cofnod am hanfodion yr Hydref, ac mae’n wir ei fod yn bwysicach fyth yr adeg yma o’r flwyddyn. Dydy hi ddim yn ddoeth i seiclo ar ffyrdd rhewllyd, a hynny’n peryglu misoedd o seiclo pe baech yn disgyn. Dydy hi ddim yn ddoeth i seiclo mewn storm lle mae rhybudd mewn grym. Ac mae’n handi gallu osgoi cawodydd os yn bosib. Dyna pam eu bod nhw mor bwysig, ac mae yn werth cael mwy nag un (mae gan seiclwyr proffesiynol lu o apiau tywydd i gymharu). Apiau’r BBC a’r Met Office sydd gen i, a does ‘na ddim byd annisgwyl gan fwyaf os yn edrych ar y ddau ohonyn nhw.
Apiau amgen i’r Gaeaf hefyd ydy apiau seiclo rhithiol. Zwift ydy’r dewis mwyaf poblogaidd a nhw sy’n sicr ar flaen y gad yn y farchnad yma, unwaith eto am yr elfen gymdeithasol a’r ystod eang iawn o nodweddion. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mi’r ydw i wedi seiclo ar y fflat i ymadfer, wedi cymryd rhan mewn rasys, wedi trefnu reids cymdeithasol, wedi cwblhau workouts ac wedi dringo mynyddoedd arno. Mae’r dewis, fwy neu lai, yn ddibendraw. I gyd-fynd ag o, mae ap Zwift Companion yn hynod ddefnyddiol ar gyfer pori drwy’r digwyddiadau a chofrestru ar eu cyfer. Mae ‘na apiau tebyg wrth gwrs, ond efallai fymryn yn llai poblogaidd, sy’n cystadlu yn yr ‘is-farchnad’ â Zwift - sef Bkool, Rouvy a RGT. Os nad ydy’r elfen gymdeithasol yn bwysig i chi a byddai’n well gennych ganolbwyntio ar yr elfen hyfforddi a workouts, yna mae Wahoo SYSTM (gynt Sufferfest) neu TrainerRoad yn opsiynau dilys a phoblogaidd.
I gloi, gadewch i ni edrych yn fwy cyffredinol ar apiau sydd ddim yn ymwneud â seiclo’n uniongyrchol ond eto’n ddefnyddiol iawn. O ran seiclo tu fewn, mae cael rhywbeth i’ch difyrru yn hollbwysig - felly apiau cerddoriaeth fel Spotify neu Sounds, apiau teledu ar-alw neu ffrydio fel Netflix, a YouTube ar gyfer workouts GCN (argymell rhain yn fawr) ac ati. I gadw mewn cysylltiad â phobl ac hefyd i ddilyn hynt a helynt rhai o’ch hoff seiclwyr proffesiynol, Instagram a Twitter dybiwn i ydi’r ddau ap gorau o ran cyfryngau cymdeithasol yn y cyd-destun yma. Wrth gwrs, yma y gwnewch chi hefyd fy ffeindio i - @cycling_dragon ar Twitter ac @yddwyolwyn ar Instagram.
Dyna ni, gwibdaith drwy apiau seiclo wedi dod i ben - os ydw i wedi anghofio rhywbeth gadwch i mi wybod yn y blwch sylwadau isod.
A dyma’r cofnod olaf cyn ‘Dolig, felly dyma ddymuno Nadolig Llawen i holl ddarllennwyr y blog, gan obeithio y cewch chi gyfle i fwynhau ac y daw Siôn Corn ag anrheg yn ymwneud â seiclo!
Ac os ydych chi angen rhywbeth ar frys i un sy’n mwynhau’r ddwy olwyn - dyma gofnod o gyfrolau seiclo newydd 2021.
Comentários